Canllawiau

Gwybodaeth am y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol

Diweddarwyd 29 September 2022

Rydym wedi gofyn i chi ddarllen y daflen wybodaeth hon oherwydd eich bod, yn ein barn ni, wedi defnyddio trefniadau y mae’n bosibl bod y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol (GAAR) yn berthnasol iddynt. Cadwch hi yn ddiogel gan efallai y bydd angen i chi ei darllen eto.

Pan fo’r daflen wybodaeth hon yn cyfeirio at ‘dreth’, mae hyn yn golygu’r trethi, yr ardollau a’r cyfraniadau y mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn berthnasol iddynt. Mae’r rhain wedi’u rhestru ar ddiwedd dudalen 2.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn un o gyfres. I weld rhestr, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem a chwilio o dan y pennawd ‘Taflenni gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â hyn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Ynglŷn â’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol

Mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn talu’r swm cywir o dreth, drwy ein galluogi i ddelio â threfniadau treth ‘difrïol’. Ei nod hefyd yw atal pobl rhag cymryd rhan mewn trefniadau treth difrïol.

O dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol, gallwn wneud newidiadau ‘teg a rhesymol’ er mwyn cael gwared ar (‘gwrthweithio’) y fantais treth y mae’r person wedi ceisio’i chael drwy ddefnyddio trefniadau treth difrïol. Gallwn wneud hyn drwy ddiwygio ei Ffurflen Dreth, er enghraifft.

Gallwn godi cosbau ar gyfer trefniadau a wnaed ar neu ar ôl 15 Medi 2016. Swm y gosb yw cyfradd sefydlog o 60% o werth y fantais sydd wedi’i gwrthweithio. Dim ond os caiff y fantais treth ei gwrthweithio o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol y gallwn godi cosb GAAR. Ni allwn godi cosb os caiff y fantais treth ei gwrthweithio mewn ffordd arall.

Mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn berthnasol i drefniadau a wnaed ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2013. Ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG), mae’n berthnasol i drefniadau a wnaed ar neu ar ôl 13 Mawrth 2014. Diwygiwyd deddfwriaeth y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol ar 15 Medi 2016. Mae’r newidiadau hyn wedi gwneud y canlynol:

  • cyflwyno’r cysyniadau o ‘gyfuno’, ‘rhwymo’ a ‘chyfeiriadau generig’ pan fyddwn yn rhoi barnau a gawsom gan Banel Cynghori’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol ar waith i ddefnyddwyr trefniadau cyfwerth
  • cyflwyno cosbau ar gyfer pobl sydd wedi cymryd rhan mewn trefniadau treth difrïol ar neu ar ôl 15 Medi 2016
  • ein galluogi i roi hysbysiadau gwrthweithio dros dro — mae’r rhain wedi’u disodli gan hysbysiadau diogelu GAAR o 22 Gorffennaf 2020 ymlaen yn dilyn diwygiadau i ddeddfwriaeth y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol

Mae rhagor o wybodaeth am Banel Cynghori’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon.

Ystyr ‘trefniadau treth’ a ‘mantais treth’

Caiff trefniadau eu hystyried yn ‘drefniadau treth’ os, wrth ystyried yr holl amgylchiadau, y byddai’n rhesymol dod i’r casgliad mai prif ddiben y trefniadau, neu un o’u prif ddibenion, oedd cael mantais treth. Mae mantais treth yn cynnwys:

  • rhyddhad neu ryddhad cynyddol rhag treth
  • ad-daliad treth neu ad-daliad treth cynyddol
  • osgoi neu leihau costau ar gyfer treth, neu osgoi neu leihau asesiad o dreth
  • osgoi asesiad posibl o dreth
  • gohirio talu treth, neu hyrwyddo ad-daliad treth
  • osgoi rhwymedigaeth i ddidynnu neu i roi cyfrif am dreth

Y trefniadau treth sy’n cael eu hystyried yn ddifrïol

Mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn datgan bod trefniadau treth yn rhai difrïol os na ellir ystyried yn rhesymol — wrth ystyried yr amgylchiadau i gyd — bod cymryd rhan ynddynt, neu eu gweithredu, yn gamau rhesymol i’w cymryd mewn perthynas â’r darpariaethau treth perthnasol. Yn aml gelwir hyn yn ‘brawf rhesymoldeb dwbl’. Ymhlith yr amgylchiadau a gaiff eu hystyried mae:

  • p’un a yw canlyniadau’r trefniadau’n gyson ag egwyddorion ac amcanion polisi’r darpariaethau treth hynny
  • p’un a yw’r ffordd y ceir y canlyniadau hynny’n cynnwys un neu ragor o gamau annisgwyl neu annormal
  • p’un ai bwriad y trefniadau yw manteisio ar unrhyw ddiffygion yn y darpariaethau treth hynny
  • p’un a yw’r trefniadau’n cynhyrchu colled treth sydd gryn dipyn yn fwy na’r golled economaidd, neu elw neu enillion trethadwy sydd gryn dipyn yn llai na’r elw neu’r enillion economaidd
  • p’un a yw’r trefniadau’n arwain at hawlio ad-daliad (neu gredyd) o dreth sydd heb ei thalu ac sy’n annhebygol o gael ei thalu
  • p’un a yw’r trefniadau’n gyson ag arfer sefydledig a dderbyniwyd gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bryd y gellir ystyried bod trefniadau treth yn ddifrïol yn ein harweiniad Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol. Ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘Tax avoidance general anti-abuse rule guidance’.

Panel Cynghori’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol

Mae Panel Cynghori’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn bwyllgor o arbenigwyr treth annibynnol. Diben y Panel yw darparu diogelwch i’n cwsmeriaid, drwy roi barn annibynnol. Nid oes unrhyw staff CThEM ar y Panel.

Rydym yn cyfeirio trefniadau treth at y Panel fel y gall roi ei farn i ni. Gofynnwn i’r Panel a yw’n ystyried bod cymryd rhan yn y trefniadau treth hynny, a’u gweithredu, yn gam rhesymol o ran y darpariaethau treth perthnasol. Os oes gan wahanol aelodau’r Panel farnau gwahanol, bydd y Panel yn rhoi pob barn. Yna, byddwn yn ystyried barn y Panel, neu ei wahanol farnau, pan ddown i benderfynu pa gamau, os o gwbl, i’w cymryd o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol.

Bydd barn y Panel, neu ei wahanol farnau, yn berthnasol i’r trefniadau treth penodol a gyfeiriwyd at y Panel a, lle y bo’n briodol, i drefniadau cyfatebol eraill. Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi, gan gynnwys beth yw ystyr ‘trefniadau cyfatebol’, os yw hyn yn berthnasol i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ewch i www.gov.uk/cymraeg a chwilio am ‘GAAR Advisory Panel’ neu, er mwyn gweld adroddiadau o safbwyntiau’r Panel, chwiliwch am ‘GAAR Advisory Panel opinions’.

Swyddog CThEM dynodedig

Er mwyn sicrhau bod CThEM yn defnyddio’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn gyfrifol ac yn gyson, mae’n rhaid i rai gweithredoedd o dan y Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol gael eu gweithredu gan swyddogion CThEM penodol yn unig. Gelwir y swyddogion hynny yn ‘swyddogion CThEM dynodedig’.

Y trethi, ardollau a chyfraniadau y mae’r Rheol gwrth-gamddefnydd gyffredinol yn berthnasol iddynt

Mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn berthnasol i unrhyw drefniadau treth y cymerwyd rhan ynddynt ar neu ar ôl 17 Gorffennaf 2013 (oni nodir dyddiad gwahanol isod) ac sy’n ymwneud â’r canlynol:

  • Treth Flynyddol ar Anheddau sydd wedi’u Hamgáu
  • Ardoll Brentisiaethau (o 15 Medi 2016 ymlaen)
  • Treth Enillion Cyfalaf
  • Treth Gorfforaeth (gan gynnwys unrhyw swm sy’n drethadwy fel pe bai’n Dreth Gorfforaeth, neu sy’n cael ei drin fel pe bai’n Dreth Gorfforaeth)
  • Treth Ailgyfeirio Elw (ar gyfer elw sy’n codi ar neu ar ôl 1 Ebrill 2015)
  • Treth Incwm (gan gynnwys Treth Incwm a gesglir drwy’r system TWE)
  • Treth Etifeddiant
  • CYG (gweler isod)
  • Treth Refeniw Petroliwm
  • Treth Dir y Tollau Stamp

Mae’r Rheol Gwrth-gamddefnydd Gyffredinol yn berthnasol i CYG ar gyfer trefniadau a wnaed ar neu ar ôl 13 Mawrth 2014. Mae hyn yn cynnwys CYG a gesglir drwy’r system TWE, CYG Dosbarth 4 a gesglir drwy Hunanasesiad ac, o’r flwyddyn dreth 6 Ebrill 2015 i 5 Ebrill 2016 ymlaen, mae hefyd yn cynnwys y rhan fwyaf o CYG Dosbarth 2 a gesglir drwy Hunanasesiad.

Rhagor o wybodaeth

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.