Mike Driver

Bywgraffiad

Ymunodd Mike ȃ’r Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol yn 1979 yn syth o’r ysgol, a threuliodd ei chwe blynedd gyntaf yn y Gwasanaeth Sifil yn darparu gwasanaethau i gwsmeriaid. Aeth wedyn ymlaen at reolaeth ranbarthol ac yn dilyn hynny ymgymerodd ȃ nifer o rolau polisi a chyllid.

Mae’n gyfrifydd cymwysedig CIPFA ac wedi dal amrywiaeth o swyddi fel cyfarwyddwr cyllid, yn y maes corfforaethol a gweithredol. Cafodd ei ddyrchafu’n Brif Swyddog Cyllid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn 2012. Ar 1 Ebrill 2016, cafodd ei benodi’n Brif Swyddog Cyllid y Weinyddiaeth Cyfiawnder (MoJ) ac ar 1 Mehefin 2017 daeth hefyd yn Bennaeth Adran Cyllid y Llywodraeth, Trysorlys ei Mawrhydi lle y mae’n arwain yr agenda i gryfhau yn sylweddol rôl allweddol yr adran gyllid sydd wrth galon y llywodraeth i sicrhau gwell canlyniadau gwleidyddol a busnes.

Yn ychwanegol at ei rolau creiddiol, mae ganddo amryw o gyfrifoldebau ychwanegol. O fewn y Weinyddiaeth Cyfiawnder ef yw Cyfrifydd Cyffredinol Uwch Lysoedd Cymru a Lloegr a Chomisiynydd Lleihau’r Ddyled Genedlaethol. Ar draws y Llywodraeth mae’n aelod o Fwrdd Goruchwylio’r Swyddogaeth Fasnachol ac yn Aelod Anweithredol o Fwrdd ‘Shared Services Connect Limited’. I hybu’r proffesiwn cyllid, mae’n aelod o Gyngor Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA) a Chadeirydd Panel Rheoli Llywodraethiant a Chyllid (CIPFA).

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Interim Permanent Secretary
  • Head of the Government Finance Function
  • Prif Swyddog Cyllid a Phennaeth Adran Gyllid y Llywodraeth
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid