Bisffenol A mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd: Rheolau’r UE a goblygiadau i’r DU
Cyhoeddwyd 25 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Rhagymadrodd
Defnyddir bisffenol A, neu BPA, wrth weithgynhyrchu rhai deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys rhai plastigau a gorchuddion. Mae ei effeithiau posib ar iechyd wedi’u hasesu yn y DU, yr UE ac yn rhyngwladol.
Mae’r UE wedi cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio bisffenol A mewn rhai deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd drwy Reoliad y Comisiwn (UE) 2024/3190 (‘Rheoliad yr UE ar bisffenol A’). Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gynhyrchion a roddir ar farchnad yr UE a marchnad Gogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor.
Yn y DU, cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion yn ymwneud â bisffenol A mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Cyhoeddodd yr ASB ei chrynodeb o ymatebion yn nodi’r bwriad i gyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio bisffenol A ym Mhrydain Fawr, yn amodol ar y broses bolisi a deddfwriaethol briodol.
Ochr yn ochr â hynny, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bwriad i fwrw ymlaen â’r cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) rhwng yr UE a’r DU, ac mae trafodaethau â’r UE yn parhau. Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) wedi cyhoeddi gwybodaeth yn cynghori busnesau, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn masnachu â’r UE ar hyn o bryd, i ddechrau ystyried sut y gallai newidiadau posib yn y dyfodol o fewn cwmpas y trefniadau SPS effeithio ar eu gweithrediadau. Mae Defra hefyd wedi dweud yn glir y bydd manylion ac amseru unrhyw newidiadau yn dibynnu ar ganlyniad y trafodaethau.
Ynglŷn â’r canllaw gwybodaeth hwn
Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ffeithiol i helpu busnesau’r DU i ddeall y canlynol:
-
gofynion yr UE o ran bisffenol A – lle mae’r rhain yn berthnasol
-
y sefyllfa gyfreithiol bresennol ym Mhrydain Fawr
Nid yw’r canllaw hwn yn cyflwyno rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ac nid yw’n cymryd lle’r ddeddfwriaeth berthnasol. Dylai busnesau sicrhau eu bod yn cyfeirio at y ddeddfwriaeth berthnasol lle bo hynny’n briodol.
Perthnasedd y gofynion yn ddaearyddol
At ddibenion y canllaw hwn:
-
mae deddfwriaeth yr UE yn berthnasol i farchnad yr UE ac i Ogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor
-
nid yw cyfyngiadau’r UE ar bisffenol A yn berthnasol ar hyn o bryd ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban)
Mae’n rhaid i fusnesau sy’n rhoi cynhyrchion perthnasol ar farchnad yr UE neu Ogledd Iwerddon gydymffurfio â Rheoliad yr UE ar bisffenol A, gan gynnwys y prif ddyddiad cau cyntaf ar gyfer cydymffurfio, sef 20 Gorffennaf 2026.
Mae trefniadau ar wahân yn berthnasol i rai nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon o dan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). Dylai busnesau sy’n defnyddio’r trefniadau hyn gyfeirio at ganllawiau perthnasol Llywodraeth y DU ar eu cais.
Ar gyfer marchnad ddomestig Prydain Fawr, nid yw cyfyngiadau’r UE ar bisffenol A yn berthnasol yn uniongyrchol. Bydd y sefyllfa gyfreithiol bresennol yn aros fel y mae oni bai bod deddfwriaeth ddomestig yn cael ei chyflwyno neu hyd nes y bydd deddfwriaeth o’r fath yn cael ei chyflwyno.
Diben y canllaw gwybodaeth hwn
Bwriad y canllaw hwn yw:
-
darparu gwybodaeth am Reoliad yr UE ar bisffenol A – lle mae’n berthnasol i farchnad yr UE neu Ogledd Iwerddon, gan gynnwys amserlenni perthnasol
-
codi ymwybyddiaeth busnesau a’u helpu i gynllunio o ystyried y newidiadau posib yn y dyfodol ym Mhrydain Fawr
Nid yw’r canllaw hwn yn gosod gofynion cydymffurfio ar gyfer marchnad ddomestig Prydain Fawr.
Prif newidiadau rheoleiddiol gan yr UE
Mae Rheoliad yr UE ar bisffenol A yn cyflwyno cyfyngiadau ar ddefnyddio bisffenol A, a bisffenolau peryglus eraill, yn fwriadol mewn rhai deunyddiau penodol a ddaw i gysylltiad â bwyd.
Mae’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i gynhyrchion a roddir ar farchnad yr UE ac yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’r rheoliad yn cynnwys trefniadau pontio i roi amser i fusnesau addasu.
Sut mae rhoi Rheoliad yr UE ar bisffenol A ar waith yn ymarferol?
Mae cyfyngiadau’r UE yn gwahardd defnyddio bisffenol A yn fwriadol wrth weithgynhyrchu rhai deunyddiau penodol a ddaw i gysylltiad â bwyd ac maent yn berthnasol o’r adeg y caiff cynhyrchion eu rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon am y tro cyntaf.
Felly, o’r dyddiadau perthnasol ymlaen, ni fyddai hawl gan unrhyw un roi deunyddiau ac eitemau nad ydynt yn cydymffurfio ar y marchnadoedd hynny.
Er bod y cyfyngiad yn ymwneud â defnyddio bisffenol A mewn prosesau gweithgynhyrchu, caiff ei orfodi ar yr adeg y caiff deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd eu rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf.
Mesurau pontio a dyddiadau allweddol
Dyddiad cau cyntaf y cyfnod pontio: 20 Gorffennaf 2026
O’r dyddiad hwn ymlaen, ni all deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd at ddefnydd untro neu at ailddefnydd cyffredinol sydd newydd gael eu gweithgynhyrchu a’u mewnforio, ac sydd wedi’u rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon, gynnwys bisffenol A na bisffenolau peryglus eraill sydd wedi’u hychwanegu’n fwriadol, oni bai bod darpariaethau pontio penodol yn berthnasol.
Efallai y bydd modd i ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd sy’n cynnwys bisffenol A ac sydd wedi’u rhoi ar y farchnad cyn y dyddiad cau hwn barhau i gael eu llenwi â bwyd neu eu defnyddio i selio bwyd am gyfnod cyfyngedig. Yn unol â Rheoliad yr UE ar bisffenol A, gallai bwyd sydd wedi’i becynnu yn ystod y cyfnod hwnnw barhau i gael ei werthu hyd nes y bydd y stociau wedi dod i ben.
Dyddiad cau estynedig: 20 Ionawr 2028
Mae cyfnod pontio estynedig yn berthnasol i rai cynhyrchion penodol, gan gynnwys rhai eitemau at ddefnydd untro ac offer cynhyrchu bwyd proffesiynol dethol at ailddefnydd.
Gallai methu â chydymffurfio â gofynion perthnasol yr UE effeithio ar eich gallu i roi cynhyrchion ar farchnadoedd yr UE neu Ogledd Iwerddon.
Efallai y bydd paratoi’n gynnar yn helpu busnesau, sy’n cyflenwi marchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon, i ddelio â newidiadau i’r gadwyn gyflenwi. I fusnesau sy’n cyflenwi marchnad ddomestig Prydain Fawr yn unig, gallai paratoi’n gynnar hefyd helpu gyda chynllunio hirdymor.
Gwaith cynllunio a pharodrwydd y busnes
Mae’r adran hon yn rhoi ystyriaethau dewisol i helpu busnesau i ddeall gofynion yr UE o ran bisffenol A ac ymateb iddynt, lle bo’n berthnasol.
Mae gofynion yr UE o ran bisffenol A yn berthnasol pan fydd deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd neu fwyd wedi’i becynnu yn cael eu rhoi ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon. Nid yw’r gofynion hyn yn uniongyrchol berthnasol i farchnad ddomestig Prydain Fawr.
Yn dilyn yr ymgynghoriad ar bisffenol A a chyhoeddi crynodeb o’r ymatebion, nododd yr ASB fwriad i gyflwyno cyfyngiadau ym Mhrydain Fawr, yn amodol ar y broses bolisi a deddfwriaethol briodol.
Efallai y bydd paratoi’n gynnar yn helpu busnesau i ddelio â newidiadau posib yn y dyfodol a lleihau’r risg o darfu ar eu gwaith pan allai fod angen addasiadau i gyfansoddiad cynnyrch neu gadwyni cyflenwi.
Efallai hoffai busnesau sy’n rhoi cynhyrchion ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon ystyried y canlynol:
Canfod pa gynhyrchion a marchnadoedd sy’n berthnasol
-
adolygu cynhyrchion i ganfod ble mae bisffenol A, neu bisffenolau cysylltiedig, yn cael eu defnyddio’n fwriadol
-
gwahaniaethu rhwng cynhyrchion y mae’r busnes yn eu cyflenwi i farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon a’r rhai y mae’r busnes yn eu cyflenwi ym Mhrydain Fawr yn unig
Cynllunio ar gyfer cydymffurfiaeth â’r UE a Gogledd Iwerddon (lle bo’n berthnasol)
-
ystyried dyddiadau cau perthnasol ar gyfer y cyfnod pontio o dan Reoliad yr UE ar bisffenol A
-
adolygu cadwyni cyflenwi, prosesau gweithgynhyrchu a phortffolios cynnyrch i ganfod ble gallai fod angen newidiadau
Ymgysylltu â chadwyni cyflenwi
-
ymgysylltu â chyflenwyr i ddeall a yw bisffenol A neu sylweddau cysylltiedig yn cael eu defnyddio’n fwriadol
-
ystyried argaeledd deunyddiau amgen lle bo angen y gallu i roi cynhyrchion ar farchnad yr UE neu farchnad Gogledd Iwerddon
Monitro datblygiadau rheoleiddiol
-
cadw llygad ar y diweddaraf gan yr ASB, yr FSS ac adrannau perthnasol o Lywodraeth y DU
-
ystyried sut gallai datblygiadau deddfwriaethol i ddod, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â threfniadau SPS, effeithio ar gynllunio hirdymor
Dangos cydymffurfiaeth â’r gofynion o ran bisffenol A
Mae’n rhaid i fusnesau sy’n rhoi deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd ar farchnad yr UE a marchnad Gogledd Iwerddon gydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol yr UE ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y cyfyngiadau ar ddefnyddio bisffenol A yn fwriadol fel y mae wedi’i nodi o dan Reoliad yr UE ar bisffenol A.
Ar gyfer marchnad Prydain Fawr, mae’n rhaid i fusnesau gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gymathwyd ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, sy’n gosod gofynion cyffredinol o ran diogelwch, cydymffurfiaeth a dogfennau ategol. Nid yw fframwaith presennol Prydain Fawr yn cynnwys cyfyngiadau cyfatebol ar ddefnyddio bisffenol A yn fwriadol.
Ar draws y fframweithiau hyn, mae’n ofynnol i fusnesau allu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y dull yn dibynnu ar y cynnyrch a’r broses weithgynhyrchu:
-
gallai busnesau ddangos eu bod yn cydymffurfio drwy ddulliau priodol, gan gynnwys dogfennau, sicrwydd gan gyflenwyr, data am burdeb neu brofion, lle bo’n berthnasol
-
dylai busnesau gynnal profion, pan fyddant yn eu defnyddio, yn unol â gofynion a chanllawiau perthnasol
-
dylai busnesau gadw dogfennau ategol tra bo’r cynnyrch ar y farchnad ac am gyfnod priodol wedi hynny
Gofynion cyfreithiol: dogfennau a chofnodion
O dan fframwaith deddfwriaethol yr UE ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a’r fframweithiau tebyg a gymathwyd ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i fusnesau wneud y canlynol:
-
gallu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol
-
sicrhau bod deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd ddod â Datganiad Cydymffurfiaeth
-
cadw dogfennau ategol a rhoi mynediad i awdurdodau cymwys at y rhain ar gais
Mae’r gofynion hyn yn codi o dan fframwaith deddfwriaethol ehangach ar ddeunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Mae’r canllaw hwn yn adlewyrchu’r gofynion hynny, ac nid yw’n cyflwyno’r gofynion nac yn ymhelaethu arnynt.
Ffynonellau allanol o wybodaeth bellach
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi canllawiau’r UE ar weithredu Rheoliad y Comisiwn (UE) 2024/3190 o ran defnyddio bisffenol A a sylweddau cysylltiedig yn fwriadol mewn deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd. Efallai y bydd y ddogfen ganlynol yn ddefnyddiol:
Nodyn yr UE ar gyfer Canllawiau ar weithredu Rheoliad y Comisiwn (UE) 2024/3190
Mae Defra wedi cyhoeddi gwybodaeth i fusnesau ar drefniadau SPS y DU a’r UE: Cytundeb SPS y DU a’r UE – gwybodaeth i fusnesau.
Cysylltu a chymorth pellach
Ar gyfer ymholiadau technegol, cysylltwch ag FCM-BPA@food.gov.uk.
I gael gwybod y diweddaraf, efallai hoffai busnesau gadw llygad ar wefannau’r ASB ac FSS.