Canllawiau

Cynlluniau arbed treth — cosbau ar gyfer hysbysiadau dilynwr

Diweddarwyd 25 July 2023

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am y gosb y byddwn yn ei chodi arnoch os ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr atoch ac nad ydych wedi cymryd camau unioni mewn pryd. Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at dreth, mae hefyd yn cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG).

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’. Mae’r daflen wybodaeth hon ar gyfer y canlynol:

  • achosion nad ydynt yn ymwneud â phartneriaeth pan fo’r cynllun arbed treth ar gyfer unrhyw un o’r trethi neu’r CYG sydd wedi’u rhestru ar dudalen 6
  • achosion sy’n ymwneud â phartneriaeth pan fo’r cynllun arbed treth ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp neu Dreth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu

Os ydych yn aelod o bartneriaeth sydd wedi defnyddio cynllun arbed treth ar gyfer treth arall neu CYG, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddarllen taflen wybodaeth CC/FS30b, ‘Cynlluniau arbed treth —cosbau ar gyfer hysbysiadau dilynwr i bartneriaeth’.

Pryd y byddwn yn codi cosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd

Byddwn yn codi cosb arnoch os ydym wedi anfon hysbysiad dilynwr atoch ac nad ydych wedi cymryd camau unioni mewn pryd. Mae’r hysbysiad dilynwr yn egluro pa gamau unioni y mae’n rhaid i chi eu cymryd.

Swm y gosb

Mae’r gosb am beidio â chymryd camau unioni yn hafal i 30% o werth y fantais a wadwyd. Fodd bynnag, gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os ydych wedi cydweithredu gyda ni. Mae rhagor o wybodaeth am ostyngiadau a chydweithredu yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gosb

Ar ôl i ni benderfynu ar swm y gosb yr ydym am ei chodi, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch.

Fel arfer, cyn anfon hysbysiad o asesiad o gosb, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod sut yr ydym wedi cyfrifo swm y gosb. Os gwnawn hyn ac rydych yn credu bod yna rywbeth yr ydych wedi’i wneud i gydweithredu nad ydym wedi’i ystyried, byddwch yn gallu rhoi gwybod i ni fel y gallwn ystyried a yw’n effeithio ar y gosb. Unwaith yr ydym wedi caniatáu amser i hyn ddigwydd, byddwn yn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch cyn gynted â phosibl.

Ar ôl i chi gael asesiad o gosb, byddwch yn gallu apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno â hi.

Byddwch yn gallu apelio p’un a wnaethom ysgrifennu atoch ynglŷn â’r gosb cyn i ni anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb ai peidio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran sydd â’r teitl ‘Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno’ ar dudalen 5.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb atoch?

Mae gennym ddyddiad cau ar gyfer anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb atoch. Os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud â gwiriad cydymffurfio neu anghydfod perthnasol ynghylch cyfraniadau, y dyddiad hwyraf y gallwn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch yw 90 diwrnod o’r dyddiad y caiff y gwiriad cydymffurfio ei gwblhau neu’r anghydfod perthnasol ynghylch cyfraniadau ei setlo. Os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl neu apêl bellach, y dyddiad hwyraf y gallwn anfon hysbysiad o asesiad o gosb atoch yw 90 diwrnod o’r cynharaf o’r dyddiadau canlynol: Y dyddiad:

  • pan wnaethoch gymryd camau unioni
  • y gwnaed y dyfarniad terfynol ar eich apêl neu’ch apêl bellach
  • y rhoddwyd y gorau i’r apêl neu’r apêl bellach, neu y cafodd ei gwaredu cyn y cafwyd penderfyniad gan y llys neu’r tribiwnlys

Mae’r ddeddfwriaeth dreth sy’n delio â thaliadau dilynol yn cyfeirio at wiriadau cydymffurfio ac anghydfodau perthnasol ynghylch cyfraniadau fel ‘ymholiadau treth’.

Sut y gallwch ein helpu i ostwng y gosb

Gallwch ein helpu i ostwng y gosb drwy gydweithredu â ni.

Gallwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb os ydych wedi cydweithredu gyda ni cyn i ni anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb atoch. Rydych wedi cydweithredu â ni os ydych wedi gwneud un neu fwy o’r canlynol. Rydych:

  • wedi rhoi cymorth rhesymol i ni wrth gyfrifo swm y fantais treth
  • wedi gwrthweithio’r fantais a wadwyd, ond ar ôl i chi ddod yn agored i gosb (neu wedi ildio’r fantais a wadwyd os yw’ch hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl)
  • wedi rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau unioni
  • rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i wneud cytundeb â chi i wrthweithio’r fantais a wadwyd
  • gadael i ni weld eich cofnodion treth er mwyn i ni allu sicrhau bod y fantais a wadwyd yn cael ei gwrthweithio’n llawn

Ni allwn ostwng cyfradd ganrannol y gosb i lai na 10%.

Mae’r enghreifftiau o gyd-weithredu a ddangosir yn y pum bwled uchod, ac yn hwyrach yn y daflen wybodaeth hon, yn cyfeirio at eitemau (a) i (e) yn Adran 210(3), o Ddeddf Cyllid 2014, sef y ddeddfwriaeth sy’n egluro’r gostyngiadau hyn.

Sut rydym yn cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Mae yna 4 cam wrth gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb.

Cam 1: Nodi ystod y gosb

Ystod y gosb yw’r gwahaniaeth rhwng canrannau isaf ac uchaf y gosb y gallwn eu codi arnoch. Y ganran uchaf yw 30 a’r ganran isaf yw 10, sy’n rhoi i ni ystod cosb o 20. Mae canrannau uchaf ac isaf y gosb wedi’u nodi yn Adrannau 209 a 210 o Ddeddf Cyllid 2014.

Cam 2: Cyfrifo’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu

Rydym yn defnyddio’r term ‘safon y cydweithredu’ i ddisgrifio lefel y cydweithredu. Gallwn ostwng ystod y gosb o 20 gan unrhyw swm hyd at 100% ar gyfer safon y cydweithredu. Fodd bynnag, ni all cyfradd ganrannol y gosb a godwn fod yn llai na 10% ar unrhyw adeg — hyd yn oed os ydym yn gostwng ystod y gosb gan 100%. Rydym yn ystyried yr holl gydweithredu hyd at pan fyddwn yn anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb.

Wrth gyfrifo safon eich cydweithredu, byddwn yn ystyried yr hyn yr oeddem angen i chi ei wneud ynglŷn â’r fantais a wadwyd a faint yr ydych wedi’i wneud. Rydym yn ystyried amseru, natur a graddau’r hyn yr ydych wedi’i wneud. Mae hyn yn golygu p’un a ydych wedi:

  • gweithredu cyn gynted ag y gallech o fewn rheswm (amseru)
  • gweithredu mewn modd rhagweithiol a chydweithredol (natur)
  • gwneud popeth y gallech fod wedi’i wneud o fewn rheswm (graddau)

Ar ôl i ni ystyried y mathau o gydweithredu a ddangosir yn y tabl ar dudalen 3, a phenderfynu ar y gostyngiad canrannol ar gyfer pob un, bydd hwn yn rhoi’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu. Mae’r gostyngiadau a ddangosir yn y tabl yn arweiniad.

Math o gydweithredu Gostyngiad i ystod y gosb os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag achos apêl Gostyngiad i ystod y gosb os yw’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag achos gwiriad cydymffurfio
Rhoi help rhesymol i ni wrth gyfrifo swm y fantais treth. (Eitem (a) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 20% Hyd at 20%
Gwrthweithio’r fantais a wadwyd (bydd hyn yn cael ei ddisgrifio fel ildio’r fantais a wadwyd os yw’ch hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl). (Eitem (b) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 70% Hyd at 50%
Rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i gymryd camau unioni. (Eitem (c) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Ddim yn berthnasol Hyd at 10%
Rhoi gwybodaeth i ni sy’n ein galluogi i ddod i gytundeb gyda chi i wrthweithio (neu ‘ildio’) y fantais a wadwyd. (Eitem (d) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Hyd at 10% Hyd at 10%
Gadael i ni weld eich cofnodion treth er mwyn i ni allu sicrhau bod y fantais a wadwyd yn cael ei gwrthweithio’n llawn. (Eitem (e) o Adran 210(3) o Ddeddf Cyllid 2014.) Ddim yn berthnasol Hyd at 10%

Hysbysiad dilynwr sy’n ymwneud ag apêl

Os yw hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl, ni fydd yn rhaid i ni, fel arfer, ystyried caniatáu unrhyw ostyngiad am gydweithredu ar gyfer eitemau (c) ac (e) uchod. Mae hyn oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion pan fo’r hysbysiad dilynwr yn ymwneud ag apêl, y cyfan y bydd yn rhaid i berson ei wneud yw ildio’r fantais a wadwyd. Fodd bynnag, os byddwn, o dan amgylchiadau prin, yn credu bod eitemau (c) neu (e) yn berthnasol, yna byddwn yn eu hystyried.

Cam 3: Gostwng canran uchaf y gosb

Ar ôl i ni gyfrifo’r gostyngiad ar gyfer safon y cydweithredu, byddwn yn defnyddio hwn ar gyfer ystod y gosb, sef 20. Mae hwn yn rhoi’r ffigur y byddwn yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb. Er enghraifft, os mai 70% yw’r gostyngiad ar gyfer safon y cydweithredu, 14 fydd y swm y byddwn yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb (20 x 70% = 14).

Cam 4: Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Er mwyn cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb y byddwn yn ei chodi, rydym yn didynnu’r ffigur a sefydlwyd yng ngham 3 o ganran uchaf y gosb. Er enghraifft, os mai 14 oedd y swm a sefydlwyd yng ngham 3, 16% fydd cyfradd ganrannol y gosb (30 llai 14 = 16). Mae’r enghraifft isod yn dangos y 4 cam.

Enghraifft

Roedd y dyddiad cau ar gyfer cymryd camau unioni wedi mynd heibio. Cyn i ni anfon yr hysbysiad o asesiad o gosb, roedd Mr B wedi cydweithredu â ni. Gan ystyried amseru, natur a graddau y cydweithredu, gwnaethom roi gostyngiad ar gyfer ystod y gosb o 70%.

Cam 1: Nodi ystod y gosb

30 i 10 = 20

Cam 2: Cyfrifo’r gostyngiad i ystod y gosb ar gyfer safon y cydweithredu

70%

Cam 3: Cyfrifo’r swm yr ydym yn ei ddefnyddio i ostwng canran uchaf y gosb

20 x 70% = 14

Cam 4: Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

30 llai 14 = 16%

Sut yr ydym yn cyfrifo swm eich cosb

I gyfrifo swm eich cosb, rydym yn lluosi gwerth y fantais a wadwyd â chyfradd ganrannol y gosb.

Cyfrifir ‘gwerth y fantais a wadwyd’ drwy gyfeirio at swm y fantais treth a arweiniodd at gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, cais neu apêl, ond a fyddai’n cael ei gwadu petai egwyddorion y dyfarniad perthnasol yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â’ch Ffurflen Dreth, cais neu apêl.

Er enghraifft, os mai £250,000 oedd gwerth y fantais a wadwyd yn yr enghraifft uchod, £40,000 fyddai’r gosb (£250,000 x 16% = £40,000).

Os ydych wedi cymryd camau unioni ar gyfer rhan o’r fantais a wadwyd, codir y gosb ar y gweddill sy’n dal i fod yn destun anghydfod. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut yr ydym wedi cyfrifo gwerth y fantais a wadwyd pan fyddwn yn ysgrifennu atoch ynglŷn â’ch cosb.

Cyfyngiad ar gyfer cosbau eraill

Ar ôl cyfrifo swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd, byddwn yn ystyried cosbau ‘perthnasol’ eraill a godir arnoch sydd wedi’u cyfrifo drwy gyfeirio at yr un dreth a/neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG). Cyfeiria’r ddeddfwriaeth at hyn fel ‘cosbau cyfansymiol’.

Mae ‘cosb berthnasol’ yn y cyd-destun hwn yn un sy’n cael ei chodi o dan un neu fwy o’r darpariaethau cosbi canlynol:

  • Atodlen 24 i Ddeddf Cyllid 2007 — cosbau am anghywirdebau
  • Atodlen 41 i Ddeddf Cyllid 2008 — cosbau am fethu â rhoi gwybod
  • Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009 — cosbau am fethu â chyflwyno Ffurflen Dreth
  • adran 98A o Ddeddf Rheoli Trethi 1970 — cosbau arbennig yn achos rhai Ffurflenni Treth (CYG yn unig)
  • unrhyw gosb ynghylch cyfraniadau perthnasol a nodir yn y rheoliadau gan y Trysorlys

Os codir cosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni mewn ymateb i hysbysiad dilynwr, a chodir un neu fwy o’r ‘cosbau perthnasol’ uchod arnoch hefyd, mae’n rhaid i gyfanswm y cosbau a godwn (y ‘swm cyfansymiol’) beidio â bod yn fwy na’r uchaf o’r canlynol:

  • ‘canran berthnasol’ swm y dreth a/neu’r CYG
  • £300, pan fo un o’r cosbau a godir o dan baragraff 5(2)(b), 6(3)(b), 6(4)(b) neu 6(5)(b) o Atodlen 55, i Ddeddf Cyllid 2009

Y ‘ganran berthnasol’ yw’r uchaf o’r canlynol:

  • 100%
  • y ganran uchaf sy’n drethadwy o dan y darpariaethau eraill (yn dibynnu ar fath penodol y gosb arall, gall y canran uchaf sy’n drethadwy fod hyd at 200%)

Enghraifft

Codwyd cosb ar Mrs C am beidio â chymryd camau unioni. Codwyd cosb arni hefyd o dan baragraff 5(2)(b) o Atodlen 55 i Ddeddf Cyllid 2009. £100,000 yw swm y dreth a 100% yw’r canran perthnasol.

Mae’n rhaid i gyfanswm y cosbau yr ydym yn eu codi ar Mrs C mewn perthynas â’r £100,000 beidio â bod yn fwy na:

  • £100,000 (swm y dreth sef £100,000 x y ganran berthnasol sef 100%)
  • £300

Felly, yn yr achos hwn, mae’n rhaid i swm cyfansymiol y cosbau y gallwn eu codi ar Mrs C beidio â bod yn fwy na £100,000.

Ar ôl cymryd cosbau eraill i ystyriaeth, mae hyn yn rhoi swm y gosb y byddwn yn ei chodi.

Amlinellir y rheolau ynghylch cosbau cyfansymiol yn Adran 212, Deddf Cyllid 2014, a Pharagraff 15 o Atodlen 2, i Ddeddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2015.

Llog am dalu’r gosb yn hwyr

Os ydym yn codi cosb arnoch ac nad ydych yn ei dalu mewn pryd, gallwn godi llog taliad hwyr arnoch am swm y gosb.

Treth Dir y Tollau Stamp: partneriaethau a phrynwyr ar y cyd

Ar gyfer Treth Dir y Tollau Stamp, mae pob partner cyfrifol neu brynwr ar y cyd yn gyfrifol am dalu swm y gosb sy’n ddyledus. Gelwir hyn yn ‘rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd’, neu weithiau yn ‘atebol ar y cyd ac yn unigol’. Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol yw bod un neu fwy o’r partneriaid cyfrifol neu’r prynwyr ar y cyd yn gallu talu’r gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd.

Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu: partneriaethau

Ar gyfer Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu, mae pob partner cyfrifol yn gyfrifol am dalu swm y dreth sy’n ddyledus. Gelwir hyn yn ’rhwymedigaeth unigol ac ar y cyd’. Beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol yw y gall fod yn rhaid i un neu fwy o’r partneriaid cyfrifol dalu’r gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd.

Apelio yn erbyn y gosb os ydych yn anghytuno

Os codwn gosb arnoch am beidio â chymryd camau unioni, byddwch yn gallu apelio yn ei herbyn os ydych yn anghytuno.

Gallwch apelio yn erbyn swm y gosb. Gallwch hefyd apelio yn erbyn y gosb os ydych yn credu bod un neu ragor o’r canlynol yn berthnasol:

  • nid yw amod A, B neu D wedi’i fodloni mewn perthynas â’r hysbysiad dilynol (gwnaethom egluro’r amodau hynny yn yr hysbysiad dilynol)
  • nid yw’r dyfarniad terfynol gan y llys neu’r tribiwnlys a nodir yn yr hysbysiad dilynol yn berthnasol i’r cynllun arbed treth yr ydych wedi’i ddefnyddio
  • cawsoch yr hysbysiad dilynol ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ei anfon atoch
  • o dan yr amgylchiadau, roedd yn rhesymol i chi beidio â chymryd y camau unioni

Os ydych yn apelio, mae’n rhaid i chi wneud hynny ar bapur. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich apêl yn ein cyrraedd cyn pen 30 diwrnod o’r dyddiad yr ydych yn cael yr hysbysiad o asesiad o gosb. Pan fyddwch yn ysgrifennu atom:

  • rhowch gymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl ynghylch yr hyn yr ydych yn anghytuno yn ei gylch
  • anfonwch gopïau o unrhyw dystiolaeth ddogfennol sy’n ategu’ch apêl

Os yw’ch rhwymedigaeth treth wedi’i setlo ar y sail:

  • eich bod yn ennill y fantais dreth, byddwn yn canslo’r gosb
  • nad ydych yn ennill y fantais dreth, yna bydd yn rhaid i chi dalu’r gosb oni bai eich bod wedi apelio yn ei herbyn yn llwyddiannus

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am apeliadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM — beth i’w wneud os anghytunwch’. Gallwch gael copi ar-lein. Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘HMRC1’.

Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau hysbysiadau dilynwr

Mae Erthygl 6 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi hawliau penodol i chi pan fyddwn yn ystyried codi cosbau.

Rydym bob amser yn croesawu’ch cydweithrediad wrth gymryd camau unioni, ac wrth roi gwybodaeth am y fantais dreth. Bydd swm y gosb yr ydym yn ei chodi arnoch yn dibynnu ar eich cydweithrediad. Cafodd hyn ei egluro’n gynharach yn y daflen wybodaeth hon.

Rydym hefyd yn croesawu unrhyw help yr ydych yn ei roi i ni wrth sefydlu swm y gosb am beidio â chymryd camau unioni mewn pryd. Pan fyddwn yn ystyried cosbau, mae gennych yr hawl i beidio ag ateb ein cwestiynau. Eich dewis chi’n llwyr yw i ba raddau yr ydych yn ein helpu. Mae gennych yr hawl i gysylltu ag ymgynghorydd wrth benderfynu faint y byddwch yn cydweithredu â ni. Os nad oes ymgynghorydd gennych eisoes, efallai yr hoffech ystyried cysylltu ag un.

Mae gennych yr hawl i ddisgwyl i ni ddelio ag unrhyw fater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint yw’r gosb sy’n ddyledus pan fyddwn wedi cadarnhau i ba raddau yr ydych wedi cydweithredu â ni, a swm y fantais treth. Os ydych yn anghytuno â’r gosb, gallwch apelio.

Gallwch wneud cais am Gymorth Cyfreithiol (Legal Aid) neu gynhorthwy cyfreithiol (legal assistance) a ariennir yn gyhoeddus. O dan rai amgylchiadau, efallai y bydd arian ar gael i’ch helpu i ddod â rhai apeliadau gerbron y tribiwnlys. Os ydych yn bwriadu apelio yn erbyn swm y gosb, efallai y byddwch am wirio a yw eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol a’r math o gymorth a allai fod ar gael. Nid oes gennym unrhyw ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd eich achos yn gymwys ar gyfer cynhorthwy cyfreithiol ai peidio. Mae’r ffordd y gallwch wirio pa help sydd ar gael a’r amodau cymhwyso yn dibynnu ar ble yn y Deyrnas Unedig (DU) yr ydych yn byw. Gallwch gael rhagor o fanylion gan Gyngor ar Bopeth, neu gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol a ariennir, neu Gymorth Cyfreithiol, drwy gyfreithiwr unrhyw le yn y DU.

Os oes rhywbeth nad ydych yn ei ddeall am yr hawliau hyn, neu’r hyn y maent yn ei olygu i chi, rhowch wybod ar unwaith i’r swyddog a roddodd y daflen wybodaeth hon i chi.

Y trethi a’r CYG y mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol iddynt

Mae’r rheolau cosbi hyn yn berthnasol i’r hysbysiadau dilynwr ar gyfer y trethi a’r CYG a ddangosir isod:

  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • CYG Dosbarth 1, 1A ac 1B drwy TWE
  • CYG Dosbarth 2 penodol
  • CYG Dosbarth 4
  • Treth Gorfforaeth
  • Treth Incwm (Hunanasesiad)
  • Treth Etifeddiant
  • Treth Incwm (drwy TWE)
  • Treth Dir y Tollau Stamp