Robin Malpas
Bywgraffiad
Graddiodd Robin yn y gyfraith o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Ar ôl cymhwyso fel cyfreithiwr yn 1989, ymunodd â Chofrestrfa Tir EM.
Mae Robin wedi gweithio yn sawl un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EM, gan gynnwys dwywaith yn y Brif Swyddfa yn cynghori ar achosion dadleuol. Mae ganddo brofiad helaeth o gynghori ar faterion cyfreithiol cymhleth yn ymwneud â cheisiadau cofrestru tir.
Yn 2010 cwblhaodd Robin ei Radd Meistr mewn Gweinyddu Busnes yng Ngholeg Rheolaeth Henley. Mae Robin wedi cynghori ar nifer o brosiectau cofrestru tir, gan gynnwys cofrestru rhannau o’r London Underground, Heathrow Terminal 5 a thrawsgludo electronig.
Yn 2013 cafodd Robin ei benodi’n Gofrestrydd Tir Lleol, yn gyfrifol am swyddfa Nottingham, ac yn 2017 dechreuodd yn y swydd Pennaeth Cyfreithwyr Cofrestru Tir.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Dirprwy Brif Gofrestrydd Tir Dros Dro