Lizzie Noel

Bywgraffiad

Mae gan Lizzie dros 20 mlynedd o brofiad o swyddi uwch yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae’n gynghorydd i Brifysgol Rhydychen a’r Optimism Health Group ac yn gyfarwyddwr i gwmni ymgynghori Hemera. Mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd arbenigol i’r Adran Addysg, cyfarwyddwr cyswllt i’r Rhwydwaith Ysgolion Newydd, ac fel uwch gynghorydd i Boris Johnson yn ystod ei dymor cyntaf fel Maer Llundain. Fel uwch gynghorydd, bu’n arwain y gwaith o ddatblygu a lansio Team London, sef y rhaglen wirfoddoli fwyaf yn y Deyrnas Unedig o hyd.

Bu’n aelod o’r tîm a sefydlodd y busnes addysg ac iechyd, Tribal Group plc, lle bu’n gyfarwyddwr cyfathrebu o’r dechrau nes cyrraedd refeniw blynyddol o £200m, ac o bump nes cyrraedd 2,000 o weithwyr. Pan gafodd ei lansio ar y farchnad, enillodd Tribal Group wobr y newydd-ddyfodiad gorau yn y farchnad AIM.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Aelodau anweithredol
  • Anweithredol