DBS checks for working with children in places of worship (Welsh)
Updated 17 September 2026
Applies to England and Wales
Ymwadiad: Nid cyngor cyfreithiol yw hwn. Os oes angen help arnoch i wneud yn siŵr eich bod yn cydymffurfio â’r gyfraith, dylech siarad â chynghorydd cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r cymhwysedd ar gyfer gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) o fewn gwahanol grwpiau ffydd. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw’r unigolion yn cael eu talu neu heb eu talu.
Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl nad ydynt yn bodloni’r holl amodau a amlinellir yn y canllawiau hyn, efallai y byddant yn gymwys i gael lefel wahanol o wiriad. Bydd angen i chi gyfeirio at ein canllawiau ar-lein canllawiau cymhwysedd i wirio hyn. Os yw’ch sefydliad yn cyflogi pobl mewn rolau gwahanol sy’n cyflawni dyletswyddau tebyg i’r rhai a amlinellir yma, dylech gyfeirio at ein canllawiau ar-lein gan y gallent fod yn gymwys i gael yr un lefel o wiriad.
Gall unrhyw newidiadau i rôl neu’r gweithgareddau y mae person yn eu cynnal effeithio ar lefel y gwiriad sy’n berthnasol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau cymhwysedd sydd i’w gweld ar ein gwefan yn https://www.gov.uk/government/collections/dbs-eligibility-guidance.
Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i wiriadau cofnodion troseddol yng Nghymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yn yr Alban gan Disclosure Scotland. Gellir cael gwybodaeth am wiriadau sydd ar gael yng Ngogledd Iwerddon gan Access NI.
2. Cymhwysedd wrth weithio gyda phlant
Y prif weithgareddau sy’n debygol o ddigwydd mewn lleoliadau ffydd a fydd yn gwneud rôl yn gymwys ar gyfer gwiriad DBS wrth weithio gyda phlant yw:
-
addysgu, hyfforddi neu gyfarwyddo plant
-
gofal a goruchwylio plant
-
darparu cyngor ac arweiniad yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant mewn perthynas â’u lles emosiynol, corfforol neu addysgol – e.e. cyngor ar gadw’n iach wrth ymprydio, cyngor addysgol wrth ystyried bywyd ffydd neu arweiniad emosiynol wrth fynd trwy gyfnodau anodd mewn bywyd fel profedigaeth.
-
gyrru cerbyd i blant yn unig
-
rheoli o ddydd i ddydd pobl sy’n ymgymryd â’r gweithgareddau hyn
Mae unrhyw un sy’n ymgymryd â’r gweithgareddau hyn ar fwy na 3 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 30 diwrnod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda’r Rhester Gwahardd Plant.
Mae unrhyw un sy’n ymgymryd â’r gweithgareddau hyn unwaith dros nos rhwng 2am a 6am gyda chysylltiad â’r plant yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda’r Rhester Gwahardd Plant.
Os yw rhywun yn gwneud y gweithgareddau hyn ond yn llai aml, byddant yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl, ond heb y gwiriad Rhestr Gwahardd Plant. Yn yr amgylchiadau hyn, nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
3. Arweinwyr ffydd
Lle mai unig rôl arweinydd ffydd yw arwain sesiynau gweddi, gallant wneud cais am wiriad DBS Sylfaenol.
Os yw’n rhan o’u rôl i ddarparu gofal bugeiliol, sy’n cynnwys rhoi cyngor ac arweiniad i blant ar eu lles emosiynol, corfforol neu addysgol, ac maent yn gwneud hyn ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl gyda’r Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd eu bod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
Os, fodd bynnag, maent yn gwneud hyn yn llai aml ond yn dal ar fwy nag un achlysur, gallant wneud cais am wiriad DBS Manwl, ond heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant. Nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
Senario Un
Mae John yn rhedeg grŵp i blant sy’n delio â phrofedigaeth teuluol. Ei rôl yw darparu cyngor ac arweiniad ar les emosiynol a’u helpu i ddelio â’u teimladau. Mae’r grŵp yn cyfarfod bob dydd Mawrth.
Mae John yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant drwy ddarparu’r gwasanaeth hwn ac felly mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda’r Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd ei fod yn darparu cyngor ac arweiniad yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant mewn perthynas â’u lles emosiynol, corfforol neu addysgol ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod.
4. Gyrwyr
Mae unrhyw un sy’n gyrru cerbyd ar gyfer plant yn unig neu grwpiau ieuenctid o dan 18 oed ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant a gellir gofyn iddo wneud cais am wiriad DBS Manwl gyda’r Rhestr Gwahrdd Plant. Mae hyn yn dal i fod yn wir os yw’r plant dan 18 oed yng nghwmni oedolyn sy’n gyfrifol am eu goruchwylio. Os yw’r gyrrwr yn gwneud hyn yn llai aml, nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant, ond gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl. Mae hyn yn golygu nad oes mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Senario Dau
Mae Hadir yn gyrru bws mini ar gyfer grŵp ieuenctid o dan 18 oed i ac o wahanol ddigwyddiadau ar gyfer ei fan addoli. Mae’n gwneud hyn ar sail rota gyda 4 arall, sy’n golygu ei fod yn gwneud hyn tuag unwaith y mis.
Mae Hadir yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl, fodd bynnag, mae hyn heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd ei fod yn gyrru plant yn llai aml nag y byddai’n ofynnol i fod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
5. Athro neu arweinydd Plant
Mae unrhyw un sy’n addysgu plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac felly gall gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn ei wneud yn llai aml, nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ond gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl. Mae hyn yn golygu nad oes mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Os nad yw unigolyn yn addysgu’r plant ond sy’n gyfrifol am eu gofal neu eu goruchwyliaeth ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, maent hefyd yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant a gallant gael gwiriad DBS Manwl gyda’r Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn gwneud hynny’n llai aml, nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ond gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl. Mae hyn yn golygu nad oes mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Senario Tri
Mae Talisha yn gofalu am blant ifanc yn y ganolfan ffydd tra bod eu rhieni a’u gwarcheidwaid yn mynychu gwasanaethau bob penwythnos ac yn ystod rhai gwyliau crefyddol.
Mae Talisha yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac felly mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahrdd Plant. Mae hyn oherwydd ei bod yn gofalu am blant ac yn goruchwylio plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod.
6. Staff Rheoli
Gall unigolyn y mae ei rôl wedi’i gyfyngu i arweinyddiaeth, strategaeth, polisi neu ofal wneud cais am wiriad DBS Sylfaenol.
Os yw’r unigolyn yn gyfrifol am reoli staff neu wirfoddolwyr o ddydd i ddydd sy’n gymwys i gael gwiriad DBS Manwl neu wiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant, gellir gofyn iddynt wneud cais am yr un lefel o wiriad â’r bobl y maent yn gyfrifol am eu rheoli. Os ydynt yn rheoli unigolion sy’n cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant, yna maent hefyd yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
Senario Pedwar
Mae Mary yn rheoli’r gwirfoddolwyr yn ei man addoli. Mae rhai o’r gwirfoddolwyr y mae’n eu rheoli yn gyfrifol am ddarparu gofal a goruchwyliaeth i blant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod ac felly maent yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant.
Fel eu rheolwr, mae hyn yn golygu ei bod hi hefyd yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd bod y gwirfoddolwyr y mae’n eu rheoli o ddydd i ddydd yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant.
7. Gofalwyr
Gall unrhyw un y mae ei waith wedi’i gyfyngu i lanhau, cloi neu gynnal a chadw adeiladau wneud cais am wiriad DBS Sylfaenol.
8. Aelod o staff y gegin
Os mai eu hunig rôl yw coginio a gweini bwyd, gallant wneud cais am wiriad DBS Sylfaenol.
Os oes ganddynt gyfrifoldeb am oruchwylio plant yn ystod egwyliau neu brydau bwyd ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, maent yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant a gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn gwneud hyn ond yn llai aml, nid ydynt yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ond gellir gofyn iddynt wneud cais am wiriad DBS Manwl. Mae hyn yn golygu nad oes mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
9. Gwarchodwr diogelwch gwirfoddol
Mae rôl gwarchodwr diogelwch gwirfoddol yn caniatáu mynediad i wiriad DBS Sylfaenol yn unig. Os yw’r gwirfoddolwr wedi’i drwyddedu gan SIA (Awdurdod y Diwydiant Diogelwch) bydd wedi cael gwiriad DBS Safonol i gael y drwydded honno.
10. Gweithwyr gweithgareddau ieuenctid
Pan fyddant yn gyfrifol am addysgu, gofalu am neu oruchwylio plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, maent yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant a gallant gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant.
Mae gweithiwr gweithgarwch ieuenctid sy’n gyfrifol am ddarparu cyngor ac arweiniad ar les emosiynol, corfforol ac addysgol i blant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant a gall gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn gwneud hyn yn llai aml, nid yw hwn yn weithgaredd rheoledig gyda phlant, ond gallant gael gwiriad DBS Manwl. Mae hyn yn golygu nad oes mynediad at wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Senario Pump
Mae Mubarak yn rhedeg grŵp ieuenctid sy’n helpu plant i fyw gwerthoedd eu ffydd trwy gefnogi’r gymuned leol. Mae Mubarak yn gyfrifol am ofal a goruchwylio’r plant tra byddant yn mynychu gweithgareddau’r grŵp ieuenctid. Maent yn cwrdd unwaith yr wythnos.
Mae Mubarak yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac felly mae’n gymwys i gael gwiriad DBS Mawnl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Mae hyn oherwydd ei fod yn gofalu am blant ac yn goruchwylio plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod.
11. Aros dros nos ac arosiadau preswyl
Pan fydd plant yn aros dros nos, mewn gwersyll ieuenctid neu ŵyl grefyddol er enghraifft, heb i’w rhieni neu warcheidwaid cyfreithiol ofalu amdanynt, bydd y staff neu’r gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am y plant yn cynnal gweithgaredd rheoledig gyda phlant ac felly yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant os ydynt yn gyfrifol am:
-
gofalu am blant neu oruchwylio plant, heblaw eu hunain, dros nos rhwng 2am a 6am, gyda’r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb – hyd yn oed os mai dim ond unwaith y mae hyn
-
addysgu, hyfforddi neu gyfarwyddo plant, heblaw eu hunain, neu roi cyngor ac arweiniad iddynt ar eu lles corfforol, emosiynol neu addysgol dros nos rhwng 2am a 6am, gyda’r cyfle i gysylltu wyneb yn wyneb – hyd yn oed os mai dim ond unwaith yw hyn
Efallai y bydd staff neu wirfoddolwyr mewn gwersylloedd ieuenctid neu wyliau sydd â chyfrifoldeb am y plant yn ystod y dydd yn hytrach na dros nos yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda neu heb wiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Os ydynt yn gyfrifol am ofal neu oruchwylio plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, byddant yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn gwneud hyn yn llai aml, byddant yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl, ond heb y gwiriad Rhestr Gwahardd Plant.
Os ydynt yn gyfrifol am addysgu, hyfforddi neu gyfarwyddo plant ar fwy na 3 diwrnod mewn cyfnod o 30 diwrnod, byddant yn gymwys i gael gwiriad DBS MAnwl gyda Rhestr Gwahardd Plant. Os ydynt yn gwneud hyn yn llai aml, byddant yn gymwys i gael gwiriad DBS Manwl, ond heb y gwiriad Rhestr Gwahardd Plant.
12. Dolenni a Chysylltu
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan DBS. Efallai y bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol.
Canllawiau cymhwysedd DBS - GOV.UK
Mae gwybodaeth am weithgaredd rheoledig gyda phlant hefyd ar gael gan yr Adran Addysg (DfE) – https://assets.publishing.service.gov.uk/media/5a80bdfbed915d74e33fc265/Regulated_activity_in_relation_to_children.pdf
Mae gwybodaeth am weithgaredd rheoledig gydag oedolion hefyd ar gael gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) – www.gov.uk/government/publications/new-disclosure-and-barring-services
Mae cyflogwyr y GIG yn darparu ystod o ganllawiau penodol i’r sector ar eu gwefan ac mae ganddynt offeryn cymhwysedd ar gyfer rolau’r GIG Offeryn cymhwysedd DBS - Cyflogwyr GIG
Cysylltiadau gwasanaeth allgymorth DBS ar gyfer sefydliadau sydd eisiau cefnogaeth a chydweithio:
www.gov.uk/guidance/the-dbs-regional-outreach-service
Ymholiadau cyffredinol: customerservices@dbs.gov.uk
Ffôn: 0300 020 0190
Llinell Gymraeg: 0300 020 0191
Gwefan: www.gov.uk/dbs