Policy paper

Response from Minister Gould to Sir Robert Chote - Census 2031 (Welsh HTML)

Published 15 July 2025

Syr Robert Chote

Cadeirydd, Awdurdod Ystadegau’r DU

15 Gorffennaf 2025

Annwyl Syr Robert,

Diolch am argymhelliad Awdurdod Ystadegau’r DU ynghylch dyfodol y cyfrifiad. Ysgrifennaf i gadarnhau bod Llywodraeth y DU yn comisiynu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal cyfrifiad gorfodol sy’n seiliedig ar holiadur o holl boblogaeth Cymru a Lloegr yn 2031.

Mae ystadegau poblogaeth a mudo o ansawdd uchel yn sail i’r gwaith y mae llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau, dyrannu adnoddau a datblygu polisi. Wrth gynnal cyfrifiad 2031 o’r boblogaeth gyfan cewch ymgorffori’r defnydd arloesol o ddata gweinyddol lle y bo’n bosibl ac yn briodol, ond uwchlaw popeth mae’n rhaid i’r cyfrifiad ddiwallu anghenion yr amrywiaeth eang o ddefnyddwyr ystadegol a darparu data cywir er mwyn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau seiliedig ar wybodaeth ym mhob rhan o’r llywodraeth, ym myd busnes ac mewn cymdeithas sifil.

Hoffwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd cydweithio’n agos â’r gweinyddiaethau datganoledig

yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth iddynt gynnal eu cyfrifiadau eu hunain yn 2031, ac â

Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ein cyfrifiad yn adlewyrchu ei hanghenion

cenedlaethol penodol. Mae atgyfnerthu cydlyniant mewn ystadegau poblogaeth ledled y DU yn hanfodol i wneud cymariaethau cywir a chefnogi amcanion polisi a rennir. Drwy

gydweithio, gallwn ddatblygu dull gweithredu wedi’i gysoni sy’n diwallu anghenion unigryw pob gwlad, gan ddarparu fframwaith cadarn ar gyfer data cyfrifiad cenedlaethol ar yr un pryd.

Dangosodd llwyddiant Cyfrifiad 2021 botensial dull casglu data ar-lein yn bennaf a sicrhaodd gyfradd ymateb ryfeddol. Gosododd hyn sylfaen gadarn i Gyfrifiad 2031 fynd ymhellach fyth, er bod yn rhaid i SYG wneud ymdrech i sicrhau cynwysoldeb a chofnodi nodweddion unigolyn a chymunedau sy’n fwy anodd eu cyrraedd y gall fod ganddynt fynediad cyfyngedig i’r rhyngrwyd.

Mae rhaglen Dyfodol Ystadegau Poblogaeth a Mudo (FPMS) wedi cael cryn gymorth gan

Lywodraeth EF dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Adolygiad o Wariant 2025

bellach wedi dod i ben a chytunwyd ar setliad er mwyn i SYG allu dechrau ar y gwaith

paratoi ar gyfer Cyfrifiad 2031. Rhaid i’r rhaglen hon, a SYG yn ehangach, barhau i sicrhau y caiff arian trethdalwyr ei wario yn ddoeth ac yn effeithlon.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i dîm rhaglen FPMS am y gwaith sylweddol a wnaed hyd yma a’i ymrwymiad parhaus i sicrhau rhagoriaeth ym maes ystadegau.

Yn gywir,

Georgia Gould MP

Ysgrifennydd Seneddol Swyddfa’r Cabinet