2026 Adroddiad DVLA Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Atodlen 6 Dyletswydd - bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau
Cyhoeddwyd 21 Ebrill 2026
1. Cyflwyniad a chyd-destun
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn asiantaeth weithredol o’r Adran Drafnidiaeth (DfT), gyda safleoedd yn Abertawe a Birmingham, ac mae’n cyflogi mwy na 6,000 o staff. Mae gennym bron i 53 miliwn o gofnodion gyrwyr a mwy na 47 miliwn o gofnodion cerbydau ledled y DU.
Mae ein hystad yn cynnwys 3 safle yn ardal Abertawe, sy’n cwmpasu tua 63,700m². Mae’r rhan fwyaf o’n staff wedi’u lleoli ar ein safle yn Nhreforys, gyda thua 1,000 yn gweithio yn ein cyfleusterau print, canolfan gyswllt a hyfforddi. Rydym hefyd yn rhentu gofod swyddfa yn Birmingham ar gyfer llai na 200 o staff, fodd bynnag, nid yw’r safle hwn yn rhan o’r adroddiad hwn.
Mae DVLA yn disgyn i grŵp 2 yn y disgrifiad o sefydliad mewn perthynas â bioamrywiaeth, yn nhabl 1 o’r ddogfen ganllawiau adran 6. Mae DVLA yn sefydliad sy’n berchen ar ei hadeiladau a’i diroedd ei hun, ac felly mae’n gyfrifol am adrodd ar amcanion 1 i 6 y cynllun gweithredu adfer natur (NRAP).
Mae cynaliadwyedd a gwella bioamrywiaeth wrth wraidd yr hyn a wnawn yn yr asiantaeth. Amlygir hyn yn ein polisi amgylcheddol corfforaethol, sy’n esbonio ein bwriadau:
“Mae DVLA wedi ymrwymo i warchod ein hamgylchedd, cyflawni sero net erbyn 2050, a gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus. Ein polisi yw gwella ein perfformiad amgylcheddol yn barhaus drwy… warchod a gwella bioamrywiaeth ac ecosystemau ein hystad.”
Nid yw gweithgareddau gweithredol DVLA yn ymwneud yn uniongyrchol ag adfer natur a rheoli tir. Fodd bynnag, bydd y ffordd y mae ein hystad yn cael ei rheoli yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd. Rydym yn nodi nifer o amcanion, fel y gallwn barhau i roi adfer natur yn gyntaf wrth reoli ein hystad.
2. Gosod gwaelodlin
Cynhaliwyd arfarniad ecolegol cychwynnol ym mis Awst 2024 gan Just Mammals Ltd, ymgynghoriaeth ecolegol. Ynghyd ag arolygon blaenorol, lluniwyd rhestr o rywogaethau o blanhigion fesul cynefin. Rhestrir cynefinoedd dangosol a nodwyd ar safleoedd DVLA yn nhabl A.
Tabl A
|
Math o gynefin |
Cynefinoedd â blaenoriaeth Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) |
Treforys (prif safle) |
Safle diwydiannol |
|
|---|---|---|---|---|
|
Prysgwydd trwchus |
Rhostir isel |
✓ |
✓ |
|
|
Parcdir a choed gwasgaredig (cymysg) |
Tir pori coed a pharcdir |
✓ |
✓ |
|
|
Glaswelltir wedi’i led-wella niwtral |
Dolydd isel |
✓ |
✓ |
|
|
Glaswelltir amwynder |
Na |
✓ |
✓ |
|
|
Llwyn newydd |
Na |
✓ |
✓ |
|
|
Gwrychoedd cyfan sy’n dlawd o rywogaethau |
Gwrychoedd |
✓ |
✓ |
|
|
Gwrychoedd tlawd o rywogaethau gyda choed |
Gwrychoedd |
✓ |
||
|
Cynefin tal |
Rhostir isel |
✓ |
||
|
Dŵr llonydd mesotroffig |
Pyllau |
✓ |
||
|
Ffos sych |
Na |
✓ |
Mae Tabl A yn dangos canlyniadau’r arolwg cynefinoedd cam 1. Mae hefyd yn nodi a yw pob cynefin yn cael ei warchod o dan adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru).
Cwblhawyd gwaith arolwg pellach yn 2025, a oedd yn cynnwys:
- arolwg herpetofawna
- arolwg coed (a gynhaliwyd yn ein prif safle)
Fe wnaethom hefyd gynnwys arolwg ystlumod a gwblhawyd yn 2019 i lywio ein cynlluniau.
Mae camau gweithredu penodol wedi’u neilltuo i rywogaethau unigol dim ond pan fo eu hanghenion y tu hwnt i fodd y camau gweithredu a amlinellir yng nghynlluniau rheoli cynefinoedd yr asiantaeth.
Tabl B
|
Rhywogaethau |
Rhywogaethau Adran 7 |
Treforys (prif safle) |
Safle diwydiannol |
|
|---|---|---|---|---|
|
Ystlum mawr (Nyctalus noctula) |
✓ |
✓ |
✓ |
|
|
Leisler’s (Nyctalus leisleri) |
✓ |
✓ |
✓ |
|
|
Ystlum lleiaf (Pipistrellus pipistrellus) |
✓ |
✓ |
✓ |
|
|
Ystlum lleiaf Nathusius (Pipistrellus nathusii) |
✓ |
✓ |
✓ |
|
|
Ystlum lleiaf meinlais (Pipistrellus pygmaeus) |
✓ |
✓ |
||
|
Ystlum hirglust (Plecotus auritus) |
✓ |
✓ |
||
|
Gwenyn mêl |
✓ |
|||
|
Madfall (Zootoca vivipara) |
✓ |
✓ |
||
|
Neidr y gwair (Natrix natrix) |
✓ |
✓ |
||
|
Ffacbysen y coed (Vicia sylvatica) |
✓ |
|||
|
Cribau San Ffraid (Stachys officinalis) |
✓ |
|||
|
Llysiau’r dial (Reynoutria japonica) |
✓ |
|||
|
Crib-y-ceiliog (Crocosmia x crocosmiiflora) |
✓ |
|||
|
Rhododendron wyllt (Rhododendron ponticum) |
✓ |
|||
|
Creigafal (Cotoneaster species) |
✓ |
Mae Tabl B yn dangos canlyniadau arolygon rhywogaethau amrywiol. Mae hefyd yn nodi a yw pob cynefin yn cael ei warchod o dan adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru).
3. Llywodraethu
Cyfrifoldeb y Pennaeth Cynaliadwyedd Corfforaethol yw sicrhau bod yr asiantaeth yn bodloni ei gofynion adrodd adran 6. Cyflwynwyd yr adroddiad diwethaf yn 2022. Mae’r cynllun gweithredu bioamrywiaeth (BAP) yn ystyried gofynion adran 6, gan ddileu’r angen am gynllun penodol adran 6. Mae’r cynllun yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gyhoeddi yn 2026.
Nodau’r BAP yw:
- sicrhau bod targedau cynefinoedd a rhywogaethau o adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Ymrwymiadau Gwyrddio’r Llywodraeth, a chynllun gweithredu bioamrywiaeth lleol Abertawe yn cael eu trosi’n weithredu effeithiol ar yr ystad
- ymrwymo i greu a gwella cynefinoedd ar draws yr ystad
- datblygu partneriaethau effeithiol gyda staff a’r gymuned leol i sicrhau bod rhaglenni ar gyfer cadwraeth bioamrywiaeth yn cael eu cynnal yn y tymor hir
- codi ymwybyddiaeth yn fewnol ac yn lleol o’r angen am gadwraeth bioamrywiaeth, a darparu arweiniad ar fioamrywiaeth
- sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer cadwraeth a gwella bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn llawn trwy gydol gweithrediadau DVLA
- monitro ac adrodd ar gynnydd mewn cadwraeth bioamrywiaeth
4. Uchafbwyntiau, canlyniadau pwysig a materion
Uchafbwyntiau
Ers mis Ebrill 2025, rydym wedi cymryd rheolaeth uniongyrchol o’n contract cynnal a chadw tir. Mae hyn wedi bod yn gam cadarnhaol iawn, ac rydym bellach yn gweithio’n uniongyrchol gyda’n contractwr i greu newid cadarnhaol. Er enghraifft, rydym wedi ymestyn ein cynllun dim torri i gynnwys y rhan fwyaf o’n safleoedd rhwng Ebrill a Medi bob blwyddyn. Rydym yn rhoi gwybod i staff trwy gyfathrebiadau mewnol ac arwyddion i esbonio ein bod yn annog peillwyr. Rydym hefyd wedi gweithio gyda’n gilydd i sicrhau plannu rhywogaethau brodorol ychwanegol.
Rydym wedi cynyddu ein cychod gwenyn ar ein hystad. Ar hyn o bryd, mae gennym 2 o gychod gwenyn a gyflwynwyd gennym, ond hefyd trydedd gytref wedi’i sefydlu’n annibynnol yn agos. Mae’r boblogaeth gwenyn yn elwa o’r blodau gwyllt o amgylch y safle. Mae’r cychod gwenyn yn cael eu cynnal gan y tîm Cynaliadwyedd yn DVLA, ac unrhyw fêl yn cael ei adael yn fwriadol yn y cychod gwenyn i gefnogi iechyd a gwytnwch y nythfa.
Mae staff diogelwch wedi cael eu hyfforddi ar sut i helpu unrhyw fywyd gwyllt sydd wedi’i anafu a geir ar ystâd yr asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ba fesurau y dylid eu cymryd i ddiogelu staff a’r bywyd gwyllt. Maen nhw hefyd wedi cael rhestr o sefydliadau, gan gynnwys y milfeddyg agosaf, i’w galluogi i gael yr help angenrheidiol. Mae gweithdrefn ar waith i gysylltu ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) os canfyddir unrhyw rywogaethau anifeiliaid gwarchodedig neu farw yn unrhyw un o’n safleoedd.
Canlyniadau pwysig
Mae gwerthusiad o’r bioamrywiaeth sy’n bresennol ar ystad yr asiantaeth ar hyn o bryd yn darparu sylfaen ar gyfer cynllun gweithredu cynhwysfawr, sy’n cael ei greu a’i gyhoeddi. Mae hyn yn ffurfio fframwaith i arwain yr asiantaeth i ddarparu adnoddau sy’n cefnogi a diogelu bioamrywiaeth ar draws yr ystad a’r gymuned ehangach.
Rydym wedi gallu lleihau gwaith torri gwair yn ddramatig ar y rhan fwyaf o’n hystad, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda llawer o staff. Yn ogystal, nid ydym bellach yn defnyddio plaladdwyr yn ddiofyn, gan ddefnyddio dulliau â llaw i gael gwared ar chwyn ac ymylon glaswellt yn lle hynny. Dylai hyn annog mwy o amrywiaeth mewn poblogaethau blodau gwyllt. Gall blaenoriaethu bioamrywiaeth yn aml fod yn fwy cost-effeithiol na dull cynnal a chadw mwy rhagnodol.
Mae’r tîm Cynaliadwyedd wedi adeiladu gwytnwch a chynllunio olyniaeth drwy gyflwyno cynllun graddedigion. Ar hyn o bryd, mae gennym 2 o raddedigion sy’n gweithio tuag at ddod yn Reolwyr Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd. Yn ogystal, cyflwynwyd Uwch Bennaeth Cynaliadwyedd Corfforaethol yn 2024 i sicrhau bod gan uwch reolwyr fwy o wybodaeth a chyfranogiad wrth wneud penderfyniadau. Mae adnodd ychwanegol yn golygu y gall DVLA fod yn fwy rhagweithiol, gan ymgorffori bioamrywiaeth a chynaliadwyedd mewn strategaethau a pholisïau.
Materion
Arweiniodd cynnal a chadw seilwaith yn DVLA yn ystod haf 2025 at rywfaint o golli cynefin dros dro, a oedd yn cynnwys coeden yn cael ei thynnu wrth osod piblinell nwy newydd. Er mwyn gwneud iawn am golli’r goeden hon, mae 2 rywogaeth frodorol newydd wedi’u plannu mewn mannau eraill ar ein hystad. Yn ogystal â hyn, heuwyd cymysgedd o hadau blodau gwyllt a glaswellt yn ystod adfer y banciau, ar ôl cwblhau’r biblinell nwy newydd.
Mae sawl coeden wedi cael eu colli ers yr adroddiad diwethaf. Mae hyn oherwydd difrod stormydd a chlefydau, fel clefyd coed ynn a diffygion strwythurol. Rydym yn parhau i newid pob coeden rydyn ni’n ei cholli trwy blannu 2 goeden rhywogaeth frodorol. Mae dewis rhywogaethau brodorol yn helpu i gyflawni un o nodau cyffredinol y BAP, tra ar yr un pryd yn darparu amrywiaeth o fanteision i’r bywyd gwyllt lleol.
Er bod gennym lawer mwy o reolaeth dros gontractwr cynnal a chadw ein tir, rydym yn dal i fod yn destun oedi wrth weithredu gwaith gwella.
5. Amcan NRAP 1: ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth er mwyn gwreiddio bioamrywiaeth yn y broses o wneud penderfyniadau ar bob lefel
Mae cynllun busnes yr asiantaeth ar gyfer 2024 i 2025 yn nodi’n benodol “rydym wedi trefnu gwaith i wella a chynnal cynefinoedd ar ein hystad a fydd yn gwella ac yn cynyddu bioamrywiaeth.” Mae’n tynnu sylw at y ffordd y bydd gwella bioamrywiaeth yr ystad yn cyfrannu’n sylweddol at gyflawni nod y cynllun busnes.
Mae’r tîm Cynaliadwyedd yn gweithio gyda Rheolwr Cyfathrebu Strategol i gynllunio a darparu cyfathrebu trwy ystod o sianeli mewnol ac allanol. Ein nod yw rhoi gwybod i staff, rhanddeiliaid a chwsmeriaid am ein cynnydd yn erbyn Ymrwymiadau Gwyrddio’r Llywodraeth. Mae enghreifftiau o gyfathrebu sy’n gysylltiedig â bioamrywiaeth yn cynnwys:
- erthygl fewnol yn annog cymryd rhan yn Mai Di-Dor, sy’n tynnu sylw at fanteision blodau gwyllt, ac yna lluniau cyn ac ar ôl o dolydd ein hystad yn ffynnu pan fyddant yn cael eu gadael i dyfu (2023)
- erthygl fewnol ar gyfer Wythnos Genedlaethol y Blwch Nythu i godi ymwybyddiaeth o flychau nythu newydd a gwesty pryfed ar ein safle yn Nhreforys (2023)
- erthygl fewnol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Gwenyn sy’n tynnu sylw at yr angen i gefnogi peillwyr (2023)
- ymgyrch fewnol 6 wythnos, o’r enw ‘Helpu natur i ffynnu’, sy’n dangos ymrwymiad DVLA i ddiogelu a chynyddu bioamrywiaeth ac ecosystemau ar ein hystad (2024)
- blog GOV.UK ‘Inside DVLA’ sy’n amlinellu’r camau y mae DVLA yn eu cymryd i gefnogi a diogelu bioamrywiaeth ar draws yr asiantaeth, a rennir hefyd ar draws ein sianeli cyfryngau cymdeithasol (2024)
- erthygl fewnol sy’n cyflwyno amserlen torri gwair newydd sy’n canolbwyntio ar fioamrywiaeth, gan ddechrau gyda Mai Di-Dor, i helpu i adfer cynefinoedd naturiol a chefnogi peillwyr ar ein hystad yn Abertawe (2025)
- erthygl fewnol a ysgrifennwyd gan ein Rheolwr Cyfathrebu Strategol yn dilyn ei hymweliad â’n cychod gwenyn, yn manylu ar ei phrofiad (2025)
6. Amcan NRAP 2: diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o’r pwysigrwydd pennaf a gwella eu rheolaeth
Mae ein BAP yn nodi rhywogaethau a chynefinoedd ar restrau bioamrywiaeth adran 7 sydd wedi’u darganfod ar ystad yr asiantaeth. Er mwyn bodloni gofynion Deddf yr Amgylchedd (Cymru), mae cynlluniau rheoli cynefinoedd penodol wedi’u rhoi ar waith. Mae’r rhestr o gynefinoedd a rhywogaethau i’w gweld o dan ‘Gosod gwaelodlin’ yn yr adroddiad hwn.
Rydym yn cynnal cychod gwenyn ar ein hystad. Mae aelod o’r tîm Cynaliadwyedd, sydd hefyd yn wenynwr profiadol, yn goruchwylio’r 2 o gychod gwenyn sydd wedi’u lleoli yn ein safle diwydiannol. Cynhelir archwiliadau rheolaidd i sicrhau bod y cychod a’r cytrefi yn parhau i fod yn rhydd o ddifrod, clefydau a phlâu. Trwy ddefnyddio ymyrraeth isel, dull cadw gwenyn naturiol sy’n lleihau straen diangen ar y gwenyn, mae’r ddwy nythfa yn parhau i ffynnu. Mae’r holl fêl yn cael ei adael yn fwriadol yn y cychod gwenyn i gefnogi iechyd a gwytnwch y cytref i gytrefi, ac mae gweithgareddau rheoli wedi’u cyfyngu i fonitro a gwiriadau lles hanfodol. Mae’r dull hwn yn cefnogi cytrefi cynaliadwy, hunangynhaliol ac yn cyd-fynd â’n hamcanion bioamrywiaeth ehangach.
Mae adfer natur yn cael ei reoli trwy system rheoli amgylcheddol yr asiantaeth. Mae amserlen o archwilio ar waith sy’n cynnwys archwiliad o gynnydd yr asiantaeth yn erbyn amcanion adfer bioamrywiaeth a natur. Mae’r cwmpas yn cynnwys yr hyn sydd wedi’i gyflawni, unrhyw faterion neu heriau a pha gamau gweithredu sydd wedi’u cynllunio i wneud cynnydd.
7. Amcan NRAP 3: cynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol trwy adfer cynefinoedd sydd wedi dirywio a chreu cynefinoedd
Mae’r rhan fwyaf o’n hystad yn drefol a gellir ei ddisgrifio fel amgylchedd adeiledig. Fodd bynnag, mae ardaloedd gwyrdd sy’n bresennol ar yr ystad yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau, ac mae rhai ohonynt wedi’u gwarchod o dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae cyfle i DVLA gynyddu gwytnwch i effeithiau negyddol ar yr amgylchedd naturiol, fel newid yn yr hinsawdd, trwy amddiffyn y cynefinoedd hyn a chreu rhai newydd. Isod fe welwch enghreifftiau o gamau y mae DVLA wedi’u cymryd yn ystod y 3 blynedd diwethaf i gyflawni hyn.
Mae gwaith wedi’i wneud ar y pwll dŵr croyw ar safle’r uned ddiwydiannol, i adfer a diogelu’r cynefin hwn. Mae’r pwll bellach yn cael ei fonitro i atal gorymestyniad llystyfiant, a allai dagu’r cynefin. Bob blwyddyn, ar gylchdro, bydd y pwll yn cael ei lanhau i leihau draean arall o’r llystyfiant.
Er mwyn cyfyngu twf algâu ar y pwll, mae gwellt haidd wedi’i gyflwyno, a bydd yn parhau i gael ei ddefnyddio. Bydd hyn yn naturiol yn cyfyngu ar gronni algâu ar y pwll, gan helpu i gynnal iechyd y cynefin. Mae hon hefyd yn enghraifft o reolaeth fiolegol heb ddefnyddio algaecides, gan ddarparu ateb mwy economaidd heb gyflwyno cemegau i’r ecosystem.
Mae gan yr asiantaeth sawl gwrych ar draws ei hystad, a ddefnyddir gan adar a mamaliaid bach i fwydo a nythu. Ni ddylid tocio gwrychoedd rhwng misoedd Mawrth ac Awst. Os oes angen tocio gwrychoedd, gwneir arolwg ar droed i sicrhau nad oes adar yn nythu. Os canfyddir adar yn adeiladu neu’n defnyddio nyth, nid yw’r rhan honno o’r gwrych yn cael ei thorri tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ôl i’r nyth fynd.
Mae cynlluniau clirio yn cael eu datblygu i leihau prysgwydd a gwella’r pwll ar safle’r uned ddiwydiannol. Bydd hyn yn creu cynefin mwy amrywiol a fydd yn cefnogi’r poblogaethau herpetofawna yn well.
Rydym wedi defnyddio unrhyw goed marw neu goed sydd wedi’u tynnu i adeiladu pentyrrau coed, sy’n creu man gaeafgysgu naturiol ar gyfer bywyd gwyllt.
Mae DVLA wedi gosod blychau adar newydd a thŷ pryfed ar ein safle yn Nhreforys.
8. Amcan NRAP 4: Mynd i’r afael â’r pwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd
Mae gan yr asiantaeth gynllun rheoli clymog Japan ar waith i fonitro a thrin poblogaethau o’r rhywogaeth ymledol hon ar draws yr ystad. Rhwng 2022 a 2025, ni nodwyd unrhyw ardaloedd newydd o glymog Japan, ac nid yw ardaloedd sy’n cael eu rheoli wedi gweld arwyddion o dwf ers 2023. Mae’r cynllun rheoli wedi bod yn effeithiol wrth gael gwared â’r rhywogaeth ymledol hon o’r ystad, ond rydym yn cynnal gwyliadwriaeth rheolaidd, rhag ofn y bydd yn aildyfu.
Nid yw chwynladdwr na phlaladdwr yn cael eu defnyddio yn syth. Mae angen cymeradwyaeth ar Countrywide i’w ddefnyddio ar y safle. Mae tynnu chwyn cyffredin a llystyfiant diangen ar ymyl y ffordd â llaw wedi bod mewn lle ers mis Ebrill 2025.
Mae gan yr asiantaeth System Rheoli Amgylcheddol (EMS) achrededig 14001:2015, sy’n caniatáu i’r tîm Cynaliadwyedd fonitro, mesur a lleihau effaith yr asiantaeth ar yr amgylchedd. Mae Ymrwymiadau Gwyrddio’r Llywodraeth yn gosod targedau amgylcheddol llym ar yr asiantaeth, yn amrywio o leihau cyfanswm allyriadau carbon, i’r faint o bapur a ddefnyddiwn.
Mae’r asiantaeth yn parhau i weithio tuag at leihau ei dylanwad amgylcheddol, sy’n lleihau ei effaith ar yr amgylchedd lleol, gan atal pwysau ar rywogaethau a chynefinoedd lleol.
Tabl C
|
2022 i 2023 |
2023 i 2024 |
2024 i 2025 |
||
|---|---|---|---|---|
|
Cyfanswm allyriadau carbon (CO2e) |
5,111 |
5,344 |
4,945 |
|
|
Defnydd o ddŵr (m³) |
39,547 |
54,724 |
55,977 |
|
|
Cyfanswm gwastraff (tunnell) |
909 |
845 |
936 |
|
|
Anfon gwastraff i safle tirlenwi (%) |
0.8 |
0.5 |
0.4 |
Mae Tabl C yn dangos y cymariaethau blwyddyn i flwyddyn o berfformiad amgylcheddol yr asiantaeth.
Rhaid i DVLA sicrhau ei bod yn bodloni isafswm Safonau Prynu gorfodol y Llywodraeth (GBS) wrth brynu nwyddau a gwasanaethau. Mae hyn yn rhan o gaffael cynaliadwy cyhoeddus y llywodraeth. Yr amcan yw i DVLA ddiwallu ei anghenion am nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau mewn ffordd sydd o fudd nid yn unig i’r sefydliad, ond hefyd y gymdeithas a’r economi, tra’n lleihau niwed i’r amgylchedd.
Isod fe welwch grynodeb o’r safonau y mae DVLA yn cydymffurfio â nhw, sy’n tynnu sylw at ein gwaith ar liniaru’r difrod sydd gan ein hystad a’n gweithrediadau ar yr amgylchedd. Nid yw’r crynodeb isod yn cwmpasu pob un o Safonau Prynu’r Llywodraeth.
Amlenni
Rhaid i amlenni fod â:
- 100% o ddeunydd wedi’i ailgylchu at ddefnydd cyffredinol
- 60% o ddeunydd wedi’i ailgylchu i’w defnyddio gan y system bost - o’r cynnwys nad yw’n cael ei ailgylchu (40% neu lai), rhaid prynu unrhyw fwydion gwyryf a ddefnyddir yn unol â pholisi caffael pren y DU
Dim ond pren a chynhyrchion pren sy’n tarddu naill ai o ffynonellau cyfreithiol a chynaliadwy wedi’u gwirio’n annibynnol, neu o bartner trwyddedig Llywodraethau Masnach Gorfodi Cyfraith Coedwigoedd (FLEGT), y gellir eu prynu.
Papur
Rhaid i’r broses ailgylchu beidio â chynnwys defnyddio Clorin Elfennol (ECF), gydag allyriadau cyfansoddyn Halogenedig Organig Amsugnol (AOX) o gynhyrchu pob mwydion a ddefnyddir o dan 0.25kg fesul Tunnell Sych Aer (ADT) neu Broses Heb Clorin (PCF).
Rhaid i bapur copïo a graffig fod â chynnwys sydd 100% wedi’i ailgylchu, i gynnwys ffibr wedi’i adfer go iawn yn unig (dim ‘melin wedi torri’ oni bai ei fod yn unig o linell gynhyrchu papur wedi’i ailgylchu), yn unol â diffiniad Cymdeithas Genedlaethol Masnachwyr Papur (NAPM).
Rhaid i bapur tŷ bach, cegin a sychu dwylo fod 100% wedi’i ailgylchu, i gynnwys ffibr wedi’i adfer go iawn yn unig.
Gwasanaethau bwyd ac arlwyo
Archwilir ac ardystir o leiaf 10% o gyfanswm gwerth ariannol bwyd a diod nwyddau sylfaenol (cynhwysion crai) a gaffaelir yn unol â:
- safonau Cynhyrchu Integredig (IP) neu Reoli Fferm Integredig (IFM) sydd ar gael i’r cyhoedd
- safonau organig sydd ar gael i’r cyhoedd sy’n cydymffurfio â Rheoliad y Cyngor Ewropeaidd 834/2007
Rhaid i’r holl ddeunyddiau palmwydd (gan gynnwys olew palmwydd a chynhyrchion sy’n deillio o olew palmwydd) a ddefnyddir i goginio ac fel cynhwysyn mewn bwyd gael ei gynhyrchu’n gynaliadwy.
Gellir dangos bod yr holl bysgod yn gynaliadwy, gyda’r holl bysgod a ddaliwyd yn wyllt yn bodloni Cod Ymddygiad y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth ar gyfer Pysgodfeydd Cyfrifol (mae hyn yn cynnwys ardystiad y Cyngor Stiwardiaeth Forol a ‘physgod i’w fwyta’ y Gymdeithas Cadwraeth Forol, neu gyfwerth).
Tecstilau
Rhaid i gynigwyr nodi cyfran y cotwm neu ffibrau naturiol eraill a ddefnyddir yn y cynnyrch terfynol yn ôl pwysau sy’n deillio o gynhyrchu organig. Rhaid i’r cyflenwr ddarparu tystiolaeth o darddiad y ffibrau a ddefnyddir a natur organig eu cynhyrchu, megis logo organig yr UE neu logos cenedlaethol cymeradwy ar gyfer cynhyrchu organig.
Dylai cynigwyr nodi sut maen nhw wedi cymhwyso meddwl cylch bywyd i ddewis ffibrau a deunyddiau sydd â’r dylanwad amgylcheddol isaf dros oes gyfan eu cynnyrch. Rhaid i’r cyflenwr ddarparu tystiolaeth o’r budd o’i gymharu â ffibr amgen realistig dros ei oes, fel y cyfiawnhawyd gan astudiaethau annibynnol (er enghraifft, asesiad cylch bywyd).
Rhaid i gynigwyr nodi cyfran y cynnyrch yn ôl pwysau wedi’i wneud o ffibrau sydd wedi’u hailgylchu, er enghraifft, ffibrau sy’n tarddu o doriadau gan wneuthurwyr tecstilau a dillad yn unig, neu o wastraff ôl-ddefnyddiwr (tecstilau neu fel arall).
9. Amcan NRAP 5: gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro
Gwnaethom arolygon ecolegol yn 2024 i 2025 i ddarparu data ar gyfer y BAP diweddaraf. Un o’r nodau gyda hyn yw olrhain yr effaith y mae’r BAP wedi’i chael ar fywyd gwyllt ar yr ystad. Defnyddiwyd y wybodaeth a gasglwyd hefyd i lywio fersiwn ddiweddaraf y BAP, gan ddarparu data i benderfynu pa ardaloedd sydd angen mwy o waith.
Mae’r data a gesglir o’r arolygon hyn yn cynyddu ein gwybodaeth am ein safleoedd, sy’n galluogi penderfyniadau gwell a gwybodus. Mae hyn yn rhoi cyfleoedd pellach i’r tîm Cynaliadwyedd ymgysylltu â’n rhanddeiliaid o bob rhan o’r ystad. Rydym hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth hon i gefnogi gweithredu mentrau bioamrywiaeth.
10. Amcan NRAP 6: rhoi fframwaith llywodraethu a chymorth ar waith ar gyfer cyflawni
Mae grŵp llywio cynaliadwyedd wedi’i sefydlu, sy’n cynnwys uwch reolwyr o adrannau rhanddeiliaid. Mae’r grŵp yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd i drafod cynnydd ein nodau amgylcheddol a’n materion neu gyfleoedd sydd wedi dod i’r amlwg. Mae’r grŵp hefyd yn gweithio i ymgorffori bioamrywiaeth trwy wneud penderfyniadau ym mhob rhan o’r busnes.
Mae’r Pennaeth Cynaliadwyedd Corfforaethol yn ecolegydd cymwysedig gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad. Mae hyn yn dangos y gellir tynnu arbenigedd ecolegol heb yr angen i geisio ymgynghoriad allanol. Mae hyn yn golygu bod gan y tîm Cynaliadwyedd yr arbenigedd sydd ar gael i sicrhau bod adfer natur wrth wraidd cynllun amgylcheddol yr asiantaeth.
Gyda chefnogaeth ein Rheolwr Cyfathrebu Strategol, rydym yn gwella ein cyfathrebu cynaliadwyedd i archwilio ffyrdd newydd a mwy effeithiol o ymgysylltu â staff. Gyda mwy o bobl yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelu a hyrwyddo bioamrywiaeth, mae cydweithredu yn parhau i wella, a bydd yn hollbwysig wrth gyflawni’r nodau a nodir yn BAP yr asiantaeth.
Mae DVLA yn parhau i fod yn aelod gweithgar o bartneriaeth natur leol Abertawe, gan ymgysylltu â sefydliadau eraill yn ardal Abertawe i gefnogi bioamrywiaeth ac adferiad natur. Yn ddiweddar, helpodd yr asiantaeth i fireinio cynllun gweithredu adfer natur lleol Abertawe drwy roi adborth ar nodau a nodwyd.
Crëwyd rôl newydd ym mis Ionawr 2024 fel Pennaeth Cynaliadwyedd Corfforaethol, i sicrhau bod yr amgylchedd yn rhan annatod o gynllunio strategol DVLA.
Ym mis Medi 2024, cyflwynodd y tîm Cynaliadwyedd gynllun graddedigion, wedi’i gynllunio i hyfforddi a rhoi profiad i raddedigion sydd eisiau gweithio yn y sector cynaliadwyedd. Ar hyn o bryd mae gennym 2 o raddedigion yn gweithio ar y tîm. Mae’r rolau hyn yn caniatáu inni weithio ar adferiad natur.
11. Y camau nesaf
Ers Ebrill 2025, mae ein contractwr cynnal a chadw tiroedd newydd, Countrywide, wedi rheoli’r ystad yn rhagweithiol i gefnogi bioamrywiaeth ac adferiad natur. Edrychwn ymlaen at weithio ar y cyd â nhw i gyrraedd targedau’r BAP diweddaraf ar gyfer 2025 i 2030, a gaiff ei gyhoeddi’n fuan. Rydym hefyd yn gweithio gyda’n contractwyr gwasanaeth meddal a chaled, gan sicrhau bod DVLA yn bodloni ein nodau a’n hamcanion amgylcheddol, gan gynnwys y rhai a nodir yn y BAP.
Rydym yn gweithio’n rhagweithiol gyda’n contractwyr gwasanaeth caled, gwasanaeth meddal, a chynnal a chadw tir i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus â’r holl ddeddfwriaeth amgylcheddol berthnasol.
Mae mentrau ar gyfer 2026 yn cynnwys rheoli’r pwll i leihau cronni llystyfiant ac i sicrhau bod lle clir i gynyddu potensial y pwll ar gyfer gweithgarwch infertebratau ac amffibiaid. Bydd gwaith pellach yn cynnwys gweithredu cynefin mosaig trwy glirio rhai ardaloedd o brysgwydd i gynnal ardaloedd addas ar gyfer herpetofawna a gadael golau ychwanegol i’n cychod gwenyn.
Byddwn yn parhau i chwilio am gyfleoedd i gryfhau ymgysylltiad trwy ein cyfathrebu. Gyda mwy o bobl yn ymwybodol o bwysigrwydd gwarchod a hyrwyddo bioamrywiaeth, bydd cydweithio yn hollbwysig wrth gyflawni’r nodau a nodir yn BAP yr asiantaeth.
Mae’r BAP yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn 2026. Bydd y cynllun hwn hefyd yn ystyried unrhyw rwymedigaethau cydymffurfio neu dargedau’r llywodraeth, gan gynnwys y rhai a nodir yn yr Ymrwymiadau Gwyrddio’r Llywodraeth.
Dirprwy Gyfarwyddwr Grŵp Rheoli Ystadau: Cennydd Powell
Pennaeth Cynaliadwyedd Corfforaethol: Andrew Lees
Dyddiedig: Chwefror 2026