Canllawiau

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: canllawiau ar y meini prawf asesu

Diweddarwyd 14 December 2021

This canllawiau was withdrawn on

This guidance is no longer current see Community Ownership Fund round 2 for latest guidance.

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y meini prawf asesu a ddefnyddir. Maent yn amlinellu sut i ddefnyddio’r meini prawf asesu yn eich cais.

Dylech hefyd ddarllen:

Fframwaith asesu

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu cynigion o bob cwr o’r DU yn erbyn fframwaith asesu cyffredin. Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn defnyddio’r fframwaith hwn, a bydd penderfyniadau terfynol ynghylch cyllid yn cael eu gwneud gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).

Cylch ymgeisio 1

Ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yng Nghylch Ymgeisio 1 yw buddsoddi mewn prosiectau hyfyw ac o ansawdd da, sy’n barod i gymryd perchnogaeth a rheolaeth o ased cymunedol a’i redeg fel busnes cymunedol cynaliadwy.

Meini prawf asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail y 4 maen prawf canlynol:

1. Achos strategol: dylai ymgeiswyr ddangos y byddai’r ased, heb ymyrraeth, yn cael ei golli i’r gymuned, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael a’r gefnogaeth sydd ganddynt gan y gymuned a phartneriaid eraill. 2. Achos rheoli: dylai ymgeiswyr ddangos amcanion ac ymarferoldeb y prosiect a sut y bydd yr ased neu amwynder yn cael ei redeg yn gynaliadwy. 3. Potensial i ddarparu budd i’r gymuned: gan ddefnyddio’r fframwaith canlyniadau, dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd yr ased yn darparu buddion i’r gymuned o dan berchnogaeth gymunedol. 4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol: gan ddefnyddio gwybodaeth a data lleol ynghylch angen cymunedol, dylai ymgeiswyr allu dangos gwerth ychwanegol yr ased neu amwynder cymunedol i’r gymuned.

1. Achos strategol

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o’r asesiad.

Yr achos dros ymyrraeth gan y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylai eich achos dros ymyrraeth gan y gymuned gynnwys:

  • y risg sy’n wynebu’r ased ar hyn o bryd
  • pam y byddai’r ased, heb ymyrraeth gan y gymuned, yn cael ei golli
  • y rôl y mae’r ased cymunedol yn ei chwarae yn eich lle lleol (megis pa wasanaethau ac amwynderau y mae’n eu darparu)
  • yr effaith y byddai colli’r ased yn ei chael ar y gymuned

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cefnogaeth y gymuned

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o gefnogaeth sydd gennych i’ch cynlluniau i achub yr ased neu amwynder cymunedol. Gallai hyn gynnwys:

  • gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned rydych wedi’u cynnal - a sut mae’r rhain wedi siapio eich cynlluniau
  • unrhyw godi arian cymunedol rydych wedi’i wneud
  • sut ydych wedi cynnwys pobl leol yn eich cynigion hyd yn hyn ac ystyried safbwyntiau cymunedol ynghylch nodau ac amcanion eich cynllun?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Partneriaethau lleol a chysylltiadau â chynlluniau lleol eraill

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu dangos eich bod wedi adeiladu partneriaethau lleol o amgylch eich cynlluniau, a’r rôl y gallai eich cynigion ei chwarae o fewn cynlluniau lleol eraill. Dylech gynnwys:

  • natur a graddfa’r gefnogaeth a chyfranogiad gan y cyngor lleol neu gyrff cyhoeddus eraill yn lleol
  • pa gefnogaeth sydd gennych gan sefydliadau neu fusnesau lleol eraill neu bartneriaid y sector cyhoeddus
  • sut mae eich cynlluniau yn ymwneud â nodau unrhyw gynlluniau lleol eraill (megis cynllun cymdogaeth, strategaeth economaidd leol, strategaethau iechyd a llesiant)?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Asesu a chanllawiau

Rydym yn croesawu prosiectau a all gefnogi’r daith at sero-net ac yn ymgorffori dulliau di-garbon neu garbon isel.

Rydym hefyd yn croesawu prosiectau sy’n ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn lliniaru hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 3.

Cyfanswm y Sgôr

Cyfanswm y sgôr bosibl ar gyfer yr adran hon yw 18.

2. Achos rheoli

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o’r asesiad.

Hyfywedd ariannol y model busnes

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi gynnwys trosolwg o’ch model busnes, i ddangos eich bod wedi ystyried yr holl risgiau a thargedau cyflawnadwy sy’n gysylltiedig â’ch prosiect. Bydd angen i chi hefyd atodi eich cynllun busnes llawn.

Byddwn yn asesu eich cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor yr ased cymunedol o dan berchnogaeth gymunedol drwy eich model busnes arfaethedig.

Amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer cynhyrchu incwm a sut ydych yn bwriadu sicrhau adnoddau ar gyfer cynnal a chadw a rheoli’r ased, law yn llaw â’r gweithgareddau a gwasanaethau y byddwch yn eu darparu. Rhowch fanylion unrhyw arian dros ben disgwyliedig, a sut y bydd yn cael ei ailfuddsoddi yn eich gweithgareddau.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Cyllid cyfatebol a chostau llawn y prosiect

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu:

  • faint o gyllid ydych yn ymgeisio amdano gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • eich costau prosiect llawn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wedi’u derbyn i ddatblygu eich prosiect hyd yn hyn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wedi’u sicrhau ar gyfer costau cyfalaf
  • ffynonellau o gyllid ydych chi’n bwriadu eu sicrhau ar gyfer eich prosiect

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at uchafswm o 50% o’r costau cyfalaf i brynu (ac adnewyddu ac atgyweirio) yr ased cymunedol. Dylech arddangos ffynonellau eraill o gyllid rydych wedi’u sicrhau neu a fyddwch yn eu sicrhau ar gyfer costau cyfalaf eich prosiect.

Gellir ymrwymo cyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ‘mewn egwyddor’, cyn i chi sicrhau grantiau neu fenthyciadau eraill. Fodd bynnag, ar gyfer y cylch cyllido hwn, bydd angen tystiolaeth arnom y byddwch yn gallu sicrhau’r holl gyllid cyfatebol ar gyfer eich ased cymunedol ac yn defnyddio cyfalaf o fewn 6 mis i’ch cais.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Sgiliau ac adnoddau sy’n ofynnol i reoli’r prosiect

Asesu a chanllawiau

Byddwn yn asesu sut ydych wedi ystyried gofynion rheoli eich prosiect, a’r camau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu ac adnoddau iawn i redeg yr ased yn gynaliadwy. Arddangoswch eich bod wedi ystyried cynllunio olyniaeth ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr eich sefydliad.

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff i reoli a rhedeg yr ased a’i wasanaethau, rhowch drosolwg o’r cynlluniau hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Rheolaeth, atebolrwydd, cynhwysiant ac integreiddiad y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylech arddangos eich bod yn atebol i’r gymuned a gynrychiolwch. Gallwch wneud hyn drwy ddangos:

  • pwy sydd ar eich bwrdd
  • eich strwythurau llywodraethu
  • ffyrdd y byddwch yn cynnwys y gymuned yn y gwaith o redeg yr ased
  • strwythur aelodaeth eich sefydliad
  • a fydd unrhyw rwystrau o ran pwy all ymuno

Arddangoswch sut ydych wedi ystyried cynhwysoldeb a materion integreiddio fel rhan o’ch cynigion. Gan gynnwys sut y bydd yr ased cymunedol yn hygyrch a chynhwysol i holl aelodau’r gymuned, yn cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sgôr

Cyfanswm y sgôr bosibl ar gyfer yr adran hon yw 25.

3. Potensial i ddarparu buddion i’r gymuned

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o’r asesiad.

Buddion cymunedol a ddarperir

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos buddion cymunedol yr ased, a sut y bydd y rhain yn cael eu cynnal a gwella drwy berchnogaeth gymunedol.

Dylai’r buddion hyn ymwneud ag un neu fwy o’r canlyniadau a amlinellir yn y prosbectws, sydd fel a ganlyn:

  • balchder cymunedol a chanfyddiadau o’r ardal leol fel lle i fyw
  • ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn
  • cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon
  • canlyniadau economaidd lleol - yn cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, a chyflogadwyedd a sgiliau
  • canlyniadau llesiant a chymdeithasol eraill - megis cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Ceir rhagor o ganllawiau yn adran 5.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Buddiolwyr cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos pa grwpiau yn y gymuned sy’n defnyddio’r ased neu amwynder ar hyn o bryd, a sut y byddent yn elwa ar amddiffyn yr ased.

Byddwch yn dangos sut y bydd yr ased yn gynhwysol ac yn darparu buddion i aelodau’r gymuned ehangach o dan berchnogaeth gymunedol. Efallai fod un prif grŵp o fuddiolwyr o fewn y gymuned sy’n elwa’n bennaf ar yr ased, ond bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos bod yr ased yn gwasanaethu’r lle daearyddol ehangach ac nid cymuned o ddiddordeb yn unig.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sgôr

Cyfanswm y sgôr bosibl ar gyfer yr adran hon yw 15.

4. Gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol

Bydd hyn yn cyfrif am 10% o’r asesiad.

Arddangos anghenion cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu asesiad o angen cymunedol gan ddefnyddio ystadegau cymdogaeth lleol.

Dylech gynnwys data lleol perthnasol sy’n helpu i arddangos pam mae’r ased yn bwysig i’ch cymuned.

Er enghraifft, gallai ceisiadau ddefnyddio pyrth IMD unigol i werthuso eu hangen perthynol a dangos sut y gallai’r ased a phrosiect fynd i’r afael â her benodol ar gyfer eu lle - er enghraifft, iechyd neu gyflogaeth.

Gallai hyn gynnwys gwerthusiad o’r canlynol:

  • argaeledd gwasanaethau tebyg eraill (h.y. mae’r ased rydych yn ceisio ei achub yn darparu gwasanaeth neu amwynder unigryw y byddai’n rhaid i bobl deithio i leoedd eraill amdano)
  • potensial i fynd i’r afael â heriau lleol - er enghraifft, os ydych yn disgwyl i’ch prosiect gyflawni ymdeimlad cynyddol o falchder lle i’r ardal, eglurwch yr effaith y byddai hyn yn ei chael mewn perthynas â sut mae pobl leol yn teimlo ar hyn o bryd am y lle lleol, neu’r angen am adfywiad

Efallai yr hoffech hefyd gynnwys trosolwg o’r cryfderau presennol o fewn eich cymuned y gall eich prosiect helpu i’w harneisio a datblygu i fynd i’r afael â heriau lleol a darparu buddion i’r gymuned.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sgôr

Cyfanswm y sgôr bosibl ar gyfer yr adran hon yw 5.

Sgorio

Bydd y sgorau asesu yn cael eu pwysoli yn unol â phwysigrwydd y maen prawf hwnnw, a chyfanswm y sgôr yn cael ei roi fel canran.

Er enghraifft, byddai’r sgôr uchaf o 25 ar gyfer yr achos rheoli (sydd â phwysoliad o 30%) yn cyfrannu 30% at y sgôr derfynol. Byddai’r sgôr uchaf o 5 ar gyfer gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol (sydd â phwysoliad o 10%) yn cyfrannu 10% at y sgôr derfynol.

Dylai cynigion sgorio o leiaf 11 ar gyfer achos strategol, 15 ar gyfer achos rheoli, 9 ar gyfer budd cymunedol ac o leiaf 2 ar gyfer angen cymunedol i gael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Canllawiau eraill: sut mae dangos buddion a chanlyniadau cymunedol

Mae’r adran hon yn darparu manylion eraill ynghylch sut y gall ymgeiswyr fynd i’r afael â maen prawf asesu 3: “Potensial i ddarparu buddion i’r gymuned”.

Canlyniadau COF hanfodol:

Mae angen i chi arddangos y potensial i gyflawni’r HOLL ganlyniadau canlynol yn eich cais.

Amddiffyn ased neu amwynder cymunedol sydd mewn perygl a gwarchod ei werth cymunedol

Rhaid i chi arddangos bod yr ased cymunedol rydych yn ceisio ei achub, mewn perygl o gael ei golli.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o’r trosolwg o’ch prosiect ac yn cael ei hasesu fel rhan o’ch achos strategol.

Cyfeiriwch at yr adrannau hyn o’r templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawni’r canlyniad hwn.

Datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol yr ased cymunedol yn yr hirdymor o dan berchnogaeth gymunedol

Rhaid i chi arddangos bod gan eich sefydliad y gallu rheolaethol a’r potensial i gyflawni model gweithredu cynaliadwy ar gyfer yr ased cymunedol.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o’ch achos rheoli ac yn eich cynllun busnes. Cyfeiriwch at yr adrannau hyn o’r templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawni’r canlyniad hwn.

Diogelu a gwella’r defnydd o asedau ac amwynderau neu wasanaethau cymunedol lleol cysylltiedig

Rhaid i chi allu arddangos y bydd eich cynnig yn diogelu a gwella’r defnydd o’r ased cymunedol a/neu’n cynyddu mynediad at y gwasanaethau neu amwynderau.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o’ch achos rheoli a chynllun busnes (yn nhermau ymarferoldeb) ac yn eich amlinelliad o’r buddion cymunedol y bydd eich ased yn eu darparu.

Canlyniadau COF eraill

Eglurwch sut y gallwch arddangos potensial i gyflawni un neu fwy o’r canlyniadau hyn yn eich cais.

Dylid arddangos y rhain drwy’r adrannau ‘potensial i ddarparu buddion i’r gymuned’ o’r ffurflen gais.

Cynyddu ymdeimlad o falchder a gwella canfyddiadau o’r ardal leol fel lle i fyw

Pa fuddion ydych chi’n disgwyl eu cyflawni mewn perthynas â sut mae pobl yn teimlo am yr ardal fel lle i fyw? Gallwch arddangos hyn drwy:

  • ganlyniadau digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned neu arolygon a safbwyntiau gan y gymuned ynghylch y rôl y mae’r ased yn ei chwarae o ran sut maent yn teimlo am yr ardal leol neu sut y gallai’r gwelliannau rydych am eu gwneud i’r ased newid y ffordd mae pobl yn teimlo am fyw yn y gymdogaeth honno
  • safbwyntiau gan randdeiliaid lleol eraill (megis busnesau lleol) ynghylch y rôl y gallai’r ased ei chwarae wrth gefnogi gwelliannau ehangach i’r lle hwnnw

Er enghraifft, yn achos dod ag ased adfeiliedig ar y stryd fawr o dan berchnogaeth gymunedol, pa effeithiau allai hyn eu cael ar y busnesau cyfagos eraill?

Gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn

Ym mha ffyrdd y gallech ddisgwyl i’ch prosiect wella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn yn eich cymuned. Gallai hyn fod drwy’r gwasanaethau a gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd yn y lle, neu drwy wasanaethau a gweithgareddau newydd.

Pa grwpiau lleol eraill ydych chi’n gweithio â nhw a sut mae’r ffordd rydych yn cydweithio yn dod ag aelodau gwahanol o’r gymuned ynghyd? Sut y gallai eich cynigion gryfhau’r partneriaethau hyn?

Gallech ddangos sut y bydd yr ased cymunedol yn dod ag aelodau gwahanol o’r gymuned ynghyd na fyddai’n cymysgu fel arall, o bosibl, neu’n darparu cyfleoedd i wahanol bobl gydweithio ar brosiectau cymunedol.

Cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon

I arddangos effaith eich cynnig ar gyfranogiad ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon, dylech ddefnyddio gwybodaeth ynghylch defnydd presennol o’r ased neu amwynder cymunedol. Pwy sy’n defnyddio’r ased ar hyn o bryd a phwy yw’r prif fuddiolwyr?

Gallech ddod o hyd i’r wybodaeth hon gan y cyngor, y perchennog presennol, neu drwy eich arolygon a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned eich hun. Yn ogystal â cheisio dangos sut y byddwch yn gwarchod cyfranogiad drwy ddiogelu’r ased, dylech hefyd ddangos beth yw’r cyfleoedd ar gyfer cynyddu cyfranogiad. Gallai hyn fod drwy gyfleoedd gwirfoddoli, oriau agor newydd, neu weithgareddau newydd a ddarperir.

Gallech ddangos hefyd sut y byddwch yn cynnwys aelodau’r gymuned yn y gwaith o redeg yr ased ac yn gwrando ar y gymuned a’i grymuso drwy ymgysylltu â’r gymuned.

Creu canlyniadau economaidd lleol eraill

Mae hyn yn cynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau yn y gymuned leol.

Gallech ddisgwyl i’ch cynnig gyflawni canlyniadau economaidd lleol. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol i’r economi leol, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y cyfleoedd gwirfoddoli rydych yn disgwyl eu darparu fel rhan o’ch prosiect
  • y swyddi rydych yn disgwyl eu creu neu eu cefnogi fel rhan o’ch prosiect
  • buddion eraill o ran cyflogadwyedd a sgiliau, drwy’r gwasanaethau a gweithgareddau rydych yn disgwyl eu rhedeg o’r ased fel rhan o’ch cynnig
  • cynlluniau i fynd i’r afael â chynaliadwyedd amgylcheddol, lleihau carbon a chwtogi gwastraff neu gyfrannu at economi leol fwy gwyrdd drwy gadwraeth ac addysg
  • cyfleoedd ar gyfer menter gymunedol neu BBaChau drwy sefydliadau tenant
  • cynlluniau i gefnogi’r economi leol drwy ailfuddsoddi arian dros ben mewn cadwyni cyflenwi lleol
  • denu twristiaid neu ymwelwyr newydd i’r economi leol
  • buddsoddi o’r newydd yn y lle lleol (yn cynnwys drwy gyfranddaliadau cymunedol neu gyllido torfol)

Creu canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill

Mae hyn yn cynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Gallech ddisgwyl i’ch cynnig gyflawni canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol i iechyd a llesiant, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y gwasanaethau y mae’r ased cymunedol yn eu darparu
  • pwy sy’n defnyddio’r lle a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd a llesiant
  • gwasanaethau a gweithgareddau’r sefydliadau tenant sy’n gweithredu yn y lle
  • y cyfleoedd i fynd i’r afael ag unigedd ac arwahanrwydd drwy ddod â phobl ynghyd

Angen cymunedol

Fel rhan o faen prawf asesu 4, mae’n ofynnol i chi hefyd arddangos y gwahaniaeth a wna’r ased i’r gymuned yn seiliedig ar angen.

Gallwch ddod o hyd i ystod o ffynonellau data lleol a gwybodaeth a defnyddio’r rhain i ddangos angen eich cymuned, a’r rôl y bydd eich prosiect ac ased cymunedol yn ei chwarae wrth ddiwallu’r angen hwnnw.

Gall ffynonellau data perthnasol gynnwys y canlynol:

  • mynegai amddifadedd lluosog - gan ddefnyddio’r pyrth unigol sydd fwyaf perthnasol i’ch prosiect
  • tystiolaeth wedi’i darparu fel rhan o gynllun cymdogaeth
  • proffiliau cymdogaeth lleol a data gan eich cyngor lleol
  • data iechyd a llesiant lleol gan eich asiantaeth iechyd cyhoeddus leol neu Ymddiriedolaeth y GIG