Canllawiau

Osgoi Gwaharddiadau: cyngor i gyfarwyddwyr cwmnïau

Diweddarwyd 24 January 2017

Pam ddylai cyfarwyddwyr helpu cwmnïau i osgoi torri cyfraith cystadleuaeth?

Mae gan gyfarwyddwyr cwmnïau gyfrifoldeb arbennig i fod yn ymwybodol iawn o arferion eu cwmni ac i sicrhau eu bod yn cydymffurfio gyda’r gyfraith.

Os cant eu dal yn torri cyfraith cystadlu, gall cyfarwyddwyr gael eu datgymhwyso o weithredu fel cyfarwyddwr cwmni neu gyflawni rolau penodol eraill o fewn cwmni am hyd at 15 mlynedd.

Gallai gwybod am arferion anghyfreithlon heb gymryd camau i’w hatal fod yn sail dros ddatgymhwyso cyfarwyddwr.

Os yw cwmni yn torri cyfraith cystadlu heb i’r cyfarwyddwr wybod amdano ond nad oedd yn ddiwyd ac y dylai fod wedi gwybod, gallai hyn hefyd fod yn sail dros ddatgymhwyso.

Pa gamau sydd angen i gyfarwyddwyr cwmnïau eu cymryd?

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn ddigon ymwybodol o faterion eich cwmni i nodi ac atal arferion anghyfreithlon cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n amau arferion busnes anghyfreithlon, dylech ymchwilio.

Os dewch yn ymwybodol o arferion gwrth gystadleuol, dylech gymryd camau ar unwaith i’w hatal a cheisio cyngor cyfreithiol.

Arwain trwy esiampl - cyfarwyddwch eich hun â risgiau cyfraith cystadlu a rhaeadru cyngor i staff – mae’r CMA wedi cyhoeddi detholiad o ganllawiau byr a syml a chanllaw risg i helpu.

Profwch i ba raddau mae eich cwmni yn cydymffurfio â chyfraith cystadleuaeth, dyma rai cwestiynau i’w gofyn:

  • Beth yw ein risgiau cydymffurfiad cyfraith cystadleuaeth presennol?

  • Beth yw’r risgiau uchel, canolig ac isel?

  • Pa fesurau ydyn ni’n eu cymryd i liniaru’r risgiau hyn?

  • Pryd ydyn ni’n adolygu effeithlonrwydd y mesurau hyn nesaf?

Annog a hwyluso rhoi adroddiadau

Dynodwch berson annibynnol, y gellir ymddiried ynddo yn eich cwmni i staff adrodd ar bryderon iddo/iddi (er enghraifft, ysgrifennydd cwmni).

Ceisiwch gyngor cyfreithiol os oes gennych chi bryder am gyfraith cystadlu.

Beth yw cartél a sut mae bod yn rhan o un yn effeithio arnoch chi?

Yn syml, mae cartél yn gytundeb rhwng busnesau i beidio cystadlu gyda’i gilydd. Fel arfer mae’n gytundeb cyfrinachol ac anffurfiol.

Mae cartelau yn doriad arbennig o ddifrifol o gyfraith cystadleuaeth. Gall unigolion sy’n aelodau o gartél gael eu carcharu am hyd at bum mlynedd. Gall busnesau sy’n torri cyfraith cystadleuaeth gael dirwy o hyd at ddeg y cant o drosiant.

Os ydych chi wedi bod yn rhan o gartél anghyfreithlon eich hun

Efallai y byddwch yn cael budd o gael eich trin yn fwy trugarog os mai chi wnaiff gamu ymlaen gyntaf i’r CMA.

Ewch i’n gwefan am ragor o wybodaeth am drugaredd.