Stephen Aynsley-Smith

Bywgraffiad
Prif Swyddog Ariannol Dros Dro Cofrestrfa Tir EF yw Stephen Aynsley-Smith.
Mae Stephen yn gyfrifydd siartredig a chanddo yrfa sy’n cwmpasu rolau arweinyddiaeth ariannol ar draws llywodraeth ganolog, y GIG a chyrff rheoleiddio. Ymunodd â Chofrestrfa Tir EF yn 2019 ac ers hynny mae wedi dal sawl swydd uwch, gan gynnwys Dirprwy Brif Swyddog Ariannol a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid, Masnachol a Chyfleusterau a Rheoli Asedau Eiddo, cyn camu i’r rôl Prif Swyddog Ariannol Dros Dro ym Medi 2025.
Mae Stephen wedi arwain mentrau a gyflawnodd arbedion cost sylweddol a gwelliannau effeithlonrwydd, gan gynnwys awtomeiddio prosesu anfonebau a datblygu strategaethau systemau corfforaethol hirdymor – trawsnewidiad a enillodd Wobr Arloesi Busnes i Dimau Systemau Corfforaethol a Chyfrifon Taladwy Cofrestrfa Tir EF.
Cyn ymuno â Chofrestrfa Tir EF, roedd gan Stephen rolau arweinyddiaeth ariannol yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Chelsea and Westminster, yr Adran Masnach Ryngwladol, a’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol. Dechreuodd ei yrfa gyda District Audit yn Brighton ac mae wedi gweithio ar draws portffolio eang gan gynnwys risg, cydymffurfiaeth, a sicrhau ansawdd.
Prif Swyddog Ariannol Dros Dro
Mae’r Prif Swyddog Ariannol Dros Dro yn gyfrifol am reolaeth ariannol Cofrestrfa Tir EF a chydymffurfio â gofynion cyffredinol Cyfrifeg y Llywodraeth.
Mae’n goruchwylio paratoi ein cyfrifon blynyddol ac yn gyfrifol am sicrhau bod y dangosydd perfformiad allweddol ar gyfer effeithlonrwydd yn cael ei gyflawni. Mae’n rhoi cyngor i’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd Portffolio ar reoleidd-dra a phriodoldeb gwariant ac yn rhoi cyngor ar gontractau masnachol hefyd.