Policy paper

Cynllun Gorchfygu Troseddu

Updated 12 October 2021

Applies to England and Wales

Llai o ddioddefwyr, cymdogaethau heddychlon, gwlad ddiogel

Rhagair

Y Prif Weinidog

Os ydym am lwyddo i godi gwastad y wlad hon, rhaid inni roi i bawb y sicrwydd a’r hyder sy’n deillio o gael stryd ddiogel a chartref diogel.

Dyna pam, yn gyntaf fel Maer Llundain ac yn awr fel Prif Weinidog, yr wyf bob amser wedi bod yn gwbl benderfynol o ddod i lawr yn galed ar y troseddwyr sy’n dod â dioddefaint o’r fath i gynifer o fywydau.

A dyna beth mae’r cynllun hwn yn ymwneud ag ef. Gan adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf – miloedd yn fwy o heddlu ar y strydoedd, dedfrydau llymach i’r troseddwyr gwaethaf, degau o filiynau o bunnoedd i wneud ein strydoedd yn fwy diogel ar ôl iddi dywyllu – mae’n cynrychioli’r strategaeth fwyaf cynhwysfawr, pellgyrhaeddol o’i bath a ddyfeisiwyd eto.

Gan gyfuno atal, rhwystro a gorfodi, bydd yn rhoi i’r dynion a’r menywod gwych yn ein system heddlu a chyfiawnder troseddol yr offer sydd eu hangen arnynt i gadw pobl allan o drwbl yn y lle cyntaf, ac i daro’r rhai sy’n parhau i dorri’r gyfraith – p’un a ydynt ar y strydoedd, y tu ôl i ddrysau caeedig neu ar y rhyngrwyd.

Mae’n rhoi i’r mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith y parch a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt ac y maent yn eu haeddu pe byddent yn dioddef unrhyw drosedd. Ac mae’n anfon neges glir iawn i droseddwyr – os ydynt yn dwyllwyr, treiswyr, fandaliaid neu’r unigolion ffiaid sy’n ysglyfaethu ar blant ifanc i redeg gangiau Llinellau Cyffuriau – ein bod yn dod i’ch cael chi.

Ni all yr un ohonom gyflawni ein potensial os ydym yn byw mewn ofn, ni all yr un ohonom godi os cawn ein dal i lawr gan y rhai a fyddai’n gwneud niwed i ni. Os ydym ni fel cymdeithas, fel gwlad, yn mynd i ffynnu’n wirioneddol yna mae’n rhaid i ni ddechrau drwy orchfygu troseddu – ac rwy’n falch bod gan y Llywodraeth hon y cynllun i wneud yr union beth hwnnw.

Y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS Ysgrifennydd Cartref a Y Gwir Anrhydeddus Robert Buckland CF AS Yr Arglwydd Ganghellor

Mae troseddu’n dinistrio bywydau. Yn aml, mae dioddefwyr yn dioddef trawma, anafiadau neu galonnau wedi’u torri. Gall troseddu ddifetha cymdogaethau ac mae’n gwneud niwed economaidd mawr i’n gwlad. Mae’n gwneud i bobl deimlo’n anniogel ar y stryd ac yn eu cartrefi. Mae gweithgarwch troseddol yn ysgogi ac yn ariannu mentrau troseddol enfawr. Gall ymwneud â throseddu osod rhywun ar lwybr sy’n dod â niwed enfawr iddynt hwy eu hunain ac i eraill.

Mae torri ar droseddu’n ganolog i’n cenhadaeth o lefelu’r wlad. Drwy wneud hynny, byddwn yn gwella ansawdd bywyd pawb, ym mhobman. Mae cymunedau diogel yn denu buddsoddiad, yn creu gwell amodau i fusnesau ffynnu ac yn hybu swyddi a chyfleoedd bywyd – gan adfer hyder a balchder pobl yn eu pentrefi, eu trefi a’u dinasoedd.

Yn y Cynllun Gorchfygu Troseddu hwn, nodwn ein strategaeth ar gyfer diogelu’r mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith, gan ddwyn troseddwyr i gyfiawnder yn gyflym a rheoli troseddwyr gyda thrylwyredd a disgyblaeth.

Mae’r Llywodraeth hon eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol ar droseddu. Mae hyn diolch i’r niferoedd cynyddol o swyddogion heddlu ymroddedig sy’n gweithio’n galed, swyddogion yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, staff yr heddlu, erlynwyr, swyddogion prawf a swyddogion carchardai – y mae eu rhengoedd wedi chwyddo ac a fydd yn parhau i dyfu. Rydym wedi buddsoddi’n sylweddol mewn ymgyrchoedd recriwtio newydd, ffocws newydd ar droseddu cyfundrefnol, mwy o gapasiti carchardai, dull doethach o ymdrin â’r fframwaith dedfrydu a goruchwyliaeth sy’n torri ar droseddu ac yn diogelu’r cyhoedd a llawer o fesurau eraill. Yn hytrach na bod yn hunanfodlon, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn dros y cyhoedd.

Byddwn yn gwrthwynebu trais difrifol, troseddu cymdogaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol. Byddwn yn cefnogi’r heddlu i ddiogelu mannau cyhoeddus, gan gynnwys y rhwydwaith trafnidiaeth. Yr ydym bron wedi dyblu’r buddsoddiad yn ein Cronfa Strydoedd Diogelach, fel rhan o ymdrech ddi-baid i wneud ein cymdogaethau’n ddiogel. Gan fod y rhan fwyaf o droseddu’n cael ei gyflawni gan nifer fach o droseddwyr parhaus, byddwn hefyd yn eu rheoli gyda disgyblaeth, cymhellion a chanlyniadau clir – gan eu hannog i droi eu cefnau ar droseddu, gan ddelio’n gadarn â’r rhai sy’n methu â chwarae yn ôl y rheolau.

Mae cyffuriau’n bla ar gymdeithas. Byddwn yn mynd i’r afael â’r cyflenwad a’r galw – gan ddod i lawr yn galetach ar werthwyr cyffuriau, datgymalu gangiau llinellau cyffuriau, gan ei gwneud yn glir nad yw ‘defnydd hamdden’ yn ddiniwed ac yn cefnogi pobl sy’n gaeth i gyffuriau ac alcohol i gyrchu’r gwasanaethau triniaeth sydd eu hangen arnynt i weddnewid eu bywydau.

Bydd Cynllun Gweithredu Newydd yn mynd i’r afael â thwyll, sef y drosedd fwyaf yng Nghymru a Lloegr, i leihau’r niwed difrifol y mae’r drosedd hon yn ei achosi ac i’w wneud yn fwy diogel i bob un ohonom wrth inni fyw ein bywydau. Mae’r bygythiad a achosir gan dwyll i’n heconomi a’r cyhoedd yn un yr ydym yn benderfynol o fynd i’r afael ag ef, gan weithio gyda’r cyhoedd a diwydiant i atal y drosedd a thrwy amharu, mynd ar drywydd a dwyn i gyfiawnder y rhai mwyaf niweidiol. Bydd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yn cael ei chryfhau drwy recriwtio swyddogion ychwanegol a galluoedd newydd a all wrthwynebu’r rhwydweithiau troseddol hyn a alluogir gan dechnoleg. Dim ond y cam cyntaf yw dal troseddwyr. Y cam nesaf yw mynd â nhw i’r llys. Yr ydym yn mynd i gyflymu’r broses a lleihau amseroedd aros yn system y llysoedd.

Byddwn yn sicrhau bod mwy o ddioddefwyr yn cael y cyfiawnder y mae arnynt ei eisiau, ei angen ac y maent yn ei haeddu. Byddwn yn cynyddu ymgysylltiad dioddefwyr o fewn y system llysoedd, gan gynnwys drwy ddeall a gwella profiad dioddefwyr o’r system yn well, drwy roi hwb i’r gefnogaeth i ddioddefwyr drwy gydol y broses a thrwy weithio gyda barnwyr i gyflwyno mesurau arbennig i gefnogi tystion sy’n agored i niwed i roi tystiolaeth.

Bydd newidiadau i’r fframwaith dedfrydu a rhyddhau yn golygu y bydd troseddwyr yn gwneud dedfrydau sy’n adlewyrchu difrifoldeb eu troseddau’n well. Bydd mwy o leoedd mewn carchardai i gadw troseddwyr oddi ar ein strydoedd ac i adsefydlu troseddwyr. Byddwn yn gwella diogelwch mewn carchardai, gan greu’r rheolaeth a threfn sydd eu hangen i ddiwygio ac adsefydlu troseddwyr.

Byddwn yn gwneud mwy i dorri’r cylch o aildroseddu, gan sicrhau bod gan y rhai sy’n gadael y carchar y sylfeini sydd eu hangen arnynt i droi eu cefnau ar droseddu a sicrwydd y bydd methu â gwneud hynny’n arwain at ganlyniadau cyflym a rsicr.

Mae hyn yn golygu bod y Llywodraeth gyfan yn gwneud mwy i sicrhau bod gan y rhai sy’n gadael y carchar rywle i fyw, swydd a mynediad at driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Mae hefyd yn golygu goruchwylio a rheoli troseddwyr yn y gymuned yn fwy trylwyr, drwy Reoli Troseddwyr Integredig a monitro electronig ehangach – i ysgogi cydymffurfiaeth ag amodau prawf ac addysgu’r math o hunanddisgyblaeth sy’n hanfodol i ffyrdd llwyddiannus o fyw. Byddwn hefyd yn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu gweld yn glanhau cymdogaethau fel modd gwneud iawn am eu troseddau, fel bod cyfiawnder yn cael ei wneud ac y gwelir ei fod yn cael ei wneud.

Er mwyn atal a chanfod troseddau, rhaid i bob un ohonom gydnabod pwysigrwydd diogelu a chefnogi dioddefwyr. Dim ond drwy wneud hynny y gallwn sicrhau bod troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfiawnder. Rhaid i ddioddefwyr gael eu clywed a’u helpu ar bob cam o’r broses – a rhaid i hyn gael ei adlewyrchu mewn deddfwriaeth.

Felly, byddwn yn ymgynghori ar Ddeddf Dioddefwyr a fydd yn codio eu hawliau mewn deddfwriaeth ac yn dwyn asiantaethau cyfiawnder troseddol i gyfrif am eu cyflawni. Bydd y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn dioddefwyr a’u cefnogi i ailadeiladu eu bywydau, a bydd mechnïaeth cyn cyhuddo yn cael ei diwygio i wella diogelwch dioddefwyr a thystion.

Bydd cynlluniau newydd ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol yn mynd i’r afael â phob agwedd ac effaith y troseddau ffiaidd hynny. Byddwn yn grymuso dioddefwyr i ddod ymlaen drwy ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus. Mae Cynllun Gweithredu’r Adolygiad Treisio yn dangos sut y bydd canlyniadau cyfiawnder yn cael eu gwella ar gyfer y drosedd hon sydd wedi’i than-gollfarnu’n fawr, gan gynnwys drwy ddarparu gwell cymorth i ddioddefwyr gan Gynghorwyr Trais Rhywiol Annibynnol.

Byddwn hefyd yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu ffonau a thechnoleg arall yn ôl yn gynt os byddant yn eu cyflwyno fel tystiolaeth.

Mae ein gwlad wedi dioddef cyfnod digynsail yn ei hanes sydd wedi gwneud galwadau enfawr ar bob un ohonom. Mae wedi gweld rhai mathau o droseddu’n cynyddu. Mae pob trosedd yn bygwth yr ymdeimlad o agosatrwydd y mae pobl Prydain wedi gweithio mor galed i’w adeiladu. Wrth i ni ddod allan o’r pandemig COVID, mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu’n ôl yn fwy diogel.

Mae’r Cynllun Gorchfygu Troseddu hwn yn dangos dyfnder ein hymrwymiad a dyma ein glasbrint ar gyfer torri troseddu, cynyddu hyder yn y system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd a rhoi dioddefwyr yn gyntaf. Mae hefyd yn dangos tystiolaeth o’n hymrwymiad i gefnogi’r dynion a’r menywod ymroddedig a gweithgar o bob rhan o’n system cyfiawnder troseddol sy’n ein cadw’n ddiogel. Yn union fel hwy, wrth inni barhau i symud ymlaen a gorchfygu troseddu, byddwn ni â ffocws, yn ddeallus ac yn ddi-ildio.

Crynodeb Gweithredol

Mae troseddu’n bla ar ein cymdeithas. Heb ei herio, mae’n tyfu ac yn dinistrio bywydau unigolion a theuluoedd, gan ddwyn eu hymdeimlad o ddiogelwch ac ansawdd eu bywyd. Mae’n tanseilio ac yn dinistrio’r cymdogaethau a alwn yn gartref. Mae gan bob un ohonom hawl i fyw bywyd heb falltod troseddu ac mae’n rhaid i’r rhai sy’n dewis torri ein deddfau wynebu cyfiawnder.

Mae’r Cynllun Gorchfygu Troseddu yn ei gwneud yn glir bod y Llywodraeth hon ar ochr y mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith, ac yn nodi sut y byddwn gyda’n gilydd yn cyflawni ein gweledigaeth gyffredin o lai o ddioddefwyr, cymdogaetiau heddychlon a gwlad fwy diogel.

Er bod troseddu cyffredinol wedi bod yn gostwng ers peth amser, gwyddom nad yw hyn yn realiti a gydnabyddir nac a fwynheuir gan bawb. Gwyddom hefyd, hyd yn oed pan fydd troseddu’n gostwng, fod y cyhoedd, a hynny’n briodol, yn disgwyl inni fod â ffocws, yn ddeallus ac yn ddi-ildio wrth barhau i’w leihau ymhellach.

A thros y degawd diwethaf, rydym hefyd wedi gweld cynnydd pryderus yn rhai o’r troseddau mwyaf dinistriol a niweidiol, megis dynladdiad a throseddau cyllyll, gyda chyffuriau’n chwarae rhan flaenllaw.

Mae’r pandemig COVID-19 wedi gwneud darlun heriol hyd yn oed yn fwy llym ac yn fwy cymhleth. Rydym wedi gweld mwy o alw ar yr heddlu i orfodi rheolau’r cyfyngiadau symud, ochr yn ochr â gostyngiad sylweddol mewn sawl math o drosedd gan fod symudiadau troseddwyr wedi’u cyfyngu. Fodd bynnag, symudodd troseddwyr eu gweithgarwch ar-lein a cheisio manteisio ar gyfleoedd digidol ar gyfer twyll a throseddu.

Wrth i ni ddatgloi ac wrth i ymdeimlad o normalrwydd ddychwelyd i’n bywydau, mae’r Cynllun hwn yn nodi ein dull strategol o leihau troseddu. Mae’n adeiladu ar fuddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth yn y system cyfiawnder troseddol ac yn ategu ein strategaethau presennol ar gamdrin plant yn rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched. Mae bron i 9,000 o heddweision ychwanegol wedi cael eu recriwtio ers 2019, mae dros 440 o erlynwyr newydd wedi’u recriwtio, ac rydym wedi buddsoddi mewn 1,000 o swyddogion prawf ychwanegol a 18,000 o leoedd newydd yn y carchardai.

Mae’r Cynllun hwn yn nodi ein penderfyniad i fynd ymhellach. Mae’n nodi ein dull strategol o weithredu: torri dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth; datgelu a rhoi terfyn ar niwed cudd; a meithrin gallu a chapasiti i ddelio â thwyll a throseddau ar-lein. Mae’n cyd-fynd â’n gwaith arall ar niwed cudd, yn ogystal â’r gwaith a fydd yn dilyn yn ddiweddarach eleni pan fyddwn yn cyhoeddi ein strategaethau ar gyfer cam-drin domestig a seiberddiogelwch cenedlaethol.

Canolbwyntir dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth mewn cymdogaethau penodol, gyda bron i chwarter y troseddau cymdogaeth wedi’u crynhoi mewn dim ond 5% o ardaloedd lleol. Gwyddom hefyd fod llawer o’r troseddau hyn wedi’u cyflawni gan nifer fach o droseddwyr parhaus, gyda dim ond 5% o droseddwyr yn cyfrif am hyd at 50% o’r holl droseddau. Yn aml, mae cyffuriau’n chwarae rhan flaenllaw; ac yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 roedd 48% o achosion o ddynladdiad yn gysylltiedig â chyffuriau.

Dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar y mannau lle mae’r troseddau hyn yn digwydd, y bobl sy’n eu cyflawni a’r mentrau troseddol sy’n ysgogi’r fasnach gyffuriau. Mae gennym sylfeini cadarn eisoes ar waith i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol troseddu. Yr ydym wedi buddsoddi mewn cryfhau ein gallu i fynd i’r afael â’r troseddau hyn a’r fasnach gyffuriau sy’n sail iddynt, gan gynnwys £70 miliwn yn y Gronfa Strydoedd Diogelach, £105.5 miliwn mewn Unedau Lleihau Trais, £165 miliwn yn y Gronfa Cefnogi Teuluoedd a £65m i fynd i’r afael â chyflenwi cyffuriau a llinellau cyffuriau.

Mae’r cynllun hwn yn cyflwyno mesurau newydd beiddgar i leihau troseddu:

  • Ailgysylltu’r heddlu â’r cyhoedd. Byddwn yn sicrhau y bydd gan bob unigolyn sy’n byw yng Nghymru a Lloegr fynediad i’r heddlu yn ddigidol drwy blatfform cenedlaethol ar-lein, gan ganiatáu iddynt gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau heddlu rhyngweithiol mewn un lle cydgysylltiedig, gan gynnwys manylion am eu swyddogion heddlu cymdogaeth a’u manylion cyswllt fel y gallant godi unrhyw bryderon gyda’u swyddogion cymdogaeth yn uniongyrchol.

  • Gwella ymatebolrwydd yr heddlu lleol i alwadau 101 a 999 drwy weithio gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi a’r Gwasanaethau Tân ac Achub i ddatblygu tablau cynghrair ar gyfer ateb galwadau a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pa mor ymatebol yw eu llu lleol pan fyddant yn eu galw am help.

  • Ymyrryd yn gynnar i gadw pobl ifanc yn ddiogel ac i ffwrdd o drais – gan gynnwys pecyn newydd gwerth £17 miliwn sy’n canolbwyntio ar y rhai a dderbyniwyd i’r adran damweiniau ac achosion brys gydag anaf cyllell neu ar ôl dod i gysylltiad â’r heddlu.

  • Buddsoddi dros £45 miliwn mewn timau arbenigol mewn ysgolion prif ffrwd a Darpariaeth Amgen mewn mannau problemus lle ceir llawer o drais difrifol i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn trais i ailymgysylltu ag addysg.

  • Ehangu ein defnydd o fonitro electronig ar gyfer troseddwyr meddiangar difrifol i 13 o ardaloedd heddlu eraill – sy’n cwmpasu hanner y wlad – a sicrhau bod symudiadau llawer mwy o droseddwyr cymdogaeth yn cael eu tracio ar ôl eu rhyddhau o’r carchar, gan gefnogi’r gwasanaeth prawf a’r heddlu i atal a chanfod troseddau meddiangar pellach.

  • Treialu’r defnydd o dagiau alcohol – sy’n canfod alcohol yn chwys troseddwyr sy’n euog o droseddau sy’n cael eu hysgogi gan ddiod – ar y rhai sy’n gadael y carchar yng Nghymru i helpu i newid ymddygiad a lleihau trais a throseddau eraill sy’n gysylltiedig ag alcohol.

  • Annog pobl sy’n gadael y carchar i droi eu cefnau ar droseddu drwy sicrhau cyflogaeth. Byddwn yn cynnal uwchgynhadledd yn ddiweddarach eleni i ddod â chyflogwyr at ei gilydd i annog mwy o bobl sy’n gadael y carchar i gael gwaith a throi eu cefnau ar droseddu. Byddwn yn arwain y ffordd gyda’r nod o recriwtio 1,000 o bobl sy’n gadael carchardai i rolau’r Gwasanaeth Sifil erbyn diwedd 2023.

  • Grymuso’r heddlu i dynnu mwy o gyllyll oddi ar y strydoedd ac atal trais difrifol drwy lacio amodau’n barhaol ar ddefnyddio pwerau stopio a chwilio adran 60.

  • Ehangu’r rôl ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs) – byddwn yn lansio ail ran ein Hadolygiad PCC i roi’r offer a’r ysgogiadau sydd eu hangen ar PCCs i leihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu hardaloedd lleol.

Mae’r Cynllun hefyd yn cynnwys tactegau a buddsoddiad newydd i ddelio â phroblem cyffuriau anghyfreithlon, y gwyddom eu bod yn sbardun allweddol i’r troseddau hyn. Mae’r cynllun yn cyd-fynd â’r ymagwedd o’r dechrau i’r diwedd tuag at gyffuriau y mae’r Llywodraeth yn ei nodi yn ei hymateb i adolygiad y Fonesig Carol Black.

Mae mesurau i fynd i’r afael â chyffuriau yn cynnwys:

  • Buddsoddi £31 miliwn i ehangu’r Prosiect ADDER[footnote 1] – sy’n cyfuno gorfodi’r gyfraith yn galed gyda mwy o ddarpariaeth o wasanaethau triniaeth ac adfer – i wyth awdurdod lleol newydd ledled y wlad.

  • Cynyddu defnydd yr heddlu o brofion cyffuriau wrth arestio mynd i’r afael â defnyddio cyffuriau hamdden a sicrhau bod y rhai sy’n ymwneud â throseddu ar ôl defnyddio cyffuriau yn cael eu nodi.

  • Cynnal uwchgynhadledd drawslywodraethol llunio pecyn cynhwysfawr o fesurau a fydd yn lleihau’r galw am gyffuriau anghyfreithlon ac yn mynd i’r afael â’r heriau hyn ar draws cymdeithas.

Er mwyn cyflawni’r Cynllun Gorchfygu Troseddu, mae angen i bawb chwarae eu rhan. Mae’r Prif Weinidog yn ysgogi cyflawni, ac yr ydym yn dibynnu ar bawb sy’n gysylltiedig o Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu i Fyrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol i wireddu’r weledigaeth hon. Gyda’n gilydd gallwn orchfygu troseddu.

Pennod 1 – Cyflwyniad

Mae torri ar droseddu’n ganolog i’n cenhadaeth o lefelu’r wlad. Drwy leihau lefelau troseddu, byddwn yn gwella ansawdd bywyd pawb, ym mhobman. Mae lle diogel yn lle mwy llewyrchus. Mae cymdogaethau diogel yn denu buddsoddiad ac yn creu gwell amgylchiadau i fusnesau ffynnu. Maent yn hybu cyfleoedd cyflogaeth a chyfleoedd bywyd, gan adfer hyder a balchder pobl yn eu pentrefi, eu trefi a’u dinasoedd.

1.1 Y broblem

Yn ôl Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr, mae troseddu wedi bod yn gostwng ers peth amser. Rhwng 2009-10 a 2019-20, gostyngodd troseddau cyffredinol yn ein gwlad o 41%[footnote 2]. Yn ystod yr un cyfnod, gostyngodd trais o 33% a dwyn o 34%[footnote 3].

Amcangyfrifon troseddu gan CSEW a TCSEW, 1981 i 2020-21.

Crime estimates from the CSEW and TCSEW, 1981 to 2020-21.

Ond, nid yw hon yn realiti sy’n cael ei chydnabod gan y cyhoedd ac rydym yn rhannu eu penderfyniad i weld brwydr o’r newydd yn erbyn troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwyddom nad yw pawb wedi mwynhau gostyngiadau mewn troseddu yn gyfartal yn y degawdau diwethaf. At hynny, tua diwedd y cyfnod hwn, dechreuodd rhai mathau o droseddau godi. Cododd dynladdiad o 35% rhwng 2013-14 a 2016-17[footnote 4]. Cafwyd cynnydd o 41% hefyd yn nifer y derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer ymosodiadau gyda gwrthrych miniog, sy’n ddangosydd allweddol o drais difrifol, yn Lloegr rhwng 2014-15 a 2018-19[footnote 5]. Mae troseddau cymdogaeth[footnote 6] hefyd wedi dangos rhywfaint o gynnydd, gyda chynnydd o 16% rhwng 2016-17 a 2018-19[footnote 7].

Mae cynnydd tebyg wedi digwydd dramor. Mae’r UD a Chanada wedi gweld tueddiadau tuag i fyny yn eu cyfraddau dynladdiad[footnote 8]. Mae hyn yn cael ei ysgogi’n rhannol gan y fasnach gyffuriau ffyrnig a gweithredol ac mae’r cyflenwad cyffuriau byd-eang yn ffynnu: cynhyrchiant cocên wedi mwy na dyblu rhwng 2014 a 2019[footnote 9].

Dyna pam ym mis Gorffennaf 2019, mae’r Prif Weinidog wedi sefyll ar risiau Downing Street ac addo gwneud beth bynnag sydd ei angen i leihau troseddu, rhoi terfyn ar rwydweithiau delio cyffuriau llinellau cyffuriau, ac adfer trefn i’n gwlad.

  • Mae bron i 9,000 ychwanegol o swyddogion yr heddlu wedi cael eu recriwtio[footnote 10]
  • Mae mwy na 440 …o erlynwyr newydd wedi’u recriwtio
  • Mae 3,900 mwy o swyddogion carchar nag yn 2016[footnote 11]
  • 1,000 mae … o swyddogion prawf ychwanegol gyda 1,500 yn fwy ar y ffordd
  • Rydym yn buddsoddi mewn 18,000 … o leoedd newydd mewn carchardai

Rydym wedi cyflwyno ffocws brys i drais difrifol a dynladdiad, gan roi buddsoddiad i’r heddlu i’w helpu i wneud eu gwaith, gan roi £65 miliwn i ddatgymalu llinellau cyffuriau a chyflenwad cyffuriau, yn ogystal ag ariannu rhwydwaith o Unedau Lleihau Trais (VRUs) i atal trais ymhell cyn iddo ymafael mewn pobl ifanc.

Rydym wedi rhoi’r pwerau sydd eu hangen i’r heddlu i gael arfau oddi ar y strydoedd drwy lacio amodau gwirfoddol yn barhaol ar bwerau stopio a chwilio Adran 60, cyflwyno Gorchmynion Atal Troseddau Cyllyll i atal y rhai sydd fwyaf mewn perygl rhag cario cyllyll, a dechrau darpariaethau yn Neddf Arfau Ymosodol 2019 i wahardd amrywiaeth o gyllyll, arfau ac arfau penodol. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn datblygu a gweithredu dulliau newydd, arloesol a fydd yn helpu yn y tymor hir i atal trais difrifol drwy’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid 10 mlynedd gwerth £200 miliwn.

Gwyddom o’r data bod ein dull gweithredu yn gweithio. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020, gostyngodd troseddu o 9%. Gostyngodd trais difrifol o 8% a gostyngodd troseddau cymdogaeth o 12%[footnote 12]. O ganlyniad i’n cyllid i roi terfyn ar linellau cyffuriau, mae mwy na 1,100 o linellau wedi’u cau, dros 6,300 o arestiadau wedi’u gwneud, dros £2.9 miliwn mewn arian parod wedi’i atafaelu a symiau mawr o gyffuriau wedi’u hatafaelu[footnote 13]. Drwy’r gwaith hwn, mae’r heddlu wedi diogelu mwy na 1,900 o bobl agored i niwed y mae’r gwerthwyr cyffuriau wedi camfanteisio arnynt.

Mae Ymgyrch Venetic, dan arweiniad yr NCA, yr ymgyrch fwyaf o’i fath ym maes gorfodi’r gyfraith yn hanes y DU, wedi llwyddo i dargedu defnyddwyr dyfeisiau wedi’u hamgryptio sy’n defnyddio’r platfform enwog ‘EncroChat’. Mae’r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol, gyda 746 o arestiadau, gan gynnwys llawer o gangiau mawr ac atafaelu 77 o gynnau, dros 1,800 o rowndiau o fwledi, mwy na dwy dunnell o gyffuriau Dosbarth A a B, 55 o geir crand a 73 o watshis moethus gan droseddwyr. Mae’r gwaith ar y drysorfa hon o gudd-wybodaeth yn parhau, ag effaith sylweddol ar gangiau troseddu ledled y DU.

Fodd bynnag, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae COVID wedi gwneud ein her yn fwy cymhleth nag erioed. Wrth i ni roi’r cyfyngiadau angenrheidiol ar waith i achub bywydau, bu gostyngiad sylweddol mewn rhai troseddau. Gan fod symudiadau pobl yn gyfyngedig, gwrthodwyd targedau arferol i droseddwyr oportiwnistaidd, fel lladron a byrgleriaid. Yng Nghymru a Lloegr, bu gostyngiad o 10% yng nghyfanswm y troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yn 2020-21 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, wedi’i ysgogi gan ostyngiad o 32% mewn troseddau dwyn[footnote 14].

Roedd y gostyngiad mewn troseddu yn caniatáu i’r heddlu fod yn fwy rhagweithiol. Fel y trafodwyd yn yr Uwchgynhadledd Niwed Cudd fis Mai diwethaf, drwy gydol y pandemig mae gorfodi’r gyfraith wedi cydweithio â phartneriaid lleol i addasu ei ymateb i’r bygythiad newidiol i nodi a diogelu unigolion sy’n agored i niwed, yn ogystal â defnyddio mwy o gapasiti ar gyfer gweithredu ataliol. Sefydlwyd cynlluniau peilot plismona rhagweithiol gennym i fynd i’r afael â cham-drin domestig yn Sussex, Cumbria a De Cymru. Mae’r cynlluniau peilot yn profi dulliau newydd o gyrraedd dioddefwyr; sefydlu cydweithio rhwng yr heddlu a’r gwasanaeth prawf i roi dull cadarn ar waith ar gyfer cyflawnwyr yn y gymuned ar drwydded; a chryfhau’r gallu i adnabod cyflawnwyr niwed uchel, gan roi mesurau ataliol neu aflonyddgar ar waith i atal aildroseddu.

Yn ogystal, yn ystod y cyfyngiadau symud, roedd yr heddlu hefyd yn gallu canolbwyntio eu hadnoddau hyd yn oed yn fwy ar gyffuriau. Cynyddodd troseddau, megis meddiannu cyffuriau a masnachu mewn cyffuriau, sy’n golygu bod mwy o droseddwyr cyffuriau wedi’u targedu gan yr heddlu. O ganlyniad i ymdrechion yr heddlu, bu cynnydd o 14% yn nifer y troseddau a riportiwyd ac a gofnodwyd yn 2020-21[footnote 15].

Hyd yn oed gyda’r ymdrech gynyddol hon, parhaodd delio â chyffuriau trwy’r llinellau cyffuriau i blagio’r genedl, a gwelsom gangiau’n symud o ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd i ddefnyddio ffyrdd yn fwy. Roedd cyfyngiadau symud hefyd yn annog troseddwyr i fynd â’u gweithgareddau ar-lein, gan geisio dwyn ein gwybodaeth bersonol neu hacio i mewn i systemau busnes a dal unigolion a busnesau am bridwerth.

Wrth i’r cyfyngiadau a osodwyd ar gymdeithas i ddelio â’r pandemig lacio, rydym yn gweld rhai codiadau mewn troseddu eto, er mai’r arwyddion cynnar yw y bydd y rhain yn is na’r lefel cyn COVID.

Yn wyneb yr heriau hyn, mae ein penderfyniad i leihau troseddu ac adeiladu’n ôl yn fwy diogel yn gryfach nag erioed. Dyma ein cynllun i orchfygu troseddu.

1.2 Ein huchelgais

Ein huchelgais yw cynyddu ymddiriedaeth yn ein system cyfiawnder troseddol yn ei chyfanrwydd. Bydd ein cynllun i fynd i’r afael â throseddu yn sicrhau’r newid y mae ar Brydain ei angen, gyda llai o droseddu, llai o ddioddefwyr, a gwlad fwy diogel.

Rhaid i’r mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith gredu y bydd dioddefwyr troseddu’n gweld cyfiawnder yn cael ei wneud; y bydd y rhai sy’n dewis torri ein deddfau yn cael eu canfod a’u dwyn i gyfiawnder; ac, wedi iddynt gael eu collfarnu, y bydd troseddwyr yn cael eu rheoli’n briodol i sicrhau na fyddant yn troseddu eto. Maent am ein gweld yn gweithredu’n ddeallus ac yn galed o ran atal a chanfod troseddau. Ac maen nhw am i ddioddefwyr a’u lles fod wrth wraidd popeth a wnawn. Dyna pam yr ydym yn mabwysiadu dull wedi’i dargedu i orchfygu troseddu, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol.

1. Torri dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth

Yr ydym yn mynd i’r afael ar frys â’r codiadau yr ydym wedi’u gweld yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn dynladdiad, trais difrifol, a throseddau cymdogaeth megis lladradau a bwrgleriaeth. Mae’r troseddau hyn yn ddychrynllyd, yn difetha bywydau ac yn anfon siocdonnau trwy deuluoedd a chymdogaethau. Maent yn taro ar ein hymdeimlad o ddiogelwch yn ein cartrefi, ar ein strydoedd, ac yn ein gwlad.

Dyna pam mae’r Cynllun GorchfyguTroseddu yn ymrwymo’r Llywodraeth gyfan i wneud popeth o fewn ei gallu i leihau’r troseddau hyn.

2. Datgelu a rhoi terfyn ar niwed cudd ac erlyn cyflawnwyr

Mae cam-drin domestig, camfanteisio’n rhywiol ar blant, treisio, a mathau eraill o drais rhywiol yn droseddau erchyll. Yn aml wedi’u cuddio o’r farn gyhoeddus, gall y troseddau hyn olygu nad yw cartref yn lle diogel.

Mae’r cynllun hwn yn nodi’r heriau unigryw y maent yn eu hachosi a’r dull yr ydym yn ei gymryd i fynd i’r afael â phob un ohonynt, gyda strategaethau i adlewyrchu eu cymhlethdod.

3. Meithrin gallu a chapasiti i ddelio â thwyll a throseddau ar-lein

Wrth i ni ddibynnu fwyfwy ar dechnoleg a gwario cyfrannau mwy o’n bywydau ar-lein, mae troseddwyr yn ceisio manteisio ar ba bynnag gyfleoedd digidol y gallant. Mae troseddau sy’n gysylltiedig â thwyll a seiber yn tyfu’n gyflym ac maent bellach yn cynnwys dros 50% o’r holl droseddau[footnote 16].

Mae’r rhain yn fygythiadau hirdymor y mae’n rhaid inni fynd i’r afael â hwy yn awr, er lles dioddefwyr unigol ond hefyd er iechyd ein heconomi. Mae’r cynllun hwn yn amlinellu sut yr ydym eisoes yn buddsoddi mewn ffyrdd i fynd i’r afael â’r troseddau hyn yn ogystal â sicrhau ein bod yn un cam ar y blaeni’r troseddwyr.

Nid yw troseddau ar-lein wedi’u cyfyngu i ymdrechion gan droseddwyr i dwyllo pobl neu fusnesau na’u dal am bridwerth. Fe’i defnyddir hefyd i ledaenu casineb, neu i werthu arfau neu sylweddau anghyfreithlon, neu gan gamdrinwyr i symud eu hymddygiad troseddol ar-lein. Mae troseddu ar-lein mor ddifrifol â throseddu all-lein. Bydd ein Bil Diogelwch Ar-lein yn gosod dyletswydd gofal gyfreithiol newydd ar gwmnïau perthnasol, a bydd angen iddynt gyfyngu ar ledaeniad cynnwys anghyfreithlon a gweithgarwch niweidiol ar-lein a chael gwared ar gynnwys anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu y bydd llai o gynnwys anghyfreithlon ar-lein a, phan fydd yn ymddangos, caiff ei ddileu’n gyflymach. Bydd y Bil yn destun craffu cyn deddfu yn y sesiwn Seneddol bresennol.

1.3 Cwmpas Daearyddol

Cwmpas daearyddol y Cynllun hwn yw Cymru a Lloegr. Mae’r materion hyn wedi’u datganoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae atal troseddu a phlismona yn faterion a gadwyd yn ôl yng Nghymru, fel y mae’r llysoedd, barnwyr ac achosion sifil a throseddol. Mae nifer o faterion penodol a gadwyd yn ôl yng Nghymru hefyd sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y cynllun hwn, gan gynnwys: camddefnyddio cyffuriau, pwnc Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015, cofnodion troseddol, ac arfau tanio a chyllyll.

Fodd bynnag, mae’r dull eang o fynd i’r afael â throseddu, a nodir yn y cynllun hwn, hefyd yn defnyddio rhai materion datganoledig pwysig yng Nghymru, gan gynnwys iechyd, addysg ac awdurdodau lleol. Felly, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a chyrff datganoledig eraill yng Nghymru i weithredu’r Cynllun. Byddwn hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i sicrhau dull effeithiol a chydlynol ledled y DU o ymdrin â’r materion hyn.

Pennod 2 – Torri dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth

2.1 Y broblem

Mae dynladdiad, trais difrifol, a throseddau cymdogaeth yn taro ar ein hymdeimlad o le. Lle rydyn ni’n byw, magu plant, gweithio, chwarae a theithio. Heb ei drin, gallant gael effaith ddifaol ar ddioddefwyr, cymdogaethau, trefi a dinasoedd. Gall y troseddau hyn arwain at ymdeimlad cyfunol o ofn, gydag ardaloedd yn cael enw gwael sy’n atal buddsoddiad, yn cadarnhau tlodi, ac yn niweidio rhagolygon i’n pobl ifanc. Felly, mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymo i ganolbwyntio ei hymdrechion ar wynebu’r troseddau hyn wrth inni adeiladu’n ôl yn fwy diogel.

Dynladdiad

Dynladdiad – lladd person gan law person arall – yw’r drosedd fwyaf difrifol. Fel cymaint o droseddu, mae’n syrthio’n galetaf ar y tlotaf. Cynyddodd nifer y dynladdiadau o 35% rhwng 2013-14 a 2016-17[footnote 17], gyda’r gyfradd dynladdiad gyfartalog fesul poblogaeth yn y 10% o ardaloedd mwyaf difreintiedig saith gwaith yn fwy na’r gyfradd yn y 10% lleiaf difreintiedig[footnote 18].

Mynegai Dynladdiad: Dynladdiadau o 07/08 i 17/18

Homicide Index: Homicides from 07/08 to 17/18.

Yn anffodus, mae pobl ifanc 16 i 24 oed yn fwy tebygol na grwpiau hŷn o farw wrth ddwylo un arall. A chanfu’r adroddiad gan y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig fod 24 o ddioddefwyr du ar gyfer pob dioddefwr gwyn o ddynladdiad 16-24 oed yn 2018-19[footnote 19]. Er bod 73% o’r dioddefwyr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020 yn ddynion, lladdwyd 58% o ddioddefwyr dynladdiad benywaidd gan rywun yr oeddent yn ei adnabod, megis partner neu gyn-bartner[footnote 20]. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd o ran lleihau dynladdiad ond gwyddom fod mwy i’w wneud. Gostyngodd nifer y dynladdiadau o 16% yn 2020-21 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, ond rhaid inni ei leihau ymhellach[footnote 21].

Trais difrifol

Trais difrifol– fel troseddau sy’n cynnwys cyllyll neu gynnau – yn gallu arwain at ganlyniadau sy’n newid bywydau’r rhai sy’n gysylltiedig.

  • cododd derbyniadau i’r ysbyty am ymosod gyda gwrthrych miniog yng Nghymru a Lloegr o 41% rhwng 2014-15 a 2018-19[footnote 22]
  • a chynyddodd troseddau’n ymwneud ag arfau tanio o 42% rhwng 2013-14 a 2018-19[footnote 23]

Mae newidiadau i’r farchnad gyffuriau, fel y model llinellau cyffuriau o ecsbloetio, yn cynyddu’r codiadau hyn yn rhannol wrth i gangiau frwydro dros reoli tiriogaeth a thalu’r pwyth. Roedd y troseddau hyn hefyd yn taro’r tlotaf yn galetaf, gyda’r pumed ran dlotaf o bobl yn cael cyfraddau derbyn i’r ysbyty am anafiadau a achoswyd gan drais bum gwaith yn uwch na rhai’r pumed ran fwyaf cefnog[footnote 24].

Gwyddom hefyd eu bod yn effeithio’n anghymesur ar bobl dduon[footnote 25]. Mae ein dull o leihau trais difrifol yn llwyddo. Mae derbyniadau i’r ysbyty wedi gweld gostyngiad o 8% a 14% o flwyddyn i flwyddyn yn 2019-20 a 2020-21 yn y drefn honno,[footnote 26] ac roedd troseddau’n ymwneud ag arfau tanio 14% yn is yn y flwyddyn hyd at 2020-21 nag yn y flwyddyn flaenorol[footnote 27]. Ond mae’n rhaid i ni fynd ymhellach ac atal mwy o deuluoedd rhag colli eu plant i drywaniadau difeddwl.

Mae troseddau cymdogaeth

Mae troseddau cymdogaeth– sy’n cynnwys lladrata sy’n gysylltiedig â cherbydau, bwrgleriaeth ddomestig, lladrata oddi wrth y person (gan gynnwys lladrata o bocedi) a lladrata eiddo personol – yn fwy cyffredin, gyda thua dwy filiwn o droseddau bob blwyddyn yn erbyn aelwydydd ac unigolion. Mae bwrgleriaeth, sy’n halogi cartrefi, ac sydd yn drosedd arbennig o ddinistriol ac yn un – ynghyd â throseddau cymdogaeth eraill ac ymddygiad gwrthgymdeithasol - yr ydym yn benderfynol o’i leihau. Cyn y pandemig, gostyngodd troseddau cymdogaeth o 12% rhwng 2018-19 a 2019-20[footnote 28].

Bydd y cynllun hwn yn sicrhau ein bod yn lleihau’r troseddau hyn ymhellach ac yn gyflymach.

Troseddau cymdogaeth yn ôl math o drosedd

Offence percentage
Dwyn sy’n gysylltiedig â cherbydau 45%
Byrgleriaeth domestig 30%
Dwyn o’r person 19%
Lladrad 6%

Data ffynhonnell: wedi’i seilio ar Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020.

Y tu hwnt i’r troseddau hyn, gwyddom hefyd am yr effaith ddinistriol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chael ar unigolion a chymdogaethau. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael ei ddiffinio fel ymddygiad gan berson sy’n achosi, neu sy’n debygol o achosi, aflonyddu, braw neu ofid i unrhyw berson.

Gellir ei dargedu at berson neu grŵp penodol, gall achosi niwsans, annifyrrwch a dioddefaint i gymuned a gall effeithio ar yr amgylchedd ehangach, megis mannau neu adeiladau cyhoeddus. Mae’r cyhoedd yn teimlo bod ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn gostwng yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf, er y gallai’r duedd honno fod yn newid[footnote 29]. Rydym yn benderfynol o sicrhau bod yr offer sydd ar gael i’r rhai sy’n ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu defnyddio’n effeithiol.

2.2 Ein hymagwedd

Mae dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth wedi’u crynhoi o amgylch ‘mannau problemus’. Maent yn aml yn cael eu hysgogi gan gyffuriau, ac maent yn ymwneud yn anghymesur ag ad-droseddwyr.

  • mae pobl sy’n gaeth i gyffuriau yn cyflawni 45% o droseddau meddiangar (ac eithrio twyll)[footnote 30]
  • ac, yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020, roedd 48% o ddynladdiadau yn gysylltiedig â chyffuriau[footnote 31]

Amcangyfrifir bod 314,000 o[footnote 32] ddefnyddwyr opiadau a crack cocên sy’n cynhyrchu tua 95% o gostau troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau[footnote 33].

Er mwyn lleihau dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth, rydym wedi datblygu dull clir sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall pob heddlu a phartneriaeth cyfiawnder troseddol gyd-fynd ag ef. Bydd hyn yn galluogi pawb yn y teulu sy’n ymladd troseddu – yr heddlu, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (PCCs)[footnote 34],erlynwyr, carchardai, prawf – yn ogystal â phartneriaid eraill, megis ysgolion, grwpiau Comisiynu Clinigol ac, o 2022, Systemau Gofal Integredig, a busnesau – i gydweithio a mabwysiadu dull cyson, seiliedig ar ddata a phenodol o ymladd yn erbyn ac atal troseddu.

Wrth wraidd ein strategaeth i leihau dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth mae ymyriadau wedi’u targedu i fynd i’r afael â lleoedd, pobl a mentrau troseddol, wedi’u hategu gan ragoriaeth yn y pethau sylfaenol. Gall mynd i’r afael â dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth gynnwys cyfuniad o’r ffactorau hyn, ond bydd dealltwriaeth ddofn o bob un, a defnydd cyson a pharhaus o’r pedwar, yn arwain at ganlyniadau.

2.3 Rhagoriaeth yn y pethau sylfaenol

Mae gan bobl Prydain set o ddisgwyliadau sylfaenol o’r system cyfiawnder troseddol. Mae cymorth i’r heddlu a’r llysoedd yn aml yn seiliedig ar brofiad personol. Mae’r cyhoedd, a hynny’n briodol, yn disgwyl gallu cysylltu â’u heddlu lleol – i allu gwybod eu henwau, gallu eu cyrraedd, gallu eu gweld yn eu cymdogaeth, ac i’r heddlu weithio gyda nhw i wynebu troseddu a gwneud eu strydoedd yn fwy diogel.

Os byddant yn dioddef byrgleriaeth, maent yn disgwyl ymchwilio iddi a bod yr heddlu’n mynychu i sicrhau unrhyw dystiolaeth. Os ydynt yn darparu tystiolaeth i’r heddlu, maent am iddi gael ei dilyn ac iddynt gael y wybodaeth ddiweddaraf. Os nad yw eu hachos yn mynd rhagddo, maent am wybod pam. Maent am i droseddwyr gael eu dal a’u cosbi amaent am i gangiau sy’n loetran yn eu hardal leol gael eu trin. Pan fydd achos yn mynd rhagddo, maent am i gyfiawnder fod yn gyflym ac yn sicr, ac i’r gosb fod yn addas i’r drosedd.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Er mwyn helpu’r heddlu i fodloni’r disgwyliadau hyn, rydym yn rhoi’r niferoedd cryf sydd ei angen ar luoedd iddynt. Erbyn mis Mawrth 2023, byddwn wedi cefnogi heddluoedd i recriwtio 20,000 o heddweision ychwanegol. Mae pob llu wedi bodloni neu ragori ar y dyraniadau a osodwyd ar eu cyfer yn 2020-21, gyda bron i 9,000 o swyddogion ychwanegol eisoes wedi’u recriwtio. Yr ydym eisoes wedi buddsoddi £700 miliwn o arian trethdalwyr i gefnogi’r ymgodiad hwn. Yn 2021-22, yr ydym yn mynd ymhellach drwy fuddsoddi £415 miliwn ychwanegol i gefnogi’r don nesaf o recriwtio swyddogion.

Rhaid inni hefyd sicrhau bod dioddefwyr yn hyderus y bydd y llysoedd yn prosesu achosion yn gyflym ac yn dwyn troseddwyr i gyfiawnder, ac y bydd y gosb, drwy’r fframwaith dedfrydu, yn addas i’r drosedd ym mhob achos. Rydym wedi cadw’r system gyfiawnder a’r llysoedd yn mynd drwy gydol y pandemig COVID. Cyflwynodd Gwasanaeth Erlyn yr Heddlu a’r Goron brotocol cyhuddo dros dro i flaenoriaethu’r achosion pwysicaf ar gyfer dilyniant drwy’r system cyfiawnder troseddol, ar ôl bod ymhlith yr awdurdodaethau cymaradwy cyntaf yn rhyngwladol i ail-gychwyn treialon rheithgor. Er mwyn sicrhau bod cyfiawnder yn cael ei ddarparu’n amserol ac adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd, mae angen inni fynd ymhellach i leihau’r oedi sydd wedi cronni yn ystod y pandemig a chyflymu pa mor gyflym y gellir gwrando ar achosion yn y llys. Yn ogystal, mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi a’r uwch farnwriaeth wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer adfer rhestru ac amseru llysoedd i lefelau cyn pandemig eleni yn y Llysoedd Ynadon.

Mae carchardai hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth dorri troseddu. Maent yn cadw troseddwyr oddi ar ein strydoedd, yn gweithio i fynd i’r afael â throseddoldeb difrifol a threfnedig y tu mewn i garchardai ac yn y gymuned ac yn dangos i’r cyhoedd nad yw troseddu’n talu. Ond maent hefyd yn darparu cyfle i adsefydlu troseddwyr fel y gallant fynd ymlaen i gael bywydau sy’n cadw at y gyfraith pan fyddant yn cael eu rhyddhau a pheidio â chyflawni troseddau pellach. Yr ydym wedi cychwyn ar y rhaglen fwyaf ar gyfer adeiladu carchardai ers dros ganrif, gyda 18,000 o leoedd ychwanegol mewn carchardai ledled Cymru a Lloegr erbyn canol y 2020au.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Bydd y Llywodraeth, ar ran trethdalwyr, yn gofyn i heddluoedd adrodd yn rheolaidd – nid yn unig ynghylch nifer yr 20,000 o swyddogion a recriwtiwyd, ond sut y cânt eu defnyddio a pha ganlyniadau y maent yn eu cael. Er mai mater i’r Prif Gwnstabliaid yw penderfynu sut i ddefnyddio eu swyddogion, mae’r cyhoedd yn iawn i ddisgwyl y bydd yr heddlu’n mynd ar drywydd y cyfleoedd sydd ar gael i atal a chanfod troseddau.

  • Byddwn yn gweithio gyda Heddlu Manceinion Fwyaf i werthuso manteision anfon swyddog heddlu yn bersonol at bob byrgleriaeth ddomestig ym Manceinion Fwyaf, i asesu ei effaith ar atal troseddu, canfod a hyder y cyhoedd.

  • Byddwn yn sicrhau y bydd gan bob unigolyn sy’n byw yng Nghymru a Lloegr fynediad i’r heddlu yn ddigidol drwy blatfform cenedlaethol ar-lein, gan ganiatáu iddynt gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau heddlu rhyngweithiol mewn un lle cydgysylltiedig, gan gynnwys manylion am eu swyddogion heddlu cymdogaeth a’u manylion cyswllt fel y gallant godi unrhyw bryderon gyda’u swyddogion cymdogaeth yn uniongyrchol.

  • Byddwn yn symbylu’r ymateb sydd ei angen i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn sefydlu’r egwyddorion sy’n ofynnol ar gyfer ymateb partneriaeth cryf ac effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan weithio gyda PCCs, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i helpu i bennu disgwyliadau ar gyfer asiantaethau lleol, fel eu bod yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys delio â throseddwyr parhaus. Rydym am sicrhau bod y mesurau a’r pwerau hyblyg sydd ar gael i ardaloedd lleol o dan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gan gynnwys y Sbardun Cymunedol, yn cael eu defnyddio’n gyflym ac yn briodol i atal y rhai sy’n achosi’r ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus sy’n difetha cymdogaethau.

  • Byddwn yn gwella ymatebolrwydd yr heddlu lleol i alwadau 101 a 999 drwy weithio gydag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EM i ddatblygu tablau cynghrair ar gyfer ateb galwadau a sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod pa mor ymatebol yw eu heddlu lleol pan fyddant yn eu galw am help.

  • Byddwn yn cynyddu capasiti ar draws ein llysoedd i leihau llwythi achosion sy’n weddill sydd wedi cronni yn ystod y pandemig ac yn cyflymu pa mor gyflym y gellir gwrando ar achosion yn y llys. Ar ôl dileu’r terfyn ar ddiwrnodau eistedd Llys y Goron eleni, byddwn yn defnyddio’r ystâd lys gyfan a phob barnwr sydd ar gael.

32 Mae ystafelloedd llys Nightingale wedi’u hymestyn i fis Mawrth 2022 heb unrhyw gyfyngiadau ar ddiwrnodau eistedd Llys y Goron yn 2021-22 i alluogi capasiti ychwanegol parhaus i Lysoedd y Goron.

Byddwn yn cefnogi newidiadau dros dro i oriau gweithredu llysoedd lle mae’r barnwr lleol am ddefnyddio hyn i wrando ar fwy o achosion.

  • Byddwn hefyd yn deddfu i foderneiddio prosesau llysoedd, dileu gweithdrefnau hen ffasiwn a gwrandawiadau diangen, a gwneud gwell defnydd o gysylltiadau fideo a gweithdrefnau ar-lein. Mae hyn yn cynnwys caniatáu mwy o wrandawiadau rhithwir drwy’r Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd (Bil PCSC), sy’n sail i gyfiawnder agored drwy ganiatáu’r posibilrwydd o bresenoldeb o bell gan y wasg ac aelodau’r cyhoedd. Bydd hyn yn symleiddio achosion troseddol, yn arbed amser llys ac yn lleihau oedi i ddiffynyddion, dioddefwyr a thystion. Bydd gwella effeithlonrwydd cyffredinol ein llysoedd yn helpu i fynd i’r afael â’r llwyth achosion sy’n weddill ac yn cefnogi adferiad.

  • Byddwn yn cyhoeddi Papur Gwyn ar Garchardai, a fydd yn nodi’r weledigaeth ar gyfer carchardai fel y sancsiwn yn y pen draw, ond hefyd yn fan lle’r ydym yn wynebu trais ac yn lleihau niwed, fel y gall carcharorion droi eu bywydau o gwmpas. Rydym yn archwilio sut y gallwn eu cefnogi’n well pan fyddant yn cael eu rhyddhau fel eu bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i gymdeithas, gan ganolbwyntio ar: diogelwch a diogeledd; trefn a chwrteisi; a lleihau troseddu drwy leihau aildroseddu.

  • Byddwn yn archwilio opsiynau i ddeall y profiad y mae dioddefwyr yn ei gael gyda phlismona a phartneriaid ehangach yn y system cyfiawnder troseddol yn well i helpu i ysgogi rhagoriaeth yn y gwasanaeth a ddarperir i ddioddefwyr gan bob rhan o’r system a thrwy hynny ein galluogi i atal a chanfod mwy o droseddu.

  • Byddwn yn adeiladu ar yr ymrwymiadau yn ein Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol, yr Adolygiad Trais Rhywiol, a’r Strategaeth Trais yn Erbyn Menywod a Merched er mwyn deall yn well droseddau, troseddwyr a nodweddion dioddefwyr, i lywio ymdrechion i atal troseddu ac i fynd ar drywydd cyflawnwyr, gan helpu i lywio penderfyniadau gweithredol a strategol i ddiogelu’r cyhoedd, gan gynnwys drwy ein Labordy Troseddu a Chyfiawnder Cenedlaethol.

2.4 Lle

Mae rhai lleoliadau daearyddol yn cael eu difetha’n anghymesur ac yn gyson gan lefelau uchel o droseddu.

  • Cyflawnwyd bron i chwarter yr holl droseddau cymdogaeth mewn 5% o ardaloedd lleol yn unig yn 2018-19[footnote 35]

Drwy ddadansoddi lle mae troseddu’n digwydd, gallwn dargedu adnoddau’n fwy cywir a dychwelyd ymdeimlad o le wedi’i lywodraethu i’r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf. A thrwy ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r problemau y mae rhannau penodol o’n gwlad yn eu hwynebu, gallwn fuddsoddi yn y pethau a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf: cael gwared ar gyfleoedd i gyflawni trosedud; cynyddu gallu partneriaid i leihau troseddu; a’i gwneud yn anos i droseddwyr o un rhan o’r wlad allforio’r troseddau y maent yn eu cyflawni i un arall.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Yn ogystal ag achosi gofid i ddioddefwyr, gall troseddau yn y gymdogaeth ddefnyddio llawer iawn o amser gwerthfawr gan yr heddlu i ymchwilio iddynt. Gwyddom y gall buddsoddi mewn atal troseddu ddileu’r cyfle i droseddwyr gyflawni’r troseddau hyn. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yr ydym wedi buddsoddi £45 miliwn yn y Gronfa Strydoedd Diogelach. Mae’r arian hwnnw wedi helpu ardaloedd i gael gwared ar y cyfleoedd i gyflawni troseddu drwy gyflwyno mwy o gatiau alaion, teledu cylch cyfyng, goleuadau stryd a diogelwch i’r cartref. Mae arian a ddarperir i ardaloedd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen wedi helpu i wneud lleoedd a chartrefi’n fwy diogel, gan ddileu’r cyfle i droseddwyr gyflawni troseddu.

Hyd yma, mae 102 o ardaloeddwedi cael arian a ddarparwyd trwy’r gronfa ac mae gwerthusiad annibynnol yn dangos ei fod yn cael effaith gadarnhaol. Yr ydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan gyflwyno cylch pellach o’r gronfa, gyda £25 miliwn yn cael ei ganolbwyntio ar wella diogelwch mannau cyhoeddus, wedi’i dargedu’n benodol at ardaloedd sy’n peri pryder i fenywod a merched.

Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid i nodi’r 18 ardal yr effeithiwyd arnynt waethaf gan ddynladdiad a thrais difrifol sy’n cyfrif am 80% o drais. Ers 2019, rydym wedi buddsoddi £136.5 miliwn i ddarparu mwy o adnoddau i’r heddlu. Mae’r arian hwn wedi eu galluogi i sicrhau ffocws fforensig ar y strydoedd a’r cymdogaethau lle mae troseddu’n digwydd. Ar gyfer 2021-22, bydd y rhaglen ‘Grip’ newydd yn cyflwyno gweithrediadau plismona wedi’u targedu’n uchel, wedi’u hysgogi’n ddadansoddol, yn y mannau lle ceir y problemau troseddu uchaf yn y lluoedd hynny, gyda phatrolau gweladwy i atal ymddygiad troseddol. A bydd dull soffistigedig sy’n cael ei ysgogi gan ddata yn caniatáu i luoedd ficro-dargedu lle mae trais difrifol yn fwyaf tebygol o ddigwydd.

Yr ydym hefyd wedi cynyddu gallu ardaloedd lleol i leihau trais difrifol drwy fuddsoddi £105.5 miliwn mewn datblygu rhwydwaith o VRUs. Mae VRUs yn dwyn ynghyd bartneriaid allweddol ar draws plismona, y system cyfiawnder troseddol, llywodraeth leol, addysg, iechyd a’r gymuned i ddatblygu dull cynhwysfawr a ysgogir yn lleol o ymdrin â thrais difrifol. Gall VRUs weld y darlun llawn o drais yn eu hardal, o’r achosion sylfaenol i gyflawnwyr hysbys. Maent yn gyfrwng hollbwysig ar gyfer darparu ymyriadau wedi’u targedu â thystiolaeth dda wedi’u hanelu at bobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a’u tynnu i droseddu, gan gynnwys therapïau ymddygiadol, rhaglenni mentora, ymyriadau wedi’u seilio ar chwaraeon a gweithgarwch arall i leihau troseddu.

Mae gangiau llinellau cyffuriau sy’n delio â chyffuriau yn allforio’r problemau y maent yn eu hachosi i rannau eraill o’r wlad, gan ddefnyddio ein ffyrdd a’n rheilffyrdd i anfon cyffuriau ac arfau o’n dinasoedd i’n pentrefi a’n trefi. Yn anochel, mae’r troseddwyr hyn yn allforio eu brand eu hunain o drais, ac mae 80% ohonynt yn dechrau mewn tair ardal heddlu yn unig, rhai’r Gwasanaeth Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Heddlu Glannau Mersi[footnote 36], a dyna pam yr ydym, drwy ein rhaglen Llinellau Cyffuriau, wedi targedu ein buddsoddiad yn yr ardaloed hyn. Yn ogystal, mae tasglu llinellau cyffuriau penodedig Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, ynghyd â’n defnydd o dechnoleg, gan gynnwys Cydnabod Rhifau Awtomatig i dargedu’r rhwydwaith ffyrdd, yn amharu ar allu gangiau troseddol i redeg eu gweithrediadau a’u hatal rhag lledaenu troseddu i rannau eraill o’r wlad. Ein dull o weithredu yw gwella’r ffordd yr ydym yn nodi, olrhain ac, yn y pen draw, dwyn i gyfiawnder y rhai sy’n cludo troseddwyr, dioddefwyr, cyffuriau, arian parod ac arfau ledled ein gwlad.

Mae siopau’n hanfodol i ardaloedd, ac yn aml maent wedi dod yn gymaint rhan o hunaniaeth gymunedol â’r eglwys neu’r dafarn. Mae gormod o drais wedi’i dargedu at weithwyr manwerthu a gormod o droseddau meddiangar ar y safleoedd hyn. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant a’r heddlu drwy’r Grŵp Llywio Troseddau Manwerthu Cenedlaethol i helpu i nodi troseddwyr, cefnogi dioddefwyr a lleihau’r broblem.

Gwyddom am yr effaith ddifrifol y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ei chael ar unigolion a chymunedau. Dyna pam yr ydym wedi rhoi amrywiaeth o offer a phwerau hyblyg i’r heddlu, awdurdodau lleol ac asiantaethau lleol eraill y gallant eu defnyddio i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. Mae hyn yn cynnwys y Sbardun Cymunedol, sy’n fecanwaith pwysig ar gyfer sicrhau bod problemau parhaus yn cael eu nodi a’u datrys. Mae’n rhoi’r hawl i ddioddefwyr ofyn am adolygiad achos ffurfiol (lle y bodlonir trothwy a ddiffiniwyd yn lleol), er mwyn penderfynu a ellir cymryd camau pellach. Rydym wedi cynhyrchu a byddwn yn parhau i adolygu canllawiau statudol cynhwysfawr ar y Sbardun a’r pwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol eraill i gefnogi ardaloedd lleol i wneud defnydd effeithiol ohonynt.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn buddsoddi dros £45 miliwn i gyflwyno tasgluoedd Cefnogi, Cyraedd, Cyflawni, Rhagori (SAFE) a Darpariaeth Amgen newydd wedi’u lleoli mewn ysgolion ochr yn ochr â’n rhwydwaith VRU. Nod y rhain yw cadw pobl ifanc sy’n agored i niwed rhag mynd i fywyd o droseddu a’u helpu i bontio’n llwyddiannus i addysg bellach, cyflogaeth a hyfforddiant. Bydd y tasgluoedd wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle ceir problemau trais difrifol a byddant yn defnyddio arbenigwyr, gan gynnwys gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, gweithwyr teuluol, a therapyddion lleferydd ac iaith i gefnogi pobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu i ailymgysylltu ag addysg.

  • Trwy ein Bil PCSC rydym yn cyflwyno dyletswydd trais difrifol newydd. Bydd y Bil PCSC yn ei gwneud yn ofynnol i’r heddlu, awdurdodau tân ac achub,cynghorau, timau troseddau ieuenctid, grwpiau Comisiynu Clinigol penodedig ac, o 2022, Systemau Gofal Integredig, a gwasanaethau prawf mewn lle penodol gydweithio i atal a lleihau trais difrifol. Bydd hyn yn cynnwys paratoi a gweithredu strategaeth i atal a lleihau trais difrifol yn eu cymdogaethau lleol, ar ôl ymgynghori ag awdurdodau addysg, gwasanaethau carchardai ac awdurdodau cystodaeth ieuenctid yn eu hardal.

  • Byddwn yn cynnal Uwchgynhadledd Dynladdiad flynyddol ar gyfer gweddill y Senedd hon. Mynychir gan Brif Gwnstabliaid heddluoedd sydd â’r cyfraddau dynladdiad uchaf yng Nghymru a Lloegr, byddant yn goruchwylio cynnydd yr heddlu wrth fynd i’r afael â dynladdiad, ac yn trafod materion a rhwystrau y gall y Llywodraeth helpu i’w goresgyn, gan adeiladu ar strwythurau llywodraethu presennol.

  • Byddwn yn cynllunio troseddu ac anhrefn allan o ardaloedd drwy osod safonau diogelwch cenedlaethol ar adeiladu a dylunio ardaloedd yn genedlaethol. Rydym wedi ymgorffori safonau diogelwch ac egwyddorion atal troseddu o fewn y Cod Dylunio Model Cenedlaethol ac rydym yn datblygu safonau gofynnol fel rhan o’r adolygiad o’r System Mesur Tai, Iechyd a Diogelwch i sicrhau nad braint i rai yn unig yw diogelwch domestig. Hefyd cyhoeddodd y Papur Gwyn ar Dai Cymdeithasol adolygiad o’r Safon Tai Gweddus. Fel rhan o’r adolygiad hwnnw, rydym am archwilio sut y gallwn fynd ymhellach i ddefnyddio’r Safon Tai Gweddus i gadw preswylwyr tai cymdeithasol yn ddiogel a helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

  • Byddwn yn ymgynghori ar gynigion i ymestyn gofyniad diogelwch (‘Rhan Q’) y Rheoliadau Adeiladu i gartrefi sy’n bodoli eisoes sy’n cael eu hadnewyddu. Ar hyn o bryd, dim ond i gartrefi newydd y mae’n berthnasol. Bwriad y newidiadau arfaethedig fyddai helpu i sicrhau bod eiddo’n cael eu ffitio dim ond â chynhyrchion, megis drysau a ffenestri, sy’n bodloni safonau diogelwch.

  • Yr ydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i atal, a byddwn yn symbylu’r ymateb amlasiantaethol sydd ei angen i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys ymddygiad ac aildroseddu parhaus. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu’r egwyddorion craidd sy’n ofynnol ar gyfer ymateb amlasiantaethol cryf i ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn gosod disgwyliadau o ran sut y bydd asiantaethau lleol yn cydweithio i atal yr ymddygiad a dangos i ddioddefwyr a’r cyhoedd yn ehangach na fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei oddef.

  • Byddwn yn gweithio gydag ardaloedd lleol i sicrhau bod y pwerau a gyflwynir gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, gan gynnwys y Sbardun Cymunedol, yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn archwilio sut y gellir eu defnyddio’n well yn erbyn y rhai sy’n achosi ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus mewn cymdogaethau. Byddwn yn gweithio gydag asiantaethau i ddeall heriau lleol, gwella data, a chynyddu modelau arfer gorau lleol a’r canllawiau statudol. Gwyddom hefyd fod rhai PCCs wedi creu tasgluoedd ymddygiad gwrthgymdeithasol pwrpasol yn eu hardal, y gallai meysydd eraill eu hailadrodd.

Astudiaeth Achos: Strydoedd Diogelach Rownd 1

Dyfarnwyd £550,000 i Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Glannau Humber o’r Gronfa Strydoedd Diogelach mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol a’r gymdeithas dai. Mae’r buddsoddiad hwn, wedi’i dargedu ar ystâd a nodwyd fel un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn Lloegr, wedi arwain at uwchraddio 20 mynedfa gymunedol i flociau sy’n ysgogi lefel uchel o fyrgleriaeth, troseddau meddiangar difrifol, cogio a delio â chyffuriau a gosod 18 o gyfleusterau storio diogel ar gyfer beiciau modur a beiciau sy’n cael eu dwyn yn aml.

Ochr yn ochr â hyn, maent wedi gosod ffensys a gatiau i gyfyngu ar lwybrau dianc mynych ac maent yn creu saith gardd gymunedol i darfu ar lwybrau trwodd i feiciau modur. Mae allgymorth cymunedol pwrpasol ar gael i breswylwyr ar yr ystâd, gan gynnwys cyfiawnder adferol â dioddefwyr troseddau. Aeth rhywfaint o arian tuag at welliannau i’r ystâd a awgrymwyd gan y gymuned.

Astudiaeth Achos: Heddlu Essex

Dyfarnwyd £3.59 miliwn i Heddlu Essex o’r Gronfa Trais Difrifol dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen Surge, Grip erbyn hyn, i gefnogi ymateb gweithredol yr heddlu i drais difrifol. Roedd yr arian hwn yn caniatáu iddynt fuddsoddi mewn patrolau ychwanegol, mwy o gapasiti ac offer ymchwiliol a chudd-wybodaeth i gefnogi eu hymateb.

Gan ddefnyddio cyllid Surge, cynhaliodd Heddlu Essex Ymgyrch Ark yn Southend, sef treial 90 diwrnod yn defnyddio patrolau amlygrwydd uchel i’r 20 man lle’r oedd trais difrifol yn fwyaf tebygol o ddigwydd. Dangosodd canlyniadau Ymgyrch Ark ostyngiad sylweddol mewn niwed o droseddau sy’n gysylltiedig â thrais o 88.5% yn yr ardaloedd mannau problemus ar y dyddiau yr ymwelodd patrolau â hwy o gymharu â’r dyddiau na wnaethant, yn ogystal â gweld arbedion cost economaidd-gymdeithasol sylweddol.

Mae’r model hwn wedi llywio’r rhaglen Grip, fel y bydd pob un o’r 18 o heddluoedd sy’n cael arian o’r Gronfa Trais Difrifol yn 2021-22 yn cynnal patrolau wedi’u targedu ac wedi’u hysgogi’n ddadansoddol yn yr ardaloedd yr effeithir arnynt waethaf gan drais difrifol.

Astudiaeth Achos: Uned Lleihau Trais Dyffryn Tafwys

Dyarnwyd £3.48m i VRU Dyffryn Tafwys o’r Gronfa Trais Difrifol dros dair blynedd, gan ddod â phartneriaid allweddol at ei gilydd i nodi’r ffactorau sy’n ysgogi trais difrifol mewn ffyrdd arloesol, a mynd i’r afael â’r rhain drwy ymyriadau wedi’u targedu.

Mae’r VRU wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o ymyriadau addawol i gefnogi a dargyfeirio pobl ifanc sy’n agored i niwed rhag cyflawni troseddau treisgar. Mae hyn yn cynnwys ymyrryd ar ‘adegau y gellir eu dysgu’ mewn ystafelloedd damweiniau ac achosion brys a’r ddalfa yn fuan ar ôl cymryd rhan mewn digwyddiadau treisgar; cynllun peilot ‘atal â ffocws’, a amlygwyd gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid fel un o’r ymyriadau gorau sydd ar gael i atal trais difrifol; a chynlluniau dargyfeirio cyffuriau.

Ochr yn ochr â hyn, mae’r VRU wedi arloesi’r prosiect ‘Thames Valley Together’, gyda’r nod o ganiatáu i dros 1,000 o ddefnyddwyr ar draws partneriaid amlasiantaethol rannu data o fewn un system a rennir, gan ddefnyddio dadansoddeg i leihau troseddu. Bydd y llif rhydd hwn o wybodaeth ar draws gwasanaethau plant, awdurdodau lleol, plismona, iechyd, addysg ac eraill yn caniatáu i’r VRU nodi unigolion, lleoliadau neu sefydliadau sydd mewn perygl yn gynharach nag erioed o’r blaen, gan sicrhau ymateb cydgysylltiedig cyflym i’r rhai sydd fwyaf mewn perygl tra’n llywio’r gwaith o gynllunio a buddsoddi mewn gwasanaethau.

2.5 Pobl

Mae’r rhan fwyaf o droseddau’n cael eu cyflawni gan nifer fach o droseddwyr parhaus: 50% o droseddu’n cael ei gyflawni gan 5% o droseddwyr[footnote 37].

Gall rhai profiadau fel gweld cam-drin domestig, cael eu rhoi mewn gofal, peidio â mynd i’r ysgol, neu gael cyrhaeddiad addysgol is[footnote 38] ei gwneud yn fwy tebygol y bydd unigolion yn cymryd rhan mewn troseddu. Gall chwilio am y profiadau hyn ein helpu i nodi’r rhai sydd mewn perygl, ac ymyrryd yn gynnar i’w hatal rhag dod yn droseddwyr. I’r rheini sydd eisoes yn troseddu, gallwn eu dwyn i gyfiawnder a’u rheoli drwy gymhellion, a chanlyniadau, gan eu hannog i weddnewid eu bywydau.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Mae ein gwaith ar ymyrraeth gynnar wedi canolbwyntio ar ddarparu cymorth cyffredinol i bob person ifanc; cymorth wedi’i dargedu i’r rhai y nodwyd eu bod mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu; ac ymyriadau wedi’u targedu ar gyfer y rhai sydd wedi dechrau troseddu. Yn ganolog i’n gwaith mae’r buddsoddiadau y mae’r Gronfa Gwaddol Ieuenctid gwerth £200 miliwn yn eu gwneud i wella’r sylfaen dystiolaeth ar yr hyn sy’n gweithio a sicrhau ein bod yn canolbwyntio adnoddau ar ymyriadau sydd fwyaf tebygol o atal plant a phobl ifanc rhag cymryd rhan mewn troseddu a thrais yn y dyfodol.

Gall cymorth cyffredinol helpu pobl sydd mewn perygl i fyw bywydau llwyddiannus, di-droseddu. Mae canolfannau teulu yn ffordd o gydgysylltu gwasanaethau’n lleol ac rydym yn darparu £14 miliwn i hyrwyddo canolfannau teulu gan gynnwys canolfan genedlaethol newydd i ddarparu cyngor arbenigol ac adeiladu’r sylfaen dystiolaeth. Mae gwaith i ddatblygu cynhyrchion digidol newydd i helpu gweithwyr proffesiynol i gydweithio’n fwy effeithiol a gwella mynediad at wasanaethau i deuluoedd hefyd ar y gweill. Bydd hybiau teuluol yn ategu’r rhaglenni presennol rydym wedi’u cynllunio i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’n pobl ifanc, fel Cyber Choices a’r Gwasanaeth Dinasyddion Cenedlaethol.

Mae cymorth wedi’i dargedu yn canolbwyntio ar bobl ifanc sydd mewn perygl o gymryd rhan mewn troseddu. Yr ydym yn uwchsgilio’r gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n agored i niwed ac yn buddsoddi £13 miliwn yn y Gronfa Perthynas Ddibynadwy, gan dargedu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio a’u cam-drin. Yr ydym yn cefnogi eu teuluoedd hefyd, gan fuddsoddi £165 miliwn yn y rhaglen Cefnogi Teuluoedd. Mae’r rhaglen yn helpu teuluoedd i gael gafael ar y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt i fynd yn ôl ar y trywydd iawn, gan gynnwys dod o hyd i waith i rieni a gwella presenoldeb plant yn yr ysgol. Mae’r gwaith hwn yn ychwanegol at ein Cydgysylltwyr Cymunedol Troseddau Difrifol a Threfnedig (SOC), sydd wedi cefnogi dros 12,000 o unigolion sydd mewn perygl o gael eu tynnu i droseddu.

Mae ymyriadau wedi’u targedu wedi’u hanelu at bobl ifanc sydd eisoes yn troseddu. Yr ydym yn buddsoddi mewn pecyn newydd gwerth £17 miliwn o ymyriadau ieuenctid i ddarparu cymorth therapiwtig ac arbenigol dwysedd uchel, gan gynnwys gan weithwyr ieuenctid hyfforddedig ar adegau argyfwng, megis pan gaiff person ifanc ei dderbyn i adran damweiniau ac achosion brys ag anaf cyllell neu pan gaiff ei arestio. Yr ydym hefyd yn darparu dros £1 filiwn ar gyfer cymorth arbenigol i bobl ifanc adael llinellau cyffuriau ac i fenywod ifanc a merched y mae gangiau’n effeithio arnynt.

Rhaid dwyn y rhai sy’n mynd ymlaen i droseddu i gyfiawnder. Mae’r Bil PCSC yn diwygio’r fframwaith dedfrydu a rhyddhau i’w wneud yn ddoethach ac wedi’i dargedu’n fwy, er mwyn diogelu’r cyhoedd rhag troseddwyr difrifol a pheryglus. Rydym hefyd yn cefnogi troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu a byw bywydau mwy cynhyrchiol. Mae ein dull gweithredu yn cydbwyso eu rheoli’n llym, ac yn eu cymell i weddnewid eu bywydau, gyda chanlyniadau cyflym a sicr os ydynt yn methu â chydymffurfio.

Er mwyn goruchwylio troseddwyr yn fwy trylwyr, lansiwyd Gwasanaeth Prawf unedig newydd gennym sy’n gweithredu o dan ddeuddeg rhanbarth ledled Cymru a Lloegr ym mis Mehefin 2021. O dan arweiniad Cyfarwyddwyr Prawf Rhanbarthol, bydd y Gwasanaeth Prawf yn goruchwylio pob troseddwr yn y gymuned, yn comisiynu gwasanaethau adsefydlu ac yn meithrin partneriaethau ag asiantaethau allweddol i ddiogelu’r cyhoedd a mynd i’r afael ag achosion troseddu.

Rydym yn gweithredu’r Strategaeth Rheoli Troseddwyr Integredig (IOM) newydd, lle bydd y Gwasanaeth Prawf yn gweithio gyda’r heddlu lleol, awdurdodau lleol a phartneriaid ehangach i nodi’r troseddwyr mwyaf parhaus yn eu hardal a chymryd camau i’w hatal rhag troseddu.

Rydym hefyd yn ymestyn goruchwyliaeth ar derfysgwyr a gollfarnwyd ac yn cynyddu capasiti yn yr ystâd Safleoedd Cymeradwy i wella’r broses o fonitro ein troseddwyr risg uchaf. I gefnogi hyn, rydym yn darparu gwell hyfforddiant, yn ogystal â buddsoddi mewn gwell teledu cylch cyfyng a thechnoleg a wisgir ar y corff mewn safleoedd penodol.

Fel rhan o’n gwaith i sicrhau cosb briodol yn y gymuned, rydym yn adfywio gwaith di-dâl i sicrhau bod troseddwyr yn gwneud iawn yn amlwg ac yn gyhoeddus am eu troseddau drwy wneud gwaith sy’n werthfawr i’w hardaloedd lleol, megis glanhau’r strydoedd, ystadau, ffyrdd a mannau agored o sbwriel ac arwyddion gweladwy eraill o anhrefn mewn cymdogaethau lleol. Ers mis Mehefin 2021, mae’r Gwasanaeth Prawf wedi bod yn gyfrifol am ddarparu’r holl waith di-dâl fel y gall y Llywodraeth, gan weithio gydag ardaloedd lleol gan gynnwys PCCs, wneud y defnydd gorau o’r oriau hyn.

Yr ydym hefyd yn cymell troseddwyr i droi eu cefnau ar droseddu. Mae cynlluniau IOM yn cynnwys llwybrau clir at wasanaethau cymorth megis mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau sy’n benodol i fenywod er mwyn helpu i fynd i’r afael ag achos sylfaenol ymddygiad troseddol. Drwy hwyluso mynediad troseddwyr i’r gwasanaethau hyn, yr ydym yn eu helpu i droi eu cefn ar droseddu. Yr ydym yn buddsoddi bron £200 miliwn ar gyfer gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd gan 26 o sefydliadau yn y sectorau preifat a gwirfoddol ledled Cymru a Lloegr.

Mae angen i ni dorri’r cylch o aildroseddu sy’n arwain at 80% o droseddau a gollfarnir neu a rybuddir a gyflawnir gan rywun sydd wedi troseddu o’r blaen[footnote 39]. I wynebu troseddu, fodd bynnag, gelwir am ddull gweithredu newydd ac uchelgeisiol. Dyna pam rydym wedi sefydlu’r Prosiect Ymadawyr Carchardai: rhaglen gwerth £20 miliwn i ddatblygu ffyrdd arloesol o leihau aildroseddu a pham yr ydym yn gweithio mewn 16 o garchardai i brofi dulliau newydd o sicrhau bod troseddwyr yn gadael y carchar gyda’r cyfle gorau i droi eu cefnau ar droseddu.

Calon ein dull o weithredu yw rhoi’r sylfeini sydd eu hangen ar droseddwyr i’w helpu i droi eu cefnau ar droseddu: rhywle i fyw, swydd a mynediad at driniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau.

  • SWYDD: Mae gan gyn-droseddwyr lefelau llawer is o gyflogaeth na’r boblogaeth gyffredinol. Mae gan oddeutu 17% o gyn-droseddwyr a ryddhawyd o’r ddalfa yn 2011/12 mewn cyflogaeth P45 un flwyddyn ar ôl eu rhyddhau.

  • CARTREF: Yn 2018/19, cafodd tua 40% o garcharorion sy’n oedolion eu rhyddhau i lety ansefydlog, cysgu ar y stryd, digartref neu roedd statws eu llety’n anhysbys ar y noson gyntaf ar ôl cael eu rhyddhau.

  • TRINIAETH: Mae gan oddeutu 62% o garcharorion naill ai angen alcohol neu gyffuriau neu’r ddau.

Gall cael llety sefydlog atal troseddwyr rhag cyflawni troseddau pellach. Mae hefyd yn golygu bod yr heddlu a’r Gwasanaeth Prawf yn gwybod ble mae’r rhai sy’n gadael y carchar yn byw, gan eu galluogi i oruchwylio troseddwyr yn gadarn a defnyddio’r offer sydd ar gael iddynt i wneud hynny, megis monitro electronig. Dyna pam y cafodd cynllun gwerth £20 miliwn ei lansio yr wythnos diwethaf i leihau nifer y carcharorion sy’n gadael y carchar yn ddigartref. O’r haf hwn ymlaen, yr ydym yn cyflwyno darpariaeth newydd o lety a chymorth dros dro am hyd at 12 wythnos ar ôl rhyddhau i’r rhai sy’n gadael y carchar mewn perygl o fod yn ddigartref, i ddechrau mewn pum ardal brawf yn Lloegr.

Gwyddom fod cael swydd yn helpu i leihau troseddu. Mae cyn-droseddwyr sydd â swyddi rhwng 6 a 9 pwynt canran yn llai tebygol o aildroseddu[footnote 40]. Dyna pam yr ydym hefyd yn gosod disgwyliadau i’r rhai sy’n gadael y carchar y dylent fod yn chwilio am waith neu’n ei sicrhau. Byddwn yn gwneud hyn drwy gyflawni ein hymrwymiadau maniffesto i greu Gwasanaeth Addysg Carcharwyr a chynyddu nifer yr Hyfforddwyr Gwaith Carchardai. Bydd hyn yn cynyddu ein gallu i sicrhau bod carcharorion yn symud ymlaen i Gredyd Cynhwysol ac yn defnyddio’r sylfaen hon i chwilio am waith a’i sicrhau. Mae hefyd yn rhoi arwydd clir nad swydd yw’r ffordd orau allan o dlodi yn unig, mae’n un o’r llwybrau gorau allan o droseddu.

Gwyddom y gall triniaeth briodol i’r rhai sydd â phroblemau ynghylch camddefnyddio sylweddau atal troseddau rhag cael eu cyflawni. Ar ddechrau’r flwyddyn hon, ymrwymwyd £80 miliwn i ehangu gwasanaethau trin ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn Lloegr i gefnogi adferiad y rhai sy’n gadael y carchar gyda dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol ac i roi troseddwyr ar ddedfrydau cymunedol anodd ac effeithiol gyda gofyniad i gael triniaeth am gyffuriau ac alcohol. Bydd yr arian hwn yn dod â 5,000 o droseddwyr eraill i driniaeth, a gwyddom fod troseddwyr sydd wedi cymryd rhan mewn triniaeth yn cyflawni 33% yn llai o droseddau nag a wnaethant o’r blaen[footnote 41].

Pan fydd troseddwyr o dan oruchwyliaeth gymunedol yn dewis aildroseddu, byddant yn wynebu canlyniadau cyflym a sicr. Ymdrinnir ag achosion o dorri amodau, fel bod troseddwyr yn deall canlyniadau eu gweithredoedd, a allai gynnwys cyfnod yn y ddalfa.

Yr ydym wedi cynyddu’n sylweddol y defnydd o fonitro electronig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos bod gan lysoedd hyder cynyddol yn ei werth. Yr ydym yn ehangu ei ddefnydd ymhellach. Mae llysoedd ledled Cymru a Lloegr bellach yn gallu gosod Gofyniad Ymatal a Monitro Alcohol fel rhan o orchymyn cymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig i helpu i fynd i’r afael â throseddau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Gellir gwahardd troseddwyr rhag yfed am hyd at 120 diwrnod a chânt eu monitro’n barhaus drwy dag wedi’i wisgo ar y ffêr.

Rydym hefyd wedi lansio cam cyntaf y prosiect tagio GPS Troseddau Meddiangar arloesol. Mae’r prosiect yn gorfodi monitro lleoliadau, gan ddefnyddio tag GPS, ar droseddwyr meddiangar difrifol sy’n gadael y carchar. Caiff symudiadau troseddwyr eu mapio yn ôl troseddau meddiangar sy’n cael eu hymchwilio gan yr heddlu, gan alluogi’r heddlu eu cynnwys neu eu tynnu o ymchwiliad ac yn darparu rhwystr pwerus rhag aildroseddu. Ar hyn o bryd yn gweithredu mewn chwe ardal heddlu, caiff ei werthuso’n llawn i fesur ei effeithiolrwydd o ran lleihau troseddau cymdogaeth.

Mae stopio a chwilio yn un o nifer o ddulliau hanfodol a ddefnyddir gan yr heddlu i fynd i’r afael â thrais difrifol a chadw ein strydoedd yn ddiogel. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, symudodd dros 11,000 o arfau o’r strydoedd ac arweiniodd at dros 74,000 o arestiadau. Dyna pam yr ydym yn ei gwneud yn haws i’r heddlu ddefnyddio pwerau stopio a chwilio drwy lacio amodau gwirfoddol yn barhaol ar stopio a chwilio Adran 60, a ddefnyddir pan fydd yr heddlu’n rhagweld trais difrifol.

Yr ydym hefyd yn sicrhau bod gan yr heddlu’r pwerau iawn i helpu i atal pobl rhag troseddu eto. Mae ein Bil PCSC yn cyflwyno Gorchmynion Lleihau Trais Difrifol (SVROs). Bydd SVROs yn rhoi pwerau i’r heddlu gymryd agwedd fwy rhagweithiol at droseddwyr, gan ei gwneud yn haws targedu’r rhai sydd eisoes wedi’u collfarnu o drosedd sy’n ymwneud â chyllell neu arf ymosodol drwy roi’r hawl awtomatig i’r heddlu chwilio’r troseddwyr hyn.

Mae SVROs yn adeiladu ar y mesurau a gyflwynwyd gennym drwy’r Ddeddf Arfau Ymosodol, a atgyfnerthodd ddeddfwriaeth ar arfau tanio, cyllyll a sylweddau cyrydol ac a ddarparodd ar gyfer Gorchmynion Atal Troseddau Cyllell (KCPOs). Bydd KCPOs yn galluogi’r heddlu ac asiantaethau partner i atal trais a alluogir gan gyllell drwy amrywiaeth o ymyriadau a gwaharddiadau cadarnhaol. Byddwn yn treialu KCPOs yn Llundain am 14 mis cyn i ni ystyried eu cyflwyno ledled Cymru a Lloegr.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Bydd y Gronfa Gwaddol Ieuenctid yn buddsoddi hyd at £30 miliwn drwy ddau gylch grant yn 2021 sy’n canolbwyntio ar gadw plant a phobl ifanc i ffwrdd o droseddu a helpu teuluoedd i adeiladu amgylcheddau cartref cryf a chefnogol.

  • Byddwn yn nodi Troseddwyr sy’n Wladolion Tramor yn well sy’n ceisio dychwelyd i’r DU, neu ddod i mewn iddi, drwy drefniadau rhannu data gyda phartneriaid rhyngwladol, gan ein galluogi i ryng-gipio cyffuriau a phobl sy’n peri pryder a allai gyflawni troseddau yn y DU.

  • Byddwn yn rhagori ar ein hanes o recriwtio swyddogion prawf dan hyfforddiant gyda 1,500 arall erbyn mis Ebrill 2022 gan ein galluogi i oruchwylio troseddwyr ac atal troseddu’n well.

  • Byddwn yn buddsoddi mwy yn y gwasanaethau prawf. Yn 2019-20 a 2020-21, rydym wedi buddsoddi £155 miliwn ychwanegol ym mhob blwyddyn yn y gwasanaeth prawf.

  • Byddwn yn sefydlu lefel uwch o oruchwyliaeth i fonitro’r rhai a reolir o dan gynlluniau IOM, gan flaenoriaethu troseddwyr cymdogaeth.

  • Byddwn yn cyflwyno dyletswydd statudol i’r gwasanaeth prawf ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid wrth gynllunio a chyflawni cynlluniau i gefnogi amcanion ac angen cymunedol drwy waith di-dâl. Bydd y gwasanaeth prawf yn gweithio gyda PCCs, cynghorau, elusennau a sefydliadau lleol eraill i ddefnyddio amser gwaith di-dâl troseddwyr i lanhau’r strydoedd, alïau, ystadau a mannau agored mewn cymdogaethau.

  • Byddwn yn asesu a ddylai PCCs chwarae mwy o ran wrth ganfasio barn y cyhoedd ar yr ardaloedd yn eu cymuned a fyddai’n elwa o leoliadau, yn ogystal â defnyddio eu harbenigedd ar ardaloedd troseddu ac amddifadedd lleol drwy Adolygiad PCC.

  • Byddwn yn ehangu prosiect tagio GPS Troseddau Meddiangar. O hydref 2021 byddwn yn ei gyflwyno i 13 heddlu arall: Swydd Bedford, Dinas Llundain, Cumbria, Swydd Derby, Durham, Essex, Hampshire, Swydd Hertford, Caint, yr Heddlu Metropolitanaidd, Gogledd Cymru, Swydd Nottingham a Sussex. Bydd yr ehangu hwn yn mynd â chwmpas y prosiect i hanner y wlad, gan alluogi astudiaeth reoli gadarn o effaith tagio GPS ar aildroseddu i ddigwydd.

  • Byddwn yn lansio monitro alcohol ar drwydded yng Nghymru yn ddiweddarach yn 2021 wrth i ni archwilio sut y gall tagiau alcohol newid ymddygiad a lleihau troseddau sy’n cael eu hysgogi gan alcohol gan gynnwys wrth gael eu rhyddhau o’r carchar.

Byddwn yn arwain y ffordd drwy recriwtio 1,000 o bobl sy’n gadael y carchar i rolau’r Gwasanaeth Sifil erbyn diwedd 2023 fel rhan o darged recriwtio ehangach Cyfleoedd Bywyd sy’n cwmpasu cyn-filwyr a’r rhai sy’n gadael gofal. Gobeithiwn y bydd y sector preifat yn ymuno â ni. I’r perwyl hwn, byddwn yn cynnal uwchgynhadledd cyflogwyr tua diwedd y flwyddyn hon i ddod â busnes a’r Llywodraeth at ei gilydd i leihau troseddu.

2.6 Busnes

Teimlir elfennau mwyaf gweladwy troseddau yn aml mewn cymdogaethau lleol: car wedi’i ddwyn, trais gan gang, neu ddelio â chyffuriau. Mae’r troseddau hyn yn aml yn cael eu hysgogi gan we gymhleth o fusnes troseddol, trefnedig byd-eang, lle mai elw yw ei brif gymhelliant. Er bod yn rhaid inni barhau i ddwyn arweinwyr y “busnesau” hyn i gyfiawnder, os ydym am ddelio â’u heffaith yn barhaol, rhaid inni ddeall ac ymosod ar eu model busnes cyfan, gan droi gweithgareddau risg isel, elw uchel i’r gwrthwyneb.

Rhaid sicrhau nad oes unrhyw arian hawdd mewn troseddu. Felly, mae ein gwaith i leihau dynladdiad, trais difrifol a throseddau cymdogaeth yn cynnwys ffocws didrugaredd ar fusnes troseddu, amharu ar y fasnach mewn cyffuriau anghyfreithlon, ei gwneud yn anos i droseddwyr elwa o nwyddau wedi’u dwyn, eu hatal rhag parhau â’u gweithgareddau yn y carchar a mynd i’r afael â gwyngalchu arian ac adennill asedau troseddol.

Trosolwg o ddosbarthiad cyffuriau domestig[footnote 42]

Role Function Numbers involved
Mewnforiwr Trefnu cyflenwad o gyffuriau i mewn i’r DU a gwerthu i gyfanwerthwr. Nifer fach o OCGS sy’n tueddu i fod â chysylltiadau rhyngwladol; Yn aml yn delio mewn un nwydd; Yn fwy tebygol o ddefnyddio gweithwyr proffesiynol.
Cyfanwerthwr cenedlaethol Prynu cyffuriau o un ddinas/rhanbarth a gwerthu i ddinas/rhanbarth arall. Nifer fawr o OCGs a hefyd gangiau stryd trefol (USGs); Delio mewn ystod o nwyddau gwahanol; Yn aml mae sawl cysylltiad yn y gadwyn gyflenwi ar y cam hwn; Bylchau cuddwybodaeth sylweddol ar y cam hwn o’r farchnad Cyfanwerthwr.
Cyfanwerthwr lleol Prynu a gwerthu cyffuriau mewn swmp o fewn un ddinas/rhanbarth. Nifer fawr o OCGs a hefyd gangiau stryd trefol (USGs); Delio mewn ystod o nwyddau gwahanol; Yn aml mae sawl cysylltiad yn y gadwyn gyflenwi ar y cam hwn; Bylchau cuddwybodaeth sylweddol ar y cam hwn o’r farchnadCyfanwerthwr
Manwerthwr Gwerthu cyffuriau ar lefel stryd i ddefnyddwyr. Cymysgedd o aelodau iau OCGS a USGs, yn ogystal â gwerthwyr sy’n ddefnyddwyr; Yn aml, nwyddau’n cael eu delio gyda’i gilydd (heroin + crac, cocên + ecstasi); Nifer uchel o drafodion.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymateb cychwynnol i Rannau 1 a 2 o adolygiad annibynnol mawr y Fonesig Carol Black o bolisi cyffuriau. Mae hwn yn nodi ein hymrwymiad i weithredu argymhellion yr adolygiad ac yn cymryd ymagwedd systemau cyfan i atal y cyflenwad troseddol o gyffuriau yn ogystal â lleihau’r galw gan y rhai sy’n eu defnyddio. Yr ydym eisoes yn cymryd camau i darfu ar y fasnach mewn cyffuriau anghyfreithlon sy’n plagio ein trefi a’n dinasoedd.

Ers 2019-20, rydym wedi darparu rhaglen gynhwysfawr o weithgarwch i fynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan gangiau llinellau cyffuriau. Mae ein cyllid wedi ehangu’r Ganolfan Genedlaethol ar Gydlynu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau i wella gwybodaeth a chydlynu’r ymateb cenedlaethol gan orfodi’r gyfraith. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer Gwasanaeth yr Heddlu Metropolitanaidd, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Glannau Mersi fel y gallant ddwysáu eu hymdrechion i niwtraleiddio’r gangiau allforio mawr sy’n delio â chyffuriau, y daw 80% ohonynt o’r lluoedd hynny. Ochr yn ochr â’r buddsoddiad hwn, rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer ardaloedd sy’n mewnforio, gan alluogi gweithgarwch tarfu cyflenwol ar ddechrau a diwedd y llinell sy’n delio â chyffuriau.

Mae ein gwaith ar linellau cyffuriau yn llwyddo. Mae ein buddsoddiad wedi gweld Ymgyrch Orochi yn Llundain, Prosiect Medusa yng Nglannau Merswy a thasgluoed llinellau cyffuriau penodedig yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn torri llinellau cyflenwi ac yn defnyddio rhwydweithiau dosbarthu’r gangiau yn eu herbyn. Gan weithio’n agos gyda lluoedd, mae’r llanw bellach yn troi ac rydym yn cael effaith. Mae’r asesiad diweddaraf o linellau cyffuriau yn dangos gostyngiad yng nghyfanswm nifer y llinellau delio bob mis, gyda’r niferoedd a adroddwyd yn dangos eu bod wedi gostwng o rhwng 800-1,100 yn 2019-20 i 600 yn 2019-20[footnote 43]. Gwyddom fod cymryd camau yn erbyn model busnes ecsbloetiol y llinellau cyffuriau yn hanfodol i’n cymdogaethau a byddwn yn parhau i ymchwyddo gweithgarwch i waredu ein trefi a’n dinasoedd o’r gangiau llinellau cyffuriau di-drugaredd hyn.

Mae ein dull cynhwysfawr o amharu ar y fasnach mewn cyffuriau anghyfreithlon yn cyfuno gwaith i gryfhau’r dull gorfodi’r gyfraith gyda gwelliannau yn ein gallu i gael defnyddwyr cyffuriau i gael triniaeth. Dengys tystiolaeth fod troseddu’n gostwng yn gyflym i droseddwyr sy’n gaeth i gyffuriau pan fyddant yn rhoi’n gorau i ddefnyddio[footnote 44]. Mae ein Prosiect ADDER arloesol yn datblygu’r ymateb amlasiantaethol i gyffuriau yn rhai o’r cymdogaetiau yr effeithir arnynt waethaf. Mae’n dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd gorfodi’r gyfraith, gwasanaethau triniaeth a’r system cyfiawnder troseddol yn gweithio gyda’i gilydd. Rydym wedi sefydlu ardaloedd ADDER mewn pum lle yng Nghymru a Lloegr ac rydym yn sefydlu wyth awdurdod lleol arall eleni, gan ein helpu i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu ein hymateb strategol hirdymor i leihau niwed sy’n gysylltiedig â chyffuriau.

Er y cyflawnir y rhan fwyaf o’r troseddau a achosir gan ddefnyddwyr cyffuriau gan y 314,000 o ddefnyddwyr heroin a chocên crac, mae’r galw am gyffuriau yn mynd yn ehangach. Y galw hwnnw sy’n ysgogi’r busnes cyffuriau ac yn creu trais a dioddefaint yn ein trefi a’n dinasoedd. Rhaid i leihau’r galw am gyffuriau hefyd fynd i’r afael â phob defnyddiwr ym mhob amgylchiad, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid cael canlyniadau clir i bawb, gan gynnwys y rhai a allai ystyried eu hunain yn ddefnyddwyr diniwed neu hamdden.

Mae cyffuriau’n anghyfreithlon am reswm: maent yn niweidiol, yn effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol, perthnasoedd, rhagolygon gyrfa a chymdeithas ehangach. Mae angen i unigolion sy’n defnyddio sylweddau anghyfreithlon wybod eu bod nid yn unig yn peryglu eu hiechyd, ond yn ariannu troseddwyr peryglus sy’n dibynnu ar ofn, camfanteisio a thrais. Yr ydym i gyd yn profi’r niwed y mae cyffuriau’n ei achosi, a chyfrifoldeb pawb – gorfodi’r gyfraith, cyflogwyr, addysgwyr, teuluoedd, ac aelodau’r cyhoedd – yw chwarae eu rhan a thynnu sylw i’r defnydd o gyffuriau.

Mae lleihau’r galw am gyffuriau yn cynnwys sicrhau bod canlyniadau clir i bawb sy’n defnyddio cyffuriau. Bydd hyn yn cynnwys edrych ar gosbau ariannol posibl a phresenoldeb mewn cyrsiau ymwybyddiaeth o gyffuriau. Bydd yr heddlu’n nodi defnyddwyr ac yn darparu’r sancsiwn priodol, tra hefyd yn helpu i newid ymddygiad. Mae’n bwysig bod ein dull gweithredu’n mynd i’r afael yn anymddiheurol â niwed cyffuriau a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth ysgogi marchnadoedd troseddol a niweidio bywydau a chymdogaethau, ni waeth sut, pryd a chan bwy y cânt eu defnyddio. Mae angen inni sicrhau bod canlyniadau i’r rheini sy’n ystyried bod eu defnydd o gyffuriau yn ddiniwed neu’n hamdden, a bwriadwn gyflwyno cynigion yn y maes hwn.

Mae ein hymateb cychwynnol i adolygiad y Fonesig Carol Black yn amlygu amrywiaeth o weithgarwch traws-Lywodraethol sydd eisoes ar y gweill mewn ymateb i’r heriau a godwyd yn yr adolygiad. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi Strategaeth Gyffuriau traws-Lywodraethol newydd yn ddiweddarach eleni a fydd yn nodi ein huchelgais tymor hwy i fynd i’r afael â chyffuriau yn y blynyddoedd i ddod, gan ganolbwyntio ar dri maes: torri modelau busnes cadwyni cyflenwi troseddol, datblygu system trin ac adfer cyffuriau o ansawdd uchel a mynd i’r afael â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon mewn cymdeithas ehangach drwy newid ymddygiad ac agweddau.

Mae’r Llywodraeth yn buddsoddi yn y galluoedd arbenigol hanfodol sydd eu hangen i fynd i’r afael â throseddau difrifol a threfnedig, gan gynnwys casglu data a rhannu gwybodaeth. Roedd Ymgyrch Venetic wedi llwyddo i dargedu troseddwyr a oedd yn defnyddio dyfeisiau wedi’u hamgryptio ac sy’n parhau i gael effaith sylweddol yn erbyn rhwydweithiau troseddol trefnedig ledled y DU. Mae’r buddsoddiadau hyn yn meithrin galluoedd ar lefel genedlaethol a rhanbarthol, gan helpu’r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA), yr heddlu a sefydliadau partner i ddiogelu’r cyhoedd rhag y troseddwyr mwyaf soffistigedig a niweidiol yn dechnolegol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â’r fasnach gyffuriau anghyfreithlon.

Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau partner i’w gwneud yn anos i droseddwyr elwa o nwyddau wedi’u dwyn. Rydym wedi sefydlu Gweithgor Nwyddau Wedi eu Dwyn arbenigol gyda’r heddlu a’r byd academaidd i ddatblygu ffyrdd arloesol o ymosod ar y marchnadoedd ar gyfer nwyddau wedi’u dwyn.

Yr ydym yn targedu troseddau sy’n gysylltiedig â cherbydau drwy wneud ceir yn anoddach i’w dwyn, yn anoddach i ddwyn ohonynt ac yn anoddach i’w gwerthu ymlaen. Roedd wythnos genedlaethol ddiweddar o weithredu a gydlynwyd gan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn canolbwyntio ar atal dwyn trawsnewidwyr catalytig. Arweiniodd gweithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i gynnal ymchwiliadau a gweithgarwch gorfodi yn y diwydiannau metel sgrap a gwastraff at adfer dros 1,000 o drawsnewidwyr catalytig wedi’u dwyn.

Er bod y difrod a achosir gan droseddu yn cael ei deimlo fwyaf yn ein cymdogaethau, gall ein carchardai roi cyfleoedd i droseddwyr barhau i droseddu a thyfu eu rhwydweithiau, wrth iddynt fanteisio ar dechnoleg fodern a llygredd yn y sector cyhoeddus.

  • Yr ydym wedi buddsoddi £100m mewn diogelwch carchardai drwy’r Rhaglen Buddsoddi mewn Diogelwch.

Mae’r rhaglen hon wedi cynnwys gosod Diogelwch Porth Manylach, sy’n cynnwys sganwyr bagiau pelydr-x, pyrth canfod metel a chŵn cyffuriau goddefol i atal eitemau anghyfreithlon rhag mynd i mewn i’n carchardai. Rydym hefyd wedi gosod offer rhwystro ffonau symudol, i darfu ar gyfathrebiadau anghyfreithlon sydd yn hwyluso gweithgarwch troseddol mewn carchardai ac yn deillio ohonynt. Rydym hefyd wedi datblygu ymateb cynhwysfawr sy’n dod â’r heddlu, carchardai, y gwasanaeth prawf, yr NCA a phartneriaid eraill at ei gilydd i ganolbwyntio ar yr aildroseddwyr mwyaf galluog a niweidiol.

Wrth wraidd y fenter droseddol hon mae llifau ariannol anghyfreithlon. Ein nod yw gwneud y DU y lle anoddaf yn y byd i ddihirod rhyngwladol wneud ac allforio arian. Yr ydym wedi cryfhau’r pwerau cyfreithiol i fynd i’r afael â gwyngalchu arian ac adennill asedau troseddol. Rydym yn gwella ein gallu i gael cudd-wybodaeth feirniadol am wyngalchu arian drwy ddiwygio’r drefn Adroddiadau Gweithgarwch Amheus. Mae prosiect pwrpasol dan arweiniad y Ganolfan Troseddau Economaidd Genedlaethol (NECC) yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r llifau arian parod sy’n cynnal y fasnach gyffuriau ryngwladol. Rydym yn cryfhau gallu a chapasiti’r NCA a phlismona, gan sicrhau bod ganddynt y data, y dechnoleg a’r offer ymchwilio sydd eu hangen arnynt i dargedu’r troseddwyr hyn, yma a thramor.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn gweithio gyda chwmnïau technoleg i sicrhau nad yw eu gwasanaethau’n tanseilio galluoedd hanfodol gorfodi’r gyfraith i ymchwilio ac erlyn troseddau difrifol.

  • Byddwn yn galluogi heddluoedd i ddefnyddio Gorchmynion Cynhyrchu Tramor i gael mynediad uniongyrchol cyflym at dystiolaeth electronig yn uniongyrchol gan Ddarparwyr Gwasanaethau Cyfathrebu’r Unol Daleithiau, gan ddisodli prosesau biwrocrataidd presennol a galluogi ymchwiliadau ac erlyniadau am droseddau difrifol i symud ymlaen yn gyflymach.

  • Byddwn yn cyhoeddi strategaeth gyffuriau hirdymor erbyn diwedd y flwyddyn gan ganolbwyntio ar ddull Llywodraeth gyfan o fynd i’r afael â’r cyflenwad a’r galw am gyffuriau.

  • Byddwn yn parhau i weithredu ein cynllun o’r dechrau i’r diwedd i darfu ar y cyflenwad cyffuriau a’r llinellau cyffuriau drwy waith i fyny’r gadwyn, ar y ffin ac yn y wlad i sicrhau bod y farchnad gyffuriau yn fenter risg uchel ag elw isel.

  • Byddwn yn egluro pa mor annerbyniol yw cymryd unrhyw gyffuriau wrth gyfeirio at ymyriadau. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar rôl addysgwyr, cyflogwyr a’r cyhoedd i gyflwyno negeseuon effeithiol i atal defnydd anghyfreithlon o gyffuriau. Byddwn hefyd yn cynnal uwchgynhadledd i ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd i archwilio’r ystod lawn o ysgogiadau i leihau’r galw am gyffuriau.

  • Byddwn yn ehangu Prosiect ADDER, gan ddyrannu £31 miliwn i gwmpasu wyth awdurdod lleol ychwanegol yn 2021-22 a 2022-23 (Bryste, Hackney, Tower Hamlets, Newcastle, Wakefield, Dinas Lerpwl, Knowsley a Wirral). Bydd hyn yn cynyddu cyfanswm y buddsoddiad yn y rhaglen hon i £59 miliwn ers 2020-21.

  • Byddwn yn gwella ein gallu i ddelio â chyllid anghyfreithlon. Byddwn yn cynyddu nifer yr ymchwilwyr ariannol hyfforddedig; gwella ein gallu i atafaelu a gwadu asedau troseddol; a chryfhau’r NECC. Byddwn hefyd yn cyflwyno deddfwriaeth sy’n mynd i’r afael â throseddau economaidd, gan gynnwys defnyddio strwythurau corfforaethol y DU i hwyluso gwyngalchu arian yn y pen uchaf.

  • Byddwn yn cynyddu ein capasiti a’n gallu. Byddwn yn cryfhau’r NCA; cynyddu capasiti Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol yn 2021-22 drwy recriwtio 300 o swyddogion ychwanegol sy’n canolbwyntio ar droseddu cyfundrefnol; a datblygu’r data beirniadol, y gudd-wybodaeth a’r galluoedd ymchwilio sydd eu hangen i ymgymryd â rhwydweithiau troseddol modern a alluogir gan dechnoleg.

  • Byddwn yn cyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn Adolygiad Integredig 2021[footnote 45] a set uchelgeisiol o ymyriadau gweithredol, rhaglennol a diplomyddol i arwain a chefnogi ymdrechion traws-Lywodraethol yn erbyn bygythiadau i fyny’r gadwyn sy’n gyrru troseddu ar ein strydoedd.

  • Byddwn yn parhau i gryfhau ein perthynas ag INTERPOL (Sefydliad Rhyngwladol yr Heddlu Troseddol), gan gynnwys drwy lywyddiaeth y DU o’r G7 eleni. Bydd hyn yn cynnwys gwella ein gallu i rannu data gyda phartneriaid rhyngwladol drwy fuddsoddi mewn datblygu galluoedd technegol i gefnogi ymchwiliadau trawswladol i bob math o droseddu yn ogystal â chynnal Cynulliad Cyffredinol INTERPOL yn 2024.

  • Byddwn yn mynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol o fewn moroedd tiriogaethol y DU, gan gryfhau’r ffin fel pwynt ymyrryd drwy weithredu strategaeth ffiniau 2025 y DU. Byddwn hefyd yn ehangu ein rhaglenni rhyngwladol, gan feithrin gallu ein partneriaid rhyngwladol i darfu ar droseddau cyfundrefnol difrifol i fyny’r gadwyn cyn iddo gyrraedd y DU.

  • Byddwn yn datblygu ‘Model Gweithredu ar y Cyd’ ynghyd â Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ac NCA i wella effeithiolrwydd ein galluoedd domestig i fynd i’r afael â throseddu gyda dimensiwn rhyngwladol.

  • Byddwn yn cyflwyno Platfform Rhybuddio Rhyngwladol Gorfodi’r Gyfraith (ILEAP). Bydd y gwasanaeth uchelgeisiol hwn yn cael ei integreiddio i systemau plismona, NCA a ffiniau’r DU. Bydd yn atgyfnerthu gwahanol ffynonellau data rhybuddio rhyngwladol ac yn eu cyflwyno i ddefnyddwyr rheng flaen y DU fel y gallant gymryd camau priodol yn erbyn troseddwyr sy’n ceisio dod i mewn i’r DU a hwyluso’r gwaith o ddarparu rhybuddion y DU i bartneriaid rhyngwladol

  • Byddwn yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r gallu rhannu data Prüm (Confensiwn). Gan adeiladu ar y pecyn cynhwysfawr o alluoedd a gyflwynwyd gan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu a wnaed gennym gyda’r UE y llynedd, bydd hyn yn cynnwys sicrhau cysylltiadau DNA ac olion bysedd newydd ag Aelod-wladwriaethau’r UE a gweithredu gallu’r data cofrestru cerbydau.

Astudiaeth achos 4: Prosiect ADDER yn Blackpool

Mae Prosiect ADDER, rhaglen sydd â’r nod o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau yn rhai o’r ardaloedd sydd wedi dioddef waethaf ledled Cymru a Lloegr, wedi adeiladu ar bartneriaethau a mentrau presennol cryf yn Blackpool, a gafodd y gyfradd uchaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Lloegr yn 2019. Mae hyn wedi darparu sylfaen gadarn lle mae Heddlu Sir Gaerhirfryn a Chyngor Blackpool wedi adeiladu dull system gyfan sy’n amharu ar gyflenwad cyffuriau’r farchnad ganol tra’n ymgysylltu â phobl ifanc ac oedolion sydd â dibyniaeth gymhleth ar gyffuriau, nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau triniaeth ar hyn o bryd efallai.

Drwy ddod ag arweinwyr ar draws y cyngor, yr heddlu, trin cyffuriau, tai a darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill at ei gilydd mewn cyfarfodydd strategol wythnosol, mae’r prosiect wedi gallu darparu dull sy’n wybodus am drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn eisoes wedi arwain at achub bywyd unigolyn drwy Naloxone trwynol, triniaeth achub brys ar gyfer gorddos opioidau hysbys neu a amheuir. Dechreuodd y prosiect gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2020 ac aeth yn fyw ym mis Ionawr 2021.

Mae Prosiect ADDER yn darparu £4.95m o gyllid dros 2.5 mlynedd, gan gynnwys:

  • Tasglu ADDER yr heddlu i ymgymryd â gweithgarwch cudd-wybodaeth wedi’i dargedu dan arweiniad gorfodi, sydd hyd yma wedi arwain at amharu ar 82 Grŵp Troseddu Cyfundrefnol.

  • Gwella’r model a arweinir gan hyfforddwr ADDER gan ddefnyddio gwarediadau y tu allan i’r llys i ddargyfeirio unigolion i wasanaethau triniaeth ac adfer.

  • Hyfforddwyr gwaith yn ymgysylltu â carcharorion cyn eu rhyddhau ar gyflogaeth i wella ymgysylltiad â thriniaeth ar gyfer cyffuriau.

  • Tîm o fentoriaid cymheiriaid sy’n cefnogi darparwyr triniaeth ac yn annog y rhai sy’n cael triniaeth, sydd wedi cyfrannu at gynnydd o 12% yn nifer y rhai sy’n cychwyn ar driniaeth cyffuriau o’r broses o ysgogi hyd at 21 Ebrill.

Pennod 3 – Datgelu a rhoi terfyn ar niweidiau cudd

3.1 Y broblem

Nid yw cartref yn lle diogel i bawb. Fel arfer, mae troseddau fel cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, trais yn erbyn menywod a merched (gan gynnwys cam-drin domestig a thrais rhywiol) a chaethwasiaeth fodern yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, wedi’u cuddio o’r golwg. Mae’r troseddau hyn yn niweidiol iawn a gallant gael effaith gorfforol a seicolegol hirdymor ar ddioddefwyr a goroeswyr.

Mae cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant

Mae cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol ar blant yn golygu gorfodi neu hudo plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol, a allai gynnwys cyswllt corfforol neu beidio, ac sy’n cael ei hwyluso fwyfwy ar-lein neu drwy dechnoleg. Er bod cam-drin rhywiol yn cael ei gyflawni’n bennaf gan oedolion gwrywaidd, gall menywod hefyd gyflawni gweithredoedd o gam-drin rhywiol, fel y gall plant eraill. Yng Nghymru a Lloegr, amcangyfrifir bod 7.5% o oedolion wedi profi cam-drin rhywiol cyn eu bod yn 16 oed – tua 3.5% o ddynion ac 11.5% o fenywod – yn ôl yr arolwg diweddaraf o fynychder gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)[footnote 46].

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn dal heb ei nodi a’i riportio’n ddigonol, er ein bod wedi gweld cynnydd serth mewn riportio i’r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf. Cofnodwyd dros 89,000 o droseddau cam-drin plant yn rhywiol gan yr heddlu yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021, cynnydd o tua 290% ers 2013[footnote 47] . Fodd bynnag, nid yw digon o’r troseddau hyn a gofnodwyd yn arwain at gyhuddiad ac mae cyfanswm nifer yr erlyniadau a’r euogfarnau ar gyfer pob trosedd cam-drin plant yn rhywiol wedi gostwng (25% a 34% yn y drefn honno) o lefel uchel yn y flwyddyn hyd at fis Rhagfyr 2016[footnote 48] .

Mae’r Llywodraeth yn bwrw ymlaen â gweithredu’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol gyda’r nod o fynd i’r afael â phob math o gam-drin plant yn rhywiol, ta waeth ble mae’n digwydd, neu pwy sy’n ei gyflawni.

Mae trais yn erbyn menywod a merched

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn cyfeirio at weithredoedd o drais neu gam-drin y gwyddom eu bod yn effeithio’n anghymesur ar fenywod a merched er y gall effeithio ar unrhyw un (gan gynnwys dynion a bechgyn). Mae troseddau ac ymddygiad a gwmpesir gan y term hwn yn cynnwys trais rhywiol a throseddau rhywiol eraill, cam-drin domestig, stelcio, cam-drin a llofruddio sy’n seiliedig ar anrhydedd, yn ogystal â llawer o rai eraill.

Roedd un o bob pum menyw yn dioddef ymosodiad rhywiol (neu gais i ymosod) yn ystod eu hoes (o’i gymharu â 5% o ddynion)[footnote 49], roedd dros 27% o fenywod wedi profi cam-drin domestig ar ôl 16 oed (o gymharu â 14% o ddynion)[footnote 50], ac fe wnaeth 20% o fenywod 16-74 oed brofi stelcian ar ôl 16 oed (o gymharu â 10% o ddynion)[footnote 51]. Gwyddom hefyd fod nifer y troseddau trais yn erbyn menywod a merched, gan gynnwys cam-drin domestig, stelcian, trais rhywiol, dinoethiad anweddus a chyffwrdd digroeso wedi aros fwy neu lai yr un fath ers 2008-09.

Fodd bynnag, mae nifer yr achosion sy’n cael eu hatgyfeirio gan yr heddlu, a gyhuddir gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac wedyn yn mynd i’r llys, wedi gostwng yn sylweddol ers 2016.

Caethwasiaeth Fodern

Nae Caethwasiaeth Fodern yn cwmpasu caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur dan orfod a llafur gorfodol a masnachu mewn pobl. Canfu ymchwil gan y Swyddfa Gartref yn 2017 fod 17 math o gaethwasiaeth fodern[footnote 52], ac eto mae ei natur gudd yn ei gwneud yn anodd cynhyrchu mesur cywir o’i raddfa. Er y bu cynnydd o 52% mewn atgyfeiriadau rhwng 2018 a 2019, fe wnaeth hyn wastadu yn 2020 gyda 10,613 o ddioddefwyr caethwasiaeth fodern posibl yn cael eu hatgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM); nifer tebyg i nifer 2019.

Credir yn bennaf bod y gwastadu yn niferoedd yr atgyfeiriadau wedi deillio o bandemig COVID a chyfyngiadau cysylltiedig. Yn 2020, y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer dioddefwyr posibl sy’n oedolion oedd camfanteisio ym maes llafur, ond ar gyfer dioddefwyr posibl sy’n blant, adroddwyd fwyaf am gamfanteisio troseddol gyda 28% o’r atgyfeiriadau hyn yn gysylltiedig â llinellau cyffuriau. Gwladolion y DU oedd y cenedligrwydd a gafodd eu hatgyfeirio fwyaf, gan gyfrif am 34% o’r holl atgyfeiriadau yn 2020[footnote 53]. Mae’r Swyddfa Gartref yn amcangyfrif bod caethwasiaeth fodern wedi costio rhwng £3.3 a £4.3 biliwn i’r DU yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2017[footnote 54]. Yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2021, cafwyd 8,730 o droseddau caethwasiaeth fodern, cynnydd o 5% o’r flwyddyn hyd at fis Mawrth 2020[footnote 55].

3.2 Ein hymagwedd

Cynhaliodd y Prif Weinidog yr Uwchgynhadledd Rithwir Niweidiau Cudd gyntaf erioed ym mis Mai y llynedd, gan ddod ag amrywiaeth o bartneriaid at ei gilydd i rannu arfer sy’n dod i’r amlwg a thrafod y ffordd orau o fynd i’r afael â’r materion hyn yng nghyd-destun y risgiau cynyddol a achosir gan bandemig COVID.

I nodi’r troseddau hyn, mae angen ymateb cynhwysfawr a pharhaus, ar lefel ddomestig a byd-eang, gan ganolbwyntio’n ddi-baid ar atal ac amharu, diogelu’r rhai sydd mewn perygl, cefnogi dioddefwyr a dwyn pwysau ar droseddwyr.

Yn gyffredinol, rydym yn glir ynglŷn â’r canlyniadau rydym am eu gweld: mwy o adrodd am y troseddau hyn i’r heddlu; niferoedd cynyddol o droseddwyr yn cael eu dwyn i gyfiawnder; gwell gofal a chymorth i ddioddefwyr; a gostyngiad cyffredinol ym mynychder y troseddau hyn. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen ymdrech barhaus ar draws y Llywodraeth ac amrywiaeth eang o bartneriaid.

Yr ydym yn gweithredu. Rydym wedi pasio Deddf Cam-drin Domestig nodedig, ac wedi cyhoeddi’r Strategaeth Mynd i’r Afael â Cham-drin Plant yn Rhywiol a’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched. Rydym wedi rhoi Cynllun Gweithredu’r Adolygiad Treisio ar waith ac wedi ymrwymo i ymgynghori ar Fil Dioddefwyr newydd a chyhoeddi strategaethau newydd ar gaethwasiaeth fodern a Cham-drin Domestig. Rydym hefyd wedi cyhoeddi Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Dioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr, sy’n canolbwyntio ar hawliau dioddefwyr ac yn nodi’r safonau gofynnol y mae’n rhaid i sefydliadau eu darparu i ddioddefwyr troseddau. Byddwn yn defnyddio’r Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo a’r Bil Cenedligrwydd a Ffiniau i sicrhau bod dioddefwyr caethwasiaeth fodern yn cael eu hadnabod a’u cefnogi cyn gynted â phosibl.

Rydym hefyd yn arloesi gyda phartneriaid diwydiant a rhyngwladol i fynd i’r afael ag amlygiadau ar-lein ar gyfer y troseddau hyn. Mae ein gwaith yn cynnwys cyhoeddi Bil Diogelwch Ar-lein drafft a pharatoadau parhaus ar gyfer Uwchgynhadledd y G7 eleni, a fydd yn canolbwyntio ar gam-drin plant yn rhywiol a thrais yn erbyn menywod a merched. Yn ogystal, byddwn yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb yr hydref hwn i helpu i ddileu’r troseddau ffiaidd sy’n targedu dioddefwyr (yn seiliedig ar hil, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd neu hunaniaeth drawsryweddol).

Mae’r strategaethau hyn, cynlluniau gweithredu a deddfau newydd wedi’u targedu yn adlewyrchu’r heriau amrywiol a chymhleth o ran datgelu a rhoi terfyn ar niweidiau cudd a’r angen am ymateb wedi’i deilwra i bob un. Fodd bynnag, mae gan ein dull gweithredu ar draws yr holl waith hwn rai pwyntiau ffocws cyffredin.

3.3 Adroddiadau cynyddol

Gall y ffaith nad yw’r troseddau hyn wedi’u nodi’n fawr ac nad ydynt yn cael eu hadrodd i’r heddlu olygu eu bod yn arbennig o gymhleth i’w deall a’u hymchwilio. Er enghraifft, mae data ONS yn amcangyfrif na wnaeth tri chwarter yr oedolion a brofodd drais neu ymosodiad drwy dreiddio pan oeddent yn blant ddweud wrth neb am eu profiad ar y pryd. Roedd pobl hyd yn oed yn llai tebygol o ddweud wrth yr heddlu - dim ond tua 7% o ddioddefwyr a goroeswyr a hysbysodd yr heddlu ar adeg y drosedd a dim ond 18% a ddywedodd wrth yr heddlu ar unrhyw adeg[footnote 56].

Cawsom ein calonogi gan adroddiadau cynyddol am y troseddau hyn, megis y cynnydd o 290% mewn troseddau rhyw yn erbyn plant a gofnodwyd gan yr heddlu yn y cyfnod rhwng y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 a mis Mawrth 2021[footnote 57]. Mae mwy o adrodd yn adlewyrchu mwy o hyder ymhlith dioddefwyr a gwell adnabyddiaeth o droseddu gan yr heddlu ac asiantaethau eraill. Rydym hefyd wedi gweld nifer yr ymgyrchoedd heddlu byw yn cynyddu ers i’r Ddeddf Caethwasiaeth Fodern ddod yn gyfraith, o 188 ym mis Rhagfyr 2016 i o leiaf 3,070 ym mis Mehefin 2021[footnote 58].

Gwyddom hefyd fod y rhai y mae niweidiau cudd wedi effeithio arnynt yn llawer mwy tebygol o rannu eu profiadau o dan yr amgylchiadau cywir.

Fe wnaeth yr Alwad am Dystiolaeth ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod a Merched dderbyn dros 180,000 o ymatebion.

Roedd llawer o’r ymatebion i’r Alwad am Dystiolaeth ar gyfer Trais yn Erbyn Menywod a Merched gan ddioddefwyr yn rhannu eu profiadau, rhai ohonynt am y tro cyntaf. Dyma’r ymgynghoriad mwyaf erioed y mae’r Llywodraeth wedi’i gynnal yn y maes hwn. Mae’r ymatebion a’r ymgysylltu wedi darparu tystiolaeth gyfoethog i ni am y troseddau hyn, ond hefyd o’u natur ddinistriol iawn.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Gwyddom mai nodi’r troseddau hyn ac ymateb yn effeithiol yw’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r broblem. Rydym wedi rhoi’r sgiliau a’r offer sydd eu hangen ar weithwyr rheng flaen proffesiynol drwy greu canllawiau amlasiantaethol statudol a sicrhau bod e-ddysgu am ddim ar gael ar briodas dan orfod ac Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod. Rydym hefyd wedi ariannu’r Ganolfan Arbenigedd ar gyfer cam-drin plant yn rhywiol er mwyn gwella’r ymateb proffesiynol rheng flaen i’r drosedd hon, yn ogystal â darparu hyfforddiant wedi’i deilwra i weithwyr cymdeithasol, gweithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu ac arweinwyr diogelu dynodedig mewn ysgolion. Mae hyn yn cynnwys £2 filiwn o gyllid eleni ar gyfer Rhaglen Gwybodaeth ac Ymarfer Bregusrwydd yr heddlu a £250,000 ar gyfer y rhaglen Diogelu’r Cyhoedd ac Arweinwyr Diogelu.

Mae cydweithio agos rhwng asiantaethau diogelu yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r troseddau cymhleth hyn. Rydym wedi buddsoddi yn Ymgyrch Encompass, cynllun arloesol sy’n hwyluso ysgolion a’r heddlu i gydweithio er mwyn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol i blant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt. Rydym hefyd yn ymgysylltu ag asiantaethau anstatudol i chwarae eu rhan, gan gefnogi sefydliadau cymunedol i nodi camdriniaeth ac atgyfeirio dioddefwyr i helpu drwy’r cynllun codair cenedlaethol, sy’n darparu ffordd dawel i ddioddefwyr cam-drin domestig ddangos bod angen cymorth brys arnynt.

I gefnogi hyn, rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd cyfathrebu cyhoeddus i ysgogi newid mewn ymddygiad. Rydym wedi cyflwyno’r ymgyrch Hidden in Plain Sight ar gaethwasiaeth fodern a’r ymgyrch You Are Not Alone ar gam-drin domestig.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn cefnogi cyflogwyr i wella eu hymateb i gam-drin domestig drwy ganllawiau, polisïau a chynlluniau cymorth cadarn.

  • Byddwn yn ymestyn cyrhaeddiad ein hymgyrch Atal Cam-drin Gyda’n Gilydd ar gam-drin plant yn rhywiol.

  • Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau fel CrimeStoppers a Gwarchod y Gymdogaeth i godi dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o niweidiau cudd ymhlith cymunedau lleol.

  • Byddwn yn cyhoeddi fersiwn well o’n Pecyn Cymorth Tarfu ar Gamfanteisio ar Blant a fabwysiadwyd yn eang, sy’n rhoi canllawiau cynhwysfawr i bartneriaid diogelu ddatblygu asesiadau bygythiad lleol cryfach ac ymatebion sy’n seiliedig ar leoedd.

3.4 Gwella canlyniadau cyfiawnder troseddol

Dim ond dechrau darparu ar gyfer dioddefwyr a chymdeithas yn gyffredinol yw cynyddu adroddiadau i’r heddlu. Mae’n hanfodol bod mwy o’r troseddau cymhleth hyn yn arwain at erlyniadau ac euogfarnau i sicrhau cyfiawnder i ddioddefwyr ac amddiffyn y cyhoedd rhag y rhai sy’n plagio’r rhai sy’n agored i niwed. Rhaid i bawb sy’n dioddef trosedd fod yn hyderus y byddant yn gweld cyfiawnder yn cael ei wneud, y byddant yn cael eu cefnogi i wella o’u trawma ac yn cael eu diogelu pan fyddant mewn perygl o niwed pellach.

Ymgynghoriad newydd y Bil Dioddefwyr fydd conglfaen ein cynllun ar gyfer gwella boddhad ac ymddiriedaeth yn y system cyfiawnder troseddol. Bydd yn sicrhau bod pawb sy’n dioddef trosedd yn derbyn eu hawliau a’u bod yn cael cymorth priodol i ymdopi ac adfer. Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar gyhoeddi’r Cod Ymarfer diwygiedig ar gyfer Dioddefwyr Troseddau yng Nghymru a Lloegr yn ddiweddar (Cod Diwygiedig y Dioddefwyr) sy’n nodi 12 o hawliau trosfwaol allweddol y gall pob dioddefwr eu disgwyl gan bob asiantaeth cyfiawnder troseddol, megis yr heddlu a’r CPS.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Yr ydym wedi rhoi’r pwerau sydd eu hangen ar yr heddlu a’u partneriaid i atal troseddwyr yn llwyr. Er enghraifft, cyflwynodd y Ddeddf Cam-drin Domestig Orchmynion Diogelu Cam-drin Domestig i ddarparu amddiffyniad mwy effeithiol a thymor hwy i ddioddefwyr cam-drin domestig a’u plant.

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn technoleg arbenigol ac arbenigedd diogelwch cenedlaethol, gan gynnwys galluoedd gwe dywyll yr NCA, i dyfu ein gallu i ddal troseddwyr ble bynnag y maent yn gweithredu.

Rydym hefyd yn rhoi mwy o ffocws ar atal aildroseddu er mwyn atal cyflawnwyr rhag symud o ddioddefwr i ddioddefwr a pharhau â’u cam-drin. Rydym wedi darparu offer fforensig digidol, polygraffiau a hyfforddiant i reolwyr troseddwyr rhyw i ganfod aildroseddu, yn enwedig gan y rhai sy’n cyflawni troseddau dros y rhyngrwyd. Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd y CPS raglen waith uchelgeisiol yn rhagweithiol i fynd i’r afael â throseddau cam-drin domestig sy’n ceisio helpu i leihau’r gwahaniaeth rhwng canlyniadau adrodd a chyfiawnder troseddol. Rydym hefyd yn cyflwyno mesurau llymach drwy’r Bil PCSC i roi terfyn ar ryddhau troseddwyr penodol a ddedfrydwyd am droseddau treisgar a rhywiol difrifol hanner ffordd trwy eu dedfryd. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddedfryd a weinir yn adlewyrchu difrifoldeb y tramgwydd a gyflawnwyd ac yn cadw’r troseddwyr gwaethaf y tu ôl i fariau am fwy o amser.

Rydym yn trawsnewid y ffordd y mae’r heddlu a’r CPS yn ymdrin ag ymchwiliadau drwy’r cynllun uchelgeisiol a nodir yng Nghynllun Gweithredu’r Adolygiad Treisio, Strategaeth Treisio a Throseddau Rhywiol Difrifol y CPS 2025 a ffrydiau gwaith pwrpasol fel Ymgyrch SOTERIA. Rydym wedi ymrwymo i ddychwelyd nifer yr achosion sy’n cael eu hatgyfeirio gan yr heddlu, a gyhuddir gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac sy’n mynd i’r llys hyd at lefelau 2016. Bydd partneriaid gweithredol hefyd yn cael eu dwyn i gyfrif am y tro cyntaf, gyda chardiau sgorio perfformiad yn cael eu cyhoeddi bob chwe mis. At hynny, er mwyn gwella profiad y llys i ddioddefwyr rydym yn gweithredu mesurau yn y Ddeddf Cam-drin Domestig, gan ddarparu amddiffyniadau a chymorth newydd i ddioddefwyr, sicrhau na fydd camdrinwyr yn cael archwilio eu dioddefwyr yn uniongyrchol yn y llysoedd teulu a’r llysoedd sifil mwyach a darparu gwell mynediad at fesurau arbennig yn ystafell y llys i helpu i atal bygythiadau.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn parhau i gefnogi gwaith i gynyddu erlyniadau caethwasiaeth fodern drwy fuddsoddiad o £1.4 miliwn yn yr heddlu yn 2021-22, a thrwy brofi dull newydd o wella ymgysylltiad dioddefwyr caethwasiaeth fodern yn y broses cyfiawnder troseddol.

  • Byddwn yn buddsoddi mewn technoleg arloesol newydd fel y Gronfa Ddata Delweddau Cam-drin Plant.

  • Byddwn yn cryfhau gorchmynion i reoli troseddwyr rhyw drwy’r Bil PCSC.

  • Byddwn yn buddsoddi yng ngallu’n NCA i nodi ac amharu’n well ar droseddwyr rhyw cyfresol.

  • Byddwn yn defnyddio unrhyw ddysgu o weithredu Cynllun Gweithredu’r Adolygiad Treisio i gynyddu nifer y troseddwyr a ddygir i gyfiawnder ar gyfer troseddau cam-drin plant yn rhywiol a chamfanteisio’n rhywiol.

3.5 Cymorth i ddioddefwyr

Gall niweidion cudd achosi niwed emosiynol a seicolegol enfawr i ddioddefwyr, sydd yn aml angen cymorth sylweddol i ailadeiladu eu bywydau.

Mae tystiolaeth yn dangos bod mynediad at gymorth cynnar a pharhaus i lawer o droseddau yn ffactor hanfodol o ran galluogi dioddefwyr i ymgysylltu â’r system cyfiawnder troseddol, ac i barhau i ymgysylltu â hi. Mae ymchwil yn dangos, er enghraifft, os yw dioddefwr trais rhywiol yn cael cymorth gan Gynghorydd Treisio Rhywiol Annibynnol neu wasanaeth cymorth treisio rhywiol, ei fod 49% yn llai tebygol o dynnu’n ôl o’r ymchwiliad cyfiawnder troseddol o gymharu â dioddefwyr na dderbyniodd gymorth[footnote 59].

Rydym yn parhau i wneud y buddsoddiad mwyaf erioed, gyda mwy na £300 miliwn o bunnau’n cael eu gwario eleni yn unig ar wasanaethau dioddefwyr.

Mae ein buddsoddiad yn ychwanegol at y camau pendant a gymerwyd gennym ar ddechrau pandemig COVID i sicrhau bod dioddefwyr yn parhau i gael mynediad at wasanaethau cymorth hanfodol, gan gynnwys cwnsela a chyngor, gyda dros £92 miliwn ar gael ers dechrau’r pandemig.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Rydym wedi darparu cyllid â ffocws i ddarparu cymorth o’r ansawdd uchaf i ddioddefwyr, megis £125 miliwn o gyllid i awdurdodau lleol ar gyfer 2021-22 i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig a’u plant mewn llety diogel. Mae’r GIG hefyd wedi nodi ei Gyfarwyddyd Strategol ar Wasanaethau Ymosodiadau Rhywiol a Cham-drin sy’n manylu ar sut y bydd y system iechyd yn darparu gofal gydol oes i ddioddefwyr a goroeswyr.

Rydym hefyd yn profi dulliau newydd o ddarparu cymorth i ddioddefwyr, megis creu Cronfa Weddnewid newydd i hyrwyddo a gwreiddio arfer gorau ar gefnogi dioddefwyr cam-drin plant yn rhywiol yn effeithiol sy’n dod o gefndiroedd hiliol a lleiafrifoedd ethnig.

Er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses CJS, rydym wedi darparu £27 miliwn o bunnau o fuddsoddiad dros ddwy flynedd i recriwtio 700 o Ymgynghorwyr Trais Rhywiol a Thrais Domestig Annibynnol newydd, cynnydd o 44%.

Rydym yn parhau i gyflwyno Gwarcheidwaid Masnachu Plant Annibynnol sy’n darparu cymorth eirioli i blant sy’n dioddef caethwasiaeth fodern ac sydd ar gael ar hyn o bryd mewn dwy ran o dair o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Mae Adran 28 o Ddeddf Cyfiawnder Ieuenctid a Thystiolaeth Droseddol 1999, sy’n galluogi tystiolaeth croesholi ac ail-groesholi a gofnodwyd ymlaen ymlaen llaw, wedi’i chyflwyno i Lysoedd y Goron ar gyfer tystion sy’n agored i niwed ac mae’n cael ei threialu ar gyfer dioddefwyr a thystion sydd wedi’u dychryn. Gyda’r farnwriaeth,bydd y Llywodraeth yn ehangu’r cynllun peilot Adran 28 ar gyfer tystion sydd wedi’u dychryn, megis achwynwyr troseddau caethwasiaeth rhywiol neu fodern gyda’r nod o’i gyflwyno’n ehangach, yn amodol ar werthusiad.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn sicrhau cynaliadwyedd cyllid drwy’r Strategaeth Ariannu Dioddefwyr, a fydd yn nodi safonau a disgwyliadau comisiynu ac yn sicrhau bod dioddefwyr yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn awr ac yn y dyfodol.

  • Byddwn yn ymgynghori ar sail statudol ar gyfer Eiriolwyr Trais Rhywiol a Domestig Annibynnol drwy’r ymgynghoriad ar y Bil Dioddefwyr.

  • Byddwn yn cefnogi awdurdodau lleol i baratoi a chyflawni eu swyddogaethau perthnasol o dan y ddyletswydd newydd i ddarparu cymorth yn seiliedig ar lety o dan y Ddeddf Cam-drin Domestig.

  • Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i wella gwasanaethau, megis trawsnewid y cymorth a ddarperir i ddioddefwyr caethwasiaeth fodern drwy’r NRM a’r Contract Gofal Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern sy’n darparu cymorth meddygol, iechyd meddwl, ariannol a llety i dros 6,000 o ddioddefwyr bob blwyddyn.

  • Byddwn yn cynhyrchu canllawiau ar gyfer partneriaethau lleol ar y model ‘Tŷ Plant’ o gymorth amlasiantaethol i blant a phobl ifanc y mae cam-drin rhywiol yn effeithio arnynt.

3.6 Atal ac ymyrryd yn gynnar

Rhaid inni anelu at ratal cam-drin cyn iddo ddigwydd er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn dioddef trawma’r troseddau ffiaidd hyn drwy fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus cynhwysfawr[footnote 60].

Rydym yn parhau i weithio’n agos ar draws y Llywodraeth ar amrywiaeth o raglenni cymorth cynnar, gan gynnwys Cefnogi Teuluoedd, Hybiau Teulu a chymorth blynyddoedd cynnar, sydd mor hanfodol i ddarparu sefydlogrwydd i deuluoedd leihau’r perygl o fod yn gysylltiedig â throseddu fel dioddefwr neu gyflawnwr.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Rydym yn gwella addysg ac ymwybyddiaeth i bob plentyn, gan gynnwys drwy weithredu’r cwricwlwm Perthnasoedd ac Addysg Rhyw, ac Addysg Iechyd newydd, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd iach ac aros yn ddiogel ar-lein, yn ogystal ag addysgu disgyblion am ddeddfau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o feysydd gan gynnwys camfanteisio, paratoi, gorfodi, aflonyddu, cam-drin domestig ac anffurfio organau rhywiol menywod.

Rydym hefyd yn gwella dealltwriaeth ac ymatebion cynharach i amrywiaeth o niweidiau, gan gynnwys drwy Raglen Atal Cymdeithas y Plant o ddeg swyddog, sy’n gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i ddatblygu ymagweddau ataliol at gamfanteisio. Mae hyn yn ychwanegol at ymgysylltiad y Llywodraeth â busnesau, gan gynnwys drwy waith gyda chadwyni cyflenwi’r sector preifat i atal camfanteisio ar lafur yn y DU a thramor.

Rydym hefyd yn datblygu’r sylfaen dystiolaeth o amgylch atal ac ymyrryd yn gynnar, gan gynnwys drwy flwyddyn olaf y Gronfa Perthnasoedd Cymeradwy i fynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn cyflwyno ymgyrch genedlaethol newydd er mwyn creu newid ymddygiad o ran trais yn erbyn menywod a merched ac, wrth wneud hynny, codi ymwybyddiaeth.

  • Byddwn yn sefydlu rhaglen gynhwysfawr i ddeall beth sy’n gweithio i atal trais yn erbyn menywod a merched. Bydd hyn yn cynnwys ystod eang o brosiectau atal o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth ochr yn ochr ag offer asesu hanfodol i sefydlu’r dulliau mwyaf effeithiol yn y gofod hwn.

  • Byddwn yn bwrw ymlaen â phecyn uchelgeisiol o fesurau i gryfhau tryloywder y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern mewn deddfwriaeth cadwyni cyflenwi. Rydym hefyd wedi ymrwymo i greu un corff gorfodi i wella’r broses o orfodi hawliau cyflogaeth yn gyffredinol a chymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gyflogwr sy’n camddefnyddio cyfraith gyflogaeth.

  • Byddwn yn gwneud ein mannau ar-lein yn fwy diogel drwy gyflwyno deddfwriaeth newydd arloesol drwy’r Mesur Diogelwch Ar-lein i sicrhau bod cwmnïau technoleg yn chwarae eu rhan i waredu eu platfformau o gam-drin, yn ogystal ag arwain mentrau rhyngwladol i sbarduno’r ymateb byd-eang angenrheidiol i’r hyn sy’n broblem ryng-gysylltiedig fyd-eang drwy’r G7 a’n cynghreiriaid agosaf.

  • Byddwn yn datblygu’r sylfaen dystiolaeth o amgylch atal ac ymyrryd yn gynnar, gan gynnwys drwy ymchwil gan y Ganolfan Polisi a Thystiolaeth Caethwasiaeth Fodern a Hawliau Dynol ac ymyriadau atal wedi’u targedu a gefnogir gan gronfa atal caethwasiaeth fodern.

  • Byddwn yn annog buddsoddiad rhyngwladol yn yr agenda hon, gan gynnwys drwy fuddsoddiad o’r newydd yn y Rhaglen Gwrthsefyll Camfanteisio sydd newydd ei hintegreiddio, sy’n gyfrwng hanfodol ar gyfer cyflawni ymrwymiadau rhyngwladol a maniffesto’r Llywodraeth i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern a chamfanteisio’n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol ar lefel fyd-eang.

Pennod 4 – Meithrin gallu i ddelio â thwyll, seiberdroseddu a throseddau ar-lein

Y broblem

Mae troseddau economaidd, seiber ac ar-lein yn effeithio ar gymdeithas gyfan, gan niweidio pobl, busnesau a’r Llywodraeth. Wrth i’r amser a dreuliwn ar-lein gynyddu, mae’r cyfleoedd i droseddwyr yn lluosi. Gyda’i gilydd, mae twyll a seiberdroseddu yn cynrychioli dros 50% o droseddu.

Mae troseddau ar-lein, gan gynnwys troseddau casineb ar-lein, yn niweidio ein heconomi a’n cymdeithas.

Mae twyl

Mae twyll yn cyfrif am tua 42% o’r holl droseddau yn erbyn unigolion ac mae’n tyfu. Mae’r technegau a ddefnyddir gan dwyllwyr yn golygu bod ei effaith yn eang. Mae’n effeithio ar ddiogelwch ein gweithgarwch ar-lein ac mae’n tanseilio ein gallu i gyfathrebu oherwydd negeseuon twyllodrus sy’n honni eu bod gan y Llywodraeth neu fusnes.

Mae twyll yn costio o leiaf £4.7 biliwn i gymdeithas bob blwyddyn.

Yn ogystal â’r effaith ariannol, mae’n cael amrywiaeth o effeithiau iechyd meddwl a chorfforol, o straen, hyd at anhawster cysgu ac, mewn rhai achosion, iselder[footnote 61].

Seiberdroseddu

Amcangyfrifir bod seiberdroseddu yn costio biliynau o bunnoedd i’r DU bob blwyddyn, drwy geisio dwyn ein gwybodaeth bersonol neu hacio i mewn i systemau busnes a dal unigolion a busnesau am bridwerth, neu drwy geisio tarfu ar wasanaethau cyhoeddus allweddol a seilwaith cenedlaethol hanfodol neu eu cymryd all-lein.

Gall seiberdroseddau hefyd hwyluso troseddau eraill fel twyll, stelcio, cam-drin domestig a throseddau casineb. Mae dioddefwyr seiberdroseddu yn disgrifio’r effaith fel un sy’n debyg i droseddau ‘byd corfforol’, ag effeithiau emosiynol a lles sylweddol a hirdymor yn cael eu creu drwy’r ‘torri’ sy’n digwydd pan yw troseddwyr yn hacio i mewn i’w cyfrifon a heb wybod pa niwed pellach a allai ddod o’r ymosodiadau.

Gall seiberfwlio a gyflawnir yn erbyn busnes fel cribddail drwy bridwerthwedd, hacio, a gollwng data cwsmeriaid neu ddwyn eiddo deallusol ddifetha enw da cwmni a dinistrio bywoliaeth.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod twyll a seiberdroseddu wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Gyda mwy o’n bywyd yn digwydd ar-lein, mae troseddwyr yn ceisio manteisio ar lu o gyfleoedd newydd. Mae ymosodiadau pridwerthwedd wedi bygwth ein gwasanaethau cyhoeddus pan ydym wedi bod ar ein mwyaf dibynnol arnynt. Fe fu cynnydd yn yr adroddiadau am dwyll siopa ar-lein a thwyll rhamant a buddsoddi ers dechrau’r pandemig.

4.2 Ein hymagwedd

Mae’r ansefydlogrwydd hwn yn bygwth ein heconomi a’n diogelwch cenedlaethol. Mae ganddo’r potensial i fygwth ein hadferiad economaidd ar ôl COVID. Gan fod troseddwyr yn gweithredu mewn ffordd ystwyth, gan fanteisio lle bynnag y gallant gamfanteisio ar wendid, mae angen inni gau pob llwybr sydd ar gael iddynt.

Fel arall, byddant yn datblygu eu gweithrediadau i ymosod arnom drwy’r bylchau sy’n parhau.

4.3 Twyll a throseddu economaidd

Fel y gwelsom yn ystod y pandemig, mae’r bygythiad o dwyll yn datblygu’n gyson. Nid yw’n ddigon i ymateb i’r bygythiad hwn drwy ganolbwyntio ar fathau unigol o dwyll. Mae twyllwyr yn gyflym wrth addasu i newid a chamfanteisio ar wendidau mewn systemau newydd neu dechnolegau newydd.

I’w hwynebu, rhaid inni gymryd ymagwedd systematig, gan ddyfnhau ein dealltwriaeth o sut y maent yn gweithredu, gan leihau’r cyfle iddynt dargedu ein gwlad, a sicrhau bod gan orfodi’r gyfraith y sgiliau a’r gallu i ddal a dwyn i gyfiawnder y rheini sy’n ceisio twyllo’r bobl sy’n byw yma a’r busnesau sy’n gweithredu yma.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Ym mis Gorffennaf 2019, fe wnaethom gyhoeddiy Cynllun Troseddu Economaidd, gan nodi sut y byddai’r sectorau cyhoeddus a phreifat yn gweithio gyda’i gilydd i wynebu troseddu economaidd. Mae’n nodi camau gweithredu blaenoriaethol gan gynnwys atafaelu mwy o asedau troseddol, cryfhau tryloywder corfforaethol a’n hymateb rhyngwladol cyffredinol i gyllid anghyfreithlon a gwrth-lygredd. Yr ydym wedi cefnogi cyflawni’r cynllun gyda dros £80 miliwn wedi’i neilltuo i fynd i’r afael â’r math hwn o droseddu.

Er mwyn mynd i’r afael â thwyll, yr ydym wedi darparu £25 miliwn o gyllid i gefnogi Action Fraud, gan greu’r gallu i ymchwilio i dwyll, a gwella’r sgiliau o fewn yr heddlu i fynd i’r afael ag ef. Mae hyn hefyd yn ariannu modd casglu gwybodaeth gwell yn yr NECC, yn ogystal ag Amddiffyn Gweithredol yn Erbyn Twyll o fewn y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

O ystyried maint problem twyll yn erbyn unigolion, mae angen inni wneud mwy. Yr ydym wedi nodi fframwaith ar gyfer mynd i’r afael â thwyll[footnote 62] yn ymdrin â sut y byddwn yn delio â’r bygythiad y mae’n ei achosi.

  • Byddwn yn cyfyngu ar y cyfleoedd y mae twyllwyr yn ceisio camfanteisio arnynt. Rydym yn gweithio gyda’r sectorau technoleg, ariannol, telegyfathrebiadau a chyfrifyddiaeth a byddwn yn ceisio cytuno ar siarteri sector ag ymrwymiadau i gryfhau amddiffyniadau cwmnïau. Bydd y Bil Diogelwch Ar-lein sydd ar ddod yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau technoleg fynd i’r afael â thwyll, gan roi’r cyfrifoldeb i gwmnïau amddiffyn eu defnyddwyr rhag twyll. Byddwn yn archwilio’r achos dros reoleiddio ychwanegol i fynd i’r afael â niweidiau fel twyll a ledaenir drwy hysbysebu y telir amdano ar-lein.

  • Byddwn yn ei gwneud yn anos i dwyllwyr dargedu’r DU. Ers ei lansio y llynedd, mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi cau dros 50,000 o sgamiau ac wedi tynnu bron i 100,000 o wefannau i lawr.

  • Byddwn yn gwella ein dealltwriaeth o sut mae twyllwyr yn gweithredu. Byddwn yn disodli Action Fraud gyda system riportio genedlaethol well ar gyfer twyll a seiberdroseddu ac yn cynyddu galluoedd cudd-wybodaeth yn yr NCA a’r gymuned ddiogelwch genedlaethol i nodi’r troseddwyr a gangiau troseddol cyfundrefnol mwyaf niweidiol.

  • Byddwn yn tynnu twyllwyr oddi ar y strydoedd ac yn cynyddu arestiadau ac erlyniadau. Byddwn yn cynyddu capasiti ymchwilio gorfodi’r gyfraith yn Heddlu Dinas Llundain, fel prif rym cenedlaethol ar gyfer twyll, ac mewn Unedau Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol ledled Cymru a Lloegr. Byddwn hefyd yn sefydlu swyddogaeth ymchwiliol twyll newydd yn yr NCA i dargedu’r twyllwyr mwyaf cymhleth a difrifol, gan ddiwallu ymrwymiad maniffesto i greu llu seiberdroseddu cenedlaethol newydd sy’n canolbwyntio ar dwyll.

  • Byddwn yn rhoi gwell cymorth i ddioddefwyr twyll. Rydym am ehangu’r Uned Genedlaethol Gofal Dioddefwyr Troseddau Economaidd a gwneud cyfathrebu cyhoeddus yn fwy cydlynol a chydgysylltiedig.

4.4 Troseddu ar-lein a seiberdroseddu

Wrth i dechnoleg ddatblygu, felly hefyd mae cyfleoedd i seiberdroseddwyr dargedu’r DU. Bydd dyfodiad 5G a’r Rhyngrwyd Pethau yn creu nifer o wendidau newydd, gan gynnwys y tu mewn i gartrefi pobl. Mae technoleg ‘Deep Fake’ yn darparu cyfleoedd ar gyfer twyll a dwyn hunaniaeth neu ar gyfer ecsbloetio a chribddail. Rhaid inni wynebu’r troseddau hyn a datblygu a gwella mesurau diogelu technolegol fel na fydd dinasyddion byth yn dod yn ddioddefwyr.

Yr hyn yr ydym wedi’i wneud

Rydym yn gweithio ar draws y llywodraeth i sicrhau gwelliannau i seiberddiogelwch y DU a sicrhau ein bod yn aros ar y blaen i seiberdroseddwyr. Rydym wedi buddsoddi £195 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf i sefydlu rhwydwaith gorfodi cyfraith seiber arbenigol i darfu ar ac erlyn seiberdroseddwyr a chefnogi dioddefwyr o ran ymateb ac adfer. Yr ydym yn datblygu ymgyrch i wynebu’r bygythiad cynyddol o bridwerthwedd ac i darfu ar seiberdroseddwyr sydd wedi’u lleoli dramor.

Rydym eisoes wedi ymrwymo i gyhoeddi strategaeth troseddau casineb annibynnol yn ddiweddarach eleni ac, yn dilyn y cam-drin hiliol a gyfeiriwyd at rai chwaraewyr tîm Lloegr ar ôl rownd derfynol Pencampwriaeth Ewrop (Ewro 2020), rydym wedi ymrwymo i ymestyn y defnydd o Orchmynion Gwahardd Pêl-droed fel y gellir gwahardd camdrinwyr ar-lein o stadia am hyd at 10 mlynedd, yn yr un modd ag y caiff llabystiaid treisgar eu gwahardd o feysydd.

Yn ogystal, yr ydym wedi ymrwymo i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn, sy’n achosi niwed mawr i ddioddefwyr a chymdogaethau cysylltiedig. Yn 2018 gofynnodd y Llywodraeth i Gomisiwn y Gyfraith adolygu deddfwriaeth troseddau casineb. Bydd yr adolygiad yn cyflwyno adroddiad yn 2021 a bydd yn ystyried unrhyw ddiwygiadau i’r gyfraith fel y mae’n berthnasol ar-lein, gan gynnwys sicrhau bod deddfwriaeth yn cyd-fynd â natur gyfnewidiol y troseddau hyn. Rydym hefyd yn ariannu Hyb Troseddau Casineb Ar-lein yr Heddlu i wella ymateb yr heddlu i ddioddefwyr troseddau casineb ar-lein a helpu heddluoedd i gydgysylltu ymchwiliadau. Mae’r Ganolfan yn caniatáu i’r cyhoedd riportio unrhyw gam-drin ar-lein drwy un porth ar-lein, a elwir yn True Vision, a lle gellir adnabod awdurdodaeth, caiff ei drosglwyddo i’r llu perthnasol. Lle nad yw hyn yn bosibl (e.e. oherwydd na ellir adnabod cyflawnwr) mae’r Hyb hefyd yn cyfeirio cymorth at ddioddefwyr.

Yn Araith y Frenhines ar 11 Mai 2021, ymrwymodd y Llywodraeth i arwain y ffordd o ran sicrhau diogelwch ar y rhyngrwyd i bawb, yn enwedig i blant, tra’n harneisio manteision rhyngrwyd rhydd, agored a diogel. Ers hynny rydym wedi cyhoeddi’r Mesur Diogelwch Ar-lein drafft. Am y tro cyntaf, bydd cwmnïau technoleg yn atebol i reoleiddiwr annibynnol i gadw eu defnyddwyr yn ddiogel. O dan y ddyletswydd gofal gyfreithiol newydd, bydd angen i gwmnïau o fewn cwmpas dynnu a chyfyngu ar ledaeniad cynnwys a gweithgarwch anghyfreithlon ar-lein. Mae hyn yn golygu llai o gynnwys anghyfreithlon ar-lein a phan yw’n ymddangos y caiff ei dynnu’n gyflymach.

Bydd y Llywodraeth yn nodi mewn deddfwriaeth y niweidiau anghyfreithlon blaenoriaethol a fydd yn cynnwys mathau o droseddau ar-lein sy’n achosi niwed sylweddol i ddioddefwyr ac felly’n sicrhau bod cwmnïau’n blaenoriaethu camau gweithredu ar y cynnwys anghyfreithlon mwyaf niweidiol. Ar gyfer y niweidiau hwn, bydd angen i gwmnïau ystyried y systemau a’r prosesau angenrheidiol i nodi, asesu a mynd i’r afael â’r troseddau hyn yn seiliedig ar asesiad risg.

Bydd gan Ofcom, y rheoleiddiwr annibynnol, gyfres anodd o bwerau gorfodi i’w defnyddio yn erbyn cwmnïau sy’n methu â chyflawni eu dyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys dirwyon o hyd at £18 miliwn neu 10 y cant o drosiant byd-eang blynyddol cymwys (pa un bynnag sy’n fwy).

Sut y bydd y Cynllun Gorchfygu Troseddu yn mynd ymhellach

  • Byddwn yn cyhoeddi Strategaeth Seiberddiogelwch Genedlaethol newydd yn ddiweddarach eleni. Bydd y Strategaeth yn sbarduno gwelliannau sylweddol yn ymateb y DU i seiberdroseddu. Bydd yn cryfhau ymateb Gorfodi’r Gyfraith ac yn sbarduno mwy o gydweithio â’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a’r Llu Seiber Cenedlaethol.

  • Byddwn yn cyhoeddi strategaeth newydd ar gyfer mynd i’r afael â throseddau casineb yr hydref hwn, gan nodi ein hymrwymiad i ddileu’r troseddau ffiaidd hyn gan gynnwys eu helfennau ar-lein, sy’n achosi mwy o niwed i ddioddefwyr a chymdogaethau cysylltiedig.

  • Byddwn yn nodi cynlluniau pellach yr haf hwn ar gyfer lleihau cam-drin hiliol ar-lein fel rhan o’n hymateb i adroddiad y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig.

  • Byddwn yn diwygio deddfwriaeth i ymestyn y defnydd o Orchmynion Gwahardd Pêl-droed fel y gellir gwahardd camdrinwyr ar-lein o stadia, yn yr un modd ag y caiff llabystiaid treisgar eu gwahardd o feysydd. Bydd y newid yn cael ei gyflwyno cyn gynted ag y bo’n ymarferol.

Pennod 5 – Llywodraethu ac atebolrwydd

Ar draws yr holl Lywodraeth rydym yn glir bod lleihau troseddu a darparu system cyfiawnder troseddol effeithiol sydd ar ochr dioddefwyr a’r mwyafrif sy’n cadw at y gyfraith yn flaenoriaethau sy’n hanfodol i’r genhadaeth. Gwyddom beth sydd angen i ni ei gyflawni i helpu i greu cymunedau mwy diogel ac rydym yn benderfynol o gyflawni hyn. Mae hyn yn golygu, ar draws y system gyfan, bod â nodau ac uchelgeisiau clir, defnyddio data amserol ac addysgiadol a sicrhau bod hynny ar gael i’r cyhoedd lle bynnag y bo modd.

Yn genedlaethol, mae’r Prif Weinidog yn ysgogi’r gwaith o gyflawni’r cynllun hwn ar draws y Llywodraeth drwy bwyllgorau cabinet perthnasol. Gall hyn gynnwys y Tasglu Troseddu a Chyfiawnder, sy’n ystyried materion sy’n ymwneud ag atal troseddu ac effeithiolrwydd y system cyfiawnder troseddol.

Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn goruchwylio’r cynnydd y mae’r Llywodraeth a’i phartneriaid yn ei wneud tuag at gyflawni’r Mesurau Troseddu a Phlismona Cenedlaetholyn y Bwrdd Plismona Cenedlaethol, ac mae’r Gweinidog Dros Droseddu a Phlismona yn cadeirio’r Bwrdd Perfformiad Troseddu a Phlismona (CPPB), lle mae arweinwyr cenedlaethol yr heddlu yn trafod yr hyn y mae angen ei wneud i gyflawni.

Mae’r CPPB yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar ddata, ac mae Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) wedi arwain drwy greu pecyn perfformiad digidol cenedlaethol, sy’n defnyddio data gan y Swyddfa Gartref a sefydliadau eraill y llywodraeth.

Mae hyn wedi’i gyfuno â thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio gan y Coleg Plismona, yn ogystal â dyfarniadau gan HMICFRS a mewnwelediad gan weithgorau’r NPCC, er mwyn sicrhau bod y camau y mae’r CPPB yn cytuno arnynt wedi’u gwreiddio yn y wybodaeth orau bosibl.

Yn fwy cyffredinol, ar draws y system cyfiawnder troseddol gyfan, mae’r Arglwydd Ganghellor yn sicrhau bod asiantaethau gweithredol yn cael eu dwyn i gyfrif yn briodol i ysgogi adferiad o COVID a diwygio’r system. Byddwn yn defnyddio’r un dull a ysgogir gan ddata yma drwy gyhoeddi cardiau sgorio cyfiawnder troseddol sy’n adlewyrchu data ar draws yr heddlu, y CPS, a’r system llysoedd i wella tryloywder a helpu i nodi a mynd i’r afael â materion perfformiad. Cyflawnir hyn drwy gyfres o fyrddau a arweinir gan weinidogion a swyddogion sy’n ystyried adferiad o COVID, diwygio’r system a lleihau aildroseddu.

Byddwn hefyd yn cryfhau’r gwaith o graffu ar garchardai drwy gyflwyno dangosfyrddau ar-lein fel y gall y cyhoedd arsylwi’n well ar y cynnydd sy’n cael ei wneud a byddwn yn nodi hyn ymhellach yn ein Papur Gwyn ar Garchardai yn yr Hydref. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith craffu annibynnol a ddarperir gan Arolygiaeth Carchardai EM a’r cyrff craffu annibynnol eraill.

PCCs yw sylfaen ein system llywodraethu lleol. Maent yn gyfrifol am sicrhau heddlu effeithlon ac effeithiol ar gyfer eu hardal; gosod amcanion yr heddlu a throseddu ar gyfer eu hardal drwy gynllun heddlu a throseddu; pennu cyllideb yr heddlu a phenderfynu ar y praesept; cyfrannu at y galluoedd plismona cenedlaethol a rhyngwladol a nodwyd gan yr Ysgrifennydd Cartref; a dod â phartneriaid diogelwch cymunedol a chyfiawnder troseddol at ei gilydd, er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau lleol yn gydgysylltiedig.

Maent hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth symbylu partneriaethau lleol fel Byrddau Cyfiawnder Troseddol Lleol a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod gweithgarwch ymladd troseddu yn cael ei gydgysylltu a bod adnoddau lleol yn cael eu defnyddio’n effeithlon ac yn effeithiol.

Er mwyn helpu PCCs i gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol, rydym wedi cynnal adolygiad o’u rôl, gan ganolbwyntio ar sut y gellir ei gwella. Cyflwynodd Rhan Un o’r Adolygiad argymhellion i fireinio atebolrwydd, amlygrwydd a thryloywder y PCCs, yn ogystal ag ystyried eu rôl o ran cryfhau llywodraethu tân a dilyn uchelgeisiau tymor hwy y Llywodraeth ar ddatganoli maerol.

Fel rhan o hyn, byddwn yn lansio ymgynghoriad cyn bo hir ar y protocol plismona i ddarparu ‘llinell ddisgleiriach’ ar ffiniau annibyniaeth weithredol ac i adlewyrchu’n well rôl yr Ysgrifennydd Cartref o fewn system lywodraethu’r heddlu.

Bydd Rhan Dau o’r Adolygiad nawr yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan PCCs yr offer a’r ysgogiadau sydd eu hangen arnynt i’w harfogi i ymladd troseddu, camddefnydd o gyffuriau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn gwneud hyn drwy asesu rôl PCCs mewn rheoli troseddwyr a phartneriaethau lleol.

Byddwn hefyd yn archwilio’r rôl y mae PCCs yn ei chwarae o ran cynnal hyder y cyhoedd mewn plismona ac wrth fynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan ganolbwyntio ar y gweithgareddau a’r riportio a all fynd i’r afael â blaenoriaethau’r cyhoedd, gan gynnwys gweithredu Proses Sbarduno Gymunedol effeithiol.

Bydd y cam nesaf hwn hefyd yn adeiladu ar y gwaith a ddechreuwyd yn Rhan Un o’r Adolygiad, gan sicrhau bod mesurau craffu a chwyno effeithiol ar waith ar gyfer y model. O safbwynt atebolrwydd, byddwn yn ystyried sut mae PCCs yn defnyddio data i sicrhau bod gwasanaethau plismona’n cael eu darparu’n effeithiol yn eu hardal, a byddwn yn ystyried rhinweddau a diffygion cyflwyno adalw ar gyfer toriadau difrifol iawn ar ymddygiad.

Footnotes

  1. Prosiect ADDER: caethiwed, tarfu, dargyfeirio, gorfodi ac adfer. 

  2. Data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr o Dabl A1 yn Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y SwyddfaYstadegau Gwladol 

  3. Fel uchod. 

  4. Data troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu o Dabl A4 yn Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  5. Derbyniadau misol i’r ysbyty am ymosodiad gan wrthrych miniog - Mawrth 2021 - NHS Digital 

  6. Mae ‘Troseddau Cymdogaeth’ yn grŵp o droseddau sy’n cynnwys lladrata sy’n gysylltiedig â cherbydau, bwrgleriaeth ddomestig, dwyn o’r person a lladradau eiddo personol. 

  7. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  8. UD: FBI — Llofruddiaeth; Canada: Nifer a chyfradd y dioddefwyr lladdiad, yn ôl Ardaloedd Metropolitan y Cyfrifiad 

  9. Adroddiad Cyffuriau’r Byd 2021 WDR21_Booklet_3.pdf0 

  10. Mae hyn yn seiliedig ar y data dros dro fel y’i cyhoeddwyd yn y cyhoeddiad diweddaru chwarterol hyd at 31 Mawrth 2021 Ystadegau ymgodiad Swyddogion yr Heddlu 

  11. Yn seiliedig ar niferoedd a gyhoeddwyd yn ystadegau gweithlu Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi 

  12. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) Trais difrifol fel y’i mesurir gan dderbyniadau i’r ysbyty ar gyfer ymosod gyda gwrthrych miniog yn Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau cysylltiedig eraill - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ons.gov.uk) 

  13. Gwybodaeth Reoli o adroddiadau misol Rhaglen Llinellau Cyffuriau y Swyddfa Gartref 

  14. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  15. Data troseddu a gofnodwyd gan yr heddlu o Dabl A4 yn Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  16. Data Arolwg Troseddu a weithredir dros y ffôn ar gyfer Cymru a Lloegr yn Nhabl A2 yn Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Atodiadau tablau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  17. Data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu o Dabl A41 yn: Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau atodiadau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  18. Tueddiadau ac ysgogwyr dynladdiad: Prif ganfyddiadau 

  19. Kumar, S. et al., (2020), ‘Gwahaniaethau Hiliol mewn Cyfraddau Erledigaeth Dynladdiad’, Cyrchwyd Ionawr 2021. Ar gael yn: https://link.springer.com/article/10.1007/s41887-020-00055-y 

  20. Tueddiadau ac ysgogwyr dynladdiad: Prif ganfyddiadau; Dynladdiad yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  21. Data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu o Dabl A4 yn: Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau atodiadau - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  22. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau cysylltiedig eraill - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  23. Troseddau’n ymwneud â defnyddio arfau: tablau data - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (heb gynnwys arfau aer) 

  24. Archwiliad pum mlynedd cenedlaethol o anghydraddoldebau a thueddiadau mewn derbyniadau brys i’r ysbyty ar gyfer trais ledled Lloegr - Atal Anafiadau 

  25. https://digital.nhs.uk/data-and-information/supplementary-information/2020/hospital-admissions-for-assault-by-sharp-object-from-2012-to-2020 

  26. Derbyniadau misol i’r ysbyty am ymosodiad gan wrthrych miniog - Mawrth 2021 - NHS Digital 

  27. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau cysylltiedig eraill - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  28. Troseddu yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  29. Troseddu yng Nghymru a Lloegr: Tablau atodol blynyddol - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  30. Mesur costau troseddau sy’n gysylltiedig â chyffuriau yn Deall troseddu cyfundrefnol: amcangyfrif y raddfa a’r costau cymdeithasol ac economaidd 

  31. Dynladdiad yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  32. Defnydd o opiadau a chocên crac: amcangyfrifon mynychder yn ôl ardal leol 

  33. Y Fonesig Carol Black, Adolygiad o Gyffuriau (2020) 

  34. Mae’r defnydd o ‘PCCs’ yn y ddogfen hon hefyd yn cyfeirio at Feiri sy’n arfer swyddogaethau PCC neu gyfwerth – y rhai yn Llundain, Manceinion Fwyaf a Gorllewin Swydd Efrog ar hyn o bryd. 

  35. Prosbectws Strydoedd Diogelach 

  36. Mae dinasoedd Llundain, Lerpwl a Birmingham yn cyfrif am tua 80% o’r holl linellau cyffuriau pan yw tarddiad y llinell yn hysbys: 2020/21 Asesiad Strategol Llinellau Cyffuriau NCLCC 20/21 

  37. DechrauGyrfa Droseddol: A yw’r Math o Drosedd Gychwynnol yn Rhagfynegi Troseddu yn y Dyfodol? Adroddiad Ymchwil 77 (publishing.service.gov.uk) 

  38. Dulliau Cydweithredol o Atal Troseddu ac Aildroseddu mewn Plant (CAPRICORN) 

  39. https://www.gov.uk/government/statistics/criminal-justice-system-statistics-quarterly-december-2019 

  40. https://assets.publishing.service.gov.uk/Government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/217412/impact-employment-reoffending.pdf 

  41. PHE-MoJ-experimental-MoJ-publication-version.pdf 

  42. Adolygiad y Fonesig Carol Black Pecyn Tystiolaeth Rhan 1 - Cyflwyniad PowerPoint 

  43. Mae asesiad diweddaraf Y Ganolfan Genedlaethol ar Gydlynu Ymdrechion i Daclo Llinellau Cyffuriau yn dangos y bu gostyngiad yng nghyfanswm y llinellau delio a allai fod yn weithredol, gyda’r niferoedd a adroddwyd yn d angos eu bod wedi gostwng o rhwng 800-1,100 yn 2019/20 i 600 yn 2020/21. Credir bod y gostyngiad mewn llinellau a allai fod yn weithredol yn gysylltiedig â newid yn y modd riportio a gwell gweithgarwch gweithredol. 

  44. Adroddiad Technegol Heroin 

  45. Prydain Fyd-eang mewn oes gystadleuol Mae’r adolygiad Integredig yn fynegiant cynhwysfawr o bolisi diogelwch a rhyngwladol cenedlaethol y DU. Mae’n amlinellu tri buddiant cenedlaethol sylfaenol sy’n rhwymo dinasyddion y DU at ei gilydd: sofraniaeth, diogelwch a ffyniant. 

  46. Cam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  47. Troseddu yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  48. Ystadegau’r system cyfiawnder troseddol yn chwarterol: Rhagfyr 2020 

  49. Troseddau rhywiol, mynychder a thueddiadau, Cymru a Lloegr: y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 

  50. Mynychder a thueddiadau cam-drin domestig, Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  51. Stelcian: canfyddiadau Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  52. Teipoleg o droseddau caethwasiaeth fodern yn y DU 

  53. Caethwasiaeth Fodern: Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a Dyletswydd i Hysbysu, ystadegau’r DU, crynodeb diwedd blwyddyn 2020 

  54. Costau economaidd a chymdeithasol caethwasiaeth fodern 

  55. Troseddu yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  56. Cam-drin plant yn rhywiol yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  57. Troseddu yng Nghymru a Lloegr - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol 

  58. Rhaglen Caethwasiaeth Fodern a Mewnfudo Cyfundrefnol 

  59. Walker et al. (2019) Trais, anghydraddoldeb a’r ymateb cyfiawnder troseddol yn Lloegr: Pwysigrwydd oedran a rhywedd, Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol 2021, Cyf. 21(3) 297–315 

  60. Cefnogwyd dull iechyd cyhoeddus aml-wasanaeth gan y Comisiwn ar Wahaniaethau Hiliol ac Ethnig 

  61. Arolwg o ddioddefwyr twyll a seiberdroseddu, ymchwil heb ei gyhoeddi gan y Swyddfa Gartref. 

  62. Yn Natganiad o Gynnydd y Cynllun Troseddau Economaidd a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021