Matt King

Bywgraffiad

Penodwyd Matt King yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Tachwedd 2020.

Addysg

Mae Matt yn Gymrawd o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Lloegr a Chymru, gan gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig gyda PwC ym 1996. Mae ganddo BSc (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Busnes o Brifysgol Cymru, Abertawe.

Gyrfa

Roedd Matt yn bartner yn PwC ac mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad fel ymgynghorydd rheoli ac ef oedd Arweinydd Trawsnewid PwC y DU. Gweithiodd ar draws y diwydiant gwasanaethau ariannol ac o fewn Darpariaeth Iechyd ac Yswiriant. Roedd ei waith yn canolbwyntio ar ymgynghori ym meysydd newid trawsnewidiol, newid ymddygiad, cyllid, risg, rheoleiddio a TG. Mae ef yn gyfrifydd cymwysedig gyda phrofiad lefel Bwrdd Gweithredol uchel iawn, gan gynnwys adrodd i Brif Weithredwr Bupa Group fel CIO y Grŵp ar eu tîm arweinyddiaeth weithredol fyd-eang. Mae ganddo hefyd 15 mlynedd o brofiad fel Cadeirydd Kick London, elusen menter chwaraeon a dawns sy’n seiliedig ar werthoedd ar gyfer pobl ifanc.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Anweithredol