Canllawiau

Treth Gyngor ac Ardrethi Busnes: Busnesau yn y Cartref

Yng Nghymru a Lloegr, bydd eich treth eiddo lleol naill ai’n Dreth Gyngor neu’n Ardrethi Busnes (y cyfeirir atynt weithiau fel ardrethi annomestig neu drethi annomestig).

Dogfennau

Home-based businesses: factsheet

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r dreth eiddo leol rydych yn ei thalu’n dibynnu ar eich math o eiddo.

Mae eiddo busnes yn dod o dan ardrethi busnes (y cyfeirir atynt weithiau fel ardrethi annomestig neu drethi annomestig) ac eiddo domestig o dan y Dreth Gyngor.

Mae rhai eiddo yn rhannol at ddefnydd busnes ac yn rhannol at ddefnydd domestig, felly mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu’r ddwy dreth, e.e. tafarn neu dafarndy, neu siop lle mae’r tafarnwr neu’r perchennog siop yn byw ar y safle neu mewn fflat uwchben y busnes.

Beth os ydych yn rhedeg busnes o’r cartref?

Wrth ddefnyddio’ch cartref at ddibenion busnes bach, nid yw’r llywodraeth fel arfer yn disgwyl i chi dalu ardrethi busnes os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn defnyddio rhan fach o’ch cartref ar gyfer eich busnes (e.e. ystafell wely – am ran o’r dydd fel swyddfa)
  • nid ydych yn ei ddefnyddio i werthu nwyddau neu wasanaethau i gleientiaid neu aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld (yn hytrach na gwerthu drwy’r post)
  • nid ydych yn cyflogi pobl eraill i weithio ar y safle
  • nid ydych yn gwneud newidiadau nad ydynt at ddiben domestig (megis troi garej yn siop trin gwallt, neu osod lifft car hydrolig)

Canllawiau cyffredinol yw’r rhain.

Cyhoeddwyd ar 8 January 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 December 2023 + show all updates
  1. Added translation.

  2. First published.