Cadarnhau manylion y dystysgrif feddygol amlosgi (5)
Dylai ail ymarferydd meddygol (nid meddyg yr ymadawedig) ddefnyddio'r ffurflen hon i gadarnhau'r wybodaeth yn y dystysgrif feddygol amlosgi.
Documents
Details
Llenwch y dystysgrif hon i gadarnhau’r wybodaeth a roddir yn ffurflen Amlosgi 4, y dystysgrif feddygol amlosgi a chafodd ei llenwi gan feddyg wnaeth drin yr unigolyn yn ystod ei salwch diwethaf.
Rhaid i’r ffurflen Amlosgi 5 hon gael ei llenwi gan ymarferydd meddygol sydd wedi bod yn gwbl gofrestredig ers 5 mlynedd ac sy’n dal trwydded i ymarfer yn unig
Ni chaiff yr ymarferydd meddygol:
- fod yn perthyn i’r unigolyn sydd wedi marw
- fod wedi cyhoeddi’r dystysgrif feddygol amlosgi
- fod yn berthynas, yn bartner neu’n gydweithiwr yn yr un practis neu dîm meddygol â’r unigolyn a gyhoeddodd y dystysgrif wreiddiol