Lord Harrington
Bywgraffiad
Penodwyd Richard Harrington yn Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 17 Gorffennaf 2016. Etholwyd ef yn AS Ceidwadol dros Watford ym mis Mai 2010, ac fe’i ail-etholwyd ym mis Mai 2015.
Addysg
Mynychodd Richard ysgol Ramadeg Leeds a dyfarnwyd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen yn astudio’r gyfraith yng Ngholeg Keble.
Gyrfa wleidyddol
Yn flaenorol, bu’n gwasanaethu fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar y cyd yn y Swyddfa Gartref, yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, a’r Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol o fis Medi 2015 tan fis Gorffennaf 2016.
Ei yrfa y tu allan i wleidyddiaeth
Dechreuodd ei yrfa busnes gyda’r Bartneriaeth John Lewis ac yn y pen draw roedd yn rhedeg busnes, a oedd ar ei frig, gyda 2,000 o weithwyr mewn 7 gwlad.