Canllawiau

Cynlluniau arbed treth – hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth a thaliadau cyflymedig gan bartner

Diweddarwyd 9 November 2022

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi am eich bod yn aelod o bartneriaeth sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth, a byddwn yn ysgrifennu maes o law at:

  • y partner cynrychiadol i roi gwybod iddo am gymryd camau unioni i osgoi cosb – mae hyn yn cael ei egluro isod yn yr adran ‘Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth a thaliadau cyflymedig gan bartner’
  • y partneriaid perthnasol i ofyn iddynt dalu’r swm syn ymwneud â’u cyfran o ddefnydd y bartneriaeth o’r cynllun

Mae ‘partner cynrychiadol’ yn golygu’r person y mae’n ofynnol iddo gyflwyno Ffurflen Dreth Partneriaeth, neu olynydd i’r person hwnnw. Mae ‘partner perthnasol’ yn golygu person a oedd yn aelod o bartneriaeth ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y Ffurflen Dreth. Gall partner perthnasol fod yn unigolyn, cwmni neu bartneriaeth arall.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth sy’n ymwneud â Threth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu, bydd angen i chi ddarllen taflen wybodaeth CC/FS24, ‘Cynlluniau arbed treth – taliadau cyflymedig’ a/neu daflen wybodaeth CC/FS25a, ‘Cynlluniau arbed treth – hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig’.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at dreth, mae hyn yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 4 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad. O flwyddyn dreth 6 Ebrill 2015 hyd at 5 Ebrill 2016 ymlaen, mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2 sy’n cael eu casglu drwy Hunanasesiad.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr gyflawn o’r taflenni gwybodaeth am wiriadau cydymffurfio, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio CThEM’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘cael help gan CThEM os oes angen cymorth ychwanegol arnoch’.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Gwybodaeth am arbed treth a chynlluniau arbed treth

Mae arbed treth yn golygu plygu rheolau’r system dreth er mwyn ennill mantais dreth mewn ffordd nad oedd gan y Senedd mewn golwg erioed. Yn aml, mae’n golygu trafodion ffug, artiffisial nad oes fawr o bwrpas iddynt heblaw creu’r fantais hon. Mae’n golygu glynu wrth lythyren, ond nid ysbryd, y gyfraith. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau arbed treth yn gweithio o gwbl. Gall yr unigolion hynny sy’n eu defnyddio gael eu hunain yn talu mwy na’r dreth y gwnaethant geisio’i harbed ar ôl i Gyllid a Thollau EM eu herio’n llwyddiannus.

Mae’r term ‘arbed treth’ yn cynnwys arbed CYG.

Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth a thaliadau cyflymedig gan bartner

Ar 17 Gorffennaf 2014, cafodd deddfwriaeth treth ei chyflwyno sy’n effeithio ar yr unigolion hynny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth. Cafodd cwmpas y ddeddfwriaeth honno ei ehangu i gynnwys CYG o 12 Ebrill 2015 ymlaen. Nod y ddeddfwriaeth yw:

  • gwella pa mor gyflym y mae anghydfodau ynghylch cynlluniau arbed treth yn cael eu setlo, pan ddangoswyd, mewn achos a gafodd ei ymladd gan unigolyn arall, fod egwyddor sy’n sail i’r cynllun yn aneffeithiol
  • cael gwared â’r fantais llif arian sydd gan y rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth drwy fynnu eu bod yn gwneud taliad ymlaen llaw o’r dreth a/neu’r CYG sy’n destun yr anghydfod, er mwyn i’r Trysorlys gadw’r arian yn ystod yr anghydfod

Dilynwyr

Pan fydd gennym nifer o achosion arbed treth tebyg iawn, yn aml byddwn yn ymchwilio i ‘achosion cynrychiadol’ ac yn eu hymgyfreithio os yw’n angenrheidiol. Os bydd y llys neu’r tribiwnlys yn gweld nad yw mantais treth neu CYG yn deillio o’r cynllun yn yr achosion hynny, caiff yr anghydfodau eu setlo. Yna, gallwn adennill y dreth a/neu’r CYG sy’n ddyledus.

Mae ‘dilynwyr’ yn unigolion sydd wedi defnyddio:

  • yr un cynllun ag a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol
  • cynllun gwahanol, ond lle y mae egwyddor yn y cynllun hwnnw’n ddigon tebyg i’r cynllun a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol

Cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, nid oedd llawer o gymhelliad i ddilynwyr dderbyn bod canfyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys mewn achos cynrychiadol yn golygu nad oedd eu defnydd eu hunain o’r cynllun yn ennill y fantais dreth neu CYG.

Hysbysiadau dilynwr a hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth

Os bydd llys neu dribiwnlys wedi dyfarnu’n derfynol nad yw mantais treth neu CYG yn deillio o gynllun arbed treth, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni anfon hysbysiadau dilynwr at y dilynwyr. Pan fo’r dilynwr yn bartneriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth.

Mae hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn rhoi gwybod i’r bartneriaeth y bydd pob partner perthnasol yn agored i dalu cosb os nad yw’r bartneriaeth yn setlo’i hanghydfod â ni. Yn yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth, gelwir setlo’r anghydfod yn ‘cymryd camau unioni’.

Mae cyfanswm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd yn hafal i 20% o werth y fantais a wadwyd. Dyma’r swm a fyddai’n cael ei ddefnyddio i ddiwygio’r Ffurflen Dreth Partneriaeth er mwyn rhoi dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys ar waith. Mae rhagor o wybodaeth am y math hwn o gosb yn yr adran ‘Cosbau am beidio â chymryd camau unioni’ ar dudalen 4 o’r daflen wybodaeth hon.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth yn effeithio ar hawliau’r bartneriaeth i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’r Ffurflen Dreth Partneriaeth neu apêl. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os yw’r bartneriaeth yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth’ ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon.

Taliadau cyflymedig gan bartner

Os yw partneriaeth wedi defnyddio cynllun arbed, efallai y bydd yn ofynnol i’r partneriaid perthnasol wneud taliad cyflymedig gan bartner. Y taliad fydd y swm sy’n ymwneud â’u defnydd o’r cynllun hwnnw cyn i dribiwnlys neu lys gytuno neu benderfynu ar y swm terfynol.

Os gofynnwn am daliad cyflymedig gan bartner, byddwn yn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad cyflymedig at bob partner perthnasol. Os yw’r bartneriaeth yn ddilynwr, efallai y byddwn hefyd yn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol.

O dan rai amgylchiadau, rydym yn codi cosb am beidio â gwneud y taliad cyflymedig gan bartner mewn pryd. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar dudalennau 5 a 7 o’r daflen wybodaeth hon.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth

Os bydd llys neu dribiwnlys wedi dyfarnu’n derfynol nad yw mantais treth yn deillio o gynllun arbed treth, gallwn anfon hysbysiad dilynwr ar gyfer partneriaeth at y partner cynrychiadol os caiff amodau penodol eu bodloni. Mae’r amodau hynny fel a ganlyn:

  • Amod A – mae gwiriad cydymffurfio (sy’n cael ei gyfeirio ato yn y ddeddfwriaeth fel ‘ymchwiliad treth’) ar y gweill o ran y Ffurflen Dreth Partneriaeth, neu mae apêl ar y gweill
  • Amod B – cyflwynir y Ffurflen Dreth Partneriaeth neu’r apêl ar y sail bod mantais treth benodol yn deillio o drefniadau dewisedig y bartneriaeth – caiff mantais treth ei hennill:
    • os cyflwynir y Ffurflen Dreth Partneriaeth neu’r apêl ar sail bod cynnydd neu ostyngiad yn y symiau sydd yn y datganiad partneriaeth ar Ffurflen Dreth Partneriaeth yn deillio o’r trefniadau dewisedig hynny
    • os yw’r cynnydd neu’r gostyngiad hwnnw’n arwain at fantais treth ar gyfer un neu fwy o’r partneriaid perthnasol
  • Amod C – rydym o’r farn bod y dyfarniad barnwrol terfynol yn berthnasol i drefniadau dewisedig y bartneriaeth (am ei bod wedi defnyddio’r un cynllun neu gynllun tebyg)
  • Amod D – nid ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol, neu ei olynydd, yn flaenorol mewn perthynas â’r un cynllun, yr un fantais treth, yr un cyfnod treth, a’r un dyfarniad barnwrol terfynol – oni bai y gwnaethom anfon un yn flaenorol ac yna’i dynnu’n ôl

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, gallwn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth ar unrhyw adeg hyd at a chan gynnwys 16 Gorffennaf 2016, neu 12 mis ar ôl i’r Ffurflen Dreth, y cais neu’r apêl ddod i law, p’un bynnag sydd hwyraf.

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, gallwn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth hyd at 12 mis:

  • ar ôl i’r llys neu’r tribiwnlys wneud y dyfarniad terfynol
  • ar ôl i’r Ffurflen Dreth neu’r apêl ddod i law, p’un bynnag sydd hwyraf

Rhoi gwybod i’r bartneriaeth ei bod yn gorfod dilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth

Os yw’r bartneriaeth yn gorfod dilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol, a fydd yn rhoi gwybod iddo sut i gymryd camau unioni a phryd. Bydd hefyd yn rhoi gwybod iddo’r hyn y gall ei wneud os yw’n anghytuno ag ef.

Cymryd camau unioni

Bydd yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn rhoi gwybod i’r partner cynrychiadol am gymryd y camau unioni angenrheidiol i gael gwared â’r fantais treth sy’n deillio o ddefnydd y bartneriaeth o’r cynllun arbed treth (mae’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn defnyddio’r termau ‘gwrthweithio’ neu ‘ildio’). Bydd hyn yn golygu cymryd pa un bynnag o’r camau canlynol sy’n berthnasol:

  • diwygio’r Ffurflen Dreth Partneriaeth
  • setlo’r apêl
  • dod i gytundeb ysgrifenedig

Os yw’r partner cynrychiadol yn cyflwyno achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth, efallai y bydd angen iddo gymryd camau unioni erbyn dyddiad gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno achos yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os yw’r bartneriaeth yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth’ isod.

Yr hyn i’w wneud os yw’r bartneriaeth yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad dilynwr i bartneriaeth. Fodd bynnag, gall y partner cynrychiadol gyflwyno achos i ni os yw o’r farn bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a nodir yn yr hysbysiad yn berthnasol i’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd gan y bartneriaeth
  • daeth yr hysbysiad i law ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon ato

Mae rhagor o wybodaeth am yr amodau a’r dyddiadau cau hyn yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth’ ar dudalen 2 o’r daflen wybodaeth hon.

Y partner cynrychiadol yn unig all gyflwyno achos. Rhaid i’r achos fod ar bapur, a rhaid i’r partner cynrychiadol sicrhau ei fod yn anfon ei lythyr heb fod yn hwyrach na 90 diwrnod calendr o’r dyddiad y mae’n cael yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth. Byddwn wedyn yn ystyried yr hyn a nodir ganddo ac yn rhoi gwybod iddo beth yw ein casgliadau. Pan fo’r partner cynrychiadol yn ysgrifennu atom, rhaid iddo wneud y canlynol:

  • rhoi cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am yr achos
  • anfon copïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’r achos

Ni ellir cyflwyno achos ar ôl i’r 90 diwrnod calendr fynd heibio. Mae hyn yn golygu, ar ôl i ni roi gwybod i’r partner cynrychiadol am yr hyn yr ydym wedi’i ganfod, na fydd yn gallu cyflwyno achos ychwanegol os yw’r 90 diwrnod calendr eisoes wedi mynd heibio. Mae’n rhaid i’r partner cynrychiadol wneud yn siŵr, felly, ei fod yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i ni pan fydd yn cyflwyno’i achos.

Os cyflwynir yr achos cyn y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, efallai y bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ohirio. Y dyddiad cau fydd naill ai:

  • erbyn y dyddiad a ddangosir ar yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth ein penderfyniad i law’r partner cynrychiadol ar yr achos a gyflwynodd, p’un bynnag sydd hwyraf

Os bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosb am beidio â chymryd y camau hynny’n gymwys o’r dyddiad cau estynedig.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth yn effeithio ar hawl y bartneriaeth i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’r Ffurflen Dreth Partneriaeth neu’r apêl. Os yw’r bartneriaeth yn cymryd camau o’r fath ac yn llwyddiannus (sy’n golygu ei bod yn ennill y fantais treth a oedd yn sail i’r Ffurflen Dreth Partneriaeth neu’r apêl) byddwn yn canslo unrhyw gosb yr ydym wedi’i chodi. Byddwn yn canslo unrhyw gosb yr ydym wedi’i chodi ar y partneriaid perthnasol am fethiant y partner cynrychiadol i gymryd camau unioni mewn pryd.

Cosbau am beidio â chymryd camau unioni

Os yw’r bartneriaeth yn penderfynu peidio â chymryd camau unioni mewn pryd, bydd y partneriaid perthnasol yn agored i dalu cosbau. Oni bai ein bod ni neu’r tribiwnlys yn cytuno yr oedd yn rhesymol, o dan yr amgylchiadau, i’r partner cynrychiadol beidio â chymryd camau unioni (gweler yr adran ‘Apelio yn erbyn y gosb os yw’’r bartneriaeth yn anghytuno’ isod).

Bydd cyfanswm y cosbau’n hafal i 20% o werth y fantais a wadwyd, a bydd pob partner perthnasol yn agored i dalu ei gyfran briodol o’r swm hwnnw. Bydd y gyfran honno’n gymesur â’u cyfran o elw a cholledion y bartneriaeth. Cyfrifir gwerth y fantais a wadwyd drwy gyfeirio at y swm a fyddai’n cael ei ddefnyddio i addasu’r Ffurflen Dreth Partneriaeth er mwyn rhoi dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys ar waith.

Os codwn gosbau, byddwn yn anfon hysbysiad ynghylch asesiad o gosb at bob partner perthnasol gan roi gwybod iddynt sut yr ydym wedi cyfrifo swm y gosb. Fel arfer, byddwn yn gwneud hyn ar ôl i faterion treth y bartneriaeth gael eu setlo, ond efallai y byddwn yn ei wneud cyn hynny. Mewn achos ymchwiliad, caiff materion treth y bartneriaeth eu setlo ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben, ac mewn achos apêl, bydd hynny’n digwydd ar ôl i’r apêl gael ei phenderfynu’n derfynol.

Gostwng y gosb os yw’r bartneriaeth yn cydweithredu â ni

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os yw’r bartneriaeth yn cydweithredu â ni cyn i ni anfon hysbysiad ynghylch asesiad o gosb i’r partneriaid perthnasol. Yn y cyd-destun hwn, mae cydweithredu’n golygu:

  • rhoi help rhesymol i ni er mwyn cyfrifo swm y fantais dreth
  • gwrthweithio’r fantais a wadwyd (bydd hyn yn cael ei ddisgrifio fel ‘ildio’r’ fantais a wadwyd os yw hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn ymwneud ag apêl)
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n caniatáu i ni gymryd camau unioni
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n caniatáu i ni wneud cytundeb â’r bartneriaeth i wrthweithio’r fantais a wadwyd
  • rhoi mynediad i ni i gofnodion treth fel y gallwn wneud yn siŵr bod y fantais treth yn cael ei gwrthweithio’n llawn

Ni allwn ostwng gyfradd ganrannol y gosb i lai na 4%.

Fel arfer, y partner cynrychiadol fyddai’n cyd-weithredu â ni ar ran y bartneriaeth. Fodd bynnag, pe bai partner arall, o dan amgylchiadau prin, yn cydweithredu â ni ar ran y bartneriaeth, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried y cydweithrediad hwnnw.

Apelio yn erbyn y gosb os yw’r bartneriaeth yn anghytuno

Os ydym yn codi cosb ar y partneriaid perthnasol ac mae’r partneriaid yn anghytuno, dim ond y partner cynrychiadol all apelio.

Gall y partner cynrychiadol apelio yn erbyn cyfanswm y cosbau sy’n daladwy gan y partneriaid perthnasol. Gall hefyd apelio yn erbyn y gosb os yw o’r farn bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni mewn perthynas â’r hysbysiad dilynwr i bartneriaeth
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a nodir ar yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth yn berthnasol i’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd gan y bartneriaeth
  • daeth yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth i law’r partner cynrychioliadol ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon ato (mae’r dyddiad cau i’w weld ar yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth)
  • roedd yn rhesymol, o dan yr holl amgylchiadau, i’r partner cynrychiadol beidio â chymryd y camau unioni angenrheidiol

Fodd bynnag, ni all apelio ar y sail bod un neu fwy o’r partneriaid yn anghytuno â sut y cyfrifwyd eu cyfran o’r gosb.

Os caiff yr apêl neu’r gwiriad cydymffurfio ei setlo ar y sail bod y bartneriaeth:

  • yn ennill y fantais treth, yna byddwn yn canslo’r gosb
  • ddim yn ennill y fantais treth – yna bydd yn rhaid i bob partner perthnasol dalu’r gosb oni bai bod y bartneriaeth wedi apelio yn ei herbyn yn llwyddiannus

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

A fyddech cystal â darllen yr adran ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth’ hefyd.

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau.

Rydym bob amser yn croesawu’r cydweithrediad a roddir gan y bartneriaeth o ran cymryd camau unioni a rhoi gwybodaeth am y fantais treth. Bydd swm y gosb a godwn ar bob partner perthnasol yn dibynnu ar y graddau y mae’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni. Cafodd hyn ei egluro’n gynharach yn y daflen wybodaeth hon.

Hefyd, rydym yn croesawu unrhyw gymorth a roddir i ni gan y bartneriaeth wrth bennu swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd. Pan fyddwn yn ystyried cosbau, mae gennych yr hawl i beidio ag ateb ein cwestiynau. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau y byddwch yn ein helpu. Mae gennych yr hawl i gysylltu ag ymgynghorydd wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw swm y gosb sy’n ddyledus pan fyddwn wedi gweld faint yn union y mae’r bartneriaeth wedi cydweithredu â ni, yn ogystal â swm y fantais treth. Os ydych yn anghytuno â’r gosb, gall y partner cynrychiadol apelio ar eich rhan.

Mae gennych yr hawl i wneud cais am gymorth cyfreithiol (legal aid) neu gynhorthwy cyfreithiol a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn bwriadu gofyn i’r partner cynrychiadol apelio yn erbyn swm y gosb ar eich rhan, efallai y byddwch am wirio a yw eich achos yn gymwys am gynhorthwy cyfreithiol a’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol. Mae’r ffordd y gallwch wirio pa gymorth sydd ar gael a’r amodau cymhwyso’n dibynnu ar ble yn y DU yr ydych yn byw. Gallwch gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol a ariennir, neu gymorth cyfreithiol, drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod i’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad

Pan fo partneriaeth wedi defnyddio cynllun arbed treth, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad at y partneriaid perthnasol os yw amodau penodol yn cael eu bodloni. Mae’r amodau hynny fel a ganlyn:

  • Amod A – mae gwiriad cydymffurfio o ran y Ffurflen Dreth Partneriaeth, neu apêl, ar y gweill
  • Amod B – cyflwynir y Ffurflen Dreth Partneriaeth neu’r apêl ar y sail bod mantais treth yn deillio o’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd
  • Amod C – mae o leiaf un o’r canlynol yn gymwys:
    • rydym wedi anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol
    • mae’r bartneriaeth wedi defnyddio trefniadau sy’n rhaid eu datgelu o dan y ddeddfwriaeth Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (Disclosure of Tax Avoidance Schemes, neu DOTAS)
    • mae’r partner perthnasol dan sylw’n agored i hysbysiad gwrthweithio o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (General Anti-Abuse Rule, neu GAAR)

Mae’r ddeddfwriaeth treth sy’n ymdrin â thaliadau cyflymedig yn cyfeirio at wiriad cydymffurfio fel ‘ymchwiliad treth’.

Rhoi gwybod i’r partneriaid perthnasol am eu taliad cyflymedig gan bartner

Os oes angen i’r partneriaid perthnasol wneud taliad cyflymedig gan bartner, byddwn yn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad at bob un ohonynt. Bydd hyn yn rhoi gwybod iddynt faint sydd angen iddynt ei dalu a phryd. Bydd hefyd yn rhoi gwybod iddynt sut yr ydym wedi cyfrifo’r swm sydd angen iddynt ei dalu. Pan fyddwn yn anfon yr hysbysiad i bartner wneud taliad, byddwn yn rhoi gwybod i’r partneriaid perthnasol yr hyn y gallant ei wneud os ydynt yn anghytuno ag ef.

Sut yr ydym yn cyfrifo swm taliad cyflymedig gan bartner

Y swm sy’n daladwy fydd y swm sy’n ymwneud â chyfran y partner perthnasol o’r fantais treth y mae defnydd y bartneriaeth o’r cynllun arbed treth yn ceisio’i hennill. Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at hyn fel ‘treth a danddatganwyd gan bartner’.

Byddwn yn cyfrifo’r swm hyd eithaf ein gwybodaeth a’n cred. Os nad oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, efallai na fyddwn yn gallu cyfrifo’r union swm sy’n ddyledus. Mae hyn yn golygu y gall y swm a ddangosir yn yr hysbysiad i bartner wneud taliad fod yn wahanol i’r swm sy’n ddyledus pan fydd y gwiriad cydymffurfio wedi’i gwblhau, neu pan fydd yr apêl wedi’i setlo.

Fel arfer, byddwn yn ad-dalu unrhyw swm sydd wedi’i ordalu ac unrhyw log sy’n ddyledus ar y swm a ordalwyd. Byddwn yn gwneud hyn os yw’r swm yn yr hysbysiad i bartner wneud taliad yn fwy na’r swm y canfyddwn ei fod yn ddyledus ar ôl i’r gwiriad cydymffurfio ddod i ben, neu ar ôl i’r apêl gael ei setlo.

Talu’r hyn sy’n ddyledus

Bydd taliad yn ddyledus 90 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad y daeth yr hysbysiad i bartner wneud taliad i law’r partner perthnasol.

Os yw’r partner perthnasol yn cyflwyno achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad i bartner wneud taliad, gall y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus newid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os yw’r partner perthnasol yn anghytuno â’r hysbysiad i bartner wneud taliad’ ar dudalen 7 o’r daflen wybodaeth hon.

Os byddwn yn anfon y canlynol:

  • hysbysiad dilynwr i bartneriaeth at y partner cynrychiadol
  • hysbysiad i bartner wneud taliad at y partneriaid perthnasol

dylai pob partner perthnasol dalu’r taliad cyflymedig gan bartner p’un a yw’r bartneriaeth yn penderfynu cymryd camau unioni ai peidio. Mae hyn oherwydd efallai y bydd pob partner perthnasol yn agored i gosbau am wneud y taliad cyflymedig gan bartner yn hwyr. Bydd yr hysbysiad i bartner wneud taliad yn rhoi gwybod iddynt a fyddant yn agored i gosbau am wneud y taliad yn hwyr.

Trafferthion talu

Os yw partner perthnasol o’r farn y gall gael problemau o ran talu, dylai roi gwybod i ni ar unwaith.

Cosbau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig gan bartner mewn pryd

Os na fydd y partner perthnasol yn talu’r swm llawn a ddangosir ar ei hysbysiad i bartner wneud taliad erbyn y dyddiad dyledus, gall fod yn agored i gosb. Os byddwn yn codi cosb arno, bydd yn rhaid iddo’i thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig gan bartner.

Os na chaiff y taliad ei dalu’n llawn ar neu cyn:

  • y dyddiad dyledus, bydd y partner perthnasol yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arno
  • 5 mis o’r dyddiad dyledus, bydd yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arno – mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • 11 mis o’r dyddiad dyledus, bydd yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arno – mae hyn ar ben y ddwy gosb flaenorol o 5%

Gwybodaeth gyffredinol am gosbau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig gan bartner mewn pryd

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i’r partneriaid perthnasol am gosb

Byddwn yn anfon hysbysiad at y partner perthnasol i roi gwybod iddo faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo.

Rhoi gwybod i ni am unrhyw amgylchiadau arbennig

Os yw’r partner perthnasol o’r farn y dylem gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylai roi gwybod i ni ar unwaith.

Pryd na fyddwn yn codi cosb am beidio â gwneud y taliad cyflymedig gan bartner mewn pryd

Ni fyddwn yn codi cosbau am dalu’r taliad cyflymedig gan bartner yn hwyr, os oedd gan y partner perthnasol esgus rhesymol dros dalu’n hwyr – cyn belled â’i fod wedi talu heb oedi pan ddaeth yr esgus rhesymol i ben.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth atal person rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, pan fydd wedi cymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod o ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i’r person unioni pethau heb oedi diangen.

Bydd amgylchiadau penodol o ran methiant y person i fodloni’r ymrwymiad treth, yn ogystal â’i amgylchiadau a’i allu penodol, yn pennu a oes ganddo esgus rhesymol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall.

Os yw’r partner perthnasol yn credu bod ganddo esgus rhesymol, rhaid iddo roi gwybod i ni. Os derbyniwn fod ganddo esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arno. Os ydym eisoes wedi codi cosb arno am beidio â gwneud y taliad mewn pryd, byddwn yn ei chanslo.

Beth os yw’r partner perthnasol yn anghytuno ag unrhyw gosbau yr ydym wedi’u codi arno?

Os codwn gosb am dalu’r taliad cyflymedig gan bartner yn hwyr, bydd y partner perthnasol yn gallu apelio yn ei herbyn os yw’n anghytuno. Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’.

Llog am dalu’n hwyr

Nid ydym yn codi llog am wneud y taliad cyflymedig gan bartner ei hun yn hwyr. Fodd bynnag, rydym yn codi llog am dalu treth yn hwyr – o’r dyddiad yr oedd y dreth yn ddyledus yn wreiddiol, hyd at y dyddiad y caiff ei thalu.

Pan fydd sefyllfa’r bartneriaeth o ran treth wedi’i setlo, byddwn yn cyfrifo a oes llog i’w dalu. At ddibenion llog, byddwn yn trin y swm a dalwyd mewn perthynas â’r hysbysiad i bartner wneud taliad fel petai’n daliad o’r dreth. Bydd hyn yn golygu na fydd llog yn cronni mwyach ar swm y dreth sy’n hafal i swm y taliad cyflymedig gan bartner a delir, a hynny o’r dyddiad y gwneir y taliad.

Yn ogystal, rydym yn codi llog ar gosbau a delir yn hwyr.

Yr hyn i’w wneud os yw’r partner perthnasol yn anghytuno â’r hysbysiad i bartner wneud taliad

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad i bartner wneud taliad. Fodd bynnag, gall pob partner perthnasol gyflwyno achos i ni os yw o’r farn bod un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r amodau ar gyfer anfon yr hysbysiad wedi’u bodloni – dangosir y rhain yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad’ sydd ar dudalen 5 o’r daflen wybodaeth hon
  • nid yw’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad yn gywir – os felly, bydd angen i’r partner perthnasol roi gwybod i ni beth ddylai’r swm cywir fod yn ei farn ef a pham

Rhaid i’r achos fod ar bapur, a rhaid i’r partner perthnasol sicrhau ei fod yn anfon ei lythyr heb fod yn hwyrach na 90 diwrnod calendr o’r dyddiad y mae’n cael yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth. Byddwn wedyn yn ystyried yr hyn a nodir ganddo ac yn rhoi gwybod iddo beth yw ein casgliadau.

Os yw’r partner perthnasol yn cyflwyno achos, ni all ofyn i’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad i bartner wneud taliad gael ei ohirio.

Fodd bynnag, os yw’r partner perthnasol yn cyflwyno achos cyn y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus, ac nid ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, gellir gohirio’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad. Bydd taliad yn ddyledus:

  • ar y dyddiad dyledus a ddangosir ar yr hysbysiad i bartner wneud taliad
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth ein penderfyniad i law ar yr achos y cyflwynodd y partner perthnasol, p’un bynnag sydd hwyraf

Os yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad yn cael ei ohirio, bydd unrhyw gosbau am dalu’n hwyr yn gymwys o’r dyddiad cau sydd wedi’i ohirio.

Beth os yw’r bartneriaeth am setlo’i materion treth?

Os yw’r bartneriaeth am setlo’i materion treth ar ôl i ni roi gwybod i’r:

  • partner cynrychiadol y byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr i bartneriaeth ato
  • partneriaid perthnasol y byddwn yn anfon hysbysiad i bartner wneud taliad atynt

dylai’r partner cynrychiadol ein ffonio ar unwaith, a byddwn yn rhoi gwybod iddo’r hyn sydd angen iddo ei wneud nesaf.

Mae’r penderfyniad p’un a yw’r bartneriaeth am setlo yn gyfan gwbl yn nwylo’r partneriaid perthnasol. Os nad yw’r bartneriaeth am setlo, yna bydd y gwiriad cydymffurfio neu’r apêl yn dal i fod ar y gweill.

Gair am hawliau’r bartneriaeth i apelio mewn perthynas â’r gwiriad cydymffurfio neu’r apêl sydd ar y gweill

Pan fydd y partneriaid perthnasol yn gwneud eu taliadau cyflymedig gan bartner, hyd yn oed os yw’r bartneriaeth wedi penderfynu peidio â chymryd y camau unioni y cyfeirir atynt ar yr hysbysiad dilynwr i bartneriaeth, nid yw hyn yn golygu bod y gwiriad cydymffurfio neu’r apêl sydd ar y gweill wedi’i setlo.

Er na all y partneriaid perthnasol apelio yn erbyn eu hysbysiadau i bartner wneud taliad, nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu taliadau cyflymedig yn effeithio ar hawliau’r bartneriaeth i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd. Mae hyn yn golygu:

  • os oes gan y bartneriaeth wiriad cydymffurfio ar y gweill, bydd gan y bartneriaeth lwyr hawl i apelio o hyd os nad yw’n cytuno â chanlyniad y gwiriad hwnnw
  • os yw’r bartneriaeth eisoes wedi apelio yn erbyn canlyniad y gwiriad cydymffurfio neu’r diwygiad i’r Ffurflen Dreth Partneriaeth, bydd gan y bartneriaeth lwyr hawl i apelio o hyd

Os yw’r bartneriaeth wedi apelio, ac rydym wedi gohirio treth y partneriaid perthnasol yn anffurfiol

Os ydym wedi gohirio treth y partneriaid perthnasol yn anffurfiol am fod y bartneriaeth wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • hysbysiad cau mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio
  • diwygiad i’r Ffurflen Dreth Partneriaeth

gallwn ganslo’r gohiriad anffurfiol pan anfonwn hysbysiadau i bartner wneud taliad. Bydd yn rhaid i bob partner perthnasol wedyn dalu’r dreth a ohiriwyd yn flaenorol, a hynny drwy dalu’r taliad cyflymedig gan bartner.

Beth fydd yn digwydd os yw’r partner perthnasol yn gwneud y taliad cyflymedig gan bartner ac mae llys neu dribiwnlys yn dyfarnu yn nes ymlaen fod mantais treth yn deillio o’r cynllun?

Os yw tribiwnlys neu lys yn penderfynu bod y cynllun yn cynhyrchu’r fantais treth, byddem fel arfer yn ad-dalu’r swm y mae’r partner perthnasol wedi ei dalu. Byddem yn ad-dalu’r swm a dalwyd o dan yr hysbysiad i bartner wneud taliad, ynghyd ag unrhyw log sy’n ddyledus iddo.

Fodd bynnag, os byddwn yn apelio i dribiwnlys neu lys uwch yn erbyn y penderfyniad, mewn rhai achosion, gallwn hefyd ofyn am eu caniatâd i beidio ag ad-dalu’r swm i’r partner perthnasol. Ni fyddem yn gwneud hyn, oni bai ein bod o’r farn bod perygl na fydd y partner perthnasol yn talu’r swm sydd arno os oedd ein hapêl yn llwyddiannus.

Rhagor o wybodaeth

Y trethi y mae’r daflen wybodaeth hon yn berthnasol iddynt

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â thaliadau cyflymedig gan bartner ar gyfer Treth Incwm (gan gynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4) a Threth Gorfforaeth.

Rheoliadau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) a’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)

I gael rhagor o wybodaeth ar-lein am:

  • rheoliadau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘disclosure of avoidance’
  • y Rheol Gwrth-Gamddefnydd Gyffredinol, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘GAAR arrangements’

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.