Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau

Louise White

Bywgraffiad

Ymunodd Louise â’r DVLA yn 1984. Bu’n gweithio mewn nifer o swyddi gweithrediadol a swyddi Adnoddau Dynol (AD), cyn cychwyn yn y rôl Cyfarwyddwr AD ac Ystadau yn Mehefin 2016.

Addysg

Mae gan Louise radd Meistr (LLM) mewn Cyfraith Gyflogi o Brifysgol Leicester ac mae hi’n Gymrawd Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.

Gyrfa

Mae Louise wedi bod yn was sifil ers 32 mlynedd. Mae hi wedi treulio mwyafrif y 15 mlynedd diwethaf mewn swyddi AD, a’r 4 mlynedd diwethaf fel Pennaeth AD y DVLA gyda chyfrifoldeb am ddarparu holl wasanaethau AD. Mae swyddi blaenorol wedi cynnwys gwaith polisïau a gwobrwyo AD, hyfforddiant a datblygiad, rheoli adnoddau ac amrywiaeth, dysgu a datblygiad a phartneriaeth busnes AD. Mae hi wedi arwain ar nifer o brosiectau a rhaglenni newid sefydliadol gan gynnwys rheoli adnoddau ar raddfa fawr, diswyddo, adleoli a gweithredu TUPE yn canoli gwasanaethau rhwydweithiau a gwneud y gwaith TG yn fewnol. Hi oedd y Rheolwr Newid am gyflwyno SAP i AD, wedi iddi dreulio blwyddyn gyda DfT(c) fel Pennaeth Gwobrwyo, Polisïau a Pherthnasau Cyflogwyr ac bu’n hefyd gweithio yn maes TG y DVLA fel Rheolwr Prosiectau ac yn arwain ar awdurdodi cynlluniau am gyfnod byr.

Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol ac Ystadau

Mae’r Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (AD) ac Ystadau yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau AD ac Ystadau i’r DVLA. Mae Cyfarwyddiaeth AD ac Ystadau yn gyfrifol am osod agenda staff strategol, yn denu a magu’r sgiliau amrywiaethol a’r talent sydd angen gan y DVLA, ac yn creu awyrgylch gwaith sy’n galluogi ei weithwyr i wneud gwaith gwych. Mae’r Gyfarwyddiaeth yn rheoli perthnasau gweithwyr gan sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’r gyfraith, ac yn gweithio gyda’r undeb llafur ar faterion sy’n berthnasol i weithwyr y DVLA.

Mae’r Gyfarwyddiaeth yn arwain ar agenda strategol stad Abertawe. Maent yn gyfrifol am ddiogelwch y safle, ac yn rheoli perthnasau darparwyr allweddol yn gysylltiedig â gwasanaethau AD a gwasanaethau’r Ystadau. Maent hefyd yn arwain ar gynlluniau parhad busnes, cynaliadwyedd, ac iechyd a diogelwch.

Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau