Michael Spurr

Bywgraffiad

Daeth Michael Spur yn brif weithredwr Asiantaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr ym mis Mehefin 2010.

Cychwynnodd ei yrfa yn y gwasanaeth sifil fel swyddog carchar yng Ngharchar EM Leeds yn 1983 a gweithiodd yn y gwasanaeth carchardai am 25 mlynedd mewn amrywiol sefydliadau ac yn ei bencadlys. Roedd yn llywodraethwr rheoli yn Sefydliad Troseddwyr Ifanc EM Aylesbury, Carchar EM Wayland a Sefydliad Troseddwyr Ifanc/Carchar EM Norwich.

Ers hynny, mae uchafbwyntiau ei yrfa wedi cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Bwrdd Asiantaeth Gwasanaeth Carchardai EM, 2003
  • Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol, Bwrdd Asiantaeth Gwasanaeth Carchardai EM, 2007
  • Prif Swyddog Gweithredol, Asiantaeth y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr (NOMS), Ebrill 2008

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Swyddog Gweithredol
  • Prif Weithredwr