Sarah Cardell

Bywgraffiad
Penodwyd Sarah Cardell yn Brif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar 19 Rhagfyr 2022.
Yn flaenorol, penodwyd Sarah Cardell yn Gwnsler Cyffredinol yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) ar 11 Medi 2013, a chymerodd rôl Prif Weithredwr Dros Dro rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2022.
Mae uchafbwyntiau blaenorol ei gyrfa’n cynnwys:
- Partner Cyfreithiol yn Is-adran Marchnadoedd Ofgem, lle’r oedd ei chyfrifoldebau’n cynnwys arwain ar faterion cyfraith cystadleuaeth
- Partner yng Ngrŵp Cystadleuaeth Slaughter and May, lle bu’n cynghori ar draws ystod eang o achosion uno busnesau a gwrth-ymddiriedaeth yn yr UE a’r DU
- gweithio ar secondiad yn y Swyddfa Masnachu Teg (OFT)
Datgelu buddiannau (in English)
Prif Weithredwr
Mae Prif Weithredwr yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn gyfrifol am:
- ddarparu arweinyddiaeth weladwy a deinamig i’r CMA
- gyrru perfformiad yn y sefydliad i sicrhau ei fod yn cyflawni ei flaenoriaethau strategol ac yn darparu gwerth am arian
- gweithio gyda’r cadeirydd i gynrychioli’r CMA i’n partneriaid, rhanddeiliaid, gweinidogion, y Senedd a’r cyhoedd
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Interim Chief Executive
-
General Counsel