Datgan TAW sy’n ddyledus ar gynhyrchion alcoholaidd (EX46(VAT))
Defnyddio ffurflen EX46(VAT) ar-lein neu drwy’r post i ddatgan TAW sy’n ddyledus ar gynhyrchion alcoholaidd o dan ohiriad tollau.
Dogfennau
Manylion
Llenwch y ffurflen hon ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd rydych yn tynnu o ohiriad tollau, sydd wedi’u cyflenwi i chi, neu wedi’u mewnforio gennych o dan ohiriad tollau.
Gallwch wneud un o’r canlynol:
- defnyddio’r gwasanaeth ar-lein os ydych wedi’ch cymeradwyo i gynhyrchu cwrw
- llenwi’r ffurflen ar y sgrîn, ei hargraffu a’i phostio i CThEF os ydych wedi’ch cymeradwyo i gynhyrchu seidr, gwin, gwirodydd neu gynhyrchion eplesedig eraill
Datgan gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.
Os ydych yn defnyddio’r ffurflen ar-lein, cewch gyfeirnod y gallwch ei ddefnyddio i ddilyn hynt eich ffurflen.
Datgan gan ddefnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon
Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd. Mae’n well i gasglu’r holl wybodaeth sydd gennych cyn i chi ddechrau arni.
Talu TAW sy’n ddyledus ar gynhyrchion alcoholaidd gan ddefnyddio EX46(VAT)
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad o gyfrif yn y DU:
- cod didoli — 08 32 10
- rhif y cyfrif — 14077970
- enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol er mwyn gwneud taliad o gyfrif tramor:
- rhif y cyfrif (IBAN) — GB16 BARC 2005 1723 3725 45
- Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
- enw’r cyfrif — HMRC Customs Duty Schemes
Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig
Darllen yr arweiniad technegol ar gyfer cynhyrchion alcohol (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r arweiniad hwn yn esbonio effeithiau’r gyfraith a’r rheoliadau sy’n cwmpasu’r gwaith o gynhyrchu, storio a rhoi cyfrif am doll ar gynhyrchion alcoholaidd.
Updates to this page
-
Information has been added on paying VAT due on alcoholic products using form EX46(VAT).
-
Welsh translation and form has been added.
-
The ‘Declare VAT by post’ form link has been updated.
-
Information about when to use the online service and print and post forms has been updated.
-
An online forms service is now available.
-
Help and guidance to form EX 46 (VAT) added.
-
First published.