Strategaeth filfeddygol a thechnegol AHVLA / APHA
Mae'n disgrifio'r galluoedd milfeddygol a thechnegol sydd eu hangen ar yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (AHVLA gynt) ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf.
Dogfennau
Manylion
Mae’r strategaeth ‘Sicrhau Dyfodol Iach’ yn amlinellu’r swyddogaethau hanfodol y mae angen i wasanaethau milfeddygol a thechnegol APHA eu cyflawni. Mae’n edrych ymlaen at y 5 i 10 mlynedd nesaf ac yn ystyried beth sy’n debygol o newid a beth allai aros yr un peth.
Mae’n nodi’r canlynol:
- pam fod angen y gwasanaethau a ddarperir gan filfeddygon y llywodraeth ym Mhrydain Fawr
- sut y bydd gwaith milfeddygol a thechnegol APHA yn gweithio ac yn addasu dros y 5 mlynedd nesaf
- y sgiliau sydd eu hangen i wynebu heriau’r risgiau o glefydau anifeiliaid yn y dyfodol
Mae wedi’i strwythuro o amgylch themâu diben, pobl a medrusrwydd ac mae’n edrych ar brif ardaloedd gweithgarwch a dylanwad milfeddygol APHA.