Rheilffordd sy'n addas ar gyfer dyfodol Prydain: ymateb y llywodraeth
Ymateb yr Adran Drafnidiaeth i’r ymgynghoriad ar y Bil Rheilffyrdd.
Dogfennau
Manylion
Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno ymateb y llywodraeth i’r ymgynghoriad ar y Bil Rheilffyrdd – Rheilffordd sy’n addas ar gyfer dyfodol Prydain.
Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar y polisïau deddfwriaethol i’w cynnwys yn y Bil Rheilffyrdd sydd ar ddod. Bydd y Bil yn galluogi sefydlu Great British Railways (GBR). Bydd GBR yn un pen cyfarwyddol a fydd yn rhedeg ein seilwaith rheilffyrdd a gwasanaethau teithwyr er budd y cyhoedd.
Nod cyffredinol y Bil Rheilffyrdd yw darparu rheilffordd sy’n gweithio’n well i deithwyr, cwsmeriaid cludo a threthdalwyr ledled Prydain Fawr. Mae hefyd yn cynnwys:
- sefydlu corff gwarchod teithwyr newydd
- diwygio prisiau tocynnau ac adwerthu tocynnau ar-lein
- rôl statudol newydd i arweinwyr datganoledig wrth lywodraethu, rheoli, cynllunio a datblygu’r rhwydwaith rheilffyrdd
- symleiddio prosesau a lleihau beichiau rheoleiddio i rymuso GBR i ddarparu’r gwasanaeth gorau i ddefnyddwyr rheilffyrdd
- sicrhau bod y sector preifat yn parhau i chwarae rhan allweddol, gan gynnwys dyletswydd statudol i GBR hyrwyddo cludo nwyddau ar y rheilffyrdd
Updates to this page
-
Government response updated.
-
First published.