Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Polisi Ansawdd APHA (fersiwn HTML ar-lein)

Diweddarwyd 14 Gorffennaf 2026

Nodau a chwmpas y Polisi

  1. Mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn Asiantaeth Weithredol sy’n gweithio ar ran Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.
  2. Rôl APHA yw diogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr economi a’r amgylchedd. Mae hyn yn cysylltu â strategaeth Sustainable Futures APHA, a ategir gan y pileri strategol Diogelu, Arloesi a Hyrwyddo, ac egwyddorion Pobl a Lle One APHA.
  3. Mae’r Polisi Ansawdd hwn yn esbonio amcan ansawdd APHA a’r dyletswyddau i sicrhau ansawdd, a ddiffinnir fel “Bodloni gofynion cwsmeriaid yn effeithlon, yn effeithiol ac yn gyson a darparu gwasanaethau.”

Bodloni gofynion cwsmeriaid

  1. Bydd APHA yn sicrhau bod ei chynhyrchion a’i gwasanaethau yn diwallu anghenion ei chwsmeriaid, y cytunwyd arnynt, yn llawn, gan gynnwys y rhai a ddiffinnir gan ofynion statudol a rheoleiddiol.
  2. Mae APHA yn ymrwymedig i sicrhau ymarfer proffesiynol da a’i nod yw cefnogi’r ymrwymiad hwn gan ddefnyddio fframwaith rheoli ansawdd a gaiff ei adolygu er mwyn asesu effeithiolrwydd a meithrin gwelliant parhaus.

Rheoli ac adolygu perfformiad

Mae’r canlynol yn hanfodol i gyflawni Polisi Ansawdd APHA yn llwyddiannus:

  1. Sicrhau bod ganddi bolisïau, gweithdrefnau a chyfarwyddiadau ar waith sy’n sicrhau bod prosesau cywir, diogel a chyson yn cael eu defnyddio’n gyson gan staff er mwyn sicrhau cynnyrch o ansawdd uchel.
  2. Bod â system rheoli dogfennau hygyrch sy’n sicrhau bod cynnwys yn cael ei gyhoeddi mewn modd reoledig er mwyn atal dogfennau cyfarwyddyd heb eu hawdurdodi neu anghyfredol rhag cael eu defnyddio.
  3. Sicrhau bod ganddi raglen archwilio fewnol gadarn a gynlluniwyd i roi sicrwydd bod y gweithdrefnau yn cael eu defnyddio’n gywir ac yn briodol; ac yr ymchwilir i broblemau yn brydlon ac yn effeithiol er mwyn eu hatal rhag codi eto, lle y bo hynny’n ymarferol.
  4. Sicrhau bod ganddi systemau ar waith sy’n nodi risgiau a chyfleoedd ym mhob rhan o’r Asiantaeth er mwyn cefnogi mesurau lliniaru cynnar lle y bo angen ac ysgogi gwelliant parhaus.
  5. Hyfforddiant a chymhwysedd staff; caiff gweithdrefnau eu cynnal gan staff cymwys sydd wedi cael hyfforddiant addas; a chaiff staff eu cefnogi i ehangu eu gwybodaeth drwy hyfforddiant priodol.
  6. Cynnal achrediadau, ardystiadau a chymeradwyaethau perthnasol APHA a aseswyd gan drydydd parti i’r graddau sydd o fudd i APHA a’i rhanddeiliaid ac sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni’r uchod.
  7. Cysoni ymddygiadau a diwylliant staff ag arferion da proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol sydd wedi’u hymgorffori mewn safonau, rheoliadau a chodau ymarfer.