Cynllun busnes Tŷ’r Cwmnïau 2014 i 2015
Mae’r cynllun busnes hwn yn cynrychioli’r cam allweddol cyntaf wrth weithredu ein strategaeth 5 mlynedd newydd. (Mae’r cynllun busnes ar gael yn Saesneg yn unig)
Dogfennau
Manylion
Mae’r cynllun busnes hwn yn rhedeg o flwyddyn ariannol 2014 i 2015 i ddiwedd blwyddyn ariannol 2018 i 2019. Mae’n nodi’n fanwl y gweithgareddau y bydd Tŷ’r Cwmnïau’n eu cyflawni a’r canlyniadau y bydd yn eu darparu yn y 2 flynedd gyntaf.
Mae’r hyn a nodir ar gyfer y 3 blynedd wedyn yn dangos cyfeiriad gweithgareddau yn y dyfodol megis cysylltu data ar draws sefydliadau llywodraethol, cysyniad ‘fy nghyfrif i’ gyda’r llywodraeth, a mentrau Sicrwydd Hunaniaeth.
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar themâu ein cwsmeriaid, ein pobl a’n materion ariannol. Mae’r themâu canolog hyn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r 3 prif egwyddor mae Tŷ’r Cwmnïau’n gweithredu yn unol â hwy:
- gwell a symlach i gwsmeriaid
- gwell a symlach i’r staff
- gwerth am arian