Archwiliad o reolaethau samplu a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Caerffili
Cyhoeddwyd 1 Medi 2026
Yn berthnasol i Gymru
Rhagair
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth safonau a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd.
Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol (EU) 2017/625 a gymathwyd. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal.
Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn gyfle i nodi a lledaenu arferion da ac i ddarparu gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi’r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae rhaglenni archwilio’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Gwnaed asesiadau hefyd yn erbyn y Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer.
Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.
1. Rhagymadrodd
Cefndir
1.1 Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau’r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn seiliedig ar risg yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr.
1.2 Yn dilyn pandemig COVID-19, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, dylai awdurdodau lleol fod yn cynllunio i wneud y pethau canlynol:
- cynnal ymyriadau sydd ar y gweill ar gyfer sefydliadau sydd yn ôl yn rhan o’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod Ymarfer).
- gweithio tuag at gyd-fynd â’r darpariaethau a nodir yn y Cod Ymarfer o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod Ymarfer. Mae manylion am yr hyblygrwydd hwn, gan gynnwys eithriadau, i’w gweld ym Mhennod 4 o’r Cod Ymarfer a Phennod 4 o’r Canllawiau Ymarfer
- parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran y gofynion a nodir yn y Cod Ymarfer, a hynny ar sail yr adnoddau sydd ar gael
1.3 Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn cyflawni ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.
1.4 Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2009.
1.5 Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith yr awdurdodau lleol i orfodi cyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Cwmpas y Rhaglen Archwilio
1.6 Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu a yw’r gwaith o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud â samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru wedi bod yn effeithiol, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae’r archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn ymgymryd ag ymyriadau samplu sy’n seiliedig ar raglen sy’n unol â’r Cod Ymarfer.
1.7 Bu i’r asesiad archwilio ystyried y materion canlynol:
- gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd, a gwaith adolygu gweithgareddau samplu
- adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau samplu yn seiliedig ar risg.
- awdurdodiad a chymhwysedd swyddogion i ymgymryd â gwaith samplu
- polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
- ymyriadau samplu (rhai sy’n seiliedig ar arolygiadau, rhai sydd wedi’u rhaglennu a rhai ymatebol) a gorfodi.
- monitro mewnol o weithgarwch samplu
- unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau samplu. Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn unol â hynny
1.8 Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, bu i’r ASB ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio. Mae hwn wedi’i atodi yn Atodiad A.
2. Crynodeb gweithredol
2.1 Bu i’r archwiliad bwyso a mesur trefniadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal rheolaethau bwyd swyddogol sy’n gysylltiedig â samplu, sef rhan bwysig o swyddogaeth safonau a hylendid bwyd yr awdurdod. Roedd cwmpas yr archwiliad yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a’r gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau samplu hylendid bwyd a safonau bwyd.
2.2 Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio oedd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyflawni gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd o fewn yr Adran Diogelu’r Cyhoedd. Y Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd, Diogelwch Cymunedol a Chynllunio ar gyfer Argyfyngau a Gwydnwch a’r Rheolwr Safonau Masnach, Trwyddedu a Chofrestryddion oedd yn gyfrifol am reoli’r gwaith o ddydd i ddydd; yn y drefn honno.
2.3 Roedd gan yr awdurdod drefniadau cynllunio gwasanaethau ar waith, ynghyd â systemau ar gyfer adolygu perfformiad. Roedd dogfennau cynllunio gwasanaethau’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ar samplu a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau, gan gynnwys yr ymrwymiad i gyflawni’r rhaglenni samplu a dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn y rhai sydd ar gael. Ni chwblhawyd yn llawn y gofyniad i adolygu sut y cafodd rhaglenni samplu’r flwyddyn flaenorol eu cynnal, nac i nodi ac esbonio unrhyw amrywiadau.
2.4 Roedd trefniadau ar waith i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu gan nifer digonol o swyddogion cymwys yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Amlygwyd hyn fel maes o arfer dda. Dylai’r awdurdod sicrhau bod awdurdodiadau swyddogion ar gyfer safonau bwyd yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth berthnasol.
2.5 Roedd polisi gorfodi addas ar waith, yn ogystal ag ystod o weithdrefnau gorfodi sy’n cwmpasu’r holl opsiynau gorfodi sydd ar gael, er mwyn darparu’r offer i swyddogion fynd i’r afael ag unrhyw ganlyniadau samplu nad oeddent yn foddhaol.
2.6 Roedd gan yr awdurdod y cyfleusterau a’r offer angenrheidiol i gynnal rheolaethau samplu ar hylendid bwyd a safonau bwyd yn effeithiol. Amlygwyd hyn fel maes o arfer dda.
2.7 Roedd gwaith samplu safonau bwyd wedi’i gynnal yn ôl y gofyn, ac roedd gwaith samplu hylendid bwyd wedi’i gynnal yn ôl y gofyn yn y rhan fwyaf o achosion. Mae lle i wella’r trefniadau ar gyfer rhoi gwybod i fusnesau am ganlyniadau samplau hylendid bwyd a chynnal cyswllt ag awdurdodau lleol eraill.
2.8 Roedd tystiolaeth bod gwaith monitro mewnol yn cael ei gynnal yn ôl yr angen mewn perthynas â gweithgareddau samplu hylendid bwyd. Fodd bynnag, byddai’r trefniadau monitro mewnol ar gyfer gweithgareddau samplu safonau bwyd yn elwa ar welliant er mwyn sicrhau bod gwiriadau ansawdd yn cael eu cynnal a’u cofnodi’n systematig.
3. Methodoleg archwilio
3.1 Cafodd yr awdurdod lleol lythyr cyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys holiadur i’w lenwi cyn yr ymweliad, ynghyd â manylion y dogfennau yr oedd eu hangen arnon ni i asesu i ba raddau yr oedd wedi cyflawni’r argymhellion nad oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol.
3.2 Hefyd, cafodd yr awdurdod lleol gopi o unrhyw adroddiadau archwilio / cynlluniau gweithredu perthnasol. Gofynnon ni iddo ddarparu tystiolaeth o’i gynnydd o ran y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau.
3.3 Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle a oedd yn cynnwys ymweliad gwirio â busnes lleol a chyfarfodydd â Phennaeth y Gwasanaeth, swyddog arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill. Yn ystod y cyfarfod trafodwyd y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad o ddetholiad o gofnodion rheolaethau swyddogol ar fwyd.
3.4 Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng 12 a 13 Mai 2026. Roedd yr archwiliad a ddigwyddodd ar y safle wedi para dau ddiwrnod gwaith.
3.5 Mae’r awdurdod lleol wedi cael yr adroddiad ysgrifenedig hwn am yr archwiliad, ynghyd â chynllun gweithredu diweddar ar sail yr archwiliad. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.
4. Canfyddiadau’r archwiliad
4.1 Trefniadaeth a rheolaeth
4.1.1 Goruchwyliwyd y gwaith o orfodi cyfraith bwyd gan Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio. Mae Cyfansoddiad yr awdurdod yn amlinellu ei drefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan y Cyfansoddiad, roedd penderfyniadau ar faterion gweithredol sy’n ymwneud â bwyd wedi’u dirprwyo i’r Cyfarwyddwr.
4.1.2 Roedd yr awdurdod wedi datblygu ‘Cynllun Gwasanaeth Bwyd a Bwyd Anifeiliaid 2025-2026’ (‘y Cynllun Gwasanaeth’). Darparwyd tystiolaeth bod y Cyfarwyddwr a’r aelod perthnasol o’r cabinet wedi cymeradwyo’r Cynllun Gwasanaeth. Nid oedd y cynllun ar gyfer y flwyddyn i ddod wedi’i ddatblygu eto.
4.1.3 Darparwyd gwybodaeth am y rhaglenni samplu hylendid a safonau bwyd. Roedd y rhain yn cynnwys gweithgarwch arolygon cenedlaethol a rhanbarthol, yn ogystal ag ymyriadau samplu lleol ar sail risg.
4.1.4 Mae’r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd, fel sy’n cael eu nodi yn y Cynllun Gwasanaeth, yn dangos bod yr adnoddau ar gyfer gwaith hylendid bwyd yn ddigonol. Fodd bynnag, mae diffyg o 0.3 swyddog cyfwerth ag amser llawn yn y maes safonau bwyd. Cynghorwyd archwilwyr bod hyn yn debygol o gael ei drafod, ac y byddai Cynllun Gwasanaeth 2026/27 yn cynnwys dadansoddiad diweddaredig. Byddai’r cynllun yn elwa o gynnwys dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni pob gweithgaredd sy’n ymwneud â rheolaethau swyddogol, o’u cymharu â’r adnoddau sydd ar gael, er mwyn dangos cywirdeb unrhyw asesiadau o adnoddau cyffredinol.
4.1.5 Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth yn dilyn adolygiad o’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd ar sail cynllun y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynllun yn dangos yn glir a oedd y cynlluniau samplu wedi’u cwblhau nac yn nodi unrhyw amrywiadau. Dylai’r adolygiad gynnwys nifer y samplau a gymerwyd yn erbyn y rhaglenni samplu bwyd, a, phan oedd unrhyw amrywiadau, y rhesymau drostynt.
Argymhellion
4.1.6 Dylai’r awdurdod:
Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni’r rhaglenni samplu, gan gynnwys esboniadau am unrhyw amrywiadau. [Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.3 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; adrannau 2.3.18.2, 2.3.18.3 ac Atodiad 1 i’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]
4.2 Swyddogion awdurdodedig
4.2.1 Roedd Cynllun Dirprwyo Pwerau i Swyddogion yr awdurdod, a oedd wedi’i gynnwys yn ei Gyfansoddiad ysgrifenedig, yn rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Rheoleiddio gyflawni pob dyletswydd sy’n ymwneud â gwasanaethau bwyd. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod dirprwyedig i awdurdodi swyddogion eraill, yn ogystal â’r pŵer i gychwyn erlyniadau, a hynny mewn ymgynghoriad â’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, y Swyddog Monitro neu Brif Gyfreithiwr.
4.2.2 Roedd gweithdrefn, a oedd wedi’i chofnodi, wedi’i datblygu ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd a hylendid bwyd yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad. Roedd hyn yn unol â’r gofynion perthnasol.
4.2.3 Roedd yr awdurdod wedi penodi swyddogion arweiniol cymwys â’r cymwysterau addas i gynnal gwaith safonau bwyd a hylendid bwyd, a hynny yn unol â gofynion y Cod Ymarfer.
4.2.4 Roedd yr awdurdod wedi nodi yn ei Gynllun Gwasanaeth fod yr adnoddau sydd ar gael yn ddigonol i gyflawni swyddogaethau hylendid bwyd. O ran safonau bwyd, rhoddwyd gwybod i’r archwilwyr fod yr adnoddau hefyd yn debygol o fod yn ddigonol yn sgil datblygiadau diweddar o ran staffio’r tîm.
4.2.5 Darparwyd hyfforddiant i swyddogion yn dilyn trafodaethau â nhw. Fodd bynnag, byddai’r trefniadau hyn yn elwa o gael eu ffurfioli’n broses asesu anghenion hyfforddi sydd wedi’i dogfennu’n llawn. Roedd yr awdurdod yn darparu cyfuniad o hyfforddiant mewnol ac allanol. Roedd yn ofynnol i bob swyddog gyflawni 10 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar faterion bwyd craidd yn unol â’r Cod Ymarfer.
4.2.6 Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion cymwysterau a hyfforddiant tri swyddog a oedd yn cynnal rheolaethau swyddogol ar hylendid bwyd, a dau swyddog a oedd yn ymwneud â chynnal gwaith samplu safonau bwyd. Roedd cofnodion yn cael eu cadw gan yr awdurdod ar gyfer swyddogion yn system ffeiliau a ffolderi gyfrifiadurol y Cyngor.
4.2.7 Roedd pob un o’r pum swyddog wedi’u hawdurdodi yn unol â thystiolaeth o’u cymwysterau, hyfforddiant a phrofiad. Roedd awdurdodiadau wedi’u llofnodi gan swyddog ag awdurdod dirprwyedig, ac roeddent yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth allweddol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal yr amrywiaeth o reolaethau swyddogol sy’n ofynnol ar gyfer gwaith gorfodi a samplu hylendid bwyd. Yn achos y ddau swyddog safonau bwyd, roedd awdurdodiad penodol o dan Reoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013 wedi’i hepgor.
4.2.8 Roedd cymwysterau academaidd a chymwysterau perthnasol eraill ar gael i bob swyddog, ac roedd pob un o leiaf wedi cael y 10 awr o hyfforddiant DPP ar faterion bwyd craidd sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer a pholisïau’r awdurdod ei hun, yn unol â’u dyletswyddau.
Arferion da
Roedd yr awdurdod wedi penodi nifer digonol o swyddogion i ymgymryd â rheolaethau samplu ac wedi sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi wedi’u hasesu a’u bod y rhain yn cael eu bodloni.
Argymhellion
4.2.9 Dylai’r awdurdod:
(i) Diwygio ei weithdrefn ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd, gan sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol wedi’i chynnwys. [Erthygl 5(1)(e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 3.2.2 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd]
4.3 Fframwaith gorfodi
4.3.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu Polisi Gorfodi ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd, a gymeradwywyd gan yr aelod priodol o’r Cabinet. Roedd y Polisi yn hyrwyddo dull graddedig o orfodi, ac roedd yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau swyddogol eraill. Roedd y Polisi’n darparu meini prawf ar gyfer cymryd camau gorfodi ac yn cyfeirio at gynllun yr Awdurdod Cynradd, ac yn cynnwys gwybodaeth i gyfeirio camau gweithredu mewn sefydliadau lle mae gan y Cyngor ei hun fuddiant, fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau hamdden.
4.3.2 Datblygwyd hefyd nifer o weithdrefnau bwyd i roi’r offer a’r canllawiau i swyddogion ddefnyddio’r ystod lawn o gamau gorfodi a allai fod eu hangen yn dilyn gweithgarwch samplu. Roedd y gweithdrefnau hyn yn unol â’r gofynion.
4.4 Cyfleusterau ac offer samplu bwyd
4.4.1 Roedd gan yr awdurdod lleol weithdrefn ddogfenedig ar waith i asesu, nodi a chofnodi’r offer a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer gwaith samplu.
4.4.2 Roedd y weithdrefn yn nodi amlder y gwiriadau, a’r trefniadau ar gyfer cofnodi canlyniadau ac ynysu offer diffygiol. Gwnaeth yr archwilydd adolygu’r cofnodion dogfenedig ar gyfer y gwiriadau hyn, gan gynnwys cofnodion graddnodi allanol lle’r oedd hynny’n briodol.
Arferion da
Mae gan yr awdurdod y cyfleusterau a’r offer angenrheidiol i gynnal rheolaethau samplu ar hylendid bwyd a safonau bwyd yn effeithiol, yn unol â gweithdrefn ddogfenedig yr awdurdod.
4.5 Arolygu a samplu bwyd
4.5.1 Roedd yr awdurdod wedi datblygu polisi a gweithdrefnau samplu priodol ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. Roedd y rhain yn cynnwys penodi archwilwyr a dadansoddwyr bwyd a oedd yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol perthnasol.
4.5.2 Roedd y weithdrefn samplu safonau bwyd wedi’i chynnwys yn OP05, ac roedd yn cwmpasu sawl maes, er enghraifft offer, maint y sampl, a threfniadau samplu y tu allan i oriau gwaith. Fodd bynnag, byddai’n elwa o gynnwys dolen at OP13 ar gyfer rhoi gwybod i’r ASB am ganlyniadau anfoddhaol.
4.5.3 Byddai’r llythyr/ffurflen cyngor busnes safonol a gyhoeddir yn dilyn ymyriad safonau bwyd yn elwa o gynnwys maes i nodi a gafodd samplau eu cymryd ai peidio.
Samplu Hylendid Bwyd
4.5.4 Fel rhan o’r archwiliad, adolygwyd pum achos samplu o’r 18 mis diwethaf ar gyfer diogelwch bwyd. Ym mhob achos, cymerwyd samplau gan swyddog awdurdodedig priodol. Cawsant eu hasesu gan labordy awdurdodedig addas, ac roedd y canlyniadau wedi’u cofnodi ar y gronfa ddata.
4.5.5 Ym mhob achos, cymerwyd y sampl fel rhan o’r rhaglen samplu / yn unol â’r polisi samplu, a rhoddwyd gwybod i’r gwerthwr fod sampl wedi’i chymryd. Ym mhob achos, roedd y samplau’n anffurfiol.
4.5.6 Mewn un achos, ni nodwyd gweithgynhyrchwr y cynnyrch a oedd yn destun gwaith samplu. Dylai rheolaethau swyddogol sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r rheolaeth yn cael ei chasglu er mwyn galluogi cymryd unrhyw gamau dilynol priodol ac i gefnogi olrheiniadwyedd / nodi’r ffynhonnell.
4.5.7 Ym mhob achos, roedd trefniadau ar gyfer parhad tystiolaeth ac olrheiniadwyedd wedi’u cynnal a’u cofnodi’n briodol. Cafodd samplau eu cludo i’r labordy cymeradwy mewn modd amserol, a chadwyd cofnodion a thystiolaeth. Ym mhob achos, roedd y samplau wedi’u diogelu rhag dirywiad a halogiad, a chafodd tymheredd y samplau ei fonitro a’i gofnodi.
4.5.8 Ym mhob achos, cafodd y canlyniadau eu cadw ar y gronfa ddata. Fodd bynnag, mewn pedwar o’r pum achos, nid oedd yr archwilydd yn gallu cadarnhau bod y gweithredwr busnes bwyd perthnasol wedi cael gwybod am y canlyniadau. Mewn dau achos, roedd cofnodion gweithredu yn y dyddiadur ar y gronfa ddata yn dangos bod y gweithredwr busnes bwyd wedi cael gwybod ar lafar yn hytrach nag yn ffurfiol yn ysgrifenedig. Yn y ddau achos arall, roedd yr wybodaeth wedi’i darparu i’r safle lleol yn hytrach na’r brif swyddfa busnes, sef y gweithredwr busnes bwyd cofrestredig.
4.5.9 Mewn dau o’r pum achos, nid oedd yr archwilydd yn gallu cadarnhau bod y prif awdurdodau perthnasol wedi cael eu hysbysu. Mewn dau achos arall, nid oedd yr archwilydd yn gallu cadarnhau bod yr Awdurdodau Cartref perthnasol wedi cael gwybod am y canlyniadau anfoddhaol.
4.5.10 Ym mhob achos, ymchwiliwyd i samplau ffiniol neu anfoddhaol yn drylwyr er mwyn nodi unrhyw achosion gwirioneddol neu bosib o dorri’r gyfraith a chamau unioni priodol, gan gynnwys ailymweliadau ac ailsamplu.
Samplu Safonau Bwyd
4.5.11 Fel rhan o’r archwiliad, adolygwyd pum achos samplu o’r 18 mis diwethaf. Ym mhob achos, cymerwyd samplau gan swyddog awdurdodedig priodol. Cawsant eu hasesu gan labordy awdurdodedig addas, ac roedd y canlyniadau wedi’u cofnodi ar y gronfa ddata.
4.5.12 Ym mhob achos, cymerwyd y sampl fel rhan o’r rhaglen samplu / yn unol â’r polisi samplu, a rhoddwyd gwybod i’r gwerthwr fod sampl wedi’i chymryd. Ym mhob achos, roedd y samplau’n anffurfiol.
4.5.13 Ym mhob achos, roedd trefniadau ar gyfer parhad tystiolaeth ac olrheiniadwyedd wedi’u cynnal a’u cofnodi’n briodol. Cafodd samplau eu cludo i’r labordy cymeradwy mewn modd amserol, a chadwyd cofnodion a thystiolaeth.
4.5.14 Ym mhob achos, roedd y canlyniadau wedi’u cadw ar y gronfa ddata, ac roedd y gweithredwr busnes bwyd priodol wedi cael gwybod yn ysgrifenedig, gyda chopïau o’r dystysgrif ddadansoddi.
4.5.15 Ym mhob achos, lle’r oedd hynny’n briodol, roedd yr prif awdurdodau a’r awdurdodau cartref perthnasol wedi cael eu hysbysu.
4.5.16 Ym mhob achos, roedd yr archwilydd yn gallu cadarnhau bod ymchwiliadau wedi’u cynnal, a’r rheiny’n gyson, mewn perthynas â samplau anfoddhaol, a bod camau gorfodi priodol wedi’u cymryd. Nododd yr archwilydd nad oedd yr un o’r achosion a ddewiswyd yn cyfiawnhau camau gorfodi ffurfiol. Fodd bynnag, byddai’r awdurdod yn elwa o sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r ystod lawn o opsiynau gorfodi sydd ar gael pan nad yw busnesau’n cydymffurfio’n gyson, yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau dogfenedig perthnasol.
Argymhellion
4.5.17 Dylai’r awdurdod wneud y canlynol:
(i)Sicrhau bod y gweithredwr busnes cywir yn cael hysbysiad ysgrifenedig am bob canlyniad ffiniol neu anfoddhaol o samplau hylendid bwyd, a bod cofnod o’r hysbysiad yn cael ei gadw. Sicrhau bod unrhyw gyrff perthnasol priodol eraill, fel prif awdurdodau ac awdurdodau cartref, yn cael eu hysbysu am unrhyw ganlyniadau anfoddhaol. [Erthyglau 5(1)(a), 13(1) a (2) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ; FLCoP 2.3.1, 2.6.3, 4.3.3.3, 4.4 a 4.6]
4.6 Monitro mewnol
4.6.1 Mae gwaith monitro mewnol yn bwysig i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyflawni a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â gofynion deddfwriaethol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a gweithdrefnau’r awdurdod. Mae hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau.
4.6.2 Roedd gweithdrefn monitro mewnol ddogfenedig wedi’i datblygu ar gyfer y gwasanaeth hylendid bwyd. Roedd yn cynnwys cyfrifoldebau swyddogion a sampl o wiriadau ffeiliau yn ymwneud ag ymyriadau. Gellid gwella’r gweithdrefnau monitro mewnol ar gyfer gwasanaethau safonau bwyd er mwyn ffurfioli’n llwyr y gweithgareddau monitro samplau safonau bwyd a gynhelir.
4.6.3 Roedd rheolwyr llinell yn gyfrifol am fonitro’r gwasanaethau gorfodi bwyd yn fewnol ar lefel weithredol.
4.6.4 Roedd modd i’r archwilwyr wirio bod rhywfaint o fonitro mewnol ansoddol wedi digwydd ar draws y gwasanaeth, gan gynnwys gwirio cofnodion am ymyriadau ar gyfer samplau hylendid bwyd.
4.6.5 Pan oedd gwaith monitro mewnol wedi digwydd, roedd tystiolaeth ar gael ar ffurf cofnodion ar gyfer natur a graddfa’r gwaith monitro hwnnw, yn cwmpasu’r materion yr oedd angen rhannu adborth â swyddogion arnyn nhw. Byddai’r system yn elwa o sicrhau bod cofnodion llawn yn cael eu cadw ar gyfer gweithgareddau samplu safonau bwyd.
4.6.6 Roedd y cofnodion a oedd ar gael mewn perthynas â gwaith monitro mewnol yn cael eu cynnal gan reolwyr am o leiaf ddwy flynedd.
Argymhellion
4.6.7 Dylai’r awdurdod:
(i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod achosion sy’n ymwneud â gwaith samplu safonau bwyd yn destun gwaith monitro ansoddol.
(ii) Dylai’r gwaith monitro mewnol a gynhelir yn ymarferol gynnwys adolygiad o ansawdd gweithgareddau samplu safonau bwyd, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer dilyn hynt canlyniadau anfoddhaol a chofnodion o’r hyn a gafodd ei wirio ym mhob achos. [Erthyglau 5(1)(a), 5(1)(b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.1 o’r Cod Ymarfer; adran 2.3.2 o’r Canllawiau Ymarfer]
4.7 Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau
4.7.1 Rhoddwyd sylw i gamau archwilio perthnasol o raglenni archwilio blaenorol nad oeddent wedi’u cwblhau. Mae hyn yn cynnwys y rhai o’r rhaglen archwilio lawn ar gyfer 2013–2017.
4.7.2 Mae cynllun gweithredu diweddaredig wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ASB.
Archwilwyr: Craig Sewell, Angela Phillips
Adran: Y Tîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
Atodiad A: Cynllun archwilio
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Cynllun archwilio awdurdodau lleol – Cymru, Ebrill 2026 – Mawrth 2027
Briff y Rhaglen
Sarah Maddox: Pennaeth Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio – yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru E-bost: Sarah.Maddox@food.gov.uk
Craig Sewell: Uwch-reolwr Archwilio, yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru – Archwilydd Arweiniol E-bost: wales.audit@food.gov.uk
Cefndir
Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd awdurdodau lleol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (y Ddeddf) a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.
Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau statudol i’r ASB er mwyn cryfhau ei dylanwad dros weithgarwch gorfodi ac i sicrhau y caiff blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol eu cyflawni ar lefel leol. Mae’n rhoi pwerau i’r ASB gyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- pennu safonau perfformiad mewn perthynas â gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
- monitro perfformiad awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
- mynnu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynghylch gorfodi cyfraith bwyd ac archwilio unrhyw gofnodion
- mynd i mewn i safleoedd awdurdodau lleol, i archwilio cofnodion a chymryd samplau
- cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol
- llunio adroddiadau i awdurdodau lleol unigol, gan gynnwys canllawiau ar wella perfformiad
Yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gynhelir i sicrhau y gellir dilysu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid neu fwyd, ceir gofyniad, o dan Erthygl 6, i awdurdodau cymwys gynnal archwiliadau mewnol neu gael eu harchwilio’n allanol.
Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’r ASB yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau maent yn eu darparu, a hynny mewn modd cywir. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.
Fel rhan o’r rhaglen archwilio hon, cynhelir archwiliadau systematig ac annibynnol o’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â chyfraith bwyd yng Nghymru.
### Amcanion y Rhaglen
Bydd y rhaglen archwilio yn ystyried y rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Bydd gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â gweithredu’r ddeddfwriaeth yn y meini prawf cyn y dyddiad hwn hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen archwilio.
Bydd yr archwiliadau’n dangos a fu’r broses o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud â gwaith samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru yn effeithiol. Gallai methu â sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a allai effeithio’n andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru arwain at niwed i enw da awdurdodau lleol a’r ASB, yn ogystal â cholli hyder yn y diwydiant bwyd.
Bydd y rhaglen archwilio â ffocws yn cynnwys archwiliad o’r rheolaethau swyddogol, y gweithgareddau swyddogol a’r canlyniadau cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth isod:
- Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625.
- Deddf Diogelwch Bwyd 1990
- Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
- Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013
- Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
- Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
- Unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â gwaith samplu bwyd neu ei ganlyniadau
Nodau penodol y rhaglen archwilio hon yw:
- rhoi sicrwydd bod y gwaith o samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru wedi’i weithredu’n effeithiol gan awdurdodau lleol; hynny yw, bod rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod), Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a deddfwriaeth swyddogol eraill a gyhoeddwyd yn ganolog 1
- asesu rhaglenni archwilio awdurdodau lleol, eu hadnoddau a sail eu datblygiad.
- adolygu polisïau samplu awdurdodau lleol a sut mae samplu’n cael ei ddefnyddio fel rheolaeth swyddogol.
- archwilio sut mae awdurdodau lleol yn darparu cyfarwyddiadau clir a chynhwysfawr i swyddogion mewn perthynas â samplu, trwy weithdrefnau wedi’u dogfennu.
- asesu a yw camau ymchwilio a gorfodi dilynol priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â chanlyniadau samplau sy’n dynodi diffyg cydymffurfiaeth neu amheuaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth, naill ai yn y bwyd ei hun neu mewn arferion busnes bwyd.
- nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolaethau samplu a gynhelir
- darparu gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi’r ASB ar weithgarwch samplu awdurdodau lleol
- adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sydd heb eu cyflawni o archwiliadau blaenorol
Cwmpas y Rhaglen Archwilio
Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud gwaith samplu hylendid bwyd a safonau bwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae cyfanswm o chwe archwiliad wedi’u cynllunio ond gall y nifer a gyflawnir yn ymarferol amrywio oherwydd amgylchiadau annisgwyl yn codi. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn ymgymryd â gweithgareddau samplu sy’n unol â’r Cod.
Bydd y rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r meysydd canlynol o reolaethau swyddogol:
- gwaith cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd ar gyfer gweithgareddau samplu
- adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau samplu yn seiliedig ar risg.
- awdurdodiad a chymhwysedd swyddogion i ymgymryd â gwaith samplu
- polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
- ymyriadau samplu (rhai sy’n seiliedig ar arolygiad, rhai sydd wedi’u rhaglennu a rhai ymatebol) a gorfodi.
- monitro mewnol o weithgarwch samplu
- unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau samplu.
Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny.
Dull Asesu
Bydd yr archwiliadau’n cynnwys:
- holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynlluniau gwasanaeth, rhaglenni, polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â samplu, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig
- bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o gynlluniau gweithredu archwilio blaenorol, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar unrhyw gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni
- bydd archwiliad strwythuredig ar y safle yn dilyn hyn a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ar drefniadau ynghylch samplu yn awr ac yn y dyfodol ac adolygiadau o ffeiliau achos
Hysbysu
Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o 4 wythnos o’r angen i gyflwyno deunydd cyn yr archwiliad, a rhoddir o leiaf 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer ymweliad archwilio, ar gyfer pob archwiliad a gynhelir o dan y cynllun archwilio hwn. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac yn hwyluso effeithiolrwydd y broses archwilio trwy ganiatáu digon o amser i bob awdurdod lleol gasglu dogfennau a sicrhau bod staff a chyfleusterau priodol ar gael.
Amseru
Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Mai 2026 a mis Chwefror 2027. Dylai’r elfen ar y safle o’r archwiliad, ar gyfer pob awdurdod lleol, gymryd 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer.
Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol
Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adroddiad unigol a chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar sail yr archwiliad, a fydd ill dau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Bydd asesiad o sicrwydd cyffredinol ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd hefyd yn cael eu hanfon at bob awdurdod lleol, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi.
Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau’r rhaglen archwilio. Bydd yr adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol a’r ASB i wella’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu cynnal. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn tynnu sylw at unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag unrhyw feysydd o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen.
Canlyniadau Disgwyliedig
Canlyniadau Uniongyrchol
- Sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith gan yr awdurdod lleol sy’n ymwneud â samplu.
- Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol
- Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd
- Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau
- Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei swyddogaeth statudol.
Canlyniadau Strategol
- Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd mewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau
- Rhoi sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion y Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd
- Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well o ran hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd
- Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd a Deddf Safonau Bwyd 1999
Atodiad B: Cynllun gweithredu yn sgil archwiliad ar gyfer rheolaethau samplu
Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, 12–13 Mai 2026
| Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) | Erbyn (dyddiad) | Gwelliannau arfaethedig | Camau a gymerwyd hyd yma |
|---|---|---|---|
| 4.1.6 (i) Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni’r rhaglenni samplu, gan gynnwys esboniadau am unrhyw amrywiadau. | Diwedd Gorffennaf 2026 | Bydd swyddogion yn sicrhau bod adolygiad perfformiad y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer 2025–26 yn cynnwys gwybodaeth fanylach, gan gynnwys esboniad o unrhyw wyro o’r camau gweithredu arfaethedig. Yn y dyfodol, bydd cynllun samplu manylach yn cael ei gyflwyno, a fydd yn cynnwys nifer y samplau y bwriedir eu cymryd yn ystod y flwyddyn. Bydd hyn yn sicrhau bod modd, felly, gynnal adolygiad manylach yn y flwyddyn ariannol nesaf. |
Mae gwaith wedi dechrau ar osod cynllun y Gwasanaeth Bwyd ar gyfer y flwyddyn 2026–27. |
| 4.2.9 (i) Diwygio ei weithdrefn ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd, gan sicrhau bod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol wedi’i chynnwys. | Diwedd Mehefin 2026 | Mae awdurdodiadau safonau bwyd wedi’u diwygio fel eu bod yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth angenrheidiol. Bydd awdurdodiadau’n cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chynnwys. | Mae awdurdodiadau wedi’u diwygio. |
| 4.5.7 (i) Sicrhau bod y gweithredwr busnes cywir yn cael hysbysiad ysgrifenedig am bob canlyniad ffiniol neu anfoddhaol o samplau hylendid bwyd, a bod cofnod o’r hysbysiad yn cael ei gadw. Sicrhau bod unrhyw gyrff perthnasol priodol eraill, fel prif awdurdodau ac awdurdodau cartref, yn cael eu hysbysu am unrhyw ganlyniadau anfoddhaol. | Diwedd Mehefin 2026 | Bydd y weithdrefn ar gyfer gwaith samplu’n cael ei diweddaru fel ei bod yn cynnwys y camau a gymerwyd i ddelio â chanlyniadau ffiniol ac anfoddhaol. | Mae swyddogion wedi cael eu hyfforddi o’r newydd i sicrhau bod y gweithredwr busnes bwyd cywir yn cael gwybod am unrhyw ganlyniadau ffiniol neu anfoddhaol yn ysgrifenedig, a bod unrhyw gamau a gymerir yn cael eu cofnodi’n llawn ac yn gywir ar y system gwybodaeth reoli. Mae swyddogion hefyd wedi cael eu hatgoffa o’r gofyniad i roi gwybod i unrhyw brif awdurdodau ac awdurdodau cartref perthnasol am unrhyw ganlyniadau ffiniol neu anfoddhaol. |
| 4.6.7 (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig i sicrhau bod achosion sy’n ymwneud â gwaith samplu safonau bwyd yn destun gwaith monitro ansoddol. | Hydref 2026 | O ddiwedd Chwarter 1 2025–26, bydd y rhaglen monitro mewnol ar gyfer safonau bwyd yn cynnwys gwaith monitro ansoddol o weithgarwch samplu, yn unol â’r weithdrefn a ddefnyddir ar gyfer gwaith monitro mewnol o arolygiadau a chwynion/ceisiadau am wasanaeth. Bydd y weithdrefn ar gyfer gwaith monitro mewnol yn cael ei diwygio ym mis Hydref i gynnwys hyn, yn ogystal ag unrhyw newidiadau eraill sy’n angenrheidiol yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd. |
Mae swyddogion wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cadw cofnodion cyflawn a chywir wrth ymchwilio i samplau anfoddhaol, ac maent wedi cael gwybod y bydd y gweithgarwch hwn yn destun monitro mewnol rheolaidd. Darperir adborth lle bo angen. |
| 4.6.7 (ii) Dylai’r gwaith monitro mewnol a gynhelir yn ymarferol gynnwys adolygiad o ansawdd gweithgareddau samplu safonau bwyd, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer dilyn hynt canlyniadau anfoddhaol a chofnodion o’r hyn a gafodd ei wirio ym mhob achos. | Mehefin 2026 | Bydd gwaith monitro mewnol yn cael ei gynnal i sicrhau bod y camau cywir wedi’u cymryd i fynd i’r afael â chanlyniadau anfoddhaol. Bydd y system gwybodaeth reoli yn cael ei harchwilio’n fanwl er mwyn sicrhau bod staff yn cadw cofnodion cywir o’r holl gamau a gymerwyd. Bydd swyddogion yn cael adborth pan fydd anghysondebau’n cael eu nodi, a bydd cofnodion yn cael eu cadw o unrhyw waith monitro mewnol a gynhelir. |
Fel yr uchod. |