Canllawiau

Cynlluniau arbed treth — cosbau ar gyfer hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth

Diweddarwyd 11 July 2023

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybodaeth am y cosbau y byddwn yn eu codi os ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol ac nad yw wedi cymryd y camau unioni angenrheidiol mewn pryd.

Mae’r daflen wybodaeth CC/FS30a, ‘Cynlluniau arbed treth — cosbau ar gyfer hysbysiadau dilynwr’, yn cynnwys gwybodaeth y mae’n bosibl y bydd ei hangen arnoch os ydych yn aelod o bartneriaeth sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth sy’n ymwneud â Threth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at dreth, mae hefyd yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG).

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Pryd y byddwn yn codi cosbau am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd

Os ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol ac nad yw wedi cymryd camau unioni mewn pryd, byddwn yn codi cosb ar bob partner perthnasol. Mae’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn egluro pa gamau unioni y mae’n rhaid i’r partner cynrychioladol eu cymryd.

Swm y cosbau

Bydd cyfanswm y cosbau am beidio â chymryd camau unioni yn hafal i 12% o werth y fantais a wadwyd, a bydd pob partner perthnasol yn agored i dalu ei gyfran briodol o’r cyfanswm hwnnw. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran, ‘Sut yr ydym yn cyfrifo swm y cosbau’.

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os yw’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni. Ceir rhagor o wybodaeth am ostyngiadau a chydweithredu yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i’r partneriaid perthnasol am y cosbau

Ar ôl i ni benderfynu ar swm y cosbau yr ydym am ei godi, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb at bob partner perthnasol.

Fel arfer, cyn anfon hysbysiad o asesiad o gosb, byddwn yn ysgrifennu at bob partner perthnasol i roi gwybod sut yr ydym wedi cyfrifo swm y gosb. Os gwnawn hyn ac mae’r partner perthnasol o’r farn ein bod heb ystyried rhywbeth y mae’r bartneriaeth wedi’i wneud i gydweithredu â ni, bydd ef neu’r partner cynrychiadol yn gallu rhoi gwybod i ni. Yna, byddwn yn ystyried a yw’n effeithio ar y gosb. Unwaith yr ydym wedi caniatáu amser i hyn ddigwydd, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb at y partner perthnasol cyn gynted â phosibl.

Pan fyddwn wedi rhoi hysbysiad o asesiad o gosb i bob partner perthnasol, gall y partner cynrychiadol apelio os yw unrhyw un o’r partneriaid yn anghytuno â’i hysbysiad. Gall y partner cynrychiadol apelio p’un a wnaethom ysgrifennu at y partneriaid perthnasol ynglŷn â’r gosb cyn i ni anfon yr hysbysiadau o asesiad o gosb ai peidio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran, ‘Apelio yn erbyn y cosbau’.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer anfon yr hysbysiadau o asesiad o gosb atoch

Mae gennym ddyddiad cau ar gyfer anfon yr hysbysiadau o asesiad o gosb at y partneriaid perthnasol.

Os yw’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud â gwiriad cydymffurfio, y dyddiad hwyraf y gallwn anfon hysbysiad o asesiad o gosb yw 90 diwrnod o’r dyddiad y caiff y gwiriad cydymffurfio ei gwblhau.

Os yw’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud ag apêl neu apêl bellach, y dyddiad hwyraf y gallwn anfon hysbysiad o asesiad o gosb yw 90 diwrnod o’r cynharaf o’r dyddiadau canlynol:

  • y dyddiad y cymerodd y partner cynrychiadol gamau unioni
  • y dyddiad y gwnaed y dyfarniad terfynol ar apêl neu apêl bellach y bartneriaeth
  • y dyddiad y rhoddwyd y gorau i’r apêl neu’r apêl bellach, neu y cafodd ei gwaredu cyn y cafwyd penderfyniad gan y llys neu’r tribiwnlys

Mae’r ddeddfwriaeth dreth sy’n delio â hysbysiadau dilynwr yn cyfeirio at wiriad cydymffurfio fel ymholiad treth.

Sut gall y bartneriaeth ein helpu i ostwng y gosb

Gall y bartneriaeth ein helpu i ostwng y gosb drwy gydweithredu â ni.

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os yw’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni cyn i ni anfon hysbysiadau o asesiad o gosb at y partneriaid perthnasol. Mae’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni os yw wedi gwneud un neu ragor o’r canlynol:

  • rhoi help rhesymol i ni wrth gyfrifo swm y fantais treth
  • · gwrthweithio’r fantais a wadwyd ar ôl i’r partneriaid perthnasol ddod yn agored i gosb (neu ildio’r fantais a wadwyd os yw’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud ag apêl)
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau unioni
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i wneud cytundeb â’r bartneriaeth i wrthweithio’r fantais a wadwyd
  • rhoi mynediad i ni i gofnodion treth fel y gallwn wneud yn siŵr bod y fantais treth yn cael ei gwrthweithio’n llawn

Ni allwn ostwng canran y gosb i lai na 4%.

Mae’r enghreifftiau o gydweithredu a ddangosir uchod, ac yn hwyrach yn y daflen wybodaeth hon, yn cyfeirio at eitemau (a) i (e) yn Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014, sef y ddeddfwriaeth sy’n egluro’r gostyngiadau hyn.

Fel arfer, y partner cynrychiadol fyddai’n cydweithredu â ni ar ran y bartneriaeth. Pe bai partner arall, o dan amgylchiadau prin, yn cydweithredu â ni ar ran y bartneriaeth, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried y cydweithrediad hwnnw.

Sut rydym yn cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Mae yna 4 cam wrth gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb. Esbonnir pob cam isod.

Cam 1: Nodi ystod y gosb

Ystod y gosb yw’r gwahaniaeth rhwng canrannau isaf ac uchaf y gosb y gallwn eu codi arnoch. Y ganran uchaf yw 12 a’r ganran isaf yw 4, sy’n rhoi i ni ystod cosb o 8. Mae canrannau uchaf ac isaf y gosb wedi’u nodi ym mharagraff 5 o Atodlen 31 i Ddeddf Cyllid 2014.

Cam 2: Cyfrifo’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu

Rydym yn defnyddio’r term ‘safon y cydweithredu’ i ddisgrifio lefel y cydweithredu. Gallwn ostwng ystod y gosb, sef 8, gan unrhyw swm hyd at 100% ar gyfer safon y cydweithredu. Fodd bynnag, ni all cyfradd ganrannol y gosb a godwn fod yn llai na 4% ar unrhyw adeg – hyd yn oed os ydym yn gostwng ystod y gosb 100%. Rydym yn ystyried yr holl gydweithredu hyd at pan fyddwn yn anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb.

Wrth ystyried safon eich cydweithredu, byddwn yn ystyried yr hyn yr oeddem angen i’r partner cynrychiadol ei wneud o ran y fantais a wadwyd a faint ohono y mae wedi’i wneud. Rydym yn ystyried amseru, natur a graddau’r hyn y mae’r partner cynrychiadol wedi’i wneud. Mae hyn yn golygu p’un a yw wedi:

  • gweithredu cyn gynted ag y gallai o fewn rheswm (amseru)
  • gweithredu mewn modd rhagweithiol a chydweithredol (natur)
  • gwneud popeth y gallai fod wedi’i wneud o fewn rheswm (graddau)

Ar ôl i ni ystyried y mathau o gydweithredu a ddangosir yn y tabl canlynol, a phenderfynu ar y gostyngiad canrannol ar gyfer pob un, bydd hwn yn rhoi’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu.

Arweiniad yn unig yw’r gostyngiadau a ddangosir yn y tabl hwn.

Math o gydweithredu Gostyngiad i ystod y gosb os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag achos apêl Gostyngiad i ystod y gosb os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag achos gwiriad cydymffurfio
Rhoi help rhesymol i ni wrth gyfrifo swm y fantais treth. (Eitem (a) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 20% Hyd at 20%
Gwrthweithio’r fantais a wadwyd (bydd hyn yn cael ei ddisgrifio fel ildio’r fantais a wadwyd os yw’ch hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl). (Eitem (b) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 70% Hyd at 50%
Rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau unioni. (Eitem (c) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Ddim yn berthnasol Hyd at 10%
Rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i ddod i gytundeb gyda’r bartneriaeth i wrthweithio (neu ildio) y fantais a wadwyd. (Eitem (d) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 10% Hyd at 10%
Rhoi mynediad i ni i gofnodion treth fel y gallwn wneud yn siŵr bod y fantais a wadwyd yn cael ei gwrthweithio’n llawn. (Eitem (e) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Ddim yn berthnasol Hyd at 10%

Hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth sy’n ymwneud ag apêl

Os yw hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud ag apêl, ni fydd yn rhaid i ni, fel arfer, ystyried caniatáu unrhyw ostyngiad am gydweithredu ar gyfer eitemau (c) ac (e) uchod. Mae hyn oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion pan fo’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl, y cyfan y bydd yn rhaid i’r bartneriaeth ei wneud yw ildio’r fantais a wadwyd. Fodd bynnag, os, yn eithriadol, credwn fod eitemau (c) neu (e) yn berthnasol, yna byddwn yn eu hystyried.

Cam 3: Gostwng canran uchaf y gosb

Ar ôl i ni gyfrifo’r gostyngiad ar gyfer safon y cydweithredu, byddwn yn defnyddio hwn ar gyfer ystod y gosb, sef 8. Mae hwn yn rhoi’r ffigur y byddwn yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb. Er enghraifft, os mai 70% yw’r gostyngiad ar gyfer safon y cydweithredu, 5.6 fydd y swm y byddwn yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb (8 x 70% = 5.6).

Cam 4: Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Er mwyn cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb y byddwn yn ei chodi, rydym yn didynnu’r ffigur a sefydlwyd yng ngham 3 o ganran uchaf y gosb. Er enghraifft, os mai 5.6 oedd y swm a sefydlwyd yng ngham 3, 6.4% fydd cyfradd ganrannol y gosb (12 llai 5.6 = 6.4). Mae’r enghraifft ganlynol yn dangos y 4 cam.

Enghraifft

Roedd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni wedi mynd heibio. Cyn i ni anfon yr hysbysiadau o asesiad o gosb, roedd y partner cynrychiadol wedi cydweithredu â ni. Gan ystyried amseru, natur a graddau y cydweithredu, gwnaethom roi gostyngiad ar gyfer ystod y gosb o 70%.

Cam 1: Nodi ystod y gosb 12 i 4 = 8
Cam 2: Cyfrifo’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu 70%
Cam 3: Cyfrifo’r swm yr ydym yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb 8 x 70% = 5.6
Cam 4: Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb 12 llai 5.6 = 6.4%

Sut yr ydym yn cyfrifo swm y cosbau

I gyfrifo cyfanswm y cosbau, rydym yn lluosi gwerth y fantais a wadwyd â chyfradd ganrannol y gosb. Bydd pob partner perthnasol yn agored i dalu ei gyfran briodol o gyfanswm y cosbau. Cyfrifir cyfran briodol y partner perthnasol gan gyfeirio at drefniadau rhannu elw’r bartneriaeth. Os nad oes gennym ddigon o wybodaeth am y trefniadau rhannu elw, byddwn yn pennu’r gyfran briodol hyd eithaf ein gwybodaeth a’n cred.

Cyfrifir gwerth y fantais a wadwyd drwy gyfeirio at y swm a fyddai’n angenrheidiol i addasu’r Ffurflen Dreth Partneriaeth er mwyn rhoi dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys ar waith.

Os yw’r partner cynrychiadol wedi cymryd camau unioni ar gyfer rhan o’r fantais a wadwyd, codir y gosb ar y gweddill sy’n dal i fod yn destun anghydfod. Byddwn yn rhoi gwybod i bob partner perthnasol sut yr ydym wedi cyfrifo gwerth y fantais a wadwyd pan fyddwn yn ysgrifennu atynt ynglŷn â’u cosb.

Cyfyngiad ar gyfer cosbau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd, edrychwn ar bob partner perthnasol ar wahân er mwyn gweld a oes unrhyw gosbau perthnasol eraill wedi’u codi arnynt. Os felly, mae’n rhaid i ni ystyried a fyddwn yn cyfyngu cyfanswm y cosbau a godwn arnynt. Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at y cyfyngiad hwn fel cosbau cyfansymiol.

Mae cosb berthnasol yn y cyd-destun hwn yn un sydd wedi’i chyfrifo drwy gyfeirio at yr ‘un dreth’ ac sy’n cael ei chodi o dan un neu ragor o’r darpariaethau cosbi canlynol:

  • Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007 — cosbau am anghywirdebau
  • Atodlen 41 i Ddeddf Cyllid 2008 — cosbau am fethu â rhoi gwybod
  • Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009 — cosbau am fethu â chyflwyno Ffurflen Dreth

At ddiben cosbau cyfansymiol, yr un dreth yw’r swm ychwanegol o dreth sy’n ddyledus yn sgil gwrthweithio’r fantais a wadwyd. Os yw’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud ag apêl, disgrifir hyn fel ildio’r fantais a wadwyd.

Os yw partner perthnasol yn agored i dalu cosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd, a chodir un neu ragor o’r cosbau perthnasol a restrir uchod arno hefyd, yna mae’n rhaid i gyfanswm y cosbau a godwn (y swm cyfansymiol) beidio â bod yn fwy na’r uchaf o’r canlynol:

  • canran berthnasol swm y dreth a/neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol
  • £300, pan fo un o’r cosbau wedi’i chodi o dan baragraff 5(2)(b), 6(3)(b), 6(4)(b) neu 6(5)(b) o Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009

Y ganran berthnasol yw’r uchaf o’r canlynol:

  • 100%
  • y ganran uchaf sy’n drethadwy o dan y darpariaethau eraill (yn dibynnu ar fath penodol y gosb arall, gall y ganran uchaf sy’n drethadwy fod hyd at 200%)

Ar ôl cymryd cosbau eraill i ystyriaeth, mae hyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.

Amlinellir y rheolau ynghylch cosbau cyfansymiol yn Adran 212 o Ddeddf Cyllid 2014 a pharagraff 5(6) o Atodlen 31 iddi.

Llog am dalu’r gosb yn hwyr

Os ydym yn codi cosb ar y partneriaid perthnasol ac nad ydynt yn ei thalu mewn pryd, gallwn godi llog taliad hwyr arnynt ar swm y gosb.

Apelio yn erbyn y cosbau

Os byddwn yn codi cosb ar y partneriaid perthnasol oherwydd na chymerodd y partner cynrychiadol gamau unioni, dim ond y partner cynrychiadol fydd yn gallu apelio yn ei herbyn os yw unrhyw un o’r partneriaid perthnasol yn anghytuno â hi.

Gall y partner cynrychiadol apelio yn erbyn cyfanswm y cosbau y mae’n rhaid i’r partneriaid perthnasol eu talu. Gall hefyd apelio yn erbyn y cosbau os yw o’r farn bod un neu ragor o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw amod A, B neu D wedi’i fodloni mewn perthynas â’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth (gwnaethom egluro’r amodau hynny yn yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth)
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a nodir yn yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn berthnasol i’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd gan y bartneriaeth
  • cafodd y partner cynrychiadol yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon ato
  • roedd yn rhesymol, o dan yr holl amgylchiadau, i’r partner cynrychiadol beidio â chymryd y camau unioni angenrheidiol

Fodd bynnag, ni all y partner cynrychiadol apelio ar sail bod un neu ragor o’r partneriaid yn anghytuno â sut y cyfrifwyd eu cyfran o’r gosb.

Os yw’r partner cynrychiadol yn apelio, mae’n rhaid iddo wneud hynny ar bapur. Mae’n rhaid iddo wneud yn siŵr bod yr apêl yn ein cyrraedd cyn pen 30 diwrnod o’r dyddiad y mae’r partneriaid perthnasol yn cael yr hysbysiad o asesiad o gosb. Pan fo’r partner cynrychiadol yn ysgrifennu atom, dylai wneud y canlynol:

  • rhoi cymaint o wybodaeth â phosibl ynghylch yr hyn y mae’r bartneriaeth yn anghytuno yn ei gylch
  • anfon copïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’r apêl

Os caiff apêl neu wiriad cydymffurfio’r bartneriaeth ei setlo ar y sail:

  • bod y bartneriaeth yn ennill y fantais treth, byddwn yn canslo’r cosbau
  • nad yw’r bartneriaeth yn ennill y fantais treth, bydd yn rhaid i bob partner perthnasol dalu’r gosb oni bai bod y partner cynrychiadol wedi apelio yn ei herbyn yn llwyddiannus

Mae’r daflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’, yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am apeliadau. Gallwch gael copi ar-lein. Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘HMRC1’.

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau.

Rydym bob amser yn croesawu’r cydweithrediad a roddir gan y bartneriaeth o ran cymryd camau unioni a rhoi gwybodaeth am y fantais treth. Bydd swm y gosb a godwn ar bob partner perthnasol yn dibynnu ar y graddau y mae’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni. Caiff hyn ei egluro’n gynharach yn y daflen wybodaeth hon.

Hefyd, rydym yn croesawu unrhyw gymorth a roddir i ni gan y bartneriaeth pan fyddwn yn pennu swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd. Pan fyddwn yn ystyried cosbau, bydd gennych yr hawl i beidio ag ateb ein cwestiynau. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau y byddwch yn ein helpu. Mae gennych yr hawl i gysylltu ag ymgynghorydd wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint yw swm y gosb sy’n ddyledus pan fyddwn wedi gweld faint yn union y

mae’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni, yn ogystal â swm y fantais treth. Os ydych yn anghytuno â’r gosb, gall y partner cynrychiadol apelio ar eich rhan.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am Gymorth Cyfreithiol (Legal Aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddwyn rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn bwriadu gofyn i’r partner cynrychiadol apelio yn erbyn swm y gosb ar eich rhan, efallai y byddwch am wirio a yw eich achos yn gymwys am gynhorthwy cyfreithiol a’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol. Mae’r ffordd y gallwch wirio pa help sydd ar gael, ynghyd â’r amodau cymhwyso, yn dibynnu ar ble yn y Deyrnas Unedig (DU) yr ydych yn byw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu Gymorth Cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu am yr hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Y trethi a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol i’r hysbysiadau dilynwr ar gyfer y trethi a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol isod:

  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Incwm (Hunanasesiad)