Papur polisi

Y Concordat ar Fenywod sydd, neu sydd mewn perygl o fod, mewn cysylltiad â’r System Cyfiawnder Troseddol

Cytundeb trawslywodraethol i wella canlyniadau i fenywod sydd yn y System Cyfiawnder Troseddol neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â hi.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Manylion

Roedd y Strategaeth ar gyfer Troseddwyr sy’n Fenywod (2018) yn nodi pwysigrwydd partneriaethau effeithiol o ran mynd i’r afael ag anghenion niferus a chymhleth menywod sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â hi. Mae’r Strategaeth wedi ymrwymo’r Llywodraeth i ddatblygu’r Concordat hwn ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae’r adran gyntaf yn edrych ar sut dylai adrannau’r Llywodraeth weithio gyda’i gilydd yn genedlaethol i nodi anghenion menywod ac ymateb iddynt. Mae’n cynnwys ymrwymiad trawslywodraethol cytunedig i gefnogi menywod a chynllun gweithredu i roi’r ymrwymiad ar waith.

Mae’r ail adran yn edrych ar wella canlyniadau ar lefel leol, gan gynnwys drwy sefydlu dull gweithredu system gyfan i ymateb yn fwy cydweithredol ac effeithiol i anghenion niferus a chymhleth menywod sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu sydd mewn perygl o ddod i gysylltiad â hi.

Roedd y Strategaeth hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyhoeddi offeryn data i alluogi ardaloedd lleol i ddeall anghenion y menywod yn eu hardal yn well. Bydd yr offeryn data yn galluogi gwaith i gael ei deilwra i ymateb yn agosach i anghenion lleol ac i olrhain canlyniadau a llwyddiant gwaith yn lleol.

Cyhoeddwyd ar 23 January 2021