Ffioedd ar gyfer archwiliadau, profion a chymeradwyo rhoddwyr mewn canolfannau semen moch
Diweddarwyd 28 Chwefror 2025
Yn berthnasol i Gymru, Loegr a Scotland
Rhaid i chi dalu am eich cais i weithredu fel canolfan ffrwythloni artiffisial.
Rhaid i chi hefyd dalu am archwiliadau a phrofion cysylltiedig.
Sut mae APHA yn codi tâl am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu fesul chwarter awr neu lai am yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn archwilio eich safle ac yn teithio i’ch safle ac oddi yno. Mae ffioedd am amser a dreuliwyd yn ychwanegol at y ffioedd penodol ar gyfer pob gwasanaeth.
Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a theithio i’r chwarter awr llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Sut mae APHA yn cyfrifo amser teithio
Caiff swm y ffi ar gyfer amser teithio ei gyfrifo ar sail y pellter o’r swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio.
Os bydd arolygydd yn cynnal archwiliadau mewn sawl safle cyfagos ar yr un diwrnod, caiff y ffi ar gyfer pob un ei chyfrifo o’r swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio unigol.
Rhoddir terfyn amser teithio o 45 munud bob ffordd, felly ni fydd rhaid i chi dalu mwy na £132 am gostau teithio.
Ffioedd
Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p’un a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.
Gwasaneth | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 | Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024 |
---|---|---|
Amser a dreulir yn cyflawni’r gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn | £22 | £22 |
Amser a dreulir yn teithio i safle ac oddi yno at ddiben cwblhau’r gweithgareddau a nodir yn y tabl hwn | £22 | £22 |
Cais am gymeradwyaeth i gasglu semen baedd at ddibenion ffrwythloni artiffisial (o dan reoliad 2(1) o Reoliadau 1964) | £42 fesul baedd | £53 fesul baedd |
Profion rheolaidd ar gyfer baeddod mewn canolfan ffrwythloni artiffisial | £31 fesul baedd | £38 fesul baedd |
Cais gan weithredwr am drwydded neu gymeradwyaeth ar gyfer canolfan ffrwythloni artiffisial | £37 | £46 |
Cais i gymeradwyo newid i safle trwyddedig neu gymeradwy (yn unol ag amodau trwydded) | £34 | £42 |
Archwiliad rheolaidd o ganolfan ffrwythloni artiffisial | £23 | £28 |
Cyfrifiad ffi enghreifftiol
Cymeradwyo baedd at ddibenion casglu semen os cwblhawyd y gwaith milfeddygol gan un o swyddogion milfeddygol APHA ac y cymerodd 1.5 awr:
Ffi sefydlog o £42 + £22 x 6 = £174 ac amser teithio.
Ffioedd ar gyfer profion labordy ychwanegol
Rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol am unrhyw brofion sydd eu hangen yn dilyn archwiliad. Bydd y labordy yn codi tâl ar wahân arnoch.