Matthew Coats

Bywgraffiad

Ymunodd Matthew â’r adran yn 2012 fel Prif Weithredwr y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol, arweiniodd y trosglwyddiad i’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, a daliodd y rôl yma ochr yn ochr â bod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol i Grŵp Gwasanaethau Corfforaethol y Weinyddiaeth Gyfiawnder o fis Mehefin 2013.

Cyn ymuno â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder roedd Matthew yn bennaeth Llu Ffiniau’r DU. Cyn hynny, mae rolau Matthew wedi cynnwys Pennaeth Mewnfudiad yn Asiantaeth Ffinau’r DU, Cyfarwyddwr Strategol, Lloches yn y Swyddfa Gartref a Phennaeth Gofal Eilaidd yn yr Adran Iechyd, lle’r oedd yn arweinydd polisi ar gyfer gofal brys, gofal dewisol a diagnosteg. Hefyd treuliodd 12 mlynedd yn rheolwr ysbyty yn y GIG.

Prif Swyddog Gweithredol

Fel Prif Swyddog Gweithredol i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder, mae Matthew yn arwain rhaglen Gweddnewid y Weinyddiaeth Gyfiawnder sy’n creu adran lai, symlach a mwy craff.

Mae Matthew yn gyfrifol am redeg nifer o swyddogaethau corfforaethol yr adran, yn cynnwys Adnoddau Dynol, Digidol a Thechnoleg, Ystadau a Chyfathrebu a Gwybodaeth.

Mae’r Grŵp Gweithrediadau hefyd yn dod â nifer o gyrff darparu at ei gilydd, sef yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol, yr Awdurdod Iawndal Anafiadau Troseddol a Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Director General EU Exit Implementation
  • Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Prif Swyddog Gweithredol
  • Chief Executive
  • Director General of the Legal Aid Agency & Corporate Services Group