Cyfarwyddwr Cyffredinol Anabledd, Iechyd a Phensiynau

Katie Farrington

Bywgraffiad

Katie Farrington yw Cyfarwyddwr Cyffredinol Anabledd, Iechyd a Phensiynau yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Mae ei rolau blaenorol yn cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Polisi Credyd Cynhwysol a Chyflogaeth ac uwch swyddog cyfrifol am Gynllun Kickstart yn DWP
  • Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Data yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a NHSX
  • Pennaeth y tîm Gwasanaethau Cyhoeddus yn yr Ysgrifenyddiaeth Materion Economaidd a Domestig yn Swyddfa’r Cabinet
  • arwain ar bolisi safonau ysgolion yn yr Adran Addysg

Mae gan Katie 3 o blant. Mae hi hefyd yn Ymddiriedolwr i Volunteering Matters, elusen gwirfoddoli yn y DU.

Cyfarwyddwr Cyffredinol Anabledd, Iechyd a Phensiynau

Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol dros Anabledd, Iechyd a Phensiynau yn gyfrifol am:

  • datblygu a gweithredu strategaeth a pholisi i wella canlyniadau i bobl anabl, pobl sydd â chyflyrau iechyd, pensiynwyr a chynilwyr
  • y Rhaglen Trawsnewid Iechyd a fydd yn trawsnewid darpariaeth gwasanaeth DWP i bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd
  • meysydd polisi eraill gan gynnwys cynhaliaeth plant a datganoli, a phartneriaethau DWP â chyrff hyd braich

Adran Gwaith a Phensiynau