Skip to main content
Ffurflen

Rhoi gwybod am newidiadau i amgylchiadau teuluol sy’n effeithio ar Fudd-dal Plant

Rhowch wybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol.

Dogfennau

Rhoi gwybod ar-lein

Manylion

Gallwch roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau teuluol ar-lein, er enghraifft:

  • os bydd eich teulu’n symud tramor naill ai dros dro neu’n barhaol
  • os byddwch yn priodi, yn ffurfio partneriaeth sifil, neu’n dechrau byw gyda phartner

Sut i ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.

Argraffu'r dudalen hon