Gwiriadau cydymffurfio: hysbysiadau gwybodaeth — galluogwyr arbed treth a drechwyd
Diweddarwyd 23 Mehefin 2023
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi gwybod i chi am hysbysiadau gwybodaeth y gallwn eu rhoi pan fyddwn yn gwirio p’un a fydd yn rhaid i chi neu berson arall dalu cosb am alluogi trefniadau treth ddifrïol. Yr enw ar y cosbau hyn yw ‘cosbau i alluogwyr’.
I ddysgu rhagor am fathau eraill o hysbysiadau gwybodaeth, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS2, ‘Hysbysiadau gwybodaeth’. I ddysgu rhagor am gosbau i alluogwyr, darllenwch daflen wybodaeth CC/FS43, ‘Penalties for enablers of defeated tax avoidance’. Mae’n esbonio’r hyn yr ydym yn ei olygu wrth ‘galluogwyr’, ‘difrïol’ a ‘trefniadau treth’. Ewch i GOV.UK a chwilio am ‘CC/FS2’ neu ‘CC/FS43’.
Beth yw hysbysiad gwybodaeth
Mae hysbysiad gwybodaeth yn ddogfen y gallwn ei rhoi i berson pan rydym yn gwirio:
- ei sefyllfa dreth ei hun neu sefyllfa dreth person arall
- y posibilrwydd y gallai ef neu berson arall fod yn agored i dalu cosb am alluogi trefniadau treth ddifrïol
Unwaith ein bod wedi rhoi hysbysiad gwybodaeth i berson, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith iddo roi’r wybodaeth a/neu ddogfennau y mae’r hysbysiad yn gofyn amdanynt. Os na fydd yn gwneud hyn, gallwn godi cosb arno. Rydym yn esbonio rhagor am hyn isod.
Pan rydym yn rhoi hysbysiad gwybodaeth
Os ydym yn gwirio’r posibilrwydd eich bod chi neu berson arall yn agored i dalu cosbau i alluogwyr, byddwn fel arfer yn gofyn i chi rhoi’r wybodaeth a/neu ddogfennau sydd eu hangen arnom. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn roi hysbysiad gwybodaeth i chi.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwn ofyn i’r tribiwnlys annibynnol sy’n delio â threth i gymeradwyo anfon cais am hysbysiad gwybodaeth. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw’r hysbysiad a rown i chi wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i ni roi hysbysiad gwybodaeth i chi heb ofyn am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Yr hyn y bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn rhoi gwybod i chi
Bydd yr hysbysiad gwybodaeth yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:
- pa wybodaeth a/neu ddogfennau y bydd yn rhaid i chi eu rhoi i ni
- sut a phryd i roi’r hyn sydd ei angen arnom
- unrhyw gosbau y mae’n bosibl y gallwn eu codi arnoch os nad ydych yn rhoi’r wybodaeth a/neu ddogfennau i ni erbyn y dyddiad cau
- ynglŷn â’ch hawl i apelio
Yr hyn y gallwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Gallwn ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau os credwn eu bod yn berthnasol i’n gwiriad a’i bod yn rhesymol i ofyn amdanynt
Yr hyn na allwn ofyn amdano mewn hysbysiad gwybodaeth
Ni allwn ddefnyddio hysbysiad gwybodaeth i ofyn i chi roi gwybodaeth a/neu ddogfennau os yw’r canlynol yn wir:
- nid yw’r wybodaeth a/neu’r dogfennau gennych, ac nid yw’n bosib i chi eu cael (na chael copi ohonynt) gan y sawl sydd â nhw
- maent yn perthyn i sefyllfa dreth person a fu farw mwy na 4 blynedd cyn i ni anfon yr hysbysiad
- maent wedi’u creu fel rhan o’r paratoadau ar gyfer apêl treth
- maent yn ymwneud yn gyfan gwbl â lles corfforol, meddyliol, ysbrydol neu bersonol rhywun
- maent yn ohebiaeth freintiedig rhwng cyfreithwyr a chleientiaid ac yn ymwneud â chael cyngor cyfreithiol neu roi cyngor cyfreithiol
- rydych yn archwiliwr neu’n newyddiadurwr a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu at ddibenion eich proffesiwn
- os ydych yn destun deunydd newyddiadurol a bod yr wybodaeth neu’r dogfennau wedi’u creu gan newyddiadurwr at ddibenion ei broffesiwn/phroffesiwn
Gall y rheolau ynghylch pa wybodaeth a dogfennau sy’n syrthio i’r categorïau hyn fod yn gymhleth. Os ydych yn credu y gallai unrhyw beth yr ydym wedi gofyn amdano syrthio i’r categorïau hyn, dylech siarad â’r swyddog a wnaeth anfon yr hysbysiad hwn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ohebiaeth freintiedig yn yr adran ‘Braint broffesiynol gyfreithiol’ isod.
Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno â hysbysiad gwybodaeth
Os byddwn yn anfon hysbysiad gwybodaeth atoch, bydd yn rhoi gwybod i chi beth allwch apelio yn ei erbyn, a sut i apelio. Byddwch yn gallu apelio yn erbyn:
- yr hysbysiad ei hun
- unrhyw beth rydym wedi gofyn amdano yn yr hysbysiad, gan eithrio gwybodaeth neu ddogfennau sy’n ffurfio rhan o’ch cofnodion statudol (cofnodion statudol yw’r cofnodion y mae’n rhaid i berson eu cadw yn ôl deddfau treth)
Gallwch apelio drwy ysgrifennu i’r swyddog a wnaeth anfon yr hysbysiad a rhoi gwybod iddynt pam rydych o’r farn bod y penderfyniad yn anghywir. Bydd y swyddog yn ceisio dod i gytundeb â chi.
Os na allwch ddod i gytundeb, gallwch (wneud y naill neu’r llall o’r canlynol):
- gofyn i’r mater gael ei adolygu gan swyddog diduedd sy’n gweithio i Grŵp Cyfreithiol CThEF ac sy’n arbenigo mewn gwaith adolygu
- cyfeirio eich apêl at dribiwnlys annibynnol
Ni allwch apelio yn erbyn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan dribiwnlys annibynnol.
Os oes angen mwy o amser arnoch i roi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, dylech gysylltu â’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch.
Gofyn i berson arall am wybodaeth neu ddogfennau amdanoch
Os na allwch neu na os fyddwch yn rhoi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, efallai y bydd angen i ni ei gael gan berson arall. Os mai dyma’r achos, byddwn fel arfer yn gofyn chi am ganiatâd cyn ein bod yn cysylltu â’r person arall.
Os byddwn yn gofyn i berson arall am wybodaeth, ni fyddwn yn datgelu unrhyw beth arall amdanoch heblaw’r hyn sy’n angenrheidiol i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnom. Os byddwn yn gofyn am eich caniatâd ac nad ydych am ei roi, nid oes rhaid i chi wneud hynny. Fodd bynnag, byddwn yn gofyn i chi egluro pam. Os na fyddwch yn rhoi eich caniatâd, a bod angen i ni gael yr wybodaeth neu ddogfennau o hyd, byddwn fel arfer yn gofyn i’r tribiwnlys gymeradwyo bod hysbysiad gwybodaeth yn gallu cael ei anfon.
Weithiau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ni roi hysbysiad gwybodaeth i berson arall heb ofyn i chi am yr wybodaeth neu’r dogfennau yn gyntaf.
Cosbau am beidio â chydymffurfio gyda hysbysiad gwybodaeth
Os na fyddwch yn cydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth drwy roi popeth i ni mae’r hysbysiad yn gofyn amdano erbyn y dyddiad cau, gallwn godi cosb o £300 arnoch. Mae’n bosibl y codwn gosb o £300 arnoch hefyd os byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cuddio, yn dinistrio neu’n gwaredu unrhyw ddogfen yr ydym:
- yn gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
- wedi nodi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth
Os oes angen mwy o amser arnoch i roi i ni’r hyn yr ydym wedi gofyn amdano, ewch ati i gysylltu â’r swyddog a anfonodd yr hysbysiad gwybodaeth atoch. Os ydych yn dal i fod heb gydymffurfio â’r hysbysiad erbyn i ni anfon y gosb o £300, gallwn wedyn godi cosbau dyddiol arnoch. Gall y rhain fod hyd at £60 y dydd am bob diwrnod nad ydych yn cydymffurfio.
Adegau pan na fyddwn yn codi cosb arnoch am beidio cydymffurfio
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os ydym yn cytuno bod gennych esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r hysbysiad gwybodaeth. Yn lle hynny, byddwn yn gofyn i chi roi’r wybodaeth a/neu’r dogfennau (neu’r dogfennau cyfnewid) erbyn dyddiad y cytunwyd arno.
Esgus rhesymol yw rhywbeth a oedd yn eich rhwystro rhag bodloni ymrwymiad treth pan oeddech wedi cymryd gofal rhesymol i’w fodloni. Gall hyn fod oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’ch rheolaeth, neu gyfuniad o ddigwyddiadau. Unwaith y daw yr esgus rhesymol i ben, mae’n rhaid i chi fod wedi unioni pethau heb oedi. I weld enghreifftiau o’r hyn sy’n cyfrif fel esgus rhesymol ac enghreifftiau o’r hyn sydd ddim yn cyfrif, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth/esgusodion-rhesymol
Os ydych o’r farn bod gennych esgus rhesymol, rhowch wybod i ni.
Hysbysiadau a gymeradwywyd gan dribwnlys – cuddio, dinistrio neu fel arall waredu dogfennau
Mae’n drosedd cuddio, dinistrio neu fel arall waredu dogfen yr ydym:
- wedi gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
- wedi rhoi gwybod i chi ein bod yn bwriadu gofyn amdani mewn hysbysiad gwybodaeth sydd wedi’i gymeradwyo gan y tribiwnlys
Mae’n bosibl y byddwn yn cynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o erlyn os byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar eich rhan, yn cyflawni’r drosedd hon.
Cosbau am gyflwyno gwybodaeth neu ddogfennau anghywir
Os ydych yn rhoi gwybodaeth wallus i ni neu’n cyflwyno dogfen sy’n cynnwys gwallau, a hynny’n fwriadol neu’n ddiofal, gallwn godi cosb o hyd at £3,000 arnoch ar gyfer pob gwall.
Ni fyddwn yn codi cosb arnoch os byddwch yn rhoi gwybod i ni am y gwall ar yr adeg pan fyddwch yn rhoi’r wybodaeth neu’n cyflwyno’r ddogfen i ni. Os ydych yn dod ar draws gwall yn nes ymlaen, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni heb oedi.
Yr hyn a fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir
Mae’n bosibl y gwnawn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn, os byddwch yn:
- rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
- cam-gyfleu’n anonest eich rhwymedigaeth i dalu treth, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt
Braint broffesiynol gyfreithiol
Ni allwn fynnu eich bod yn rhoi’r wybodaeth neu’r dogfennau sy’n cael eu cwmpasu gan fraint broffesiynol gyfreithiol, a gallwch wrthod rhoi’r rhain i ni oherwydd y fraint hon. Fodd bynnag, os ydych yn dewis eu rhoi nhw i ni, mae’n bosibl gall y rhain ein helpu gyda’r gwiriad. Os ydych yn eu rhoi nhw i ni, mae’r hawl i’w cadw’n breifat yn cael ei cholli.
Maes o’r gyfraith yw braint broffesiynol gyfreithiol sydd yn berthnasol mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig. Os ydych yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth neu ddogfennau i ni rydym yn gofyn amdanynt oherwydd braint broffesiynol gyfreithiol, os nad ydym yn cytuno, efallai y byddwn yn herio a yw hyn yn berthnasol.
Efallai y byddwch yn penderfynu peidio â rhoi gwybodaeth neu ddogfennau penodol oherwydd rydych yn credu eu bod wedi’u cwmpasu gan fraint broffesiynol gyfreithiol. Os ydych yn gwneud hyn, mae angen i chi roi rhestr o bopeth nad ydych yn eu rhoi i ni. Dylai’r rhestr ddisgrifio pob darn o wybodaeth neu ddogfen nad ydych yn eu rhoi i ni a nodi pam nad ydych yn eu rhoi. Nid oes angen i chi ddisgrifio’r wybodaeth neu ddogfen os bydd hyn yn datgelu gwybodaeth breifat sy’n cael ei gwmpasu gan y fraint.
Datganiad gan gyfreithiwr
Efallai byddwch yn penderfynu peidio â rhoi gwybodaeth neu ddogfennau penodol i ni oherwydd rydych yn credu eu bod wedi’u cwmpasu gan fraint broffesiynol gyfreithiol. Os bydd unrhyw wybodaeth neu ddogfennau yn dangos nad ydych yn agored i gosbau i alluogwyr, efallai gall cyfreithiwr wneud datganiad ysgrifenedig i gadarnhau hyn. Bydd y cyfreithiwr yn gwneud hyn o dan Baragraff 44 o Atodlen 16 (Rhif 2) i Ddeddf Cyllid 2017.
Gallwch ganfod manylion llawn ynglŷn â’r datganiadau yn ein harweiniad technegol. Ewch i GOV.UK a chwiliwch am ‘Tax avoidance enablers’. Ceir manylion ynghylch pryd y gall datganiad gael ei wneud a beth ddylech gynnwys yn y datganiad hwnnw eu nodi yn Offeryn Statudol 1245/2017.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth, rhowch wybod i’r person y buoch yn delio ag ef neu’r swyddfa y buoch yn delio â hi. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.
Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr lawn o’r taflenni gwybodaeth yn ein cyfres gwiriad cydymffurfio, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘Compliance checks factsheets’.
Ein hysbysiad preifatrwydd
Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GOV.UK a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.
Os oes angen help arnoch
Rhowch wybod i ni os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.
Gallwch ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan. Er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind, neu aelod o’ch teulu. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod angen i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.