Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Archwiliad o reolaethau samplu a chamau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau – Ynys Môn

Cyhoeddwyd 16 Hydref 2026

Yn berthnasol i Gymru

Rhagair

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys sy’n gyfrifol am ddeddfwriaeth safonau a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, ac am sicrhau bod rheolaethau swyddogol sy’n seiliedig ar risg yn cael eu cynnal mewn sefydliadau busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae rheolaethau swyddogol ar fwyd a bwyd anifeiliaid, sydd â’r nod o wirio cydymffurfiaeth busnesau bwyd, yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Maent hefyd yn cyfrannu at ganlyniad strategol yr ASB, sef bod ‘bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label’.

Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth busnesau bwyd a bwyd anifeiliaid o ddydd i ddydd.

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009. Mae’n ofynnol i’r ASB fonitro ac archwilio gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol o dan y ddeddfwriaeth hon a Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625. Wrth ddatblygu ei threfniadau archwilio, mae’r ASB wedi ystyried canllawiau’r Comisiwn Ewropeaidd ar sut y dylai archwiliadau o’r fath gael eu cynnal.

Yn ogystal ag asesu’r gwaith o gynnal rheolaethau swyddogol yn erbyn gofynion cyfreithiol a chanllawiau statudol, mae’r broses archwilio hefyd yn rhoi’r cyfle i nodi a rhannu arferion da ac i roi gwybodaeth i lywio polisi’r ASB ar weithredu a gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid.

Mae rhaglenni archwilio’r ASB yn asesu cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â gofynion Rheoliad Rheolaethau Swyddogol a gymathwyd (UE) 2017/625 a’r Safon Gorfodi Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid yn y Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid gan Awdurdodau Lleol (y Cytundeb Fframwaith). Gwnaed asesiadau hefyd yn erbyn y Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer.

Mae’r adroddiad hwn ar gael ar ffurf copi caled gan Dîm Archwilio a Sicrwydd Rheoleiddio’r ASB, Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 4, Adeilad Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ, ac yn electronig ar wefan yr ASB.

 1. Rhagymadrodd

Cefndir

1.1. Mae archwiliadau o wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid awdurdodau lleol yn rhan o drefniadau’r ASB i wella diogelwch a hyder defnyddwyr mewn perthynas â bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gweithredu rheolaethau swyddogol mewn busnesau bwyd ar amlderau priodol yn seiliedig ar risg yn hanfodol i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac i sicrhau bod bwyd yn ddiogel i ddefnyddwyr.

1.2. Yn dilyn pandemig COVID-19, o 1 Ebrill 2023 ymlaen, dylai awdurdodau lleol fod yn cynllunio i wneud y pethau canlynol:

  • Cynnal ymyriadau sydd ar y gweill ar gyfer sefydliadau sydd yn ôl yn  rhan o’r rhaglen ymyriadau arferol yn unol â’r amlderau a nodir yn y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (y Cod Ymarfer)
  • gweithio tuag at gyd-fynd â’r darpariaethau a nodir yn y Cod Ymarfer o 1 Ebrill 2023 ymlaen, gan ddefnyddio’r ystod lawn o hyblygrwydd a gynigir eisoes gan y Cod Ymarfer. Mae manylion am yr hyblygrwydd hwn, gan gynnwys eithriadau, i’w gweld ym Mhennod 4 o’r Cod Ymarfer a Phennod 4 o’r Canllawiau Ymarfer
  • parhau i ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar risg o ran y gofynion a nodir yn y Cod Ymarfer, a hynny ar sail yr adnoddau sydd ar gael

1.3. Rhan allweddol o gylch gwaith yr ASB yn ei rôl fel Awdurdod Cymwys yw rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau bwyd, fel awdurdodau lleol, yn cyflawni ac yn gweithredu’n gywir unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau y maent yn eu darparu. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

1.4. Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i’r ASB bennu safonau a monitro’r gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a gynhelir gan awdurdodau lleol o dan adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cymru) 2009.

1.5. Mae’r Cytundeb Fframwaith ar waith yr awdurdodau lleol i orfodi cyfraith bwyd yn nodi’r trefniadau y mae’r ASB yn eu defnyddio i fonitro ac archwilio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol i helpu i sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth effeithiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

1.6. Mae’r rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu a yw’r gwaith o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud â samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru wedi bod yn effeithiol, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae’r archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn ymgymryd ag ymyriadau samplu sy’n seiliedig ar raglen sy’n unol â’r Cod Ymarfer.

1.7. Bu i’r asesiad archwilio ystyried y materion canlynol:

  • gwaith cynllunio a darparu gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd, a gwaith adolygu gweithgareddau samplu
  • adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau samplu yn seiliedig ar risg
  • awdurdodiad a chymhwysedd swyddogion i ymgymryd â gwaith samplu
  • polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
  • ymyriadau samplu (rhai sy’n seiliedig ar arolygiadau, rhai sydd wedi’u rhaglennu a rhai ymatebol) a gorfodi
  • monitro mewnol o weithgarwch samplu
  • unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau samplu. Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn unol â hynny

1.8. Fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r rhaglen archwilio, bu i’r ASB ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol a llunio cynllun archwilio. Mae hwn wedi’i atodi yn Atodiad A.

2. Crynodeb gweithredol

2.1. Bu i’r archwiliad bwyso a mesur trefniadau Cyngor Sir Ynys Môn i gynnal rheolaethau bwyd swyddogol sy’n gysylltiedig â samplu, sef rhan bwysig o swyddogaeth safonau a hylendid bwyd yr awdurdod. Roedd cwmpas yr archwiliad yn cynnwys asesiad o drefniadaeth a rheolaeth gyffredinol yr awdurdod, a’r gwaith mewnol i fonitro gweithgareddau samplu hylendid bwyd a safonau bwyd.

2.2. Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd oedd â’r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyflawni gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd o fewn Adran Diogelu’r Cyhoedd. Y Prif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd oedd yn gyfrifol am reoli’r adran, tra bo Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a’r Rheolwr Safonau Masnach yn gyfrifol am waith rheoli o ddydd i ddydd.

2.3. Roedd gan yr awdurdod drefniadau cynllunio gwasanaethau ar waith, ynghyd â systemau ar gyfer adolygu perfformiad. Roedd dogfennau cynllunio gwasanaethau’n cynnwys yr wybodaeth ofynnol ar samplu hylendid bwyd a nodir yn y Canllawiau Cynllunio Gwasanaethau gyda rhai enghreifftiau o arferion da, gan gynnwys yr ymrwymiad i gyflawni’r rhaglenni samplu, dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen yn erbyn y rhai sydd ar gael, a’r gallu i deilwra gwaith samplu yn unol â thueddiadau sy’n dod i’r amlwg. O ran safonau bwyd, nid oedd yr ymrwymiad na’r wybodaeth yn cyrraedd y lefel ofynnol ar gyfer cynllun samplu sy’n seiliedig yn llwyr ar risg, ac roedd yr adnoddau’n annigonol, gan olygu bod yr awdurdod yn dibynnu ar gyllid ychwanegol gan yr ASB. Roedd y gofyniad i adolygu’r gwaith o gyflawni rhaglenni samplu’r flwyddyn flaenorol ac i nodi ac egluro unrhyw amrywiadau wedi’i gwblhau ar gyfer hylendid bwyd, ond nid oedd wedi’i gwblhau’n llawn ar gyfer safonau bwyd.

2.4. Roedd trefniadau ar waith i sicrhau bod gwasanaeth effeithiol yn cael ei ddarparu gan nifer digonol o swyddogion cymwys ar gyfer hylendid bwyd, ac roedd y swyddogion hylendid a safonau bwyd wedi’u hawdurdodi yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad. Nodwyd y rhain fel meysydd o arfer da. Dylai’r awdurdod sicrhau bod nifer digonol o swyddogion cymwys ar gael i ddarparu gwasanaethau safonau bwyd.

2.5. Roedd polisi gorfodi addas ar waith, yn ogystal ag ystod o weithdrefnau gorfodi sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o opsiynau gorfodi sydd ar gael, er mwyn darparu’r offer i swyddogion fynd i’r afael ag unrhyw ganlyniadau samplu nad oeddent yn foddhaol. Roedd angen gweithdrefnau ychwanegol ar gyfer gorfodi mewn sefydliadau cymeradwy.

2.6. Roedd gan yr awdurdod y cyfleusterau a’r offer angenrheidiol i gynnal rheolaethau samplu ar hylendid bwyd a safonau bwyd yn effeithiol. Amlygwyd hyn fel maes o arfer dda.

2.7. Roedd y gwaith samplu ar gyfer hylendid bwyd, ynghyd â’r gwaith samplu cyfyngedig a oedd wedi’i wneud ar gyfer safonau bwyd, wedi cael eu cynnal, ar y cyfan, yn ôl y gofyn, a nodwyd enghraifft o arfer da. Byddai’n fuddiol gwella’r trefniadau ar gyfer cadw dogfennau samplu hylendid bwyd gwreiddiol a chofnodi ystyriaethau dilynol mewn perthynas â samplau safonau bwyd. Fodd bynnag, roedd angen diwygio’r polisi a’r cynllun samplu safonau bwyd yn sylweddol er mwyn sicrhau ymrwymiad i raglen samplu fwy eang sy’n seiliedig yn llwyr ar risg, gyda digon o adnoddau i’w chefnogi.

2.8. Roedd tystiolaeth bod rhywfaint o waith monitro mewnol yn cael ei wneud mewn perthynas â gweithgareddau samplu hylendid bwyd, a byddai’n fuddiol cofnodi hyn yn llawn. Byddai’n fuddiol datblygu ymhellach y gwaith o fonitro gweithgareddau samplu safonau bwyd yn fewnol a rhoi hyn ar waith ochr yn ochr â rhaglen samplu fwy eang.

3. Methodoleg archwilio

3.1. Cafodd yr awdurdod lleol lythyr cyn yr archwiliad a oedd yn cynnwys holiadur i’w lenwi cyn yr ymweliad, ynghyd â manylion y dogfennau yr oedd eu hangen arnon ni i asesu i ba raddau yr oedd wedi cyflawni’r argymhellion nad oedd wedi’u cwblhau’n flaenorol.

3.2. Hefyd, cafodd yr awdurdod lleol gopi o unrhyw adroddiadau archwilio / cynlluniau gweithredu perthnasol. Gofynnon ni iddo ddarparu tystiolaeth o’i gynnydd o ran y camau gweithredu nad oeddent wedi’u cwblhau.

3.3. Yna, cynhaliwyd archwiliad strwythuredig ar y safle a oedd yn cynnwys ymweliad gwirio â busnes lleol a chyfarfodydd â Phennaeth y Gwasanaeth, swyddog arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill. Yn ystod y cyfarfod trafodwyd y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau yn awr ac yn y dyfodol. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad o ddetholiad o gofnodion rheolaethau swyddogol ar fwyd.

3.4. Cynhaliwyd yr archwiliad rhwng 17 a 18 Mehefin 2026. Roedd yr archwiliad a ddigwyddodd ar y safle wedi para dau ddiwrnod gwaith.

3.5. Mae’r awdurdod lleol wedi cael yr adroddiad ysgrifenedig hwn am yr archwiliad, ynghyd â chynllun gweithredu diweddar ar sail yr archwiliad. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB.

4. Canfyddiadau’r archwiliad

4.1. Trefniadaeth a rheolaeth

4.1.1. Roedd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd yn goruchwylio’r gwaith o orfodi cyfraith bwyd. Mae Cyfansoddiad yr awdurdod yn amlinellu ei drefniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau. O dan y Cyfansoddiad, roedd penderfyniadau ar faterion gweithredol sy’n ymwneud â bwyd wedi’u dirprwyo i’r Pennaeth.

4.1.2. Roedd yr awdurdod wedi llunio ‘Cynllun Gwasanaeth Bwyd’ drafft ar gyfer 2026-2027 (‘y Cynllun Gwasanaeth’). Gan mai drafft yw’r Cynllun Gwasanaeth, nid oedd y Pennaeth wedi ei gymeradwyo eto.

4.1.3. Darparwyd gwybodaeth am y rhaglenni samplu hylendid a safonau bwyd.

Arferion da

Ar gyfer hylendid bwyd, roedd hyn yn cynnwys cynnal arolygon cenedlaethol a rhanbarthol a rhaglen o ymyriadau samplu lleol yn seiliedig ar risg, ochr yn ochr â chapasiti ychwanegol er mwyn rhoi’r hyblygrwydd i deilwra gweithgarwch samplu i anghenion sy’n dod i’r amlwg drwy gydol y flwyddyn.

Ar gyfer safonau bwyd, er nad oedd cyllideb na chynllun ar waith ar gyfer rhaglen samplu a oedd yn seiliedig yn llwyr ar risg, roedd y cynllun presennol yn caniatáu cymryd samplau yn ôl yr angen a chyfrannu at arolygon lleol a chenedlaethol, yn amodol ar sicrhau cyllid ychwanegol.

4.1.4. Er bod y cynllun samplu hylendid bwyd yn nodi’r nifer lleiaf o samplau i’w cymryd, roedd angen diwygio’r cynllun samplu safonau bwyd i gynnwys y nifer lleiaf o samplau i’w cymryd a sicrhau cyllid digonol i alluogi’r awdurdod i gynnal rhaglen samplu sy’n seiliedig yn llwyr ar risg.

4.1.5. Mae’r adnoddau cyffredinol sydd ar gael i ddarparu gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd, fel sy’n cael eu nodi yn y Cynllun Gwasanaeth, yn dangos bod yr adnoddau ar gyfer gwaith hylendid bwyd yn ddigonol ar gyfer rhaglen waith eleni. Fodd bynnag, roedd diffyg o 3.4 swyddog cyfwerth ag amser llawn (CALl) ar gyfer safonau bwyd. Fodd bynnag, o ystyried y capasiti ychwanegol a ddarparwyd gan gontractwyr allanol a’r potensial i ddatblygu staff mewnol ymhellach, daeth yn amlwg y byddai’r diffyg staff ym maes safonau bwyd yn lleihau ac, o dan y cynlluniau presennol, gallai fod oddeutu 1.85 CALl.

4.1.6. Roedd y Cynllun Gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth yn dilyn adolygiad o’r gwaith o gynnal rheolaethau samplu swyddogol ar hylendid bwyd ar sail cynllun y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, nodwyd nad oedd y cynllun yn dangos yn glir a oedd y cynlluniau samplu safonau bwyd wedi’u cwblhau nac yn nodi unrhyw amrywiadau. Dylai’r adolygiad gynnwys nifer y samplau a gymerwyd yn erbyn y rhaglenni samplu safonau bwyd, a, phan oedd unrhyw amrywiadau, y rhesymau drostynt.

Argymhellion

4.1.7. Dylai’r awdurdod:

(i) Sicrhau bod y cynllun samplu safonau bwyd yn nodi isafswm y samplau i’w cymryd, ei fod wedi’i seilio’n llwyr ar risg, a’i fod yn cwmpasu’r mathau o fwyd a gynhyrchir yn yr ardal neu a fewnforir iddi, ac unrhyw brosesau arbenigol dan sylw. (ii) Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni’r rhaglenni samplu ar gyfer safonau bwyd, gan gynnwys esboniadau am unrhyw amrywiadau.

[Erthyglau 5(1)(a) ac (e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.3 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd; adrannau 2.3.18.2, 2.3.18.3 ac Atodiad 1 i’r Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.2. Swyddogion awdurdodedig

4.2.1. Roedd Cynllun Dirprwyo Pwerau i Swyddogion yr awdurdod, sy’n rhan o’i Gyfansoddiad ysgrifenedig, yn rhoi pwerau dirprwyedig i’r Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ymwneud â gwasanaethau bwyd. Mae hyn yn cynnwys y gallu i’r awdurdod dirprwyedig awdurdodi swyddogion eraill a’r pŵer i gychwyn erlyniadau. Roedd y pwerau hyn wedi’u dirprwyo ymhellach yn ysgrifenedig, yn unol â’r Cyfansoddiad, i’r Prif Swyddog Diogelu’r Cyhoedd.

4.2.2. Roedd gweithdrefn, a oedd wedi’i chofnodi, wedi’i datblygu ar gyfer awdurdodi swyddogion safonau bwyd a hylendid bwyd yn seiliedig ar eu cymwysterau a’u profiad. Roedd hyn yn unol â’r gofynion perthnasol.

4.2.3. Roedd yr awdurdod wedi penodi swyddogion arweiniol cymwys â’r cymwysterau addas i gynnal gwaith safonau bwyd a hylendid bwyd, a hynny yn unol â gofynion y Cod Ymarfer.

4.2.4. Roedd yr awdurdod wedi nodi yn ei Gynllun Gwasanaeth fod yr adnoddau a oedd ar gael yn ddigonol i gyflawni’r swyddogaeth hylendid bwyd. O ran safonau bwyd, roedd yr adnoddau’n cynyddu yn dilyn cymorth ychwanegol i recriwtio a datblygu swyddogion o fewn y gwasanaeth, yn ogystal â chadw contractwyr. Fodd bynnag, roedd ansicrwydd o hyd ynghylch a fyddai modd adfer yr adnoddau i’r lefel angenrheidiol i fodloni’r holl ofynion.

4.2.5. Darparwyd hyfforddiant i swyddogion yn dilyn cyfarfodydd gwerthuso blynyddol gyda swyddogion, a oedd yn cynnwys asesiad o anghenion hyfforddi. Roedd yr awdurdod yn darparu cyfuniad o hyfforddiant mewnol ac allanol. Roedd yn ofynnol i bob swyddog gyflawni 10 awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ar faterion bwyd craidd yn unol â’r Cod Ymarfer.

4.2.6. Cynhaliwyd archwiliad o gofnodion cymwysterau a hyfforddiant tri swyddog a oedd yn cynnal rheolaethau swyddogol ar hylendid bwyd, a dau swyddog a oedd yn ymwneud â chynnal gwaith samplu safonau bwyd. Roedd cofnodion yn cael eu cadw gan yr awdurdod ar gyfer swyddogion yn system ffeiliau a ffolderi gyfrifiadurol y Cyngor.

4.2.7. Roedd pob un o’r pum swyddog wedi’u hawdurdodi yn unol â thystiolaeth o’u cymwysterau, hyfforddiant a phrofiad. Roedd awdurdodiadau wedi’u llofnodi gan swyddog ag awdurdod dirprwyedig, ac roeddent yn cynnwys yr holl ddeddfwriaeth allweddol sy’n ofynnol ar gyfer cynnal yr amrywiaeth o reolaethau swyddogol sy’n ofynnol ar gyfer gwaith gorfodi a samplu hylendid bwyd a safonau bwyd.

4.2.8. Roedd cymwysterau academaidd a chymwysterau perthnasol eraill ar gael i bob swyddog, ac roedd pob un o leiaf wedi cael y 10 awr o hyfforddiant DPP ar faterion bwyd craidd sy’n ofynnol gan y Cod Ymarfer a pholisïau’r awdurdod ei hun, yn unol â’u dyletswyddau.

Arferion da

Roedd yr awdurdod wedi penodi nifer digonol o swyddogion i ymgymryd â rheolaethau samplu hylendid bwyd ac wedi sicrhau bod eu hanghenion hyfforddi wedi’u hasesu a’u bod y rhain yn cael eu bodloni ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. Roedd swyddogion wedi’u hawdurdodi’n gywir yn unol â’u cymwysterau, eu hyfforddiant a’u profiad.

Argymhellion

4.2.9 Dylai’r awdurdod:

(i) Sicrhau bod ganddo nifer digonol o staff â chymwysterau a phrofiad addas ar gyfer safonau bwyd fel bod modd cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol.

[Erthygl 5(1)(e) o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 3.2 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.3. Fframwaith gorfodi

4.3.1. Roedd yr awdurdod wedi datblygu Polisi Gorfodi ar gyfer Diogelu’r Cyhoedd, a gymeradwywyd gan y rheolwr priodol ag awdurdod dirprwyedig. Roedd y Polisi yn hyrwyddo dull graddedig o orfodi, ac roedd yn bennaf yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a chanllawiau swyddogol eraill. Roedd y Polisi’n darparu meini prawf ar gyfer cymryd camau gorfodi ac yn cyfeirio at gynllun yr Awdurdod Cynradd, ac yn cynnwys gwybodaeth i gyfeirio camau gweithredu mewn sefydliadau lle mae gan y Cyngor ei hun fuddiant, fel ysgolion, cartrefi gofal a chanolfannau hamdden.

4.3.2. Datblygwyd hefyd nifer o weithdrefnau bwyd er mwyn ffurfio pecyn cymorth gweddol gynhwysfawr i helpu swyddogion i gymryd rhai o’r camau gorfodi y gallai fod eu hangen yn dilyn gweithgarwch samplu. Nid oedd gweithdrefnau ar gyfer gorfodi mewn sefydliadau cymeradwy wedi’u darparu. Byddai’r weithdrefn ar gyfer cyflwyno hysbysiadau gwella a chydymffurfiaeth mewn perthynas â safonau bwyd yn elwa o gael ei diweddaru i adlewyrchu cwmpas ehangach y weithdrefn ac i gynnwys yr ystod lawn o hysbysiadau templed.

Argymhellion

4.3.3 Dylai’r awdurdod: 

(i) Dogfennu ei weithdrefnau ar gyfer gorfodi mewn sefydliadau cymeradwy. 

[Erthyglau 5(1)(a) a (b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.3 a 2.31 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.4. Cyfleusterau ac offer samplu bwyd

4.4.1. Roedd gan yr awdurdod lleol weithdrefn ddogfenedig ar waith i asesu, nodi a chofnodi’r offer a’r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer gwaith samplu.

4.4.2. Roedd y weithdrefn yn nodi amlder y gwiriadau, a’r trefniadau ar gyfer cofnodi canlyniadau ac ynysu offer diffygiol. Gwnaeth yr archwilydd adolygu’r cofnodion dogfenedig ar gyfer y gwiriadau hyn, gan gynnwys cofnodion graddnodi allanol lle’r oedd hynny’n briodol.

Arferion da

Mae gan yr awdurdod y cyfleusterau a’r offer angenrheidiol i gynnal rheolaethau samplu ar hylendid bwyd a safonau bwyd yn effeithiol, yn unol â gweithdrefn ddogfenedig yr awdurdod.

4.5. Arolygu a samplu bwyd

4.5.1. Roedd yr awdurdod wedi datblygu polisi a gweithdrefnau samplu ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd. Roedd y rhain yn cynnwys penodi archwilwyr a dadansoddwyr bwyd a oedd yn bodloni’r holl ofynion cyfreithiol perthnasol. Fodd bynnag, dylai’r polisi gynnwys ymrwymiad i gynnal rhaglen samplu safonau bwyd sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a darparu’r adnoddau angenrheidiol i gynnal y rhaglen. Mae angen ariannu’r rhaglen samplu safonau bwyd yn llawn er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn gallu cynnal rhaglen sy’n seiliedig ar risg.

4.5.2. Ar y cyfan, roedd y gweithdrefnau samplu ar gyfer hylendid a safonau bwyd yn cynnwys y lefel gywir o fanylder ar draws y ddau wasanaeth. Mae’r weithdrefn samplu safonau bwyd yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch y camau i’w cymryd pe bai sampl anfoddhaol yn dod i law; yn bennaf gan ei chysylltu â’r weithdrefn orfodi.

Samplu Hylendid Bwyd

4.5.3. Fel rhan o’r archwiliad, adolygwyd pum achos samplu o’r 18 mis diwethaf ar gyfer diogelwch bwyd. Ym mhob achos, cymerwyd samplau gan swyddog awdurdodedig priodol. Cawsant eu hasesu gan labordy awdurdodedig addas, ac roedd y canlyniadau wedi’u cofnodi ar y gronfa ddata.

4.5.4. Ym mhob achos, cymerwyd y sampl fel rhan o’r rhaglen samplu / yn unol â’r polisi samplu, a rhoddwyd gwybod i’r gwerthwr fod sampl wedi’i chymryd. Ym mhob achos, roedd y samplau’n anffurfiol.

4.5.5. Mewn 4 allan o 5 achos, nodwyd nad oedd yr archwilydd yn gallu archwilio’r dogfennau samplu wreiddiol. Ar ôl siarad â’r swyddog, canfuwyd bod y rhain yn cael eu dinistrio ar ôl 6 mis, yn groes i’r gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod cofnodion samplu yn cael eu cadw.

4.5.6. Ym mhob achos, roedd trefniadau ar gyfer parhad tystiolaeth ac olrheiniadwyedd wedi’u cynnal a’u cofnodi’n briodol. Cafodd samplau eu cludo i’r labordy cymeradwy mewn modd amserol, a chadwyd cofnodion a thystiolaeth. Ym mhob achos, roedd y samplau wedi’u diogelu rhag dirywiad a halogiad, a chafodd tymheredd y samplau ei fonitro a’i gofnodi.

4.5.7. Ym mhob achos, roedd y gweithredwr busnes bwyd cywir wedi cael gwybod am y canlyniadau, ac anfonwyd copïau i’r pencadlys lle bo’n briodol. Roedd yn braf nodi, mewn un achos, fod y gweithgynhyrchwr, y prif awdurdod a thîm digwyddiadau’r ASB wedi cael gwybod yn briodol. Unwaith eto, nodwyd hyn fel arfer da wrth gynnal ymchwiliad dilynol trylwyr gyda thystiolaeth lawn.

4.5.8. Ym mhob achos, ymchwiliwyd i samplau ffiniol neu anfoddhaol yn drylwyr er mwyn nodi unrhyw achosion gwirioneddol neu bosib o dorri’r gyfraith a chamau unioni priodol, gan gynnwys ailymweliadau.

Arferion da

Roedd yr awdurdod yn cynnal ymchwiliadau dilynol trylwyr, gyda thystiolaeth lawn, i samplau hylendid bwyd anfoddhaol gan ymgysylltu’n llawn â gweithgynhyrchwyr a phrif awdurdodau lle bo’n briodol.

Samplu Safonau Bwyd

4.5.9. Fel rhan o’r archwiliad, adolygwyd tri achos samplu o’r 18 mis diwethaf ar gyfer safonau bwyd. Nodwyd bod y samplau hyn wedi’u cymryd fel rhan o brosiectau samplu Gogledd Cymru yn hytrach na rhaglen a arweiniwyd gan yr awdurdod yn seiliedig ar risg. Nid oedd y samplau hyn yn gwbl gynrychioliadol o weithgareddau’r busnes a’r risgiau i ddefnyddwyr ar draws yr awdurdod.

4.5.10. Ym mhob achos, cymerwyd samplau gan swyddog awdurdodedig priodol. Cawsant eu hasesu gan labordy awdurdodedig addas, ac roedd y canlyniadau wedi’u cofnodi ar y gronfa ddata.

4.5.11. Ym mhob achos, roedd trefniadau ar gyfer parhad tystiolaeth ac olrheiniadwyedd wedi’u cynnal a’u cofnodi’n briodol. Cafodd samplau eu cludo i’r labordy cymeradwy mewn modd amserol, a chadwyd cofnodion a thystiolaeth. Nodwyd bod ffotograffau o dderbynebau a bwydlenni wedi’u tynnu i ategu’r nodiadau samplu a gadwyd, a nodwyd hyn fel arfer da.

4.5.12. Ym mhob achos, roedd y canlyniadau wedi’u cadw ar y gronfa ddata, ac roedd y gweithredwr busnes bwyd priodol wedi cael gwybod yn ysgrifenedig, gyda chopïau o’r dystysgrif ddadansoddi.

4.5.13. Ym mhob achos, roedd tystiolaeth bod ymchwiliadau wedi’u cynnal, a’r rheiny’n gyson, mewn perthynas â samplau anfoddhaol, a bod camau gorfodi priodol wedi’u cymryd. Fodd bynnag, byddai dau achos yn elwa o gofnodion manylach ar ffeil er mwyn sicrhau bod penderfyniadau gorfodi gan swyddogion yn cael eu dogfennu’n llawn. Dylai’r awdurdod sicrhau bod ystyriaeth briodol yn cael ei rhoi i’r ystod lawn o opsiynau gorfodi sydd ar gael pan nad yw busnesau’n cydymffurfio’n gyson, yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau gorfodi dogfenedig perthnasol.

Arferion da

Tynnwyd sylw at ddefnydd ffotograffau mewn achosion samplu hylendid bwyd a safonau bwyd fel arfer da, gan eu bod yn dangos manylion llawn y cynnyrch, y labeli, y bwydlenni a’r derbynebau. Roedd hon yn enghraifft dda o barhad tystiolaeth.

Argymhellion

4.5.14. Dylai’r awdurdod:

  • Sicrhau bod y polisi samplu bwyd yn cynnwys ymrwymiad i gynnal rhaglen samplu safonau bwyd, wedi’i chefnogi gan yr adnoddau angenrheidiol, sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn hytrach na gwaith samplu atodol a ariennir gan grantiau’r ASB.
  • Sicrhau bod y weithdrefn samplu safonau bwyd yn cynnwys manylion y camau i’w cymryd ar ôl i sampl anfoddhaol ddod i law yn unol â’r weithdrefn orfodi.
  • Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth mewn perthynas â gwaith samplu hylendid bwyd yn cael ei chadw am chwe blynedd.

[Erthyglau 5(1)(a), 12(1), 13(1) a (2), o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adrannau 2.3.1, 2.3.2, 2.3.3, 2.6.3, 4.3.3.3, 4.4 a 4.6 o’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd]

4.6. Monitro mewnol

4.6.1. Mae gwaith monitro mewnol yn bwysig i sicrhau bod targedau perfformiad yn cael eu cyflawni a bod gwasanaethau’n cael eu darparu yn unol â gofynion deddfwriaethol, canllawiau a gyhoeddir yn ganolog a gweithdrefnau’r awdurdod. Mae hefyd yn sicrhau cysondeb o ran darparu gwasanaethau.

4.6.2. Roedd gweithdrefnau monitro mewnol dogfenedig wedi’u datblygu ar gyfer y gwasanaeth hylendid bwyd. Roeddent yn cynnwys cyfrifoldebau swyddogion a sampl o wiriadau ffeiliau yn ymwneud â gwiriadau ffeiliau samplu. Byddai’r gweithdrefnau’n elwa o gael eu gwella i nodi’r dull monitro’n llawn, gan gynnwys maint y samplau ac amlder y gwaith samplu. O ran gwaith monitro safonau bwyd yn fewnol, byddai’r gweithdrefnau’n elwa o gael eu gwella i nodi’r dull o fonitro achosion samplu a’r dull o sicrhau bod cofnodion yn cael eu cadw er mwyn hwyluso’r gwiriadau.

4.6.3. Roedd swyddogion arweiniol a rheolwyr tîm yn gyfrifol am fonitro’n fewnol y gwasanaethau gorfodi bwyd ar lefel weithredol.

4.6.4. Roedd modd i’r archwilwyr wirio bod rhywfaint o waith monitro mewnol ansoddol wedi digwydd ar gyfer samplau hylendid bwyd, gan gynnwys gwirio cofnodion am ymyriadau samplu. Fodd bynnag, er ei bod yn bosib nodi nifer yr achosion a archwiliwyd, nid oedd yn bosib nodi natur na graddfa’r gwaith monitro, ac nid oedd cofnodion o’r adborth a roddwyd i swyddogion ar gael ychwaith. Nid oedd cofnodion wedi’u cadw ar gyfer gwiriadau samplu safonau bwyd.

4.6.5 . Roedd y cofnodion a oedd ar gael mewn perthynas â gwaith monitro mewnol yn cael eu cynnal gan reolwyr am o leiaf ddwy flynedd.

Argymhelliad

4.6.7. Dylai’r awdurdod:

(i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig ar gyfer hylendid bwyd er mwyn nodi’r dull yn llawn, gan gynnwys maint ac amlder y samplau. Dylai sicrhau bod y dull ar gyfer samplu safonau bwyd hefyd wedi’i ddogfennu.

(ii) Sicrhau bod tystiolaeth lawn o’r gwaith monitro mewnol sy’n digwydd, gan gynnwys natur a graddfa’r gwiriadau monitro a chofnodion o’r canlyniadau ac unrhyw adborth a ddarperir i swyddogion.

[Erthyglau 5(1)(a), 5(1)(b) a 12 o Reoliad a gymathwyd (UE) 2017/625; adran 2.3.1 o’r Cod Ymarfer; adran 2.3.2 o’r Canllawiau Ymarfer]

4.7. Camau archwilio perthnasol sydd heb eu cwblhau

4.7.1. Rhoddwyd sylw i gamau archwilio perthnasol o raglenni archwilio blaenorol nad oeddent wedi’u cwblhau. Roedd hyn yn cynnwys camau gweithredu o raglen archwilio lawn 2013–2017 a’r archwiliad o’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a gynhaliwyd yn 2017/18.

4.7.2. Mae cynllun gweithredu diweddaredig wedi’i gyhoeddi ar wefan yr ASB.

Atodiad A: Cynllun Archwilio

Cynllun archwilio awdurdodau lleol: Cymru, Ebrill 2026 – Mawrth 2027

Cefndir 

Yng Nghymru, rhoddwyd y grym i bennu safonau a monitro gwasanaethau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd awdurdodau lleol i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) o dan Adran 12 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (y Ddeddf) a Rheoliad 7 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009.

Mae’r Ddeddf yn rhoi pwerau statudol i’r ASB er mwyn cryfhau ei dylanwad dros weithgarwch gorfodi ac i sicrhau y caiff blaenoriaethau ac amcanion cenedlaethol eu cyflawni ar lefel leol. Mae’n rhoi pwerau i’r ASB gyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • pennu safonau perfformiad mewn perthynas â gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
  • monitro perfformiad awdurdodau gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd
  • mynnu gwybodaeth gan awdurdodau lleol ynghylch gorfodi cyfraith bwyd ac archwilio unrhyw gofnodion
  • mynd i mewn i safleoedd awdurdodau lleol, i archwilio cofnodion a chymryd samplau
  • cyhoeddi gwybodaeth am berfformiad awdurdodau lleol
  • llunio adroddiadau i awdurdodau lleol unigol, gan gynnwys canllawiau ar wella perfformiad

Yn Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gynhelir i sicrhau y gellir dilysu cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid neu fwyd, ceir gofyniad, o dan Erthygl 6, i awdurdodau cymwys gynnal archwiliadau mewnol neu gael eu harchwilio’n allanol.

Er mwyn cyflawni’r gofyniad hwn, mae’r ASB yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid a’r cyhoedd fod awdurdodau cymwys, fel awdurdodau lleol, yn darparu ac yn gweithredu unrhyw ddeddfwriaeth, cyngor a chanllawiau a gyhoeddir mewn perthynas â’r gwasanaethau maent yn eu darparu, a hynny mewn modd cywir. Mae’r rhaglen archwilio hon, ynghyd â’r arolygon o berfformiad bob chwe mis, yn rhan allweddol o fframwaith sicrwydd cyffredinol yr ASB.

Fel rhan o’r rhaglen archwilio hon, cynhelir archwiliadau systematig ac annibynnol o’r modd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn perthynas â chyfraith bwyd yng Nghymru.

Amcanion y Rhaglen 

Bydd y rhaglen archwilio yn ystyried y rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol a gynhaliwyd o 1 Ebrill 2024 ymlaen. Bydd gweithgareddau rheoli sy’n ymwneud â gweithredu’r ddeddfwriaeth yn y meini prawf cyn y dyddiad hwn hefyd yn cael eu cynnwys yn y rhaglen archwilio.

Bydd yr archwiliadau’n dangos a fu’r broses o weithredu rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud â gwaith samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru yn effeithiol. Gallai methu â sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a allai effeithio’n andwyol ar iechyd a lles pobl Cymru arwain at niwed i enw da awdurdodau lleol a’r ASB, yn ogystal â cholli hyder yn y diwydiant bwyd.

Bydd y rhaglen archwilio â ffocws yn cynnwys archwiliad o’r rheolaethau swyddogol, y gweithgareddau swyddogol a’r canlyniadau cysylltiedig y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio i gyflawni amcanion y ddeddfwriaeth isod:

  • Rheoliad a gymathwyd (UE) 2017/625
  • Deddf Diogelwch Bwyd 1990
  • Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006
  • Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013
  • Rheoliad a gymathwyd (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr
  • Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014
  • Unrhyw ddeddfwriaeth arall sy’n ymwneud â gwaith samplu bwyd neu ei ganlyniadau

Nodau penodol y rhaglen archwilio hon yw:

  • rhoi sicrwydd bod y gwaith o samplu hylendid bwyd a safonau bwyd yng Nghymru wedi’i weithredu’n effeithiol gan awdurdodau lleol; hynny yw, bod rheolaethau swyddogol yn cael eu cynnal yn unol â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (y Cod), Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru), y Cytundeb Fframwaith a chanllawiau a deddfwriaeth swyddogol eraill a gyhoeddwyd yn ganolog
  • asesu rhaglenni archwilio awdurdodau lleol, eu hadnoddau a sail eu datblygiad
  • adolygu polisïau samplu awdurdodau lleol a sut mae samplu’n cael ei ddefnyddio fel rheolaeth swyddogol
  • archwilio sut mae awdurdodau lleol yn darparu cyfarwyddiadau clir a chynhwysfawr i swyddogion mewn perthynas â samplu, trwy weithdrefnau wedi’u dogfennu
  • asesu a yw camau ymchwilio a gorfodi dilynol priodol yn cael eu cymryd mewn perthynas â chanlyniadau samplau sy’n dynodi diffyg cydymffurfiaeth neu amheuaeth o ddiffyg cydymffurfiaeth, naill ai yn y bwyd ei hun neu mewn arferion busnes bwyd
  • nodi unrhyw enghreifftiau o arferion da ac arloesi a’u rhannu ag awdurdodau lleol eraill, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y rheolaethau samplu a gynhelir
  • darparu gwybodaeth i gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu polisi’r ASB ar weithgarwch samplu awdurdodau lleol
  • adolygu cynnydd awdurdodau lleol o ran gweithredu unrhyw argymhellion perthnasol sydd heb eu cyflawni o archwiliadau blaenorol

Cwmpas y Rhaglen Archwilio

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys cyfres o archwiliadau ledled Cymru i asesu cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud gwaith samplu hylendid bwyd a safonau bwyd, yn ogystal ag adolygu unrhyw gamau archwilio agored perthnasol yn dilyn archwiliadau blaenorol. Mae cyfanswm o chwe archwiliad wedi’u cynllunio ond gall y nifer a gyflawnir yn ymarferol amrywio oherwydd amgylchiadau annisgwyl yn codi. Bydd yr archwiliadau’n asesu a yw awdurdodau lleol yn ymgymryd â gweithgareddau samplu sy’n unol â’r Cod.

Bydd y rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r meysydd canlynol o reolaethau swyddogol:

  • gwaith cynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau hylendid bwyd a safonau bwyd ar gyfer gweithgareddau samplu
  • adnoddau sydd ar gael i’r gwasanaeth a blaenoriaethu gweithgareddau samplu yn seiliedig ar risg
  • awdurdodiad a chymhwysedd swyddogion i ymgymryd â gwaith samplu
  • polisi, gweithdrefnau a rhaglen samplu
  • ymyriadau samplu (rhai sy’n seiliedig ar arolygiad, rhai sydd wedi’u rhaglennu a rhai ymatebol) a gorfodi
  • monitro mewnol o weithgarwch samplu
  • unrhyw faterion eraill sy’n ymwneud â rheolaethau samplu

Camau archwilio sydd heb eu cwblhau – adolygu unrhyw gamau perthnasol sydd heb eu cwblhau yn dilyn archwiliadau blaenorol, a diweddaru cynllun gweithredu’r awdurdod lleol yn sgil archwiliadau yn unol â hynny.

Dull Asesu 

Bydd yr archwiliadau’n cynnwys:

  • holiadur cyn yr archwiliad yn gofyn am gopïau o gynlluniau gwasanaeth, rhaglenni, polisïau a gweithdrefnau sy’n ymwneud â samplu, ymyriadau wedi’u cynllunio/cwblhau a dogfennau cysylltiedig
  • bydd yr awdurdod lleol hefyd yn cael copi o gynlluniau gweithredu archwilio blaenorol, a gofynnir iddo ddarparu tystiolaeth o’r cynnydd a wnaed ar unrhyw gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni
  • bydd archwiliad strwythuredig ar y safle yn dilyn hyn a fydd yn cynnwys cyfarfodydd gyda’r Pennaeth Gwasanaeth, swyddogion arweiniol yr awdurdod lleol a staff perthnasol eraill ar drefniadau ynghylch samplu yn awr ac yn y dyfodol ac adolygiadau o ffeiliau achos

Hysbysu 

Rhoddir hysbysiad ymlaen llaw o 4 wythnos o’r angen i gyflwyno deunydd cyn yr archwiliad, a rhoddir o leiaf 6 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer ymweliad archwilio, ar gyfer pob archwiliad a gynhelir o dan y cynllun archwilio hwn. Bydd hyn yn hybu tryloywder ac yn hwyluso effeithiolrwydd y broses archwilio trwy ganiatáu digon o amser i bob awdurdod lleol gasglu dogfennau a sicrhau bod staff a chyfleusterau priodol ar gael.

Amseru 

Cynhelir yr archwiliadau rhwng mis Mai 2026 a mis Chwefror 2027. Dylai’r elfen ar y safle o’r archwiliad, ar gyfer pob awdurdod lleol, gymryd 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer. 

Adroddiad Asesu a Chamau Dilynol 

Bydd pob awdurdod lleol yn y rhaglen yn cael adroddiad unigol a chynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru ar sail yr archwiliad, a fydd ill dau yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr ASB. Bydd asesiad o sicrwydd cyffredinol ar gyfer hylendid bwyd a safonau bwyd hefyd yn cael eu hanfon at bob awdurdod lleol, ond ni fyddant yn cael eu cyhoeddi.

Ar ddiwedd y rhaglen, bydd adroddiad cryno dienw yn cael ei gynhyrchu a fydd yn cynnwys canfyddiadau’r rhaglen archwilio. Bydd yr adroddiad cryno yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol a’r ASB i wella’r modd y caiff rheolaethau swyddogol eu cynnal. Bydd yr adroddiad cryno hefyd yn tynnu sylw at unrhyw themâu cyffredin a materion sy’n dod i’r amlwg, yn ogystal ag unrhyw feysydd o arferion da a nodwyd yn ystod y rhaglen.

Canlyniadau Disgwyliedig 

Canlyniadau Uniongyrchol 

  • Sicrwydd ynghylch y trefniadau sydd ar waith gan yr awdurdod lleol sy’n ymwneud â samplu
  • Bydd gwelliannau a chamau a gymerir gan awdurdodau lleol yn cyfrannu at waith gorfodi cyfraith bwyd mwy effeithiol ar lefel leol
  • Bydd rhannu arferion da a nodwyd yn ehangach yn cyfrannu at wella ansawdd ac effeithiolrwydd y ffordd y mae awdurdodau lleol yn cynnal rheolaethau swyddogol ar fwyd
  • Bydd canfyddiadau ac argymhellion yn cael eu rhannu â thimau perthnasol yr ASB er mwyn llywio’r gwaith o lunio polisïau
  • Bydd yr archwiliadau’n sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei swyddogaeth statudol

Canlyniadau Strategol 

  • Bydd yr archwiliadau’n codi proffil y gwasanaeth bwyd mewn awdurdodau lleol ac yn eu helpu i gynnal/gwella’r modd y maent yn dyrannu adnoddau
  • Rhoi sicrwydd cadarn ynghylch y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu gofynion y Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd
  • Wrth i fusnesau gydymffurfio’n well o ran hylendid a safonau bwyd, bydd hyn yn cyfrannu at y gwaith o wella iechyd y cyhoedd ac yn lleihau’r tebygolrwydd o afiechydon a gludir gan fwyd, digwyddiadau bwyd a thwyll bwyd
  • Cyfrannu at ddulliau rheoli risg strategol yr ASB a chydymffurfiaeth â rhwymedigaethau’r DU o dan ofynion Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd a Deddf Safonau Bwyd 1999

Atodiad B: Cynllun gweithredu yn sgil archwiliad ar gyfer rheolaethau samplu

Cynllun Gweithredu ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn

Dyddiad yr archwiliad: 17 – 18 Mehefin 2026

Camau i fynd i’r afael â nhw (argymhelliad gan gynnwys paragraff safonol) Erbyn (dyddiad) Gwelliannau arfaethedig Camau a gymerwyd hyd yma
4.1.7 (i) Sicrhau bod y cynllun samplu safonau bwyd yn cynnwys y nifer lleiaf o samplau i’w cymryd, ei fod wedi’i seilio’n llwyr ar risg, a’i fod yn cwmpasu’r mathau o fwyd a gynhyrchir yn yr ardal neu a fewnforir iddi, ac unrhyw brosesau arbenigol dan sylw 01/04/2027 Datblygu cynllun samplu safonau bwyd sy’n seiliedig ar risg unwaith y ceir cadarnhad o lefel y cyllid. Mae’r cynnig yn cynnwys opsiynau posib 13/08/26 – lluniwyd y cynnig samplu a chafodd ei gyflwyno ar gyfer cyllid
4.1.7 (ii) Sicrhau bod yr adolygiad perfformiad blynyddol yn cynnwys gwybodaeth am berfformiad y flwyddyn flaenorol wrth gyflawni’r rhaglenni samplu ar gyfer safonau bwyd, gan gynnwys esboniadau am unrhyw amrywiadau 01/04/2027 Caiff ei gynnwys yn yr adolygiad blynyddol nesaf  
4.2.9 (i) Sicrhau bod ganddo nifer digonol o staff â chymwysterau a phrofiad addas fel bod modd cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill yn effeithlon ac yn effeithiol 01/01/27

01/04/27
Cynyddu capasiti o fewn safonau bwyd gan 0.6 staff CALl pellach – pan fydd Swyddog Safonau Masnach (TSO) newydd yn trosglwyddo i’r Tîm Bwyd

Cynyddu’r capasiti ymhellach gan 0.1 – 0.2 staff CALl, gyda 2 aelod o staff presennol newydd eu cymhwyso gymwys ym maes bwyd Mae’r capasiti’n gyfyngedig oherwydd y llwyth gwaith presennol, a bydd y gwaith hwn felly’n rhoi pwysau ychwanegol ar yr adnoddau sydd ar gael
2 x ymgynghorydd rhan-amser sy’n gweithio ar ôl-groniad o sefydliadau heb sgôr

10/08/26 – Cynyddu capasiti o fewn safonau bwyd gan 0.2 staff CALl fel y’i penodwyd

Swyddog cymwysedig ym maes bwyd yn symud i swydd TSO newydd (a grëwyd ym mis Ebrill 2026), ac wrthi’n datblygu ei gymhwysedd ac yn hyfforddi swyddog i gymryd ei le ym maes Masnachu Teg. Mae TSO arall hefyd yn cymryd rhan yng ngharfan 2, Cymhwysedd Bwyd – newydd gyflwyno’r asesiad terfynol trydydd swyddog wedi’i gofrestru ar gyfer carfan 3, Cymhwysedd Bwyd, i ddechrau Hydref 2026
4.3.3 (i) Dogfennu ei weithdrefnau ar gyfer gorfodi mewn sefydliadau cymeradwy 01/10/26 Datblygu gweithdrefn newydd ar gyfer gwaith gorfodi mewn sefydliadau cymeradwy Gweithdrefnau perthnasol cyfredol wedi’u hadolygu adeg yr archwiliad ac ychwanegiadau wedi’u gwneud
4.5.14 (i) Sicrhau bod y polisi samplu bwyd yn cynnwys ymrwymiad i gynnal rhaglen samplu safonau bwyd, wedi’i chefnogi gan yr adnoddau angenrheidiol, sy’n cyd-fynd â’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn hytrach na gwaith samplu atodol a ariennir gan grantiau’r ASB 31/03/27 Dyrannu cyllideb addas ar gyfer gwaith samplu safonau bwyd, er mwyn galluogi datblygu Rhaglen Samplu Safonau Bwyd sy’n seiliedig ar risg Cynnig Cyllideb Samplu wedi’i gyflwyno ar 13/8/26
4.5.14 (ii) Sicrhau bod y weithdrefn samplu safonau bwyd yn cynnwys manylion y camau i’w cymryd ar ôl i sampl anfoddhaol ddod i law yn unol â’r weithdrefn orfodi 24/09/26 Wedi’i gwblhau Wedi diweddaru gweithdrefn samplu safonau bwyd i nodi camau gweithredu yn unol â’r Polisi a’r Weithdrefn Gorfodi
4.5.14 (iii) Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth mewn perthynas â gwaith samplu hylendid bwyd yn cael ei chadw am chwe blynedd. Brys Wedi diweddaru’r weithdrefn samplu hylendid bwyd FP9A i gynnwys gofyniad i gadw cofnodion am 6 blynedd

Cafodd yr holl swyddogion samplu eu briffio
Mae hyn wedi’i wneud ers yr archwiliad
4.6.7 (i) Adolygu ei weithdrefnau monitro mewnol dogfenedig ar gyfer hylendid bwyd er mwyn nodi’r dull yn llawn, gan gynnwys maint ac amlder y samplau. Sicrhau bod y dull ar gyfer samplu safonau bwyd hefyd wedi’i ddogfennu. 01/07/26 Wedi adolygu’r weithdrefn monitro fewnol

Maint y sampl a’r amlderau i’w cynnwys
Adolygiad wedi’i gynnal
4.6.7 (ii) Sicrhau bod tystiolaeth lawn o’r gwaith monitro mewnol sy’n digwydd yn ymarferol, gan gynnwys natur a graddfa’r gwiriadau monitro a chofnodion o’r canlyniadau ac unrhyw adborth a ddarperir i swyddogion Brys Ffurflenni monitro sy’n cynnwys adborth i swyddogion wedi’u creu ar gyfer meysydd coll Bellach ar waith