Concordat rhwng gweinyddiaeth cyfiawnder y DU a llywodraeth cymru
Mae’ Concordat hwn yn cyflwyno trefniadau ar gyfer ymgynghori a chydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Cyfiawnder y DU.
Dogfennau
Manylion
Mae’n bleser gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru gyhoeddi concordat ar y trefniadau gweithio rhwng y ddau sefydliad. Mae’r Concordat, y cytunwyd arno rhwng Gweinidogion a swyddogion y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru, yn nodi arferion da ar gyfer y berthynas waith rhwng y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru.
Mae’r Concordat yn gam pwysig ymlaen ar gyfer gwell arferion gweithio, cysylltiadau rhynglywodraethol, a chanlyniadau cyfiawnder i’r ddwy weinyddiaeth.
Caiff cytundeb y Concordat hwn ei gydnabod gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder a Llywodraeth Cymru yn un o nifer o gamau ymarferol sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd i wella’r broses o ddarparu cyfiawnder i bobl Cymru.
Yn bwysig iawn, ond heb fod yn gyfyngedig i’r isod, mae’r Concordat yn ceisio sicrhau bod:
- Y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu polisi Cyfiawnder y DU a gweithgareddau sy’n debygol o gael effaith yng Nghymru;
- Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wrth arfer swyddogaethau datganoledig; ac
- Eglurder ac atebolrwydd, sy’n galluogi cysylltiadau gwaith cynhyrchiol a gwell canlyniadau ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y Concordat yn cael ei drin fel dogfen ganllawiau fyw, a ddylai ymateb ac ymaddasu i’r dirwedd gyfnewidiol o ran polisi cyfiawnder, deddfwriaeth a ffactorau rhyngwladol sy’n effeithio ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Wrth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru barhau i ddeddfu ar faterion datganoledig, bydd yn fwyfwy pwysig cadw at y safonau hyn o arfer gorau er mwyn sicrhau unoliaeth ac effeithiolrwydd gweithredol y system gyfiawnder yng Nghymru.