Ffurflen

Ffioedd ar gyfer timau (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo) a chanolfannau storio embryonau buchol

Diweddarwyd 5 July 2023

Applies to England, Scotland and Wales

Rhaid i chi dalu ffioedd i wneud cais i gymeradwyo tîm i gasglu a phrosesu embryonau buchol ac i archwilio timau a safleoedd.

Ffioedd ar gyfer cymeradwyo neu ailgymeradwyo

Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p’un a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.

Rhaid i chi dalu £38 (a fydd yn cynyddu i £47 ar 1 Gorffennaf 2024) i wneud cais am y canlynol:

  • cymeradwyo tîm trosglwyddo embryonau buchol (domestig, neu er mwyn masnachu ag Aelod-wladwriaeth neu storfa fferm)
  • cymeradwyo tîm casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, gydag archwiliad labordy neu hab archwiliad o’r fath

Codir ffi o £13 (a fydd yn cynyddu i £16 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer:

  • ailgymeradwyo labordy neu storfa (yn dilyn unrhyw newidiadau)
  • cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol (llai na 8 km i ffwrdd o storfa neu labordy arall yr ymwelwyd ag ef ar yr un diwrnod)

Codir ffi o £34 (a fydd yn cynyddu i £42 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer cymeradwyo storfa neu labordy tîm embryonau ychwanegol sydd dros 8km o storfa neu labordy arall yr ymwelwyd ag ef.

Ffioedd am archwiliadau

Rhaid i chi dalu £23 (a fydd yn cynyddu i £28 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer archwiliadau rheolaidd o dimau a safleoedd.

Os oes gennych dimau, labordai neu storfeydd ychwanegol, rhaid i chi dalu £6 (a fydd yn cynyddu i £7 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer pob archwiliad rheolaidd ychwanegol.

Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir

Rhaid i chi dalu £22 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer amser a dreulir gan APHA. Mae ffioedd am amser a dreuliwyd yn ychwanegol at y ffioedd penodol ar gyfer pob gwasanaeth.

Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio, cymeradwyo a theithio i’r chwarter awr llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.

Sut mae APHA yn cyfrifo amser teithio

Caiff swm y ffi ar gyfer amser teithio ei gyfrifo ar sail y pellter o’r swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio.

Os bydd arolygydd yn cynnal archwiliadau mewn sawl safle cyfagos ar yr un diwrnod, caiff y ffi ar gyfer pob un ei chyfrifo o’r swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio unigol.

Rhoddir terfyn amser teithio o 45 munud bob ffordd, felly ni fydd rhaid i chi dalu mwy na £132 am gostau teithio.

Cyfrifiad ffi enghreifftiol

Cymeradwyo tîm casglu embryonau buchol unigol drwy archwilio un labordy, os treuliwyd 1.5 awr yn cwblhau’r gwaith milfeddygol:

Ffi sefydlog o £38 + £22 x 6 = £170 a ffi amser teithio.

Ffioedd ar gyfer profion labordy ychwanegol

Rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol am unrhyw brofion sydd eu hangen yn dilyn archwiliad. Bydd y labordy yn codi tâl ar wahân arnoch.