Canllawiau

Cynlluniau arbed treth – hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig ar gyfer Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol drwy TWE

Diweddarwyd 30 April 2018

Rydym wedi rhoi’r daflen wybodaeth hon i chi am eich bod wedi defnyddio cynllun i osgoi talu Treth Incwm drwy TWE, neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) drwy TWE, neu’r ddau. Byddwn yn ysgrifennu atoch maes o law i roi gwybod i chi am y canlynol:

  • cymryd camau unioni i osgoi cosb – rhoddir eglurhad am hyn isod yn yr adran ‘Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig’
  • gwneud taliad o’r swm sy’n ymwneud â’ch defnydd o’r cynllun

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Gwybodaeth am ‘arbed treth’ a chynlluniau arbed treth

Mae arbed treth yn golygu plygu rheolau’r system dreth er mwyn ennill mantais dreth mewn ffordd nad oedd gan y Senedd mewn golwg erioed. Yn aml, mae’n golygu trafodion ffug, artiffisial nad oes fawr o bwrpas iddynt heblaw creu’r fantais hon. Mae’n golygu glynu wrth lythyren – ond nid ysbryd – y gyfraith. Nid yw’r rhan fwyaf o gynlluniau arbed treth yn gweithio o gwbl. Mae’n bosibl bod yr unigolion hynny sy’n eu defnyddio yn talu mwy na’r dreth y gwnaethant geisio’i harbed – ar ôl i Gyllid a Thollau EM eu herio’n llwyddiannus.

Mae’r term ‘arbed treth’ yn cynnwys arbed CYG.

Gair am ddilynwyr, hysbysiadau dilynwr a thaliadau cyflymedig

Ar 17 Gorffennaf 2014, cafodd deddfwriaeth treth ei chyflwyno sy’n effeithio ar yr unigolion hynny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth. Cafodd cwmpas y ddeddfwriaeth honno ei ehangu i gynnwys CYG o 12 Ebrill 2015 ymlaen. Nod y ddeddfwriaeth yw:

  • gwella pa mor gyflym y mae anghydfodau ynghylch cynlluniau arbed treth yn cael eu setlo, pan ddangoswyd, mewn achos a gafodd ei ymladd gan unigolyn arall, fod egwyddor sy’n sail i’r cynllun yn aneffeithiol
  • cael gwared â’r fantais llif arian sydd gan y rheiny sy’n defnyddio cynlluniau arbed treth drwy fynnu eu bod yn gwneud taliad ymlaen llaw o’r dreth neu’r CYG sy’n destun yr anghydfod, neu’r ddau, fel bod yr arian yn nwylo’r trysorlys yn ystod yr anghydfod

Dilynwyr

Pan fydd gennym nifer fawr o achosion arbed treth sy’n debyg iawn i’w gilydd, yn aml byddwn yn ymchwilio i ‘achosion cynrychiadol’ ac yn dwyn achos cyfreithiol yn eu herbyn os oes rhaid. Os bydd y llys neu’r tribiwnlys yn gweld nad oes mantais dreth neu CYG yn deillio o’r cynllun yn yr achosion hynny, caiff yr anghydfodau eu setlo. Yna, gallwn adennill y dreth neu’r CYG, neu’r ddau, sy’n ddyledus.

Mae ‘dilynwyr’ yn unigolion sydd wedi defnyddio:

  • yr un cynllun ag a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol
  • cynllun gwahanol, ond lle y mae egwyddor yn y cynllun hwnnw’n ddigon tebyg i’r cynllun a ddefnyddiwyd mewn achos cynrychiadol

Cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, nid oedd llawer o gymhelliad i ‘ddilynwyr’ dderbyn bod canfyddiadau’r llys neu’r tribiwnlys mewn achos cynrychiadol yn golygu nad oedd eu defnydd eu hunain o’r cynllun arbed treth yn ennill y fantais dreth neu CYG.

Hysbysiadau dilynwr

Os bydd llys neu dribiwnlys wedi dyfarnu’n derfynol nad oes mantais dreth neu CYG yn deillio o gynllun arbed treth, mae’r ddeddfwriaeth yn caniatáu i ni anfon ‘hysbysiadau dilynwr’ at y ‘dilynwyr’.

Mae hysbysiad dilynwr yn rhoi gwybod i’r dilynwr y bydd yn agored i dalu cosb os na fydd yn setlo’i anghydfod â ni. Mae swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd yn hafal i 50% o’r dreth neu’r CYG sy’n destun yr anghydfod (y cyfeirir ato fel y ‘fantais a wadwyd’ ar yr hysbysiad dilynwr). Mae rhagor o wybodaeth am y math hwn o gosb yn yr adran ‘Cosbau am beidio â chymryd camau unioni’ ar dudalen 4 o’r daflen wybodaeth hon.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer hysbysiadau dilynwr yn effeithio ar eich hawl i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth neu CYG. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr’ ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon.

Taliadau cyflymedig

Efallai y bydd gofyn i’r unigolion hynny sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth wneud taliad o’r swm sy’n ymwneud â’u defnydd o’r cynllun hwnnw cyn i dribiwnlys neu lys gytuno neu benderfynu ar y swm terfynol. Gelwir taliad o’r fath yn daliad cyflymedig.

Os bydd angen gwneud taliad cyflymedig, byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at ddefnyddiwr cynllun arbed treth. Os bydd defnyddiwr y cynllun yn ‘ddilynwr’, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr hefyd.

O dan rai amgylchiadau, rydym yn codi cosb am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd. Mae rhagor o wybodaeth am daliadau cyflymedig ar dudalennau 6 a 7 o’r daflen wybodaeth hon.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr

Os bydd llys neu dribiwnlys wedi dyfarnu’n derfynol nad oes mantais dreth neu CYG yn deillio o gynllun arbed treth, gallwn anfon hysbysiad dilynwr at y dilynwyr os caiff amodau penodol eu bodloni.

Mae’r amodau hynny fel a ganlyn:

  • Amod A – mae

    • gwiriad cydymffurfio, y cyfeirir ato yn y ddeddfwriaeth fel ‘ymchwiliad treth’, ar y gweill o ran Ffurflen Dreth neu hawliad yr unigolyn
    • ‘anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol’ ynghylch rhwymedigaeth CYG; darllenwch adran nesaf y daflen wybodaeth hon
    • apêl ar y gweill yn erbyn asesiad treth, dyfarniad, neu benderfyniad ar rwymedigaeth CYG
  • Amod B – cyflwynir y Ffurflen Dreth, yr hawliad neu’r apêl ar y sail bod mantais dreth benodol neu fantais CYG benodol, neu fantais dreth a CYG benodol, yn deillio o’r trefniadau a ddewiswyd gan yr unigolyn (mewn anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol, caiff Amod B ei fodloni hefyd os bydd unigolyn yn dadlau ynghylch rhwymedigaeth CYG ar y sail bod mantais CYG benodol yn deillio o drefniadau penodol – p’un a oedd yr unigolyn wedi hysbysu am yr anghydfod ar y sail honno ai peidio)
  • Amod C – rydym o’r farn bod y dyfarniad barnwrol terfynol yn berthnasol i’r trefniadau a ddewiswyd ganddynt
  • Amod D – nid ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr at yr unigolyn yn flaenorol mewn perthynas â’r un cynllun, yr un fantais dreth neu CYG, yr un cyfnod treth, a’r un dyfarniad barnwrol terfynol – oni bai ein bod wedi anfon un yn flaenorol ac yna ei dynnu’n ôl

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno ar 17 Gorffennaf 2014, gallwn anfon hysbysiad dilynwr ar unrhyw adeg hyd at a chan gynnwys 16 Gorffennaf 2016, neu 12 mis ar ôl i’r Ffurflen Dreth neu’r hawliad ddod i law, neu ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, p’un bynnag sydd hwyraf.

Os gwnaeth llys neu dribiwnlys y dyfarniad terfynol ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, gallwn anfon hysbysiad dilynwr hyd at 12 mis:

  • ar ôl i’r llys neu’r tribiwnlys wneud y dyfarniad terfynol
  • ar ôl i’r Ffurflen Dreth neu’r hawliad ddod i law, neu ar ôl i’r apêl gael ei gwneud, p’un bynnag sydd hwyraf

Gair am yr anghydfodau ynghylch cyfraniadau perthnasol

O ran treth, dim ond pan fydd naill ai ymchwiliad neu apêl ar y gweill y gellir anfon hysbysiadau dilynwr a hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig. Gan nad oes dim sy’n cyfateb yn uniongyrchol i ymchwiliad ar gyfer CYG, mae paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2015 yn cyflwyno’r cysyniad o ‘anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol’. Mae hyn yn golygu, pan fo anghydfod ynghylch a yw CYG yn ddyledus mewn perthynas â chynllun arbed treth, y gallwn anfon hysbysiadau dilynwr a hysbysiadau i wneud taliad cyflymedig cyn i benderfyniad apeliadwy ar CYG gael ei wneud.

Rhoi gwybod bod rhaid i chi ddilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr

Os oes rhaid i chi ddilyn rheolau’r hysbysiad dilynwr, byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi sut a phryd i gymryd camau unioni. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi gwybod i chi am yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno ag ef.

Cymryd camau unioni

Bydd yr hysbysiad dilynwr yn rhoi gwybod i chi am gymryd y camau unioni sydd eu hangen i gael gwared â’r fantais dreth neu CYG sy’n deillio o ddefnyddio’r cynllun arbed treth (mae’r hysbysiad dilynwr yn defnyddio’r termau ‘gwrthweithio’ neu ‘ildio’ y fantais a wadwyd). Bydd hyn yn golygu cymryd pa un bynnag o’r camau canlynol sy’n berthnasol:

  • diwygio’ch Ffurflen Dreth neu’ch hawliad
  • setlo’ch apêl
  • ymrwymo i gytundeb ar bapur â CThEM
  • gwneud taliad – dim ond os oes anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol

Os cyflwynwch achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad dilynwr, efallai y bydd angen i chi gymryd camau unioni erbyn dyddiad gwahanol. Mae rhagor o wybodaeth am gyflwyno achos yn adran nesaf y daflen wybodaeth hon.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad dilynwr

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad dilynwr. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno achos i ni os ydych yn credu bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a nodir yn yr hysbysiad yn berthnasol i’r cynllun arbed treth y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • cawsoch yr hysbysiad ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon atoch

Mae gwybodaeth am yr amodau a’r terfynau amser hyn yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad dilynwr’, ar dudalen 2 o’r daflen wybodaeth hon.

Rhaid i’ch achos fod yn ysgrifenedig, a rhaid gwneud yn siŵr eich bod yn anfon eich llythyr cyn pen 90 diwrnod calendr i’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad dilynwr. Byddwn, wedyn, yn ystyried yr hyn a nodwch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein casgliadau.

Os ydych yn cyflwyno achos cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, efallai y bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ohirio. Y dyddiad cau fydd naill ai:

  • y dyddiad a ddangosir yn yr hysbysiad dilynwr
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cewch ein penderfyniad ar yr achos y gwnaethoch ei gyflwyno, p’un bynnag sydd hwyraf

Os bydd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni’n cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosb am beidio â chymryd y camau hynny’n gymwys o’r dyddiad cau estynedig.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar gyfer hysbysiadau dilynwr yn effeithio ar eich hawl i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth neu CYG. Os cymerwch gamau o’r fath a’ch bod yn llwyddiannus – sy’n golygu eich bod yn ennill y fantais dreth neu CYG a oedd yn sail i’ch Ffurflen Dreth, hawliad, anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol neu apêl – byddwn yn canslo unrhyw gosb yr ydym wedi’i chodi arnoch am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd.

Cosbau am beidio â chymryd camau unioni

Os penderfynwch beidio â chymryd camau unioni mewn pryd, byddwch yn agored i dalu cosb – oni bai ein bod ni neu’r tribiwnlys yn cytuno mai peidio â chymryd camau unioni oedd y peth rhesymol o dan yr amgylchiadau (darllenwch yr adran ‘Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno’).

Bydd y gosb am beidio â chymryd camau unioni’n hafal i 50% o’r fantais dreth neu CYG a oedd yn sail i’ch Ffurflen Dreth, hawliad neu apêl.

Os codwn gosb arnoch, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch ac yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym wedi cyfrifo swm y gosb. Fel arfer, byddwn yn gwneud hyn ar ôl i’ch materion treth gael eu setlo. Os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud â’r canlynol:

  • gwiriad cydymffurfio, byddwn yn gwneud hyn ar ôl i’r gwiriad cydymffurfio ddod i ben
  • anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol, byddwn yn gwneud hyn ar ôl i’r anghydfod gael ei setlo
  • apêl, byddwn yn gwneud hyn ar ôl i swm y dreth neu’r CYG, neu’r dreth a’r CYG, sy’n destun apêl gael ei benderfynu’n derfynol

Gostwng y gosb os ydych yn cydweithredu â ni

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os ydych wedi cydweithredu â ni cyn i ni anfon hysbysiad o asesiad o gosb. Yn y cyd-destun hwn, mae cydweithredu’n golygu:

  • rhoi help rhesymol i ni er mwyn cyfrifo swm y fantais dreth
  • wedi gwrthweithio’r fantais a wadwyd ar ôl i chi ddod yn agored i gosb (neu ildio’r fantais a wadwyd os yw’ch hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl)
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau unioni
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i ymrwymo i gytundeb â chi i wrthweithio’r fantais a wadwyd
  • gadael i ni weld eich cofnodion treth er mwyn i ni allu sicrhau bod y fantais a wadwyd yn cael ei gwrthweithio’n llawn

Ni all cyfradd ganrannol y gosb a godwn byth fod yn llai na 10%.

Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno

Os codwn gosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni, byddwch yn gallu apelio yn ei herbyn os ydych yn anghytuno.

Gallwch apelio yn erbyn swm y gosb. Gallwch apelio hefyd os ydych o’r farn bod un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw Amod A, B neu D wedi’i fodloni mewn perthynas â’r hysbysiad dilynwr
  • nid yw dyfarniad terfynol y llys neu’r tribiwnlys a nodir yn yr hysbysiad dilynwr yn berthnasol i’r cynllun arbed treth y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • cawsoch yr hysbysiad dilynwr ar ôl y dyddiad y dylem fod wedi’i anfon atoch (mae’r dyddiad cau i’w weld yn yr hysbysiad dilynwr)
  • roedd yn rhesymol, o dan yr holl amgylchiadau, i chi beidio â chymryd y camau unioni angenrheidiol

Os yw’ch rhwymedigaeth treth neu CYG wedi’i setlo ar y sail:

  • eich bod yn ennill y fantais dreth neu CYG, byddwn yn canslo’r gosb
  • nad ydych yn ennill y fantais dreth neu CYG, yna bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb oni bai eich bod wedi apelio yn ei herbyn yn llwyddiannus

Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Gallwch gael copi ar-lein. Ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio am ‘HMRC1’.

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau.

Rydym bob amser yn croesawu’ch cydweithrediad wrth gymryd camau unioni, ac wrth roi gwybodaeth am y fantais dreth. Os codwn gosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni, bydd swm y gosb yn dibynnu ar faint yr ydych yn cydweithredu â ni. Caiff hyn ei egluro yn yr adran ‘Gostwng y gosb os ydych yn cydweithredu â ni’.

Hefyd, byddwn yn croesawu unrhyw gymorth a rowch i ni pan fyddwn yn pennu swm unrhyw gosb a godwn arnoch am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd. Pan fyddwn yn ystyried cosbau, mae gennych yr hawl i beidio ag ateb ein cwestiynau. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau yr ydych yn ein helpu. Mae gennych yr hawl i gysylltu ag ymgynghorydd wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Os codwn gosb arnoch, byddwn yn rhoi gwybod i chi faint yw swm y gosb sy’n ddyledus pan fyddwn wedi gweld faint yn union yr ydych wedi cydweithredu â ni, yn ogystal â swm y fantais dreth. Os ydych yn anghytuno â’r gosb, gallwch apelio.

Gallwch wneud cais am Gymorth Cyfreithiol (Legal Aid) neu gynhorthwy cyfreithiol (legal assistance) a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os codwn gosb arnoch, a’ch bod yn bwriadu apelio yn erbyn swm y gosb, efallai yr hoffech wirio a yw’ch achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol, yn ogystal â’r math o help a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol ai peidio. Mae’r ffordd y gallwch wirio pa help sydd ar gael a’r amodau cymhwyso yn dibynnu ar ble yn y Deyrnas Unedig (DU) yr ydych yn byw. Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan ganolfan Cyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir neu Gymorth Cyfreithiol drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig at unigolyn sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth os caiff amodau penodol eu bodloni. Mae’r amodau hynny wedi’u nodi yn Adran 219 o Ddeddf Cyllid 2014 ac Atodlen 2 i Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2015. Mae’r amodau fel a ganlyn:

  • Amod A – mae
    • gwiriad cydymffurfio (y cyfeirir ato fel ‘ymchwiliad’) ar y gweill o ran Ffurflen Dreth neu hawliad yr unigolyn
    • ‘anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol’ ar y gweill mewn perthynas â rhwymedigaeth CYG (darllenwch yr adran ‘Gair am yr anghydfodau ynghylch cyfraniadau perthnasol’, ar dudalen 3 o’r daflen wybodaeth hon)
    • apêl ar y gweill yn erbyn asesiad treth, dyfarniad, neu benderfyniad ynghylch rhwymedigaeth CYG
  • Amod B – cyflwynir y Ffurflen Dreth, yr hawliad neu’r apêl ar y sail bod mantais dreth, neu fantais CYG, neu fantais dreth a CYG, yn deillio o’r cynllun arbed treth a ddefnyddiwyd (mewn anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol, caiff Amod B ei fodloni hefyd os bydd unigolyn yn dadlau ynghylch rhwymedigaeth CYG ar y sail bod mantais CYG benodol yn deillio o drefniadau penodol – p’un a oedd yr unigolyn wedi hysbysu am yr anghydfod ar y sail honno ai peidio)
  • Amod C – mae o leiaf un o’r canlynol yn gymwys:
    • rydym wedi anfon hysbysiad dilynwr at yr unigolyn
    • mae’r unigolyn wedi defnyddio trefniadau y mae’n rhaid eu datgelu o dan y ddeddfwriaeth Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (Disclosure of Tax Avoidance Schemes, neu DOTAS)
    • mae’r unigolyn yn agored i hysbysiad gwrthweithio o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (General Anti-Abuse Rule, neu GAAR)

Rhoi gwybod i chi am eich taliad cyflymedig

Os bydd angen i chi wneud taliad cyflymedig, byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch a fydd yn rhoi gwybod i chi:

  • faint y mae angen i chi ei dalu a phryd
  • sut yr ydym wedi cyfrifo’r swm y mae angen i chi ei dalu
  • yr hyn y gallwch ei wneud os ydych yn anghytuno ag ef

Sut yr ydym yn cyfrifo swm taliad cyflymedig

Y swm sy’n daladwy fydd y swm sy’n ymwneud â’r fantais dreth neu CYG y mae defnyddio’r cynllun arbed treth yn ceisio’i hennill. Mae’r ddeddfwriaeth yn cyfeirio at hyn fel:

  • ‘treth a danddatganwyd’ pan fo ymchwiliad i dreth ar y gweill
  • ‘cyfraniadau a danddatganwyd’ pan fo anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol ar y gweill
  • ‘treth y mae anghydfod yn ei chylch’ neu ‘cyfraniadau y mae anghydfod yn eu cylch’ pan fo apêl ar y gweill

Byddwn yn cyfrifo’r swm hyd eithaf ein gwybodaeth a’n cred. Os nad oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo’r union swm, efallai na fydd y swm a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yr un peth â’r swm sy’n ddyledus pan fydd eich gwiriad cydymffurfio neu anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol wedi dod i ben, neu pan fydd eich apêl wedi’i setlo.

Os yw’r swm ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn fwy na’r swm sy’n ddyledus ar ôl i’ch gwiriad cydymffurfio neu anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol ddod i ben, neu ar ôl i’ch apêl gael ei setlo, byddwn fel arfer yn ad-dalu unrhyw swm yr ydych wedi’i ordalu. Byddwn hefyd yn talu unrhyw log sy’n ddyledus i chi mewn perthynas â’r swm a ordalwyd.

Talu’r hyn sy’n ddyledus

Bydd taliad yn ddyledus 90 diwrnod ar ôl y dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig.

Os byddwch yn cyflwyno achos sy’n gwrthwynebu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, gall y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus newid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’ ar dudalen 8 o’r daflen wybodaeth hon.

Os byddwn yn anfon hysbysiad dilynwr atoch yn ogystal â hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, dylech dalu’r taliad cyflymedig p’un a ydych yn mynd i gymryd camau unioni ai peidio. Mae hyn oherwydd efallai y byddwch yn agored i gosbau am wneud y taliad cyflymedig yn hwyr. Bydd yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig yn rhoi gwybod i chi a fyddwch yn agored i gosbau am wneud y taliad yn hwyr.

Trafferthion talu

Os ydych o’r farn y gallech gael trafferthion talu, rhowch wybod i ni ar unwaith.

Cosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes gwiriad cydymffurfio neu anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol ar y gweill

Os oes gwiriad cydymffurfio neu anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol ar y gweill, ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar eich hysbysiad i wneud taliad cyflymedig erbyn y dyddiad dyledus, byddwch yn agored i dalu cosb. Os codwn gosb arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn ar neu cyn:

  • y dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • 5 mis o’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • 11 mis o’r dyddiad dyledus, byddwch yn agored i gosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y ddwy gosb flaenorol o 5%

Mae’r cosbau hyn yn berthnasol i’r holl drethi a CYG sy’n cael eu cwmpasu gan y ddeddfwriaeth ar daliadau cyflymedig.

Cosbau am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd os oes apêl ar y gweill

Os yw’ch hysbysiad i wneud taliad cyflymedig ar gyfer y flwyddyn dreth o 6 Ebrill 2010 i 5 Ebrill 2011 neu’n ddiweddarach, ac nad ydych yn talu’r swm llawn a ddangosir ar yr hysbysiad mewn pryd, byddwch yn agored i gosb. Os codwn gosb arnoch, bydd yn rhaid i chi ei thalu yn ogystal â’r taliad cyflymedig.

‘Y dyddiad cosb’ yw’r enw a roddir ar y dyddiad pan fyddwch yn dod yn agored i gosb o’r fath. Y dyddiad cosb fydd 31 diwrnod ar ôl y dyddiad yr oeddech i fod i wneud y taliad cyflymedig.

Os na chaiff eich taliad ei dalu’n llawn:

  • erbyn y dyddiad cosb, byddwch yn agored i dalu cosb sy’n hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch
  • ar neu cyn 5 mis o’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i dalu cosb a fydd yn hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y 5% a esboniwyd yn y pwynt bwled uchod
  • ar neu cyn 11 mis o’r dyddiad cosb, byddwch yn agored i dalu cosb a fydd yn hafal i 5% o’r swm sy’n dal i fod arnoch – mae hyn ar ben y 2 gosb flaenorol o 5%

Gwybodaeth gyffredinol am gosbau am beidio â thalu’r taliad cyflymedig mewn pryd

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am gosb

Byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch i roi gwybod i chi faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo.

Rhoi gwybod i ni am amgylchiadau arbennig

Os ydych o’r farn y dylem gymryd amgylchiadau arbennig i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gosb, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Pryd na fyddwn yn codi cosb am beidio â gwneud y taliad cyflymedig mewn pryd

Ni fyddwn yn codi cosbau arnoch am dalu’ch taliad cyflymedig yn hwyr, os oedd gennych esgus rhesymol dros dalu’n hwyr – cyn belled â’ch bod wedi talu heb oedi pan ddaeth yr esgus rhesymol i ben.

Esgus rhesymol yw rhywbeth a wnaeth atal person rhag bodloni ymrwymiad treth mewn pryd, pan fydd wedi cymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y bydd yr esgus rhesymol wedi dod i ben, mae’n rhaid i’r person unioni pethau heb oedi diangen.

Bydd amgylchiadau penodol o ran methiant y person i fodloni’r ymrwymiad treth, yn ogystal â’i amgylchiadau a’i allu penodol, yn pennu a oes ganddo esgus rhesymol. Gallai hynny olygu na fyddai’r hyn sy’n cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos un person o reidrwydd yn cael ei ystyried yn esgus rhesymol yn achos rhywun arall.

Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni. Os derbyniwn fod gennych esgus rhesymol, ni fyddwn yn codi cosb arnoch. Os ydym eisoes wedi codi cosb arnoch am beidio â thalu mewn pryd, byddwn yn ei chanslo.

Beth os ydych yn anghytuno ag unrhyw gosbau yr ydym wedi’u codi?

Os codwn gosbau arnoch am wneud y taliad cyflymedig yn hwyr, byddwch yn gallu apelio yn eu herbyn os ydych yn anghytuno. Mae rhagor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’. Gallwch gael copi ar-lein. Ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio am ‘HMRC1’.

Llog am dalu’n hwyr

Nid ydym yn codi llog am wneud y taliad cyflymedig ei hun yn hwyr. Fodd bynnag, rydym yn codi llog am beidio â thalu treth a CYG mewn pryd – o’r dyddiad yr oedd y swm yn ddyledus yn wreiddiol, hyd at y dyddiad y mae’n cael ei dalu.

Pan fydd eich sefyllfa o ran treth, CYG, neu dreth a CYG wedi’i setlo, byddwn yn cyfrifo a oes llog i chi ei dalu.

At ddibenion llog, pan fydd y taliad cyflymedig yn ymwneud â:

  • Treth Incwm – caiff unrhyw swm a dalwch mewn perthynas â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig ei drin fel pe bai’n daliad o dreth
  • CYG – mae unrhyw swm a delir yn daliad o CYG

Mae hyn yn golygu na fydd llog yn cronni mwyach ar swm y dreth, CYG, neu dreth a CYG sy’n hafal i swm y taliad cyflymedig a dalwch, a hynny o’r dyddiad yr ydych yn gwneud hynny.

Gallwn hefyd godi llog ar unrhyw gosb a delir yn hwyr.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig

Nid oes hawl i apelio yn erbyn hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno achos i ni os ydych o’r farn bod un neu’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw’r amodau ar gyfer anfon yr hysbysiad wedi’u bodloni – dangosir y rhain yn yr adran ‘Pryd y gallwn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig’, ar dudalen 5 o’r daflen wybodaeth hon
  • nid yw’r swm a ddangosir ar yr hysbysiad yn gywir – os felly, bydd angen i chi roi gwybod i ni beth y dylai’r swm cywir fod yn eich barn chi a pham

Mae’n rhaid i’ch achos fod ar bapur a’n cyrraedd cyn pen 90 diwrnod calendr i’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad. Byddwn, wedyn, yn ystyried yr hyn a nodwch ac yn rhoi gwybod i chi beth yw ein casgliadau. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom:

  • rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl am eich achos
  • anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’ch achos

Ni allwch gyflwyno achos ar ôl i’r 90 diwrnod calendr fynd heibio. Mae hyn yn golygu, ar ôl i ni roi gwybod am yr hyn yr ydym wedi’i ganfod, na chewch gyflwyno achos pellach os yw’r 90 diwrnod calendr eisoes wedi mynd heibio. Gwnewch yn siŵr, felly, eich bod yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol i ni pan fyddwch yn cyflwyno’ch achos.

Os byddwch yn cyflwyno achos, ni allwch ofyn am i’r swm a ddangosir yn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig gael ei ohirio.

Fodd bynnag, os byddwch yn cyflwyno achos cyn y dyddiad y mae’r taliad yn ddyledus, ac nad ydym yn tynnu’r hysbysiad yn ôl, gellir gohirio’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad. Bydd taliad yn ddyledus:

  • ar y dyddiad dyledus a ddangosir ar yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, neu
  • 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y cewch ein penderfyniad ar yr achos y gwnaethoch ei gyflwyno, p’un bynnag sydd hwyraf

Os yw’r dyddiad cau ar gyfer gwneud taliad yn cael ei ymestyn, bydd unrhyw gosbau am dalu’n hwyr yn gymwys o’r dyddiad cau estynedig.

Os ydych am setlo

Os ydych am setlo’ch materion treth, materion CYG neu faterion treth a CYG ar ôl i ni roi gwybod i chi y byddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch, byddwn yn gweithio gyda chi i setlo’r gwiriad cydymffurfio, yr anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol neu’r apêl.

Mae penderfynu a ydych am setlo’ch materion yn eich dwylo chi’n gyfan gwbl. Os nad ydych am setlo, bydd y gwiriad cydymffurfio, yr anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol neu’r apêl ar y gweill o hyd.

Gair am eich hawl i apelio mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio, anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol neu apêl sydd ar y gweill

Pan fyddwch yn talu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, nid yw hynny’n golygu bod eich gwiriad cydymffurfio, anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol neu apêl wedi’i setlo.

Er na allwch apelio yn erbyn yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, nid yw’r ddeddfwriaeth sy’n cwmpasu taliadau cyflymedig yn effeithio ar eich hawliau i apelio i’r tribiwnlysoedd a’r llysoedd mewn perthynas â’ch rhwymedigaeth treth a CYG. Mae hyn yn golygu:

  • os oes gwiriad cydymffurfio ar y gweill o ran treth, bydd gennych lwyr hawl i apelio o hyd os nad ydych yn cytuno â chanlyniad y gwiriad hwnnw
  • os oes ‘anghydfod ynghylch cyfraniadau perthnasol’ ar y gweill, bydd gennych lwyr hawl i apelio o hyd os nad ydych yn cytuno â chanlyniad yr anghydfod hwnnw
  • os ydych eisoes wedi apelio yn erbyn asesiad treth, dyfarniad, neu benderfyniad ar CYG, bydd gennych lwyr hawl i apelio o hyd

Os ydych wedi apelio, a’n bod wedi gohirio’r Dreth Incwm (TWE) yr ydych yn dadlau yn ei chylch

Os ydym wedi anfon hysbysiad cau atoch mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio, neu wedi anfon asesiad, dyfarniad neu fath arall o benderfyniad, a’ch bod wedi:

  • apelio yn erbyn yr hysbysiad cau, asesiad, dyfarniad neu benderfyniad arall
  • gofyn i ni ohirio’r holl dreth sy’n destun anghydfod, neu ran ohoni

bydd y gohiriad o’r dreth sy’n destun anghydfod yn cael ei ganslo pan fyddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig atoch. Yna, bydd yn rhaid i chi dalu’r holl dreth a ohiriwyd yn flaenorol, a hynny drwy dalu’r hysbysiad i wneud taliad cyflymedig.

Os ydym wedi gwneud cais i’r llys i adennill CYG sy’n ddyledus, a bod y llys wedi gohirio’r achos

Os ydym o’r farn bod CYG yn ddyledus, ond rydych yn anghytuno, efallai y byddwn wedi gwneud cais i’r llys i ddechrau achos er mwyn adennill y CYG hynny. Yr enw ar y broses hon yw ‘diogelu’r ddyled’.

Os ydym wedi gwneud cais i’r llys i ddiogelu’r ddyled, byddai achos sifil er mwyn ei hadennill wedi’i atal hyd nes bo penderfyniad ffurfiol yn cael ei wneud, a bod unrhyw apêl naill ai’n cael ei setlo drwy gytundeb, neu’n cael ei phenderfynu’n derfynol gan dribiwnlys neu lys.

Nid yw’r ddeddfwriaeth ar daliadau cyflymedig yn caniatáu i’r llys ohirio’r achos i adennill CYG os ydynt wedi cael eu cynnwys ar hysbysiad i wneud taliad cyflymedig. Felly, pan fyddwn yn anfon hysbysiad i wneud taliad cyflymedig sy’n cynnwys CYG, ac rydym wedi diogelu’r ddyled ar eu cyfer, mae unrhyw achos a ohiriwyd yn ailddechrau o’r dyddiad y mae disgwyl i’r taliad cyflymedig gael ei dalu. Mae hyn yn golygu bod y CYG yn ddyledus ac yn daladwy.

Yr hyn a fydd yn digwydd os gwnewch y taliad cyflymedig a bod llys neu dribiwnlys yn dyfarnu’n nes ymlaen fod mantais dreth neu CYG yn deillio o’r cynllun

Os bydd tribiwnlys neu lys yn penderfynu bod mantais yn deillio o’r cynllun, byddem fel arfer yn ad-dalu’r swm yr ydych wedi’i dalu o dan yr hysbysiad i wneud taliad cyflymedig, ynghyd ag unrhyw log sy’n ddyledus i chi.

Fodd bynnag, os byddwn yn cyflwyno apêl i lys neu dribiwnlys uwch yn erbyn y penderfyniad, mewn rhai achosion gallwn hefyd ofyn am eu caniatâd i beidio ag ad-dalu’r swm hwnnw i chi. Ni fyddem yn gwneud hyn, oni bai ein bod o’r farn bod perygl na fyddech yn talu’r swm sydd arnoch pe bai ein hapêl yn llwyddiannus.

Taliadau cyflymedig ar gyfer CYG y mae anghydfod yn eu cylch, a’r effaith ar hawliadau am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol

Os yw swm y taliad cyflymedig a dalwch yn cynnwys CYG ar gyfer cyflogeion sydd wedi ennill hyd at y terfyn enillion uchaf, byddwn yn dyrannu’r symiau i’w cyfrifon Yswiriant Gwladol er mwyn iddynt allu cael eu hystyried ar gyfer unrhyw hawliadau am fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.

Nid ydym yn dyrannu unrhyw symiau a dalwyd sy’n uwch na’r terfyn enillion uchaf, gan nad ydynt yn cael eu defnyddio i gyfrifo a oes gan berson hawl i fudd-daliadau.

Os bydd y symiau a ddyrennir yn cynyddu swm budd-dal neu’n rhoi hawl i fudd-dal, a’n bod yn derbyn yn nes ymlaen nad oes CYG yn ddyledus ac yn ad-dalu’r taliad cyflymedig, ni fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gofyn i chi ad-dalu’r budd-daliadau a dalwyd i chi eisoes. Fodd bynnag, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo’r hyn a ddylai fod yn daladwy fel pe na bai symiau’r taliadau cyflymedig wedi’u dyrannu i gyfrif Yswiriant Gwladol y cyflogai. Pe na bai’r budd-dal wedi bod yn daladwy, bydd yr Adran yn rhoi’r gorau i dalu’r budd-dal.

Pe bai swm llai o fudd-dal yn daladwy, bydd yr Adran yn dechrau talu’r swm llai.

Gwybodaeth gyffredinol

Cwsmeriaid ag anghenion ychwanegol

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i ni. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Y trethi y mae’r daflen wybodaeth hon yn berthnasol iddynt

Mae’r daflen wybodaeth hon yn ymwneud â thaliadau cyflymedig ar gyfer Treth Incwm a CYG drwy TWE.

Mae taliadau cyflymedig hefyd yn berthnasol i Dreth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu, Treth Enillion Cyfalaf, Treth Gorfforaeth, CYG Dosbarth 4, Treth Incwm (Hunanasesiad, gan gynnwys CYG Dosbarth 4 a’r rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2), Treth Etifeddiant a Threth Dir y Tollau Stamp. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am achosion o’r fath, dylech gysylltu â’r swyddfa a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Rheoliadau Datgelu Cynlluniau Arbed Treth (DOTAS) a’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR)

I gael rhagor o wybodaeth ar-lein am:

  • DOTAS, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘disclosure of tax avoidance’
  • GAAR, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘GAAR’