Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi

Louise Parry

Bywgraffiad

Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi

Mae’r Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi yn gyfrifol am y canlynol:

  • cynghori gweinidogion ynghylch materion polisi sy’n berthnasol i Gymru
  • cyfleu a hybu dealltwriaeth ehangach o bolisïau Llywodraeth y DU yng Nghymru
  • rhedeg Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon

Rôl Bwrdd Rheoli Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yw:

  • darparu arweiniad effeithiol ac ar y cyd i Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phennu ei chyfeiriad corfforaethol a’i safonau galluogrwydd, yn seiliedig ar nodau, amcanion a blaenoriaethau Gweinidogion Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru
  • goruchwylio’r modd y caiff amcanion a blaenoriaethau’r gweinidogion eu cyflawni, fel y maent wedi’u pennu yn y cynllun busnes, a rheoli’r risgiau allweddol cysylltiedig
  • sicrhau bod asedau ac adnoddau ariannol Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael eu rheoli’n ddoeth ac yn effeithiol
  • cytuno a chynnal system dryloyw a chadarn o ran rheolau mewnol
  • arwain a goruchwylio’r broses o newid ac arbedion effeithlonrwydd
  • arwain y broses o reoli a datblygu gweision sifil Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y cyd

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru