Papur polisi

Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cyfiawnder Rhyngweinidogol (IMGJ): 25 Ionawr 2024

Diweddarwyd 20 February 2024

Cyfarfu’r Grŵp Cyfiawnder Rhyngweinidogol (IMGJ) am yr eildro ddydd Iau 25 Ionawr 2024 mewn cyfarfod hybrid.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal gan Lywodraeth yr Alban a’i gadeirio gan Angela Constance ASA.

Dyma’r gweinidogion a oedd yn bresennol:

  • o Lywodraeth yr Alban: Angela Constance ASA, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder a Materion Cartref
  • o Lywodraeth y DU: Yr Arglwydd Bellamy CB, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder; John Lamont AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol yr Alban; Fay Jones AS, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru; yr Arglwydd Caine, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Gogledd Iwerddon
  • o Lywodraeth Cymru: Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.

Yn absenoldeb gweinidogion Gogledd Iwerddon, roedd Richard Pengelly, Ysgrifennydd Parhaol Adran Cyfiawnder Gogledd Iwerddon, unwaith eto yn bresennol ar ran Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.

Dechreuodd y cyfarfod gydag adolygiad o gofnodion a chamau gweithredu’r IMGJ blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Medi 2023.

Yng ngoleuni cyhoeddiad y Prif Weinidog ar 10 Ionawr, trafododd y Grŵp gamau gweithredu’r llywodraeth i ryddhau o fai y dioddefwyr a gafwyd yn euog ar gam yn Sgandal Horizon Swyddfa’r Post. Nododd Gweinidogion y manteision a’r heriau sy’n gysylltiedig â gwahanol ddulliau gweithredu posibl. Roeddent yn cytuno y byddai ymgysylltu agos rhwng y gweinyddiaethau yn hanfodol i sicrhau bod postfeistri a gafwyd yn euog ar gam ledled y DU yn cael canlyniad teg.

Yna, trafododd y cyfarfod y mesurau sy’n cael eu cymryd i wella capasiti carchardai a chytunwyd bod maint poblogaethau remand yn peri problem benodol ar draws y gweinyddiaethau. 

Yr eitem nesaf a drafodwyd oedd adfer y llysoedd, gan gynnwys yr heriau sy’n gysylltiedig â lleihau baich achosion y llysoedd ym mhob awdurdodaeth. Cyfnewidiodd y rhai a oedd yn bresennol enghreifftiau o arloesi digidol diweddar a’u heffeithiau. Cytunwyd i drafod rôl technoleg yn y system gyfiawnder mewn cyfarfod o’r Grŵp yn y dyfodol.  

Rhannodd y grŵp yr wybodaeth ddiweddaraf am waith diweddar i foderneiddio’r system cymorth cyfreithiol ym mhob gweinyddiaeth.

Caeodd y Cadeirydd y cyfarfod. Ailadroddodd y rhai a oedd yn bresennol eu cefnogaeth i gydweithio agos ledled y DU er budd y postfeistri hynny a oedd wedi dioddef y camweinyddu cyfiawnder hwn na welwyd ei debyg o’r blaen. 

Bydd yr IMGJ yn cyfarfod nesaf ymhen 4 mis.