Ffurflen

Newid manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Defnyddiwch y ffurflen CCL2A i roi gwybod i CThEM am unrhyw newidiadau i fanylion partneriaeth ar gyfer busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.

Dogfennau

Rhoi gwybod ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Rhoi gwybod am newidiadau drwy ddefnyddio'r ffurflen argraffu ac anfon

Manylion

I roi gwybod i Gyllid a Thollau EM (CThEM) am newidiadau i fanylion partneriaeth ar gyfer busnes sydd wedi’i gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd (CCL), gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEM

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd angen eich Rhif Cofrestru Masnachwr ar gyfer Gohiriad arnoch i lenwi’r ffurflen hon. O dan y rhif 13 digid hwn mae masnachwyr, sydd wedi’u cofrestru, yn rhoi cyfrif am eu holl fusnes gyda CThEM.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr, er enghraifft, Internet Explorer 8, bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen argraffu ac anfon yn ei chyfanrwydd cyn y gallwch ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau’i llenwi.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Defnyddiwch y ffurflen CCL2 i ddatgan manylion partneriaeth ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd.

Mae rhagor o wybodaeth am gofrestru ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd a chyfraddau cefnogaeth pris carbon Ardoll Newid yn yr Hinsawdd i’w chael yn Hysbysiad Ecséis CCL1/1.

Cyhoeddwyd ar 15 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 May 2016 + show all updates
  1. An online form is now available.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.