Aelod Anweithredol Arweiniol

Mark Rawlinson

Bywgraffiad

Ymunodd Mark Rawlinson â’r Weinyddiaeth Cyfiawnder fel Aelod Anweithredol Arweiniol o’r Bwrdd ar 4 Mehefin 2018 .

Mae’n gynghorydd arweiniol i fyrddau cwmnïau. Mae’n arbenigo mewn uno a chaffael cwmnïau yn arbennig mewn sefyllfaoedd cystadleuol neu ddadleuol. Yn 2017, rhoddodd gyngor i Unilever ar ei ymateb i’r cynnig gan Kraft Heinz.

Ar hyn o bryd mae Mark yn Gadeirydd ‘UK Investment Banking’ yn Morgan Stanley a chyn hynny roedd yn bartner corfforaethol yn Freshfields am dros 25 mlynedd. Cyfeiriwyd ato sawl gwaith fel un o 10 cyfreithiwr uno a chaffael gorau’r byd yn ‘International Who’s Who of Mergers and Acquisition Lawyers’.

Yn 2016 bu iddo gynghori BG Group ar gynnig Royal Dutch Shell a chynghori AB InBev ar ei gynnig am SAB Miller. Enillodd wobr ‘Partner y Flwyddyn’ Financial News yn 2016, yn ogystal â gwobr ‘Partner y Flwyddyn’ Lawyer’s yn 2011.

Aelod Anweithredol Arweiniol

Mae ein Aelod Anweithredol Arweiniol yn ffigwr uwch o du allan i’r adran sy’n cyfrannu arbenigedd a sgiliau. Mae’n:

  • cefnogi’r Ysgrifennydd Gwladol yn ei rôl fel Cadeirydd y Bwrdd
  • rhoi arweiniad a chyngor i arweinwyr a gweinidogion y Weinyddiaeth Cyfiawnder
  • cefnogi a chwestiynu rheolwyr ar gyfeiriad strategol yr adran
  • darparu cefnogaeth yn y broses o fonitro ac adolygu cynnydd

Gweinyddiaeth Cyfiawnder