Gwiriadau cydymffurfio: Hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti – y rhai sy’n galluogi arbed treth a drechwyd CC/FS84
Cyhoeddwyd 6 Ionawr 2026
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti. Mae hefyd yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwn ofyn i dribiwnlys annibynnol gymeradwyo ein cais i anfon hysbysiad gwybodaeth trydydd parti.
Yn y daflen wybodaeth hon, ystyr ‘chi’ yw’r trydydd parti. Ystyr ‘person arall’ yw’r parti cyntaf rydym yn ei wirio sy’n agored i gosbau i alluogwyr, neu gallai fod yn agored i’r cosbau hynny.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.
Ynglŷn â hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti i alluogwyr
Mae hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn ddogfen sy’n ei gwneud yn ofynnol, yn ôl y gyfraith, i chi roi gwybodaeth neu ddogfennau penodol i ni, neu’r ddau. Mae hyn yn ein helpu i wirio p’un a yw person arall yn agored neu’n debygol o fod yn agored i gosbau i alluogwyr am alluogi trefniadau treth ddifrïol.
Pryd y byddwn yn defnyddio hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti
Weithiau, pan fyddwn yn gwirio a yw person arall yn agored neu’n debygol o fod yn agored i gosbau i alluogwr, byddwn yn gofyn i drydydd parti roi’r wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnom. Os na fydd yn gwneud hynny, efallai y byddwn yn rhoi hysbysiad gwybodaeth iddo.
O dan rai amgylchiadau, gallwn ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth gytuno y gallwn anfon hysbysiad gwybodaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i’r trydydd parti os yw’r hysbysiad a rown wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys.
Weithiau, efallai y bydd angen i ni roi hysbysiad gwybodaeth heb ofyn am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Pryd y bydd angen caniatâd arnom i ddefnyddio hysbysiad trydydd parti
I gael yr wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arnom, fel arfer byddwn yn gofyn i’r parti cyntaf gytuno y gallwn anfon hysbysiad gwybodaeth i drydydd parti
Gallwn ofyn i’r tribiwnlys annibynnol gytuno y gallwn anfon hysbysiad trydydd parti. Os byddwn yn gwneud hynny, fel arfer byddwn yn gofyn i’r ddau barti i roi gwybod i ni a fyddai’n anodd i’r trydydd parti roi’r wybodaeth neu’r dogfennau i ni. Os oes gan un o’r partïon unrhyw bryderon, byddwn yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys fel y gall ystyried y pryderon hyn wrth benderfynu a ddylid cytuno y gallwn anfon yr hysbysiad.
Efallai y byddwn yn gofyn i drydydd parti am gofnodion busnes y mae’n ofynnol iddo eu cadw yn ôl y gyfraith treth. Os byddwn yn gwneud hynny, yna cyn anfon yr hysbysiad gwybodaeth ni fydd angen:
- caniatâd y parti cyntaf
- cymeradwyaeth gan y tribiwnlys
Beth fydd hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn rhoi gwybod i chi
Bydd hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn rhoi gwybod y canlynol i chi:
- enw’r person y mae’n ymwneud ag ef (oni bai bod y tribiwnlys wedi penderfynu nad oes angen hynny)
- pa ddogfennau neu wybodaeth, neu’r ddau, y mae’n rhaid i chi eu rhoi i ni
- sut i roi i ni’r hyn sydd ei angen arnom, a phryd i wneud hynny
- am unrhyw gosbau y gallwn eu codi arnoch os na rowch yr wybodaeth neu’r dogfennau, neu’r ddau, erbyn y dyddiad cau
- unrhyw hawl sydd gennych i apelio
Beth y gallwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti
Gallwn ofyn am unrhyw wybodaeth neu ddogfennau, neu’r ddau, os credwn fod eu hangen arnom ar gyfer ein gwiriad ac os yw’n rhesymol gofyn amdanynt.
Beth na allwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti
Ni allwn ofyn am wybodaeth neu ddogfennau, neu’r ddau, mewn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti os yw’r canlynol yn berthnasol:
- nid oes gennych, ac ni allwch gael yr wybodaeth neu’r dogfennau, neu’r ddau (na chael copïau ohonynt) gan bwy bynnag sydd â nhw
- maent yn ymwneud â pherson a fu farw mwy na 4 blynedd cyn i’r hysbysiad gael ei anfon
- maen nhw wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
- maen nhw’n ymwneud â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol unigolyn yn unig
- maen nhw’n ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithiwr a chleient, ac yn ymwneud â chael neu roi cyngor cyfreithiol
- rydych chi’n archwilydd neu’n newyddiadurwr ac mae’r wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu fel rhan o’ch swydd
- rydych chi’n cael eich crybwyll mewn deunydd newyddiadurol ac mae’r wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr fel rhan o’i swydd
Gall y rheolau ynghylch pa wybodaeth a dogfennau na allwn ofyn amdanynt fod yn gymhleth. Os ydych o’r farn ein bod wedi gofyn am rywbeth na ddylem fod wedi gofyn amdano, gallwch siarad â’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth i chi.
Cyn i ni ofyn i dribiwnlys gytuno y gellir anfon hysbysiad trydydd parti i chi
Dim ond pan fydd y canlynol yn wir y bydd angen i ni ofyn i dribiwnlys gytuno y gellir anfon hysbysiad gwybodaeth trydydd parti:
- nid yw’r wybodaeth na’r dogfennau, neu’r ddau, sydd eu hangen arnom yn gofnodion statudol sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau neu gaffael nwyddau a gwasanaethau
- nid yw’r parti cyntaf wedi rhoi caniatâd i ni anfon hysbysiad gwybodaeth i chi
Cyn i ni ofyn i dribiwnlys gytuno y gellir anfon hysbysiad, byddwn fel arfer yn rhoi’r cyfle i chi osod cyflwyniad gerbron y tribiwnlys. Gall y sylwadau hynny fod yn ymwneud â’r wybodaeth neu’r dogfennau, neu’r ddau, rydym yn bwriadu gofyn amdanynt. Fodd bynnag, ni allwch chi na’r partïon cyntaf fynychu gwrandawiad y tribiwnlys.
Os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth trydydd parti
Os ydych o’r farn bod y cais yn yr hysbysiad gwybodaeth yn afresymol, ond ein bod ni’n anghytuno, efallai y byddwch yn gallu apelio ar y tribiwnlys. Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad a gymeradwywyd gan dribiwnlys nac yn erbyn hysbysiad gwybodaeth sy’n gofyn am gofnodion statudol. Mae hyn yn berthnasol os yw’r cofnodion statudol yn ymwneud â’r canlynol:
- cyflenwi nwyddau neu wasanaethau
- mewnforio nwyddau fel rhan o’ch busnes
Cofnodion statudol yw’r cofnodion y mae’n rhaid i berson eu cadw yn ôl cyfreithiau treth.
Gallwch ond apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth trydydd parti os yw wedi’i gymeradwyo gan y parti cyntaf. Gallwch apelio os ydych o’r farn ei bod yn rhy anodd i chi gydymffurfio â’r hysbysiad.
Os na wnewch yr hyn y mae hysbysiad gwybodaeth trydydd parti yn gofyn amdano
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth drwy roi i ni bopeth y mae’r hysbysiad yn gofyn amdano erbyn y dyddiad cau a roddwyd gennym, efallai y byddwn yn codi cosb o £300 arnoch.
Os na fyddwch wedi cydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni godi’r gosb o £300, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol. Gall y cosbau hynny fod hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.
Pryd na fyddwn yn codi cosb am beidio â chydymffurfio
Ni fyddwn yn codi cosb os oes gennych esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth. Yn lle hynny, byddwn yn gofyn i chi roi’r wybodaeth, y dogfennau (neu ddogfennau eraill cyfatebol yn eu lle) neu’r ddau, erbyn dyddiad y cytunwyd arno.
Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i’r person fod wedi rhoi pethau yn eu trefn heb oedi.
Wrth benderfynu a oes gan berson esgus rhesymol, byddwn yn ystyried amgylchiadau’r methiant, ac amgylchiadau a galluoedd penodol y person. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall. Gall enghreifftiau o esgus rhesymol gynnwys y canlynol:
- rydych wedi bod yn ddifrifol wael
- mae rhywun agos atoch wedi marw
- rydych wedi colli’r dogfennau mewn tân neu lifogydd
Cosbau am gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau anghywir
Gallwn godi cosb o hyd at £3,000 os byddwch yn esgeulus neu’n gwneud y canlynol yn fwriadol:
- rhoi gwybodaeth anghywir i ni
- cynhyrchu dogfen sy’n cynnwys anghywirdeb
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn dweud wrthym am yr anghywirdeb ar yr adeg y byddwch yn rhoi’r wybodaeth i ni neu’n cynhyrchu’r ddogfen. Os ydych yn dod ar draws gwall yn nes ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni heb oedi.
Os rhwch wybodaeth i ni gan wybod ei bod anwir
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol os rhwch wybodaeth i ni gan wybod ei bod anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen. Os byddwn yn gwneud hyn, mae’n golygu y gallech gael eich erlyn a gellid mynd â chi i’r llys.
Cuddio, dinistrio neu waredu dogfennau
Gallwn godi cosb o £300 os ydych chi, neu rywun arall sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cuddio, yn dinistrio neu’n gwaredu unrhyw ddogfen. Mae hyn yn cynnwys unrhyw ddogfen yr ydym wedi:
- gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
- rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Mae’n drosedd cuddio, dinistrio neu waredu unrhyw ddogfennau yr ydym wedi:
- gofyn amdanynt mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
- dweud wrthych ein bod yn bwriadu gofyn amdanynt mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol os ydych chi neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan yn cyflawni’r drosedd hon. Os byddwn yn gwneud hyn, mae’n golygu y gallech gael eich erlyn a gellid mynd â chi i’r llys.
Mathau eraill o hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti
Hysbysiadau gwybodaeth trydydd parti pan nad yw’n hysbys pwy yw’r parti cyntaf
Mae’r math hwn o hysbysiad yn gofyn i drydydd parti roi gwybodaeth i ni am (un o’r canlynol):
- person sy’n anhysbys i ni
- dosbarth o bersonau na wyddom pwy ydynt fel unigolion
Gellir ond defnyddio’r math hwn o hysbysiad pan fo rheswm da dros gredu y gallai rhywun nad yw’n dilyn y gyfraith treth gael effaith ddifrifol ar y ffordd y mae treth yn cael ei hasesu neu ei chasglu. Mae ychydig o eithriadau i’r rheol hon sy’n ymwneud â materion pensiwn, is-gwmnïau, partneriaid, a thrydydd parti sy’n gysylltiedig. Os yw’r rhain yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i’r trydydd parti ac yn egluro beth mae’r eithriadau’n ei olygu.
Mae’r rhaid i’r math hwn o hysbysiad gael ei gymeradwyo gan dribiwnlys a’i anfon gan swyddog arbenigol o CThEF.
Hysbysiadau adnabod
Mae’r math hwn o hysbysiad yn gofyn i drydydd parti roi gwybodaeth i ni a fydd yn ein helpu i adnabod pwy yw’r parti cyntaf o’r wybodaeth arall sydd gennym. Er enghraifft, anfoneb neu rif cerdyn credyd. Gyda’r math hwn o hysbysiad, gallwn ond gofyn am enw’r person, cyfeiriad a dyddiad geni (os yw’n hysbys).
Nid oes angen cymeradwyaeth gan dribiwnlys ar gyfer y math hwn o hysbysiad. Mae’n rhaid iddo gael ei anfon gan swyddog arbenigol o CThEF.
Braint broffesiynol gyfreithiol
Ni allwn fynnu eich bod yn rhoi gwybodaeth na dogfennau i ni sy’n dod o dan freintiau proffesiynol cyfreithiol (LPP). Gallwch wrthod rhoi gwybodaeth a dogfennau i ni oherwydd y fraint honno. Fodd bynnag, os ydych yn dewis eu rhoi nhw i ni, mae’n bosibl gall y rhain ein helpu gyda’r gwiriad. Os ydych yn eu rhoi nhw i ni, mae’r hawl i’w cadw’n breifat yn cael ei cholli.
Mae LPP yn faes cymhleth o’r gyfraith sy’n berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig. Efallai y byddwn yn herio hawliad i LPP os nad ydym yn cytuno ei fod yn berthnasol i’r wybodaeth neu’r dogfennau sy’n cael eu cadw’n ôl.
Efallai y penderfynwch beidio â rhoi gwybodaeth neu ddogfennau penodol i ni oherwydd eich bod yn credu eu bod yn dod o dan LPP. Os ydych yn gwneud hyn, mae angen i chi roi rhestr o bopeth nad ydych yn eu rhoi i ni. Dylai’r rhestr ddisgrifio pob darn o wybodaeth neu ddogfen nad ydych yn eu rhoi i ni a nodi pam nad ydych yn eu rhoi. Nid oes angen i chi ddisgrifio’r wybodaeth neu ddogfen os bydd hyn yn datgelu gwybodaeth breifat sy’n cael ei gwmpasu gan y fraint.
Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch
Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddant yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallant. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’, ac yna dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.
Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’ a dewis yr opsiwn Cymraeg ar y dudalen berthnasol.
Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.