Concordat ynghylch Rheoliadau Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth (Cymorth Domestig) 2020
Sut mae pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydweithio i sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth.
Dogfennau
Manylion
A hithau’n aelod annibynnol o Sefydliad Masnach y Byd (WTO) mae’r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am ei chydymffurfiaeth â thelerau cytundebau’r WTO.
Mae’r concordat hwn:
- yn ffurfioli sut mae llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cydweithio i sicrhau y cydymffurfir â’n rhwymedigaethau a’n hymrwymiadau ar ddefnyddio a hysbysu cymorth domestig (cymorthdaliadau fferm) o dan Gytundeb y WTO ar Amaethyddiaeth
- yn gosod y fframwaith y bydd gweithgareddau a buddiannau perthnasol y Deyrnas Unedig a’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael eu cyfleu drwyddynt i Bwyllgor y WTO ar Amaethyddiaeth