Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y CMA 2022 i 2023
Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn cwmpasu blwyddyn ariannol 2022 i 2023.
Dogfennau
Manylion
Mae’r adroddiad blynyddol a chyfrifon yn rhoi crynodeb o berfformiad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023, gan dynnu sylw at ein prif gyflawniadau. Bydd ein strategaeth newydd, a gyhoeddwyd yn gynharach y flwyddyn hon, yn sail i’n hadroddiadau blynyddol yn y dyfodol ac mae eisoes wedi bod yn llywio ein gwaith yn ystod camau diwethaf cyfnod adrodd 2022/23.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r canlynol:
- Am bob £1 y gwnaethom ei gwario ar ein costau gweithredu, roedd y budd ariannol i gwsmeriaid dros y tair blynedd diwethaf yn £26 ar gyfartaledd. Mae hyn yn uwch o lawer na’r targed o £10 a bennwyd gan Lywodraeth y DU. Dros y cyfnod o dair blynedd rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2023, amcangyfrifir bod y budd ariannol uniongyrchol i ddefnyddwyr o waith y CMA yn £8 biliwn.
- Lansio ein strategaeth newydd ar gyfer y tymor canolig a’n blaenoriaethau ar gyfer hyrwyddo marchnadoedd cystadleuol a mynd i’r afael ag ymddygiad annheg.
- Diogelu pobl, busnesau ac economi’r DU drwy fwrw ymlaen â gwaith mewn ymateb i’r costau byw cynyddol er enghraifft. Roedd hyn yn cynnwys lansio prosiect i ystyried prisiau bwyd mewn archfarchnadoedd, cynnal astudiaeth o’r farchnad tanwydd ffordd a lansio astudiaeth o’r farchnad ar adeiladu tai. Gwnaethom hefyd roi miloedd o bunnoedd o ddirwyon i gwmnïau adeiladu am dorri cyfraith cystadleuaeth yn ystod y cyfnod hwn.
- Lansio’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau a sefydlu Swyddfa’r Farchnad Fewnol, sydd bellach yn cefnogi gweithrediad llwyddiannus y farchnad fewnol ac yn cynghori awdurdodau cyhoeddus ar eu hasesiadau o gymorthdaliadau. Rydym hefyd yn parhau i weithredoli’r Uned Marchnadoedd Digidol a pharatoi i gael pwerau newydd o dan y Ddeddf Marchnadoedd Digidol, Cystadleuaeth a Defnyddwyr, a gyflwynwyd i’r Senedd ym mis Ebrill 2023, sydd â’r nod o roi’r pwerau sydd eu hangen ar y CMA i weithredu cyfundrefn statudol o blaid cystadleuaeth ar gyfer marchnadoedd digidol.
Mae’r CMA hefyd wedi cyhoeddi ei asesiad o effaith ar gyfer 2022 i 2023, sy’n sail i’r ffigurau ar gyfer buddiannau ariannol i ddefnyddwyr.