Canllawiau

Cynlluniau Cyfranddaliadau â Mantais Treth i Gyflogeion — Cosb am Anghywirdeb Sylweddol — CC/FS32

Diweddarwyd 29 March 2022

Mae’r daflen wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am gosbau y gallwn eu codi os yw eich datganiad blynyddol yn cynnwys anghywirdeb sylweddol.

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhan o gyfres. I weld rhestr o’r taflenni gwybodaeth yn y gyfres, ewch i www.gov.uk/guidance/arweiniad-a-thaflenni-gwybodaeth-cthem ac edrych o dan y pennawd ‘Gwiriadau cydymffurfio’.

Os oes angen help arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â’r gwiriad hwn, rhowch wybod i’r swyddog sydd wedi cysylltu â chi. Byddwn yn eich helpu ym mha ffordd bynnag y gallwn. I gael rhagor o fanylion, ewch i www.gov.uk/cael-help-cthem-cymorth-ychwanegol

Pryd y gallwn godi cosb arnoch am anghywirdeb sylweddol

Gallwn godi cosb hyd at £5,000 arnoch os ydym, o ganlyniad i wiriad cydymffurfio, yn penderfynu fod y datganiad yn cynnwys anghywirdeb sylweddol, ac:

  • nid ydych wedi cyflwyno datganiad wedi’i ddiwygio
  • roedd yr anghywirdeb yn esgeulus, neu’n fwriadol (rydym yn cyfeirio at y rhain fel ‘ymddygiadau’, a chânt eu hesbonio nes ymlaen yn y daflen wybodaeth hon)

Mae’n rhaid i gwmni gyflwyno datganiad wedi’i ddiwygio os:

  • yw’n cael gwybod bod gwybodaeth wedi ei hepgor o’r datganiad a gyflwynwyd
  • yw’n cael gwybod bod y datganiad a gyflwynwyd yn cynnwys rhywbeth na ddylai fod wedi ei gynnwys
  • yw’n canfod unrhyw wall neu anghywirdeb arall yn y datganiad

Unwaith bod y cwmni wedi canfod anghywirdeb, mae’n rhaid iddo gyflwyno’r datganiad wedi’i ddiwygio, heb oedi.

Yr hyn y gallwch ei wneud i ostwng swm unrhyw gosb y gallwn ei chodi

Gallwn ostwng swm unrhyw gosb a godwn arnoch, yn dibynnu ar ein barn ynghylch faint o gymorth a roesoch i ni pan fyddwch yn gwneud datgeliad. Rydym yn cyfeirio at y cymorth hwn fel ‘ansawdd y datgeliad’, neu fel ‘dweud, helpu a rhoi’.

Mae enghreifftiau o wneud datgeliad yn cynnwys:

  • dweud wrthym fod rhywbeth o’i le, neu gytuno bod rhywbeth o’i le, ac egluro sut a pham y digwyddodd hyn
  • rhoi cymaint o fanylion ag y gallwch am i ba raddau y mae rhywbeth o’i le, cyn gynted â’ch bod yn cael gwybod amdano
  • dweud wrthym a’n helpu drwy ateb ein cwestiynau’n llawn
  • ein helpu drwy ateb ein llythyrau’n brydlon
  • ein helpu drwy gytuno i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd, neu ymweliadau, ar amser sy’n gyfleus i bawb
  • ein helpu drwy wirio’ch cofnodion er mwyn canfod graddau’r anghywirdeb
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau rydym wedi gofyn amdanynt, heb oedi diangen
  • rhoi mynediad i ni at y dogfennau y mae’n bosibl nad ydym yn gwybod amdanynt, yn ogystal â’r rheiny y gwnaethom ofyn am gael eu gweld

Byddwn yn gostwng y gosb gan y swm uchaf posibl os ydych yn gwneud y canlynol:

  • rhoi’r holl wybodaeth ag y gallwch am unrhyw anghywirdeb cyn gynted â’ch bod yn cael gwybod amdano
  • gwneud popeth ag y gallwch i’n helpu i’w gywiro

Os byddwch yn oedi cyn gwneud datgeliad, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i ostyngiad o hyd, ond bydd hwnnw’n llai.

Os na fydd angen cymorth ychwanegol arnom oddi wrthych, byddwn yn rhoi’r gostyngiad llawn i chi y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu am ddweud, helpu a rhoi.

Sut rydym yn cyfrifo swm y gosb

Mae 5 cam wrth gyfrifo swm unrhyw gosb. Caiff pob cam ei esbonio’n fanylach isod.

1. Pennu ein barn am yr ‘ymddygiad’

Pan fo anghywirdeb, byddwn yn gweithio gyda chi er mwyn canfod beth wnaeth ei achosi. Rydym yn cyfeirio at hwn fel yr ‘ymddygiad’. Bydd y math o ymddygiad yn effeithio ar p’un a fyddwn yn codi cosb arnoch a swm y gosb. Mae 2 math o ymddygiad.

Esgeulus

Pan wnaethoch fethu â chymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn.

Bwriadol

Pan oeddech yn gwybod bod datganiad neu ddogfen yn anghywir pan wnaethoch ei gyflwyno/chyflwyno i ni.

2. Penderfynu ar ystod y gosb

Mae canran y gosb yn syrthio i mewn i 1 o 2 ystod. Mae’r ystod y mae’n syrthio iddo’n dibynnu ar y math o ymddygiad. Mae’r tabl canlynol yn dangos y 2 ystod cosb.

Math o ymddygiad Ystod y gosb
Esgeulus 0% i 30%
Bwriadol 35% i 100%

3. Cyfrifo’r gostyngiadau ar gyfer ansawdd y datgeliad (y cyfeirir ato hefyd fel ‘dweud, helpu a rhoi’)

Mae ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) yn pennu lle y bydd y gosb yn syrthio o fewn ystod y gosb. Mae’r gostyngiad a rown yn dibynnu ar faint o gymorth a rowch i ni. Ar gyfer:

  • dweud, rydym yn rhoi hyd at 30%
  • helpu, rydym yn rhoi hyd at 40%
  • rhoi caniatâd i ni weld cofnodion, rydym yn rhoi hyd at 30%

4. Cyfrifo cyfradd ganrannol y gosb

Pennir cyfradd ganrannol y gosb gan ystod y gosb a’r gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad.

Enghraifft

Daethom o hyd i anghywirdeb esgeulus nad oedd y cwsmer wedi rhoi gwybod i ni amdano, cyn i ni ddechrau ein gwiriad. Pan wnaethom roi gwybod iddo am yr anghywirdeb, roedd yn cytuno â ni.

Ystod y gosb am anghywirdeb esgeulus, gyda datgeliad wedi’i annog, yw 0% i 30% o’r uchafswm y gellir ei godi, sef £5,000.

Y gostyngiad ar gyfer ansawdd y datgeliad (dweud, helpu a rhoi) oedd 70%.

Camau Cyfrifiad
I gyfrifo cyfradd ganrannol y gosb, yn gyntaf rydym yn cyfrifo’r gwahaniaeth rhwng cyfradd ganrannol isaf ac uchaf y gosb. 30% llai 0% = 30%
Byddwn wedyn yn didynnu canran y gostyngiad o ganran uchaf y gosb y gallwn ei chodi. 30% x 70% = 21%
Mae hyn yn rhoi cyfradd ganrannol y gosb i ni. 30% llai 21% = 9%

5. Cyfrifo swm y gosb

I gyfrifo swm y gosb, rydym yn lluosi’r uchafswm y gallwn ei godi gyda chyfradd ganrannol y gosb. Er enghraifft, y gosb i’w thalu byddai £450 (£5,000 x 9% = £450).

Sut y byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gosb

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod faint yw’r gosb a sut yr ydym wedi’i chyfrifo. Os oes unrhyw beth ynglŷn â’r gosb nad ydych yn cytuno yn ei gylch, neu os ydych o’r farn bod gwybodaeth nad ydym eisoes wedi’i chymryd i ystyriaeth, dylech roi gwybod i ni ar unwaith.

Yr hyn sy’n digwydd os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol

Gallwn gynnal ymchwiliad troseddol gyda’r bwriad o’ch erlyn os ydych wedi gwneud rhywbeth o’i le yn fwriadol, megis:

  • rhoi gwybodaeth i ni gan wybod ei bod yn anwir, boed ar lafar neu mewn dogfen
  • cam-gyfleu’n anonest eich rhwymedigaeth i dalu treth, neu’n hawlio taliadau nad oes gennych yr hawl iddynt

Rheoli Diffygdalwyr Difrifol

Os ydych wedi cael eich materion treth yn anghywir yn fwriadol, efallai y bydd angen i ni fonitro’ch materion treth yn fanylach. Mae gennym raglen fonitro fanylach o’r enw ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS14, ‘Rheoli Diffygdalwyr Difrifol’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS14’.

Yr hyn i’w wneud os ydych yn anghytuno

Os nad ydych yn cytuno â rhywbeth, dylech roi gwybod i ni.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r penderfyniad a rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch:

  • anfon gwybodaeth newydd at y swyddog rydych wedi bod yn delio ag ef, a gofyn iddo’i hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog Cyllid a Thollau EM (CThEM) na fu’n ymwneud â’r mater
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn dod i benderfyniad ar y mater

Pa un bynnag a ddewiswch, mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEM weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod. Gelwir y broses hon yn ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ (Alternative Dispute Resolution, neu ADR).

Dim ond ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â rhai o’r trethi a’r meysydd eraill rydym yn eu gweinyddu y mae ADR ar gael. Bydd y swyddog sy’n delio â’ch gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer y mater yr ydych yn dadlau yn ei gylch.

Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC1’ a ‘CC/FS21’ i gael rhagor o wybodaeth am:

  • apeliadau ac adolygiadau yn nhaflen wybodaeth HMRC1, ‘Penderfyniadau Cyllid a Thollau EM – beth i’w wneud os anghytunwch’
  • ADR yn nhaflen wybodaeth CC/FS21, ‘Dull amgen o ddatrys anghydfod’

Eich hawliau pan fyddwn yn ystyried codi cosbau

Mae’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhoi rhai hawliau pwysig i chi. Os ydym yn ystyried codi cosbau, byddwn yn rhoi gwybod i chi. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi fod yr hawliau hyn yn gymwys, ac yn gofyn i chi gadarnhau eich bod yn eu deall. Mae’r hawliau hyn fel a ganlyn:

  • os byddwn yn gofyn unrhyw gwestiynau i chi i’n helpu i benderfynu p’un ai i godi cosb arnoch, mae gennych yr hawl i beidio â’u hateb – eich penderfyniad chi’n gyfan gwbl yw faint o gyngor y byddwch yn ei roi i ni pan fyddwn yn ystyried cosbau
  • wrth benderfynu a ydych am ateb ein cwestiynau neu beidio, efallai y byddwch am gael cyngor gan ymgynghorydd proffesiynol – yn enwedig os nad oes un gennych yn barod
  • os ydych yn anghytuno â ni ynglŷn â’r dreth neu gosbau y credwn sy’n ddyledus, gallwch apelio – os byddwch yn apelio ynglŷn â threth yn ogystal â chosbau, mae gennych yr hawl i ofyn i’r ddwy apêl gael eu hystyried gyda’i gilydd
  • mae gennych yr hawl i wneud cais am gynhorthwy cyfreithiol a ariennir er mwyn delio ag unrhyw apêl yn erbyn rhai cosbau penodol
  • mae gennych hawl i ddisgwyl i ni ddelio â mater sy’n ymwneud â chosbau heb oedi afresymol

Mae rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn yn nhaflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS9’.

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’.