Justin Tomlinson MP

Bywgraffiad

Penodwyd Justin Tomlinson yn Weinidog Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ar 4 Ebrill 2019. Cyn hynny roedd yn Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau rhwng Gorffennaf 2018 ac Ebrill 2019.Gwasanaethodd fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Pobl Anabl rhwng mis Mai 2015 a mis Gorffennaf 2016. Cyn hynny, ef oedd Ysgrifennydd Preifat Seneddol Ed Vaizey AS.

Addysg

Graddiodd Justin gyda gradd fusnes o Brifysgol Oxford Brookes.

Gyrfa wleidyddol

Yn flaenorol, Justin oedd Ysgrifennydd Preifat Seneddol Ed Vaizey AS. Cyn cael ei ethol i’r Senedd, bu Justin yn gynghorydd yng Ngogledd Swindon am 10 mlynedd. Gwasanaethodd 4 blynedd yng nghabinet y cyngor fel yr aelod arweiniol dros ddiwylliant a hamdden.

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Roedd Justin yn berchen ar fusnes marchnata lleol yn Swindon am 10 mlynedd a werthodd pan etholwyd ef yn AS.