Cynllun Strategol Tŷ’r Cwmnïau 2014 i 2019
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o Gynllun Strategol 5 mlynedd Tŷ'r Cwmnïau am y cyfnod o fis Ebrill 2014 i fis Mawrth 2019. (Mae’r adroddiad ar gael yn Saesneg yn unig)
Dogfennau
Manylion
Bydd y cynllun strategol yn cyflawni trawsnewidiad yn y ffordd mae cwsmeriaid a busnesau’n ymwneud â Thŷ’r Cwmnïau dros y cyfnod o 5 mlynedd. Byddwn yn darparu:
- trawsnewidiad digidol i ddod yn sefydliad cwbl ddigidol
- data agored sy’n cysylltu’n llawn â data arall ar gwmnïau sydd gan y llywodraeth
- gwell dilysrwydd i’r gofrestr trwy well ymchwilio a rhwymedïau
- llai o feichiau trwy ddadreoleiddio a chydgysylltu ar draws adrannau’r llywodraeth
- arbedion effeithlonrwydd a’r disgwyliad y cyflwynir symleiddio ffioedd cofrestru