Ffurflen

Awdurdodi cynrychiolydd i ymdrin ag APHA ar eich rhan

Awdurdodi rhywun arall i gael mynediad at eich data a ddelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) neu weithredu fel cynrychiolydd ar eich rhan.

Applies to England, Scotland and Wales

Dogfennau

Ffurflen ar gyfer awdurdodi APHA i roi mynediad i drydydd parti at eich data personol ac awdurodi cynrychiolydd neu asiant i weithredu ar eich rhan

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Dylech gwblhau’r ffurflen hon os ydych yn berchen ar Rif Daliad (CPH) ac am awdurdodi trydydd parti i ymdrin ag APHA ar eich rhan.

Er enghraifft, gallai hyn ymwneud â gwybodaeth rheoli clefydau am unrhyw anifeiliaid sy’n eiddo i chi neu unrhyw faterion ariannol a reolir gan APHA.

Gallwch enwebu busnes, sefydliad neu unigolyn.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i APHA drwy e-bost neu drwy’r post.

Yng Nghymru:

Gwasanaeth Maes Cymru/Wales Field Services
Swyddfeydd Penrallt Offices
Caernarfon
Gwynedd
LL55 1BN

E-bost: customeradvice@apha.gov.uk

Yn Lloegr neu’r Alban:

Isca Building
Manley House
Kestrel Way
Exeter
Devon
EX2 7LQ

E-bost: apha.cymruwales@apha.gov.uk

Gallwch dynnu eich cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. I wneud hyn, cysylltwch â ni drwy e-bost neu drwy’r post.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2021