Safonau Rheoli Llinell y Gwasanaeth Sifil (HTML)
Cyhoeddwyd 29 Mai 2025
Datblygu rheolwyr llinell gwych
Mae’r Gwasanaeth Sifil angen rheolwyr llinell gwych sy’n dod â’r gorau allan o’n pobl, yn gosod safonau uchel ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni ar gyfer llywodraeth y dydd.
Mae rheolwyr llinell gwych yn dod â’r gorau allan o unigolion a thimau, gan helpu i sicrhau ein bod yn cyflawni canlyniadau o safon uchel gyda phroffesiynoldeb a balchder, i’r gweinidogion a’r dinasyddion rydyn ni’n eu gwasanaethu. Gyda’n pobl wrth wraidd popeth a wnawn, mae rheolwyr llinell yn ganolog i greu’r amodau gorau ar gyfer llwyddiant y Gwasanaeth Sifil.
Mae’r Safonau Rheoli Llinell wedi’u datblygu i’ch cefnogi a’ch grymuso gyda’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer rheoli llinell yn effeithiol o fewn y Gwasanaeth Sifil. Eu pwrpas yw gwella ymgysylltiad personol, tîm a sefydliadol, a datgloi perfformiad a chynhyrchiant uchel i gyflawni canlyniadau o safon i lywodraeth y dydd a’r cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu.
Gall rheolwyr llinell hyderus, sy’n ymrwymedig i’w cyfrifoldebau, ddefnyddio’r Safonau hyn i lywio heriau eu rolau yn effeithiol, gwella perfformiad tîm, mynd i’r afael â pherfformiad gwael yn brydlon, a chyfrannu at Wasanaeth Sifil modern â pherfformiad uchel.
Pam rydym angen Safonau Rheoli Llinell?
Mae rheolwyr llinell effeithiol yn dod â’r gorau allan o unigolion a thimau, gan sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau o’r safon gorau wrth i ni wasanaethu llywodraeth y dydd a’r cyhoedd.
Mae gennym reolwyr llinell gwych ar draws y Gwasanaeth Sifil ac mae’r Safonau yn ceisio creu cysondeb mewn disgwyliadau ac arferion rheoli da.
Bydd cryfhau rheoli llinell yn creu gwir werth mewn ymgysylltiad gweithwyr, lles, perfformiad a chynhyrchiant. Mae rheoli llinell dda yn arwain at y canlyniadau gorau i bawb – unigolion, timau, sefydliadau, gweinidogion a’r cyhoedd.
Beth yw’r Safonau?
Mae’r Safonau yn gwasanaethu fel adnodd cynhwysfawr ar gyfer eich hunan-fyfyrio a’ch twf proffesiynol fel rheolwr llinell.
Maent yn amlinellu’r disgwyliadau ohonoch chi, gan sicrhau mwy o gysondeb yn eich arferion rheoli a byddant yn eich helpu i adeiladu hyder i lywio’r cymhlethdodau a’r heriau rydych yn eu hwynebu bob dydd.
Wedi’u datblygu mewn cydweithrediad ag arbenigwyr y diwydiant, mae’r Safonau wedi’u seilio ar arferion gorau rheoli llinell traws-sector, academaidd â’r Gwasanaeth Sifil. Maent yn canolbwyntio ar y Cod Gwasanaeth Sifil, sy’n nodi rôl y Gwasanaeth Sifil i gyflawni ar gyfer llywodraeth y dydd a’n gwerthoedd o uniondeb, gonestrwydd, didueddrwydd a gwrthrychedd.
Sut wyf yn eu defnyddio?
Bydd y Safonau yn llywio eich datblygiad personol a phroffesiynol fel rheolwr llinell trwy nodi eich cryfderau a’ch meysydd ar gyfer twf a datblygiad.
Gallwch ddefnyddio’r Safonau i:
-
Fyfyrio ar eich arferion personol a rheoli llinell.
-
Casglu adborth gan eich adroddwyr uniongyrchol, cyfoedion a rheolwyr.
-
Llywio eich sgyrsiau datblygiad personol a’ch cynllun datblygu.
-
Eich helpu i osod disgwyliadau uchel i gael y gorau allan o’ch pobl a mynd i’r afael â pherfformiad gwael yn gyflym.
Cod y Gwasanaeth Sifil
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn ganolog i bopeth rydym yn ei wneud fel Gweision Sifil, gan gynnwys arferion rheoli llinell. Felly, mae ein Cod wrth wraidd y fframwaith hwn.
Dylai Cod a gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil redeg trwy bob agwedd o’ch arferion rheoli llinell, gan eich helpu i ysgogi perfformiad uchel a chyflawni canlyniadau o safon, felly cadwch y rhain ar flaen eich meddwl.
Mae ein Cod yn nodi:
Mae gweision sifil yn cefnogi llywodraeth y dydd wrth ddatblygu a gweithredu ei pholisïau, ac wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Mae gweision sifil yn atebol i weinidogion, sydd yn eu tro yn atebol i’r Senedd.
Ein gwerthoedd yw:
-
uniondeb: rhoi rhwymedigaethau gwasanaeth cyhoeddus uwchlaw eich buddiannau personol eich hun
-
gonestrwydd: bod yn wirioneddol ac yn agored
-
gwrthrychedd: seilio eich cyngor a’ch penderfyniadau ar ddadansoddiad trylwyr o’r dystiolaeth
-
didueddrwydd: ond gweithredu yn ôl rhinweddau’r achos a gwasanaethu, yr un mor dda, llywodraethau o wahanol argyhoeddiadau gwleidyddol.
Yn ogystal â bod yn model rôl o Cod y Gwasanaeth Sifil, mae’n ofynnol i chi hefyd weithredu a rheoli yn unol â Chod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
Trosolwg o’r Safonau
Yn yr adran hon, byddwch yn archwilio’r pum thema sy’n amlinellu’r sgiliau rydych eu hangen i ddod â’r gorau allan o unigolion a thimau. Bydd y sgiliau hyn yn cyfrannu at lwyddiant y Gwasanaeth Sifil trwy alluogi darparu gwasanaethau a chanlyniadau busnes o safon uchel i lywodraeth y dydd a’r cyhoedd.
Pobl
Rheoli gyda hyder ac empathi fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u cymell yn y gwaith i ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau o safon uchel.
-
Adeiladu diwylliant tîm effeithiol a chynhwysol
-
Rheoli pobl i berfformio
-
Rheoli cyfathrebu heriol a sensitif
-
Blaenoriaethu datblygiad personol a phroffesiynol
-
Cefnogi lles fy nhîm(au)
Penderfynu
Gwneud penderfyniadau moesegol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni canlyniadau busnes gwell.
-
Gwneud penderfyniadau moesegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
-
Gwneud penderfyniadau cynhwysol
-
Gwerthuso effeithiolrwydd penderfyniadau
Newid
Tywys eich tîm trwy newid a datblygu diwylliant o greadigrwydd ac arloesi.
-
Bod yn greadigol ac arloesol
-
Rheoli a chefnogi newid
-
Adolygu effeithiolrwydd newid
Cyflawni
Creu ymdeimlad o bwrpas, cydnabod llwyddiannau, mynd i’r afael â pherfformiad gwael a rheoli adnoddau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau, a gyrru cynhyrchiant a chanlyniadau busnes.
-
Creu ymdeimlad o bwrpas
-
Rheoli perfformiad a chyflawni
-
Gwella cynhyrchiant i gyflawni canlyniadau
-
Rheoli adnoddau yn effeithiol
-
Cydnabod a dathlu llwyddiant
Hunan effeithiolrwydd
Canolbwyntio ar eich effeithiolrwydd a’ch effaith bersonol i sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau.
-
Rheoli fy hun
-
Gofalu am fy hun
-
Datblygu fy hun
Y Safonau Rheoli Llinell: Cam craidd
Canolbwyntio ar bobl
Rheoli gyda hyder ac empathi fel bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u cymell yn y gwaith i ddarparu gwasanaethau a chanlyniadau o safon uchel.
1. Adeiladu diwylliant tîm effeithiol a chynhwysol
Rwy’n cofleidio amrywiaeth meddwl ac yn galluogi trafodaethau agored a pharchus i greu amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn gweithredu yn unol â Chod a gwerthoedd y Gwasanaeth Sifil, a gallant ffynnu, siarad, herio’n ddiogel a chyflawni llwyddiant ar y cyd.
2. Rheoli pobl i berfformio
Rwy’n gosod disgwyliadau clir ar gyfer fy nhîm(au), gan ddefnyddio technegau adborth a hyfforddi fel rhan o sgyrsiau perfformiad rheolaidd, darparu adborth gonest, cydnabod perfformiad da a mynd i’r afael â pherfformiad gwael ac ymddygiad gwael yn brydlon.
3. Rheoli cyfathrebu heriol a sensitif
Rwy’n cydnabod sefyllfaoedd sy’n debygol o arwain at wrthdaro neu densiwn o fewn fy nhîm(au), gan ddelio gyda’r rhain yn hyderus i adnabod datrysiadau cynnar, gan reoli materion sy’n gysylltiedig â pherfformiad yn brydlon gyda sensitifrwydd, gonestrwydd a thosturi.
4. Blaenoriaethu datblygiad personol a phroffesiynol
Rwy’n sicrhau bod trafodaethau datblygu rheolaidd yn digwydd o fewn fy nhîm(au), gan rymuso pawb i fod yn berchen ar eu cynllun datblygu personol a chael mynediad at gyfleoedd dysgu ffurfiol ac anffurfiol i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd a gwella perfformiad ac effeithiolrwydd unigol.
5. Cefnogi lles fy nhîm(au)
Rwy’n cefnogi ac yn monitro lles fy nhîm(au) yn weithredol, gan greu lle diogel i ddeall, trafod ac asesu pryderon, anghenion unigol ac unrhyw addasiadau angenrheidiol i rymuso a dod â’r gorau allan o’n pobl.
Canolbwyntio ar Benderfyniadau
Gwneud penderfyniadau moesegol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gyflawni canlyniadau busnes gwell.
1. Gwneud penderfyniadau moesegol yn seiliedig ar dystiolaeth
Rwy’n galluogi penderfyniadau effeithiol i gael eu gwneud o fewn fy nhîm(au) yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil a gwerthoedd sefydliadol, gan sicrhau bod tystiolaeth berthnasol a dibynadwy wedi’i dadansoddi i gyflawni perfformiad a chanlyniadau uchel i’r llywodraeth a bod materion yn cael eu huwchgyfeirio yn ôl yr angen.
2. Gwneud penderfyniadau cynhwysol
Rwy’n grymuso fy nhîm(au) i chwilio am wahanol safbwyntiau, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau teg a chynhwysol i gyflawni canlyniadau busnes o ansawdd uchel.
3. Gwerthuso effeithiolrwydd penderfyniadau
Rwy’n asesu effeithiolrwydd ac effaith penderfyniadau a wneir a’u cyfathrebu o fewn fy nhîm(au), gan ddysgu o’n llwyddiannau yn ogystal â phan nad yw pethau wedi mynd yn ôl y disgwyl.
Canolbwyntio ar Newid
Tywys eich tîm(au) trwy newid a datblygu diwylliant o greadigrwydd ac arloesedd.
1. Bod yn greadigol ac arloesol
Rwy’n grymuso fy nhîm(au) i adnabod, datblygu, profi a herio syniadau arloesol i yrru gwelliant parhaus, perfformiad uchel, cynhyrchiant a chanlyniadau gwerth am arian, dathlu creadigrwydd a dysgu o fethiannau.
2. Rheoli a chefnogi newid
Rwy’n arwain fy nhîm(au) trwy newid sydd wedi’i gynllunio a newid annisgwyl, gan greu lle diogel lle gellir gwrando ar bryderon, a defnyddio empathi a sgiliau cyfathrebu effeithiol i ysbrydoli ymddiriedaeth ac adeiladu diwylliant o berfformiad uchel a chyflawni canlyniadau.
3. Adolygu effeithiolrwydd newid
Rwy’n asesu effeithiolrwydd newid o fewn fy nhîm yn erbyn amcanion y cytunwyd arnynt, gan sicrhau bod pobl a’r effaith amgylcheddol wedi’u hystyried i sicrhau bod newid yn cael ei gyflawni’n effeithiol.
Canolbwyntio ar Gyflawni
Creu ymdeimlad o bwrpas, cydnabod llwyddiannau, mynd i’r afael â pherfformiad gwael a rheoli adnoddau yn effeithiol i gyflawni canlyniadau, a gyrru cynhyrchiant a chanlyniadau busnes.
1. Creu ymdeimlad o bwrpas
Rwy’n cyfathrebu ymdeimlad clir o bwrpas ar gyfer fy nhîm(au) yn unol ag amcanion sefydliadol a blaenoriaethau gweinidogol, gan osod safonau uchel i sicrhau bod nodau uchelgeisiol a chyflawnadwy yn cael eu gosod a’u monitro i bawb.
2. Rheoli perfformiad a chyflawni
Rwy’n monitro, mesur a rheoli perfformiad fy nhîm(au) yn erbyn amcanion a metrigau cytunedig, gan gymryd camau i liniaru risg a mynd i’r afael â pherfformiad gwael yn hyderus mewn modd effeithlon ac amserol.
3. Gwella cynhyrchiant i gyflawni canlyniadau
Rwy’n grymuso fy nhîm i lunio sut maent yn gwneud eu gwaith, gan eu hysgogi i weithredu ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon o weithio i yrru cynhyrchiant, canlyniadau o safon a chyflawni canlyniadau gwerth am arian.
4. Rheoli adnoddau yn effeithiol
Rwy’n cymryd cyfrifoldeb am gynllunio, trefnu a dyrannu adnoddau yn unol â pholisïau a phrosesau sefydliadol, i ddiwallu anghenion busnes ac amgylcheddol sy’n newid a chyflawni canlyniadau gwerth am arian o safon uchel.
5. Cydnabod a dathlu llwyddiant
Rwy’n sicrhau bod llwyddiannau a chyflawniadau o fewn fy nhîm(au) yn cael eu cydnabod a’u dathlu, gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy’n ysgogi unigolion i gyflawni canlyniadau sy’n cyflawni’n effeithiol i’r llywodraeth.
Pob Cam: Hunan-effeithiolrwydd
Canolbwyntiwch ar eich effeithiolrwydd a’ch effaith bersonol i sicrhau eich bod yn cyflawni eich nodau.
1. Rheoli fy hun
-
Rwy’n dilyn Cod y Gwasanaeth Sifil a gwerthoedd sefydliadol, gan hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, parch a dilysrwydd, ac un sy’n ystyried anghenion yr unigolyn, y gymdeithas a’r amgylchedd.
-
Rwy’n datblygu hunan-ymwybyddiaeth o fy nghymhellion, cryfderau a meysydd i’w gwella’n barhaus, gan sicrhau fy mod yn ystyried sut mae fy nghyfathrebu, gweithredoedd, rhagfarnau ac ymatebion yn effeithio arnaf i ac eraill.
-
Rwy’n cymryd cyfrifoldeb am reoli fy mherfformiad a pherfformiad fy nhîm(au), gan ddarparu canlyniadau o safon uchel, gwerth am arian mewn modd amserol a chynhyrchiol.
2. Gofalu am fy hun
-
Rwy’n cymryd perchnogaeth o flaenoriaethu a rheoli fy lles fel y gallaf gyflawni canlyniadau o safon uchel i ddinasyddion.
-
Rwy’n codi unrhyw bryderon am yr effaith mae fy amgylchedd gwaith yn ei chael ar fy lles, gan gael mynediad at y cymorth a’r adnoddau sydd ar gael i mi.
-
Rwy’n arddangos gofalu am fy lles ac yn cael gwiriadau a sgyrsiau rheolaidd gyda fy rheolwr llinell.
3. Datblygu fy hun
-
Rwy’n ceisio adborth gonest yn rheolaidd ac yn myfyrio ar fy effaith ar eraill, gan gymryd camau i lywio fy natblygiad parhaus, gwella fy mherfformiad a darparu gwasanaethau o safon i’r cyhoedd a’r llywodraeth.
-
Rwy’n dysgu gan eraill ac yn cymryd rhan mewn cyfleoedd datblygu cyfoedion sydd ar gael i mi, fel hyfforddi a mentora.
-
Rwy’n ymrwymo i ddysgu parhaus ac yn creu amser i ganolbwyntio ar hunan-wella fel y gallaf ddangos y sgiliau a’r ymddygiadau sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus yn fy rôl.
Rheoli rheolwyr llinell eraill
Mae rheolwyr rheolwyr llinell eraill yn gyfrifol am gynnal y Safonau fel rhan o’u rôl. Gallwch wneud hyn trwy arwain a chyfathrebu’r hyn a ddisgwylir gan eich rheolwyr llinell a’u helpu i ddeall beth mae’r Safonau yn ei olygu iddynt. Ystyriwch wneud y canlynol i gefnogi eich rheolwyr llinell:
-
Esbonio sut mae’r Safonau yn cysylltu â’u rolau, cyfrifoldebau a nodau sefydliadol penodol.
-
Annog hunan-fyfyrio ac asesu eu perfformiad yn erbyn y Safonau i helpu i adnabod eu cryfderau a’u meysydd ar gyfer datblygu.
-
Hwyluso gosod nodau i osod allan y nodau a chynllun datblygu SMART (penodol, mesuradwy, cyraeddadwy, perthnasol ac amserol).
-
Caniatáu i aelodau eich tîm gael amser wedi’i ddiogelu a gofod i fyfyrio ar a datblygu eu sgiliau fel rheolwyr llinell.
-
Darparu adborth gonest ar eu cynlluniau datblygu a’u hunan-asesiadau.
-
Monitro cynnydd i ddathlu cyflawniadau a thrafod unrhyw heriau.
Geirfa
Dilysrwydd – bod yn hunan-ymwybodol ac yn wirioneddol i chi’ch hun a’ch gwerthoedd ym mhob sefyllfa, hyd yn oed pan fyddwch dan bwysau.
Arweinyddiaeth dilys – mae arweinwyr dilys yn wirioneddol iddyn nhw eu hunain, eu gwerthoedd a’u credoau, ac maent yn arwain trwy esiampl, gan ysbrydoli ymddiriedaeth a hygrededd ymhlith eu dilynwyr.
Rhagfarnau – tueddiad, teimlad neu farn sy’n deillio o syniadau neu gredoau sy’n bodoli eisoes.
Herio yn adeiladol – yn cynnwys darparu adborth neu fynegi anghytundeb mewn ffordd barchus a chynhyrchiol. Mae’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r mater dan sylw yn hytrach na chymeriad y person ac mae’n anelu at ddod o hyd i ddatrysiadau neu welliannau.
Tosturi – y gallu i ddeall a rhannu teimladau person arall. Mae’n cynnwys cydnabod ac uniaethu â heriau neu drallod eraill a chael eich cymell i’w helpu i ddatrys y materion hyn.
Ystyrlon – meddwl am rywbeth yn ofalus ac yn drylwyr cyn gwneud penderfyniad neu weithredu. Mae’n cynnwys rhoi sylw meddylgar i’r holl ffactorau perthnasol, pwyso’r manteision a’r anfanteision, a gwerthuso canlyniadau posibl gwahanol ddewisiadau.
Amrywiaeth meddwl – cynnwys ystod eang o safbwyntiau, syniadau a dulliau wrth wneud penderfyniadau a datrys problemau.
Empathi – y gallu i ddeall a rhannu teimladau person arall. Mae’n cynnwys rhoi eich hun yn esgidiau rhywun arall a phrofi eu hemosiynau fel pe baent yn rhai chi eich hunain.
Moesegol – yr egwyddorion a’r safonau sy’n llywodraethu ymddygiad moesol a gwneud penderfyniadau yn y Gwasanaeth Sifil, gan weithredu yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil a gwerthoedd sefydliadol, Cod Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus. Ymddygiad moesegol yw gwneud y peth iawn, hyd yn oed pan mae’n anodd. Mae’n ymwneud â gonestrwydd, dibynadwyedd, tegwch a blaenoriaethu buddiannau’r cyhoedd dros fuddiannau personol.
Arweinyddiaeth foesegol – arwain yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil a’r Cod Rheoli Gwasanaeth Sifil, Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a gwerthoedd sefydliadol.
Teg – bod yn ddiduedd mewn gweithredoedd, penderfyniadau a thriniaeth pobl eraill. Mae’n cynnwys trin pob unigolyn gyda pharch a heb ffafriaeth na gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl.
Cynhwysiant – diwylliant ac amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu ac yn gallu cymryd rhan a chyfrannu’n llawn, waeth beth fo’u cefndir, eu hunaniaeth neu eu hamgylchiadau.
Trafodaethau agored – sgyrsiau lle mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i fynegi eu meddyliau, eu syniadau a’u barn yn rhydd ac yn barchus.
Model rôl – i osod esiampl trwy ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau y gall eraill edrych i fyny atynt neu y dylent eu dilyn.
Gofod diogel – amgylchedd lle mae unigolion yn teimlo’n gyfforddus, yn cael eu parchu a’u cefnogi wrth fynegi eu hunain, rhannu eu meddyliau a’u teimladau, a chymryd risgiau heb ofni beirniadaeth neu wahaniaethu.
Lles – y cyflwr o gael iechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol da a theimlo boddhad â bywyd rhywun.
Beth nesaf?
Nawr eich bod wedi ymgyfarwyddo â’r Safonau Rheoli Llinell, mae’n bryd dechrau gweithredu’r rhain yn eich rôl o ddydd i ddydd.
Dyma sut y gallwch chi ddechrau:
-
Myfyrio yn rheolaidd ar eich dull rheoli llinell. Cael adborth ar y gwahanol sgiliau sydd eu hangen i adnabod eich cryfderau a’ch meysydd twf.
-
Yn seiliedig ar eich myfyrdodau a’ch adborth, dewis y meysydd yr hoffech ganolbwyntio arnynt i ddechrau ar gyfer adeiladu eich sgiliau rheoli llinell.
-
Defnyddio’r pecyn cymorth datblygu Safonau Rheoli Llinell gan y bydd yn eich helpu i ddeall sut i ddangos y sgiliau a amlinellir yn y Safonau ac yn darparu awgrymiadau i lywio eich cynllun datblygu.
-
Trafod eich cynllun datblygu, gan gynnwys y sgiliau y byddwch chi’n canolbwyntio arnynt gyda’ch rheolwr llinell. Dylech olrhain eich cynnydd a mesur canlyniadau.